Prif nod yr adroddiad hwn yw gweld pa ffactorau sy'n egluro orau pa mor fodlon oedd pobl â'r gwasanaethau iechyd.
Y cyhoeddiad diweddaraf
Canfyddiadau allweddol
Roedd boddhad â gwasanaethau iechyd yn uchel, gyda 92% o bobl yn fodlon â gofal eu meddyg teulu a 90% yn fodlon â'u gofal yn yr ysbyty.
Roedd boddhad â meddygon teulu a gwasanaethau ysbyty yn cael ei ysgogi'n fwy gan brofiad pobl o'u gofal yn hytrach na'u nodweddion personol, a'r rhagfynegyddion mwyaf o anfodlonrwydd oedd:
- meddwl nad oeddent yn derbyn yr holl wybodaeth
- peidio cael eu trin ag urddas a pharch.
Mae'r canfyddiad hwn yn awgrymu y dylai polisïau i wella boddhad cleifion ganolbwyntio ar ddull meddygon teulu ac ysbytai o gyfathrebu â chleifion, o ran sicrhau bod cleifion yn teimlo bod ganddynt yr holl wybodaeth angenrheidiol am eu cyflwr a'u triniaeth.
Y prif ragfynegyddion ar gyfer pobl yn teimlo nad oeddent yn cael eu trin ag urddas a pharch gan y meddyg teulu oedd profiad o gamwahaniaethu, bod yn ifanc a pheidio â theimlo'n hapus. Roedd y rhagfynegyddion ar gyfer peidio cael eu trin ag urddas a pharch yn yr ysbyty yn debyg ond hefyd yn cynnwys bod yn bryderus ac mewn anawsterau ariannol.
Adroddiadau
Boddhad â'r gwasanaethau iechyd (Arolwg Cenedlaethol Cymru) Ebrill 2012 i Mawrth 2013 , Saesneg yn unig, math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Cyswllt
Llinell Ymholiadau Cyffredinol
Rhif ffôn: 0300 025 5050
E-bost: arolygon@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.