Cylch gorchwyl
Cylch gorchwyl Bord Gron Urddas Mislif.
Cynnwys
Diben y grŵp
Swyddogaeth y Ford Gron fydd goruchwylio gweithredu Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o’r Mislif a chynnig cyngor ac arbenigedd i Lywodraeth Cymru ar faterion brys a rhai ar y gorwel sy'n cael effaith ar urddas mislif yng Nghymru.
Amcanion
Cefnogi Llywodraeth Cymru i weithredu Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif ac ymateb i faterion sy'n dod i'r amlwg sy’n adlewyrchu effaith barhaus pandemig COVID 19 a’r adferiad ohono, a'r argyfwng costau byw.
Craffu ar gynnydd yn erbyn camau gweithredu yng Nghynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif a nodi unrhyw rwystrau i gynnydd.
Rhannu gwybodaeth a dealltwriaeth i gynorthwyo i gyflawni a monitro Cynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif. Ymgynghori â rhwydweithiau ac aelodaeth ehangach i helpu i nodi a deall rhwystrau dybryd y mae pobl yn eu profi sy’n llesteirio urddas mislif, ynghyd â rhwystrau sy’n datblygu.
Darparu cymorth a chyngor arbenigol i Weinidogion i ddeall y rhwystrau dybryd sy’n llesteirio urddas mislif, ynghyd â rhwystrau sy’n datblygu a darparu enghreifftiau ymarferol o sut i oresgyn rhwystrau o'r fath.
Sicrhau bod unrhyw ystyriaeth o urddas mislif yn cynnwys y croestoriad rhwng rhyw, hil, anabledd, bod yn LHDTC+ a nodweddion gwarchodedig eraill, a'i fod yn gynhwysol ac yn wrth-wahaniaethol.
Helpu Llywodraeth Cymru i ystyried y cysylltiadau â’i chynlluniau eraill, fel y Cynllun Gweithredu LHDTC+, yn ogystal â’r cysylltiadau â pholisïau ehangach Llywodraeth Cymru ar iechyd, addysg, trafnidiaeth a'r economi.
Nodi meysydd posibl ar gyfer ymchwil i ddarparu sylfaen dystiolaeth gadarn ar gyfer polisïau a rhaglenni yn y dyfodol.
Bydd swyddogion Llywodraeth Cymru sy'n cymryd rhan yn y ford gron yn cyfrannu at drafodaethau ar sail eu harbenigedd a'u profiad. Byddant yn ystyried y materion sy'n codi mewn perthynas â'u meysydd polisi ac yn rhoi cyngor yn ôl yr angen, yn rhoi'r wybodaeth ddiweddaraf am gynnydd yn erbyn camau a ddyrennir iddynt yng Nghynllun Gweithredu Cymru sy'n Falch o'r Mislif, ac yn adrodd yn ôl i gydweithwyr polisi ar unrhyw feysydd lle y gellid datblygu neu ddiwygio polisïau neu raglenni er mwyn hyrwyddo urddas mislif yn well.
Trefniadau gwaith y grŵp
Bydd y Ford Gron Urddas Mislif yn cael ei chadeirio gan y Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyfiawnder Cymdeithasol, y Trefnydd a'r Prif Chwip. Bydd yn cael ei gadeirio gan swyddog pan na fydd yr Ysgrifennydd Cabinet yn gallu bod yn bresennol.
Bydd yr ysgrifenyddiaeth yn cael ei darparu gan Is-adran Cydraddoldeb a Hawliau Dynol Llywodraeth Cymru.
Bydd y Ford Gron Urddas Mislif yn cyfarfod dair gwaith y flwyddyn.
Bydd papurau yn cael eu dosbarthu o leiaf dri diwrnod gwaith cyn unrhyw gyfarfod.
Bydd cofnodion yn cael eu cyhoeddi o fewn pythefnos i'r cyfarfod.
Bydd y cylch gorchwyl hwn yn cael ei adolygu bob 12 mis gan dîm Cydraddoldeb Llywodraeth Cymru ac aelodau'r Ford Gron i sicrhau ei fod yn parhau i fod yn addas i'r diben ac yn berthnasol dros amser.
Cyhoeddi dogfennau
Bydd agendâu, papurau a chofnodion cyfarfodydd ar gael ar gais ar ffurf copi caled neu fformatau eraill.
Bydd cofnodion y cyfarfodydd yn cael eu cyhoeddi ar dudalen Bord Gron Urddas Mislif Llywodraeth Cymru.
Trefniadau mynediad
Os oes gan aelodau unrhyw ofynion penodol i'w galluogi i gymryd rhan lawn mewn cyfarfod, fel: lle parcio hygyrch, dehonglwyr Iaith Arwyddion Prydain (BSL), gofyniad am iaith arall, deunydd mewn fformat arall, system dolen sain, neu unrhyw ofyniad arall, rhowch wybod i'r Ysgrifenyddiaeth cyn gynted â phosibl a byddwn yn ymdrechu i fodloni eich gofynion.
Mae pob papur cyfarfod i'w ddosbarthu ymlaen llaw a'i ddarparu mewn fformat hygyrch.