Y rhesymau pam mae brechu’n bwysig, a sut i gael y brechiadau rydych chi’n gymwys i’w cael.
Mae brechiadau’n eich amddiffyn rhag clefydau niweidiol cyn ichi ddod i gysylltiad â nhw. Mae’r brechlyn yn galluogi eich system imiwnedd i greu gwrthgyrff mewn ffordd sy’n fwy diogel na thrwy ddod i gysylltiad â’r clefyd ei hun.
Nid yw brechiadau’n achosi’r clefyd nac yn eich rhoi mewn perygl o ddioddef y cymhlethdodau sy’n gysylltiedig ag ef. Mae brechiadau’n cryfhau eich system imiwnedd gan wella’ch gallu i wrthsefyll heintiau penodol.
Mae brechiadau’n achub bywydau ac yn lleihau nifer y bobl sy’n gorfod cael eu derbyn i’r ysbyty. Mae’n bwysig sicrhau bod y brechiadau rydych chi a’ch teulu’n gymwys i’w cael yn gyfredol. Bydd hyn yn helpu i’ch diogelu chi, eich teulu a’r gymuned ehangach yn erbyn afiechydon.
Rydyn ni’n defnyddio’r dystiolaeth glinigol a gwyddonol ddiweddaraf i lywio ein rhaglen frechu.
Mae amserlen y rhaglen frechu arferol ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru. Os ydych chi’n meddwl eich bod chi neu’ch plentyn wedi colli unrhyw frechiad, gallwch siarad â’ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol.
Bydd gan eich meddyg teulu gofnod o’r brechiadau yr ydych wedi eu cael yn ystod eich oes. Os ydych wedi symud i feddygfa arall, gallwch wirio a yw eich meddyg teulu presennol wedi cael hanes eich brechiadau.
Mae angen ichi wneud yn siŵr bod manylion cyswllt eich meddyg teulu yn gyfredol. Mae hyn yn bwysig er mwyn i'ch bwrdd iechyd lleol gysylltu â chi.