Bydd y trethi cyntaf i gael eu gwneud yng Nghymru ers bron i 800 o flynyddoedd yn cael eu cyflwyno ymhen blwyddyn pan fydd treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli.

Cyhoeddwyd gyntaf:
31 Mawrth 2017
Diweddarwyd ddiwethaf:

Rhannu’r dudalen hon

Bydd y trethi cyntaf i gael eu gwneud yng Nghymru ers bron i 800 o flynyddoedd yn cael eu cyflwyno ymhen blwyddyn pan fydd treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli.

Bydd datganoli pwerau trethu i Gymru yn nodi carreg filltir bwysig yn y broses ddatganoli wrth i Gymru gael cyfrifoldeb am godi cyfran o'i chyllid ei hun i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.

O 1 Ebrill 2018, bydd gan Gymru ddwy dreth newydd. Bydd y dreth trafodiadau tir yn disodli treth dir y dreth stamp a'r dreth gwarediadau tirlenwi'n disodli’r dreth dirlenwi. Gyda'i gilydd, yn ôl yr amcangyfrifon, bydd y ddwy dreth yn cynhyrchu mwy na £1bn yn y pedair blynedd gyntaf.  

Ar hyn o bryd, mae Cynulliad Cenedlaethol Cymru yn craffu ar ddau Fil i sefydlu'r trethi newydd; pasiodd Bil Treth Trafodiadau Tir a Gwrthweithio Osgoi Trethi Datganoledig (Cymru) gyfnod tri yn y Cynulliad Cenedlaethol yn gynharach yr wythnos hon.

Awdurdod Cyllid Cymru fydd yn gyfrifol am gasglu'r ddwy dreth newydd. Mae Mark Drakeford, Ysgrifennydd y Cabinet dros Gyllid, wedi cyhoeddi mai Kathryn Bishop fydd cadeirydd cyntaf Awdurdod Cyllid Cymru. Bydd aelodau anweithredol bwrdd yr Awdurdod yn cael eu penodi yn yr haf.

O fis Ebrill 2018, bydd Cymru hefyd yn gallu defnyddio pwerau benthyg newydd i fuddsoddi £1bn mewn prosiectau cyfalaf sy'n perthyn i feysydd sydd wedi'u datganoli.  

Dywedodd yr Athro Drakeford:  

“Mewn ychydig dros flwyddyn, bydd treth dir y dreth stamp a'r dreth tirlenwi yn cael eu datganoli a byddwn yn cyflwyno'r trethi cyntaf i gael eu gwneud yng Nghymru ers bron i 800 o flynyddoedd. 

"Mae hon yn garreg filltir hanesyddol yn nhaith ddatganoli Cymru wrth inni ddod yn gyfrifol am godi ein cyllid ein hunain i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus. Cyfraddau Cymru ar gyfer y dreth incwm fydd y cam nesaf, ac rydyn ni wedi ymrwymo i'w cyflwyno ym mis Ebrill 2019.

“Mae'r trethi hyn yn rhoi cyfrifoldeb ychwanegol ar Lywodraeth Cymru a'r Cynulliad Cenedlaethol – i'r rheini sy'n talu trethi a'r rheini sy'n dibynnu ar y gwasanaethau cyhoeddus sy'n cael eu hariannu ganddyn nhw.

“Mae'r pwerau trethu newydd hyn yn rhoi cyfle inni ailwampio trethi presennol a gwneud newidiadau er mwyn bodloni anghenion a blaenoriaethau Cymru yn well. Byddwn yn eu defnyddio i sicrhau mwy o degwch a chefnogi swyddi a thwf economaidd yng Nghymru.

“Mae llawer iawn o waith ar y gweill eisoes i baratoi ar gyfer y pwerau trethu hyn.  Rydyn ni wedi ymgynghori'n eang ac wedi gwrando ar amrywiol randdeiliaid i'n helpu i ddatblygu'r trethi hyn a byddwn ni'n dal i wneud hynny wrth iddyn nhw barhau ar eu hynt drwy broses graffu'r Cynulliad Cenedlaethol.”