Neidio i'r prif gynnwy

Mae ymgyrch i annog pobl i ystyried gyrfa newydd yn niwydiant bwyd a diod llwyddiannus Cymru wedi cael ei lansio gan Lywodraeth Cymru.

Cyhoeddwyd gyntaf:
24 Ionawr 2022
Diweddarwyd ddiwethaf:

Mae ymgyrch newydd Gweithlu Bwyd Cymru, a gyflwynir gan Sgiliau Bwyd Cymru, yn arddangos y gyrfaoedd cyffrous ac amrywiol yn y diwydiant ac yn tynnu sylw at yr ystod eang o gyfleoedd sydd ar gael i unrhyw un sy'n bwriadu dechrau gyrfa newydd, i drosglwyddo sgiliau neu uwchsgilio a symud ymlaen.

Fel rhan o'r ymgyrch, mae hysbysfwrdd swyddi ar-lein newydd yn fyw gyda nifer o swyddi gwag ar gael ar draws y sector.

Dywedodd y Gweinidog dros Faterion Gwledig a Gogledd Cymru, a'r Trefnydd, Lesley Griffiths:

Rwy'n falch o'r ffordd y mae ein diwydiant bwyd a diod wedi cynnal eu busnes yn ystod cyfnod anodd a chythryblus.

Rydym i gyd am weld y sector yn tyfu ymhellach ac mae'r ymgyrch hon yn taflu goleuni ar y rolau a'r cyfleoedd amrywiol, cyffrous a gwerth chweil sy'n hanfodol i'n diwydiant bwyd a diod yma yng Nghymru.

Gydag effaith y pandemig yn parhau i lywio gwerthusiad pobl o amgylchiadau a llwybrau gyrfa, mae llawer o resymau dros ddewis gyrfa yn y diwydiant hwn sy'n datblygu'n gyflym. Gyda cyflogau sy’n codi ac sy’n gystadleuol yn ogystal â llawer o gyfleoedd ar gyfer hyfforddiant a thwf, gall swydd yn y diwydiant bwyd a diod fod yn yrfa am oes.

Mae diwydiant bwyd a diod Cymru yn ffynnu ac nid yn unig yn rhoi bwyd ar fwrdd y genedl, ond hefyd yn rhoi Cymru ar y llwyfan byd-eang gyda'i chynnyrch sy'n amlwg yn rhyngwladol.

Nod Llywodraeth Cymru yw cynyddu gwerth y sector i £8.5bn yn ogystal â chynyddu nifer y gweithwyr yn y sector sy'n derbyn Cyflog Byw Cymru i 80%, erbyn 2025.

Wrth geisio creu un o'r cadwyni cyflenwi mwyaf cyfrifol yn amgylcheddol ac yn gymdeithasol yn y byd, bu diddordeb enfawr mewn bwyd a diod o Gymru yn y DU a thu hwnt, gyda gweithgynhyrchwyr a busnesau ledled Cymru yn ymateb yn gyflym i'r galw cynyddol.

Mae nifer o ffyrdd o ymuno â'r diwydiant uchelgeisiol a gwerth chweil hwn; o brentisiaethau a rhaglenni dysgu i rolau gweithredol sy'n wynebu cwsmeriaid yn ogystal â chyfleoedd arwain a rheoli.

Mae bwrdd swyddi newydd Gweithlu Bwyd Cymru yn fyw ac yn llawn cyfleoedd i'r rhai sy'n chwilio am yrfa newydd neu wahanol. Mae gwefan yr ymgyrch hefyd yn cynnig llawer o gymorth, cyngor ac arweiniad i helpu i lywio'r gwahanol gyfleoedd gyrfa a meysydd busnes a allai fod o ddiddordeb i'r rhai sy'n dymuno archwilio ymhellach.

Dywedodd Gweinidog yr Economi, Vaughan Gething:

Gan gydnabod gwerth y bobl sy'n cynnal eu busnes a phwysigrwydd meithrin doniau a datblygu sgiliau, mae cwmnïau bwyd a diod yng Nghymru yn buddsoddi mewn pobl drwy greu cyfleoedd i unigolion ledled Cymru.

Mae'r sector bwyd wrth wraidd yr economi sylfaenol ac rydym i gyd yn dibynnu ar gyflenwad cyson a dibynadwy o fwyd i archfarchnadoedd ac ar ein platiau. Mae'r diwydiant yn hanfodol i ffyniant economi Cymru yn y dyfodol a bydd yr ymgyrch hon yn bwysig o ran denu newydd-ddyfodiaid a diogelu'r sector yn y dyfodol.

Dywedodd Andy Richardson, Cadeirydd Bwrdd Diwydiant Bwyd a Diod Cymru:

Bydd ymgyrch Gweithlu Bwyd Cymru yn cefnogi busnesau wrth iddynt barhau i dyfu drwy arddangos yr ystod amrywiol o rolau sy'n allweddol i lwyddiant ein diwydiant gweithgynhyrchu llewyrchus.

Bydd yr ymgyrch hefyd yn helpu busnesau i adeiladu ar fomentwm trawsnewid diwydiant bwyd a diod Cymru ar gyfer y dyfodol.

Yn allweddol i lwyddiant ac enw da safle Budweiser Brewing ym Magwyr yng Nghasnewydd, yw ei weithlu medrus ac amrywiol iawn o dros 500 o weithwyr. Mae'r cwmni'n parhau i fuddsoddi i helpu ei weithwyr i ddatblygu sgiliau newydd sy'n chwarae rhan bwysig yn nyfodol y busnes a'i gymuned.

Dywedodd Rheolwr y Bragdy Lloyd Manship:

Rydym yn buddsoddi'n helaeth yn ein cynllun prentisiaeth; i mi, mae hynny'n gwbl hanfodol, yn enwedig ar ôl symud ymlaen fel prentis drwy'r busnes fy hun. Rwyf wedi gweld drosof fy hunan bwysigrwydd buddsoddi mewn pobl.