Esboniad ynglŷn â pham y mae plant 5 i 11 oed yn cael cynnig y brechlyn COVID-19
Cynnwys
Pam mae plant 5-11 oed yn cael cynnig y brechlyn COVID-19?
Mae’r Cyd-bwyllgor ar Imiwneiddio a Brechu (JCVI) nawr wedi argymell brechu plant rhwng 5 ac 11 oed nad ydynt yn wynebu unrhyw risg glinigol.
Maent wedi pwyso a mesur ac wedi dod i’r casgliad bod buddion positif i’r brechiad. Y bwriad yw cynyddu imiwnedd y grŵp hwn cyn y bydd unrhyw frigiad pellach o achosion.
Pa frechlyn fydd yn cael ei gynnig?
Bydd y brechlyn a roddir yn cynnwys dau ddos 10 mcg o’r brechlyn COVID-19 pediatig Pfizer-BioNTech (Comirnaty®). Dylid sicrhau bwlch o o leiaf 12 wythnos rhwng y dosau.
Caniatâd
Dylai rhiant neu warcheidwad fynd gyda’u plentyn i gael y brechiad.
Mae rhagor o wybodaeth addas i’r oedran hwn ar gael mewn gwahanol fformatau ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru, er mwyn cynorthwyo gyda gwneud penderfyniad gwybodus ynglŷn â chael y brechlyn.
Anogir plant, pobl ifanc a’u rhieni a gofalwyr i ystyried rhaglenni imiwneiddio eraill i blant yn ogystal, i sicrhau bod plant wedi’u himiwneiddio’n llawn i’w diogelu rhag clefydau difrifol eraill, fel y frech goch a llid yr ymennydd.
Sut fydd plant 5 i 11 oed yn cael eu hapwyntiad i gael y brechlyn?
Bydd rhieni neu warcheidwaid yn cael apwyntiad gan eu Bwrdd Iechyd Lleol. Mae gwaith ar y gweill i sicrhau bod y canllawiau clinigol ac imiwneiddio angenrheidiol ar waith cyn y bydd byrddau iechyd yn barod i weithredu.
Bydd y brechlyn yn cael ei roi mewn canolfannau brechu yn bennaf gan y bydd angen i riant/gwarcheidwad fod yn bresennol gyda’r plentyn.
Does dim blaenoriaeth oedran wedi’i nodi yng nghyngor y JCVI, sy’n golygu y bydd yn haws i frodyr a chwiorydd cymwys gael eu brechu ar yr un pryd.
Nid oes rhaid ichi gysylltu â’ch bwrdd iechyd oni bai bod angen ichi aildrefnu eich apwyntiad.
Peidiwch â chysylltu â’ch meddyg teulu i ofyn am apwyntiadau ar gyfer y brechlyn.
Plant 5 i 11 oed sydd â chyflyrau iechyd / sy’n byw mewn cartref lle mae rhywun ag imiwnedd gwan
Mae'r brechlyn COVID-19 yn cael ei gynnig i blant 5 i 11 oed sydd â chyflyrau iechyd sy'n golygu bod risg iddynt oherwydd y feirws, neu sy’n byw gyda rhywun sydd ag imiwnedd gwan. Bydd pob plentyn cymwys yn derbyn gwahoddiad gan eu bwrdd iechyd.
Mae ffurflen hunanatgyfeirio ar gyfer cysylltiadau cartref hefyd ar gael i rieni /gwarcheidwaid ei llenwi i roi gwybod i fyrddau iechyd y bydd angen apwyntiad ar eu plentyn.