Ei enw cyffredin yw "Clefyd y Gwartheg Gwallgof". Mae'n glefyd angheuol ac mae modd ei drosglwyddo i bobl. Mae BSE yn glefyd hysbysadwy.
Mae'r clefyd yn fath penodol o Enseffalopathi Sbyngffurf Trosglwyddadwy (TSE).
Amheuon a chadarnhad
Os ydych chi'n meddwl y gall BSE fod ar eich anifeiliaid, cysylltwch ag Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion ar 0300 303 8268 ar unwaith.
Bydd milfeddygon yr Asiantaeth yn archwilio'r achosion hyn.
Arwyddion clinigol
Mae BSE yn effeithio ar wartheg, pum oed neu fwy fel arfer. Mae'n datblygu'n araf dros gyfnod o wythnosau a misoedd. Mae'n gallu effeithio ar famaliaid eraill (cathod, pobl a phrimatiaid eraill).
Gall anifeiliaid sydd wedi'u heintio ddangos yr arwyddion canlynol:
- newid yng nghyflwr eu meddwl, er enghraifft gall anifeiliaid tawel droi'n ymosodol
- sefyll a symud yn anodd
- yn sensitif iawn i sŵn, goleuni a chyffyrddiad
- gwendid a cholli graen
Trosglwyddo, atal a thriniaeth
Mae BSE yn cael ei drosglwyddo trwy fwyta meinwe wedi'i halogi Mae'r haint yn crynhoi yn yr ymennydd, llinyn asgwrn y cefn a'r iliwm. Mae anifeiliaid ifanc yn arbennig o agored i'w ddal.
Ar hyn o bryd, nid oes modd trin BSE. I reoli a dileu'r clefyd, dyma'r camau y dylech eu dilyn:
- rhoi'r fuches mewn cwarantin
- difa anifeiliaid y credir bod BSE arnyn nhw
- chwilio am ffynhonnell yr haint
- rhwystro cig sydd wedi'i heintio rhag ymuno â'r gadwyn fwyd