Neidio i'r prif gynnwy

Gwiriwch eich bod wedi cael eich holl frechiadau cyn dechrau yn y coleg neu'r brifysgol.

Cyhoeddwyd gyntaf:
27 Medi 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trosolwg

Yn y coleg neu'r brifysgol byddwch yn cwrdd, yn cymysgu ac yn byw gyda llawer o bobl newydd. Gall hyn fod yn amgylchedd delfrydol i heintiau feirws ledaenu.

Mae brechu yn eich amddiffyn rhag clefydau difrifol, a allai fod yn angheuol hyd yn oed.

Bydd cael eich brechu'n llawn hefyd yn helpu i gyfyngu ar ledaeniad y feirysau hynny. Bydd hyn yn helpu i'ch amddiffyn chi, eich teulu, eich cyfoedion, a phobl agored i niwed.

Gwnewch yn siŵr eich bod wedi eich amddiffyn rhag:

Gwiriwch eich bod cael eich holl frechiadau

Brechiadau y dylech fod wedi eu cael:

  • 2 ddos o'r brechlyn MMR 

Mae’r rhain yn amddiffyn rhag y frech goch, clwy'r pennau a rwbela. Fel arfer mae plant yn cael eu brechu cyn iddyn nhw ddechrau yn yr ysgol gynradd.

  • 1 dos o’r brechlyn MenACWY

Mae'r brechlyn hwn yn amddiffyn rhag 4 straen gwahanol o lid yr ymennydd (A, C, Y a Men W). Fel arfer cynigir y brechlyn hwn ym mlwyddyn 9.

  • Y brechlyn HPV

Mae hyn yn amddiffyn yn erbyn Feirws Papiloma Dynol (nhs.uk) . Mae hwn yn haint a drosglwyddir yn rhywiol sy’n gyffredin iawn. Mae'r brechlyn HPV yn helpu i amddiffyn rhag canserau a dafadennau gwenerol sy'n cael eu hachosi gan HPV. Fel arfer cewch gynnig y brechlyn cyntaf ym mlwyddyn 8.

Yn y gorffennol, mae’r brechlyn HPV wedi’i gynnig mewn dau ddos. Mae tystiolaeth arbenigol nawr yn dangos bod un dos yn amddiffyn pobl ifanc llawn cymaint â’r ddau ddos blaenorol. O 1 Medi 2023 ymlaen, os ydych wedi cael un dos o’r brechlyn HPV, rydych wedi’ch brechu’n llawn yn erbyn HPV ac ni fydd angen unrhyw ddos ychwanegol arnoch.

  • Brechiadau COVID-19, ffliw a mpox

Bydd rhai myfyrwyr hefyd yn gymwys i gael brechlynnau ychwanegol fel COVID-19, ffliw a mpox, os ydynt mewn grwpiau risg cymwys. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu weithiwr gofal iechyd proffesiynol am fwy o wybodaeth.

Ewch i wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru i gael rhagor o wybodaeth am frechlynnau.