Dysgwch ragor am y brechiadau rheolaidd sy'n cael eu cynnig i blant ac oedolion ifanc dros 12 oed.
Cynnwys
Brechlyn HPV
Mae HPV yn feirws cyffredin iawn, sy'n cael ei drosglwyddo'n rhywiol. Mae’n gallu achosi gwahanol fathau o ganser yn ogystal â dafadennau gwenerol. Nid oes symptomau gan y rhan fwyaf o bobl, ac ni fyddant yn gwybod bod y feirws ganddynt.
Mae'n bwysig cael y brechlyn HPV er mwyn amddiffyn rhag amrywiaeth o ganserau sy'n gallu codi'n ddiweddarach mewn bywyd, gan gynnwys:
- canser ceg y groth
- canser yr anws
- canserau'r organau cenhedlu
- canserau'r pen a'r gwddf
Drwy gael y brechlyn nawr, gallwch amddiffyn eich hun rhag risgiau yn y dyfodol.
O fis Medi 2023, bydd y brechlyn HPV yn cael ei gynnig fel un dos i fechgyn a merched:
- 12 i 13 oed (blwyddyn ysgol 8)
Yn y gorffennol, mae'r brechlyn HPV wedi'i gynnig fel dau ddos. Mae tystiolaeth arbenigol bellach yn dangos bod un dos yn rhoi'r un lefel o amddiffyniad i bobl ifanc â'r ddau ddos blaenorol. O fis Medi 2023, os ydych wedi derbyn un dos o frechlyn HPV, rydych wedi'ch brechu'n llawn yn erbyn HPV ac ni fydd angen unrhyw ddosau ychwanegol.
Os ydych chi neu eich plentyn wedi colli'r cyfle i gael y brechiad HPV yn yr ysgol, mae modd ichi gael y brechlyn hyd at eich pen-blwydd yn 25 oed. Siaradwch â thîm imiwneiddio eich ysgol neu eich gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i drefnu hyn.
Mae dynion hoyw a deurywiol a dynion eraill sy'n cael rhyw gyda dynion yn gymwys i gael y brechlyn HPV hyd at 45 oed. Gofynnwch i'ch meddyg teulu neu i weithiwr gofal iechyd proffesiynol mewn clinig iechyd rhywiol am ragor o wybodaeth.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechlyn HPV ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl yn eu harddegau
Mae'r brechiad Td/IPV, a elwir hefyd yn frechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl yn eu harddegau, yn helpu i amddiffyn rhag tri gwahanol glefyd:
- tetanws
- difftheria
- polio
Caiff y brechlyn ei gynnig i bobl ifanc rhwng 13 a 14 oed fel rhan o'u brechiadau rheolaidd.
Siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol os ydych chi neu eich plentyn wedi colli unrhyw un o'r dosau a roddir fel rhan o'r brechlyn 6 mewn 1 neu'r brechlyn 4 mewn 1.
Mae rhagor o wybodaeth am y brechiad atgyfnerthu 3 mewn 1 i bobl yn eu harddegau a'r clefydau y mae'n amddiffyn rhagddynt ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn MenACWY
Yn ystod y blynyddoedd diwethaf, mae achosion o lid yr ymennydd a septisemia o ganlyniad i MenW wedi bod yn cynyddu yng Nghymru. Mae'r rhan fwyaf o bobl sy'n cael clefyd meningococol yn adfer yn llawn, ond mae heintiau MenW yn ddifrifol iawn. Gallant fod yn angheuol a gallant arwain at broblemau iechyd hirdymor.
Mae'r brechlyn MenACWY yn amddiffyn yn dda rhag heintiau difrifol a achosir gan glefydau meningococol (Men) A, C, W ac Y.
Caiff y brechiad MenACWY ei gynnig i:
- bobl ifanc rhwng 13 a 14 oed fel rhan o'u brechiadau rheolaidd
- unigolion o dan 25 oed sy'n bwriadu mynd i’r brifysgol, os nad ydynt eisoes wedi cael y brechlyn
Os nad ydych chi neu eich plentyn wedi cael y brechlyn eto, siaradwch â'ch gweithiwr gofal iechyd proffesiynol i drefnu i'w gael nawr.
Mae rhagor o wybodaeth ar gael drwy Iechyd Cyhoeddus Cymru.
Brechlyn y ffliw
Mae'r ffliw yn feirws sy'n gallu arwain at salwch difrifol a marwolaeth. Mae’r ffliw yn lledaenu bron bob gaeaf ac mae'r feirws yn newid yn gyson. Bob blwyddyn, mae brechlynnau’r ffliw yn cael eu newid i gyd-fynd â'r feirysau ffliw sydd ar led y flwyddyn honno, fel bod pobl yn cael yr amddiffyniad gorau.
Bob blwyddyn, mae brechlyn y ffliw yn cael ei gynnig i blant rhwng 2 ac 16 oed. Mae hyn yn cynnwys:
- Pob plentyn ym mlynyddoedd ysgol 7 i 11
Mae brechiadau’r ffliw yn cael eu rhoi rhwng mis Medi a mis Mawrth. Os gwnaethoch chi neu'ch plentyn golli'r cyfle, cysylltwch â nyrs yr ysgol neu â’ch meddygfa.
Os nad yw plant yn yr ysgol neu os ydynt yn cael eu haddysgu gartref, gallant gael eu brechlyn ffliw gan eu meddygfa pan ddaw’r amser.
Mae rhagor o wybodaeth am frechlyn y ffliw ar gael ar wefan Iechyd Cyhoeddus Cymru.