Neidio i'r prif gynnwy

Mae partneriaeth yng Nghymru sy’n mewnforio coffi yn helpu ffermwyr o Uganda i ymdopi ag effaith y newid yn yr hinsawdd diolch i gyllid gan Raglen Cymru ac Affrica Llywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
5 Tachwedd 2020
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2016 i 2021

Mae prosiect Coffee 2020 yn bartneriaeth rhwng siop Masnach Deg Fair Dos yng Nghaerdydd, Ferrari’s Coffee Roasters ym Mhontyclun, Canolfan Co-op Cymru a Chwmwni Coffi Cydweithredol o Uganda, MEACCE. Gyda’i gilydd maent wedi lansio   Jenipher’s Coffi – wedi ei enwi ar ôl y ffermwyr o Uganda sydd wedi ymweld â Chymru yn ddiweddar.

Mae’r lansiad yn creu cysylltiad cryf rhwng Cymru a rhanbarth Mbale yn Uganda. Mae miloedd o bobl o Gymru wedi ymweld â’r ardal ac mae nifer o elusennau a grwpiau o Gymru yn cefnogi prosiectau yn y rhanbarth. Mae ffermwyr o Gwmni Cydweithredol Cymunedau Agrofforestrydd Mynydd Elgon (MEACCE) yn rhan bwysig o Raglen Plannu Coed Mbale wedi’i gefnogi gan Lywodraeth Cymru a Maint Cymru, sy’n plannu 25 miliwn o goed erbyn 2025. Y llynedd gwelwyd llifogydd difrifol yn difrodi nifer o’r ffermydd coffi bychain ac eleni mae COVID-19 wedi rhwystro nifer o’u haelodau rhag ennill bywoliaeth.

Caiff y coffi ei grasu gan Ferraris, sydd wedi bod yn crasu coffi â llaw yn ne Cymru ers 1927, ac sy’n cael ei hyrwyddo ledled Cymru gan y bartneriaeth.

Wedi i’r ffa gael ei ddanfon i Fair Dos, dywedodd Jane Hutt, y Dirprwy Weinidog a’r Prif Chwip:

“Mae gan Gymru bartneriaeth ers amser gyda Mbale ac rydym am helpu’r cymunedau hynny sy’n delio ag argyfyngau COVID 19 a’r newid hinsawdd i fasnachu eu ffordd allan o dlodi.

“Daeth Cymru yn Genedl Masnach Deg gyntaf y byd yn 2008, ac mae ein cefnogaeth i Coffee 2020 a Jenipher’s Coffi yn ffordd wych o helpu ffermwyr Uganda i weithio gyda natur, wrth iddynt wynebu’r argyfwng hinsawdd."

Meddai Jenipher Wetaka, Is-Gadeirydd Cwmni Cydweithredol Cymunedau Agrofforestydd Mynydd Elgon:

"Mae’r 3,000 o ffermwyr MEACCE wedi gallu derbyn pris llawer gwell am eu coffi diolch i’r bartneriaeth hon, sy’n bwysig iawn, yn enwedig pan ydym yn ymateb ac yn addasu i heriau Covid-19 a’r argyfwng hinsawdd. Mae gennym gysylltiad cryf â phobl Cymru – maent yn mwynhau ein coffi o safon uchel ac yn hapus i’n cefnogi drwy MASNACH DEG – ac rydym yn edrych ymlaen at adeiladu ar y bartnerieth hon."

Meddai Jan Tucker, Sylfaenydd, Cyfarwyddwr a Rheolwr Fair Dos Siopa Teg:

"Dechreuodd y syniad o allu prynu cofffi Jeniphers’ yng Nghymru ddeng mlynedd yn ôl pan ddaeth i Gymru gyntaf. Daeth yn glir yn ystod y cyfnod hwnnw bod nifer o bobl yn teimlo’n gryf ynghylch cefnogi ffermwyr a’u cymunedau yn Uganda i dderbyn pris gwell am eu coffi o safon uchel, sydd â thystysgrif MASNACH DEG, ac wedi ei dyfu’n organig. Mae’n wych gweld y prosiect hwn yn dwyn ffrwyth, ac rydym yn teimlo’n gyffrous i weld pobl yn mwynhau y coffi hwn ledled Cymru.”