Mae’r Gweinidog Tai a Llywodraeth Leol, Julie James, wedi cyhoeddi bod buddsoddiad adfywio o £2.5m ar gael i helpu Cyngor Sir Ddinbych i gaffael ac ailddatblygu Adeiladau’r Frenhines yn y Rhyl.
Dywedodd Julie James:
“Mae Marchnad y Frenhines yn y Rhyl yn adeilad amlwg iawn yng nghanol tref y Rhyl, ac mae’r safle yn cynnig cyfle gwych i adfywio canol y dref drwy greu cyfleoedd newydd i ddenu busnes a buddsoddiad i’r dref.
“Mae’n safle amlwg iawn yng nghanol tref Rhyl, ac rwy’n awyddus i’r buddsoddiad hwn roi ail wynt i ganol y dref, er mwyn i bobl gael eu denu yma i wario arian ac amser unwaith eto.
“Rwy’n gwybod bod Cyngor Sir Ddinbych yn awyddus i ddatblygu’r safle er mwyn creu lle ar gyfer unedau newydd i’w rhentu, adnewyddu’r llefydd parcio a chreu lle newydd cyffrous i gynnal digwyddiadau i’r cyhoedd. Rwy’n edrych ymlaen at weld y datblygiad yn ffynnu ac yn dod â manteision i’r ardal.”
Mae’r datganiad diweddaraf yn ychwanegu at waith sydd eisoes yn mynd rhagddo gan y Cyngor a’i bartneriaid i ailddatblygu’r glannau, sy’n cynnwys cyfleuster newydd SC2 a chynllun mawr canol tref y Rhyl.
Dywedodd y Cynghorydd Huw Evans OBE, arweinydd Cyngor Sir Dinbych:
“Rwy’n croesawu’r cyllid hwn gan Lywodraeth Cymru a fydd yn cyfrannu at y gwaith o barhau i adfywio’r Rhyl drwy adfer eiddo yng nghanol y dref sydd wedi dechrau mynd â’u pen iddynt.
“Bydd yn creu cyfleoedd ar gyfer swyddi newydd a thwf busnesau, yn ogystal ag ysgogi’r sector preifat i fuddsoddi ymhellach yn y dref. Bydd y prosiect hwn yn un sylweddol yn y cynllun mawr cyffredinol ar gyfer y Rhyl, a bydd yn ategu gwaith arall sy’n cael ei wneud yn y dref, gan gynnwys buddsoddi yn y sector preifat, mewn gwestai a thai bwyta newydd.”