Bu llwyddiant mawr yn y diwydiant ffilm a theledu yn 2018 o ganlyniad i gymorth gan Lywodraeth Cymru, gyda manteision enfawr i Economi Cymru.
Mae Sex Education, gafodd ei ddangos gyntaf ar Netflix yr wythnos ddiwethaf, yn un o nifer o brosiectau a wnaethpwyd yng Nghymru yn 2018 ac sydd wedi cyrraedd y sgrîn y flwyddyn hon.
Mae'r ddrama gomedi 8 rhan am dyfu i fyny yn dilyn Otis Milburn (Asa Butterfield), bachgen yn ei arddegau, wrth iddo dyfu yn oedolyn. Mae'n cynnwys Gillian Anderson, yr actores o Hollywood, fel ei fam onest, sy'n therapydd rhyw. Mae Sex Education yn un o gyfres o gynyrchiadau sydd wedi'u ffilmio'n gyfan-gwbl neu'n rhannol yng Nghymru o ganlyniad i gyllid i'r Diwydiant Ffilm gan Lywodraeth Cymru.
Caiff y cyllid ei ategu gan ein gwasanaeth Sgrîn sy'n helpu cwmnïau cynhyrchu ddod o hyd i griw, lleoliadau a darparu cyfleusterau.
Mae cynyrchiadau eraill gyda chymorth Llywodraeth Cymru i'w rhyddhau eleni yn cynnwys:
- Watchmen (HBO) ffilmiodd brif rannau yn Nghastell Penrhyn yng Ngogledd Cymru. Gyda Jeremy Irons yn y brif ran, mae'r ddrama gyfres deledu Americanaidd yn seiliedig ar y gyfres gomic o'r un enw a grëwyd gan Alan Moore a Dave Gibbons.
- Mae Cyfres 3 o The Crown (Left Bank Pictures) yn cynnwys rhaglen gyfan sy'n canolbwyntio ar erchylltra Aberfan. Defnyddiodd y cynhyrchwyr amrywiol leoliadau yng Nghymoedd De Cymru a chaeodd Cadw Gastell Caernarfon er mwyn ail-greu Arwisgiad Tywysog Siarl.
- Mae cyfres 2 Keeping Faith (Vox Pictures) yn cael ei ffilmio yng Ngorllewin Cymru ar hyn o bryd yn dilyn llwyddiant y gyfres gyntaf yn 2018. Gydag Eve Myles yn y brif ran, cafodd cyfres 1 fwy o wylwyr na'r un ddrama o'r blaen ar BBC Wales mewn dros 20 mlynedd. Golygodd iPlayer i'r nifer gyrraedd 15 miliwn, arweiniodd at y BBC yn ei phrynu a'i darlledu ar draws y DU.
- Cafodd Six Minutes to Midnight (Mad as Birds Ltd.) ei hysgrifennu gan Celyn Jones ac Eddie Izzard a'i chyfarwyddo gan Andy Goddard. Mae'r ffilm gyffrous hanesyddol yn seiliedig ar ddigwyddiadau gwirioneddol ym Mhrydain cyn yr Ail Ryfel Byd, yn cynnwys Eddie Izzard a'r Fonesig Judi Dench.
- Ffilmiodd The Secret Garden (Lennox Productions) rai o brif rannau'r ffilm yng Ngerddi Bodnant yng Ngogledd Cymru am bythefnos, sy'n ail-greu yr hanesyn clasurol gyda Colin Firth a Julie Walters.
- Mae Pitching In (Cynyrchiadau LA), yn ddrama newydd wedi'i lleoli yng Nghymru, yn cynnwys sêr Gavin and Stacey, sef Larry Lamb (Michael Shipman) a Melanie Walters (Gwen West). Wedi'i chreu ar gyfer BBC One Wales a BBC One Daytime, mae'n adrodd stori tair cenhedlaeth o'r un teulu, pob un ohonynt yn ei chael yn anodd i wneud y gorau o'r hyn sy'n sefyllfa anarferol - ac weithiau anodd iawn.
- Warren (Hat Trick Productions ar gyfer BBC One). Mae'r gyfres gomedi wreiddiol gan yr awduron newydd Paul McKenna a Jimmy Donny Cosgrove yn canolbwyntio ar fywyd Warren Thompson (sef Martin Clunes), athro gyrru penstiff sy'n meddwl bod y byd yn ei erbyn.
- Mae His Dark Material (Bad Wolf) yn parhau i gael ei ffilmio yn Wolf Sudios ac mewn lleoliadau ledled Cymru. Mae addasiad y BBC o dri llyfr Philip Pullman yn cynnwys James McAvoy, Dafne Keen a Lin-Manuel Miranda. Bydd y gyfres yn cynnwys 8 rhan, wedi'i hysgrifennu gan Jack Thorne gyda Tom Hooper yn cyfarwyddo. Mae disgwyl gweld ail gyfres yn cael ei ffilmio yn 2019.
Dywedodd y Dirprwy Weinidog Diwylliant, Chwaraeon a Thwrisitaeth, yr Arglwydd Elis-Thomas:
"Mae'n gwaith caled a'n hymrwymiad wedi'n helpu i ddatblygu enw da Cymru fel canolfan o ragoriaeth ar gyfer cynyrchiadau drama o'r radd flaenaf; ac fel gwlad sy'n barod i gefnogi'r sector ac fel dewis da a fforddiadwy yn lle Llundain.
"Ac nid oes amheuaeth bod ein dull proactif o helpu'r diwydiant yn talu ei ffordd ac yn dod â nifer fawr o gynyrchiadau o safon uchel i Gymru.
"Wrth gwrs mae ein dull o weithio yn canolbwyntio ar gael gwerth eu harian i'r talwyr trethi, a gyda'r dadansoddiad presennol yn dangos, am bob £1 y mae Llywodraeth Cymru yn ei fuddsoddi mewn cynhyrchu Teledu a Ffilm, rydym yn gweld £8 ar gyfartaledd yn cael ei wario o fewn Economi Cymru, byddwn yn parhau i ymdrechu i ddenu mwy a mwy o gynyrchiadau i Gymru."