Mae prydau ysgol am ddim i bob plentyn ysgol gynradd ledled Cymru a chamau newydd i helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol ymysg rhai o'r ymrwymiadau a ddarparwyd ym mlwyddyn gyntaf y Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru.
Mae'r adroddiad blynyddol cyntaf am gynnydd o dan y Cytundeb Cydweithio yn cael ei gyhoeddi heddiw, flwyddyn ar ôl i'r cytundeb gael ei lofnodi.
Drwy gydweithio, mae Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru wedi cyflawni ystod eang o ymrwymiadau yn y cytundeb pwrpasol, gan gynnwys y canlynol:
- Mae 45,000 yn rhagor o blant ysgol gynradd yn awr yn cael yr opsiwn o gael cinio ysgol am ddim bob dydd. Dechreuodd prydau ysgol am ddim i bawb gael eu cyflwyno ym mis Medi, gyda chefnogaeth £200 miliwn dros dair blynedd. Bydd pob plentyn ysgol gynradd a mwy na 6,000 o ddisgyblion oed meithrin sy'n mynychu ysgol a gynhelir yn gymwys i gael prydau ysgol am ddim erbyn 2024.
- Dechrau ehangu gofal plant o ansawdd uchel a ariennir i bob plentyn dyflwydd oed yng Nghymru.
- Cyflwyno pecyn newydd o fesurau i helpu pobl i fyw yn eu cymunedau lleol ac i fynd i'r afael â niferoedd uchel o ail gartrefi. Mae hyn yn cynnwys defnyddio'r systemau cynllunio, eiddo a threthu.
- Sicrhau adolygiad annibynnol o adroddiadau ar ddigwyddiadau llifogydd ledled Cymru yn ystod gaeaf 2020-21.
- Cytuno ar ffordd ymlaen o ran diwygio'r Senedd.
- Sefydlu panel arbenigol i archwilio sut i greu Awdurdod Darlledu a Chyfathrebu Cysgodol.
- Buddsoddi yn rhaglen Arfor 2 i roi hwb i ffyniant economaidd cymunedau Cymraeg eu hiaith.
- Darparu gwersi Cymraeg am ddim i bobl ifanc rhwng 16 a 25 oed o fis Medi 2022 ymlaen.
- Lansio ymgynghoriad cyhoeddus ynghylch rhoi pŵer dewisol i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr.
Dywedodd y Prif Weinidog Mark Drakeford:
"Ers i ni lofnodi'r Cytundeb Cydweithio flwyddyn yn ôl, rydym wedi gwneud cynnydd gwirioneddol ar ystod o'n hymrwymiadau ar y cyd.
"Rydym wedi canolbwyntio ar yr ymrwymiadau hynny a fydd yn helpu i gefnogi pobl yn ystod yr argyfwng costau byw hwn. Byddwn yn parhau i gydweithio ar y meysydd hynny, a nodir yn y cytundeb, lle mae gennym dir cyffredin dros y ddwy flynedd nesaf.
"Rwy'n edrych ymlaen at barhau i wneud gwahaniaeth i bobl yng Nghymru yn ystod y cyfnod anodd hwn."
Dywedodd Arweinydd Plaid Cymru, Adam Price:
"Wrth lansio'r Cytundeb Cydweithio flwyddyn yn ôl i heddiw, dywedwyd ei fod yn ymwneud â ffordd wahanol o weithio - ar draws y llinellau gwleidyddol ac yn dilyn trywydd mwy cydweithredol, mwy cadarnhaol i Gymru o gymharu â'r anrhefn rydym wedi'i weld gan Lywodraeth y DU dros y flwyddyn ddiwethaf.
"O fwy o blant yn cael prydau ysgol am ddim yn ein hysgolion cynradd, i weithredu ar ail gartrefi, i ddechrau ehangu gofal plant am ddim, rydym yn gwneud gwahaniaeth gyda'n gilydd. Edrychwn ymlaen at wneud rhagor o gyhoeddiadau am ein hymrwymiadau wrth inni barhau i gydweithio drwy'r Cytundeb."