Flwyddyn ers ei lansio, mae Cymorth i Aros Cymru wedi bod yn rhoi cymorth a chyngor amhrisiadwy i berchnogion tai ledled y wlad i’w helpu i aros yn eu cartrefi.
Mae Cymorth i Aros Cymru yn cynnig cymorth i'r rhai sy'n cael anhawster, neu'n wynebu anhawster o ran talu eu morgais presennol ac sydd mewn perygl o adfeddiannu a digartrefedd.
Gallai perchnogion tai cymwys gael cynnig benthyciad ecwiti i ostwng eu had-daliadau i lefel fforddiadwy.
Mae'r cynllun yn cael ei weithredu gan Fanc Datblygu Cymru ac mae'n ddi-log am y pum mlynedd gyntaf.
Yn ddiweddar, aeth Ysgrifennydd y Cabinet dros Lywodraeth Leol a Thai, Jayne Bryant, ar ymweliad â chartref Alice Brown, sydd o Ben-y-bont ar Ogwr ac wedi derbyn benthyciad Cymorth i Aros.
Ar ôl i'w chytundeb morgais cyfradd sefydlog ddod i ben yr haf diwethaf, fe wnaeth taliadau morgais Alice ddyblu, bron.
Meddai Alice:
Pan wnaeth fy nhaliadau morgais gynyddu, cynigiodd fy rhoddwr benthyciadau fy nhrosglwyddo i gynllun llog yn unig am chwe mis. Er bod hyn wedi helpu, dim ond datrysiad dros dro ydoedd.
Doeddwn i ddim mewn dyled, felly doedd yr unig gyngor ariannol roeddwn i'n ei gael ddim yn ddefnyddiol iawn, a'r unig beth allwn i ei wneud oedd lleihau fy nhaliadau morgais.
Roeddwn i wedi clywed am y cynllun ar ôl iddo gael ei lansio'r llynedd a phenderfynais wneud cais i weld a oeddwn yn gymwys i gael y benthyciad ecwiti. Diolch i'r drefn, fe oeddwn i'n gymwys, a llwyddais i leihau fy nhaliadau misol, a oedd yn rhyddhad enfawr.
Meddai Ysgrifennydd y Cabinet:
Gyda chynnydd mewn costau byw, mae methu â thalu ad-daliadau morgais yn realiti sy'n bryder gwirioneddol i lawer o berchnogion tai yng Nghymru.
Mae ein cynllun Cymorth i Aros Cymru yn cynnig amser i berchnogion tai ddatrys eu sefyllfaoedd ariannol ac yn bwysicaf oll, mae'n eu helpu i aros yn eu cartrefi gwerthfawr.
Roedd hi'n hyfryd cwrdd ag Alice ac rwy'n ddiolchgar iawn iddi am rannu ei stori gyda mi.
Rydyn ni eisiau helpu mwy o bobl cyn iddyn nhw wynebu'r bygythiad ofnadwy o adfeddiannu a byddwn yn annog unrhyw un sy'n poeni am allu fforddio eu taliadau morgais i wirio a ydyn nhw'n gymwys am Gymorth i Aros.