Neidio i'r prif gynnwy

Yn ddiweddar, ymwelodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant, â chanolfan gyrfaoedd Cymru'n Gweithio i gwrdd ag unigolion sydd wedi newid gyrfa’n llwyr yn eu 40au a'u 50au gyda chefnogaeth adolygiad gyrfa Cymru'n Gweithio.

Cyhoeddwyd gyntaf:
6 Ionawr 2025
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ar hyn o bryd mae Cymru'n Gweithio yn cynnal ymgyrch er mwyn annog mwy o bobl ledled Cymru i fanteisio ar eu cynnig o adolygiad gyrfa am ddim.

Mae'r adolygiad yn gyfle i archwilio ac ystyried posibiliadau gyrfa newydd gyda chynghorydd gyrfaoedd profiadol sydd wedi'i hyfforddi'n broffesiynol. Mae'n agored i bobl o bob oed sy'n ystyried newid gyrfa am unrhyw reswm. Er enghraifft, am eu bod yn:

  • Chwilio am well cydbwysedd rhwng bywyd a gwaith
  • Bwriadu dychwelyd i'r gwaith ar ôl gofalu am eraill
  • Agosáu at oed ymddeol ond ddim eisiau ymddeol yn llawn
  • Dymuno datblygu eu gyrfa ymhellach
  • Gweithio mewn sector sy'n crebachu ac angen arallgyfeirio
  • Wynebu’r posibilrwydd o gael eu diswyddo
  • Wynebu sefyllfa lle mae newid wedi bod yn eu hiechyd
  • Dymuno gwireddu breuddwyd o ran dechrau mewn swydd ddelfrydol
  • Dymuno troi hobi yn yrfa

Rhwng 2019 (pan sefydlwyd Cymru’n Gweithio) a diwedd Tachwedd 2024, mae dros 180,000 o gwsmeriaid wedi derbyn cefnogaeth; mae hyn yn cynnwys cefnogaeth gyda newid gyrfa.

Manteisiodd Ian Powell, 55, o Gaerdydd ar y gwasanaeth ddwywaith yn ystod ei yrfa. Pan oedd yn nyrs hyfforddedig, defnyddiodd Ian y gwasanaeth am y tro cyntaf pan oedd angen newid gyrfa ar ôl i'w amgylchiadau newid. Yn fwy diweddar, wedi 20 mlynedd yn gweithio i gwmni cyfleustodau trydan a nwy cafodd ei ddiswyddo ac fe drodd at Cymru'n Gweithio am yr eildro.

Wrth siarad am y newid cyfeiriad hwn yng nghanol ei bumdegau, a'r gefnogaeth a gafodd, dywedodd Ian:

Roeddwn ychydig ar goll ... Mae'n fyd newydd, y farchnad swyddi. Mae'n hollol wahanol. Fe wnaeth y gwasanaeth fy helpu i feddwl ac i fod yn hollol onest gyda rhywun. Dydych chi ddim yn sylweddoli beth allwch chi ei wneud nes bod rhywun yn eich holi a gofyn, 'Wyt ti wedi meddwl am hyn?'

Roedd y rhestr o swyddi y gallwn i eu gwneud pan wnaethon nhw'r adolygiad yn anhygoel. Roedd yn enfawr. Ond fyddwn i ddim wedi cyrraedd y fan honno hyd yn oed pe na bawn i wedi dod a gofyn am help. Ac fe ges i swydd!

Mae Ian bellach yn gweithio mewn tîm sy'n helpu pobl i reoli eu budd-daliadau a'u biliau. Mae hyn yn cynnwys cael cymorth i gael mynediad at arian ar frys, bwyd, a help wrth ymgeisio am grantiau a gostyngiadau.

Dywedodd y Gweinidog Sgiliau, Jack Sargeant:

Mae stori ysbrydoledig Ian yn dangos nad yw hi byth yn rhy hwyr i newid cyfeiriad. Mae cynnig adolygu gyrfa Cymru'n Gweithio yn helpu gweithwyr hŷn i feddwl am iechyd a lles, cyllid a chydbwysedd rhwng bywyd a gwaith a datblygu gyrfa a sgiliau.

Byddwn yn annog unrhyw un sy'n wynebu colli swydd, neu sy'n ystyried newid cyfeiriad yn ystod 2025, i drefnu adolygiad.