Llwyddodd Cymru i sicrhau canlyniadau o ansawdd uchel unwaith eto yn 2023 gyda 98% o'r dyfroedd ymdrochi dynodedig yn cyrraedd ein safonau amgylcheddol llym.
Cyrhaeddodd 80 o'n 109 o ddyfroedd ymdrochi y dosbarthiad uchaf o 'ardderchog'.
Dosbarthiad 'rhagorol' yw un o'r meini prawf hanfodol ar gyfer cael achrediad y Faner Las, un o eco-labeli gwirfoddol mwyaf cydnabyddedig y byd.
Mae dau draeth yng Ngogledd Dinbych-y-pysgod ac Aberdyfi wedi symud i fyny o ddosbarthiadau 'da' i ddosbarthiadau 'rhagorol', gan eu gwneud yn gymwys i wneud cais am statws arbennig y Faner Las.
Meddai y Gweinidog Newid Hinsawdd, Julie James:
"Mae Cymru'n cael ei chydnabod yn rhyngwladol fel gwlad sydd a rhai o'r traethau a'r ansawdd dŵr gorau yn Ewrop, ac mae ansawdd dŵr ymdrochi uchel yn hanfodol i barhau i gynnal cyfleoedd hamdden awyr agored gwerthfawr ar ein dyfroedd.
"Byddwn yn parhau i weithio gyda chymunedau lleol a chwmnïau dŵr i nodi pa gamau sydd angen eu cymeryd i fodloni a rhagori ar y safonau gofynnol."
Diolch i gydweithio rhwng Cyngor Sir Ddinbych, Cyfoeth Naturiol Cymru a Dŵr Cymru, nodwyd y problemau o ran ansawdd y dŵr a arweiniodd at dosbarthiad ‘gwael’ y llynedd ym Marine Lake ac aethpwyd i'r afael â hyn ar fyrder. Mae hyn wedi esgor ar yr effeithiau a ddymunir ac mae Marine Lake bellach yn cyrraedd y safonau uchel a osodwyd gennym ar gyfer ansawdd dŵr ymdrochi.
Meddai Clare Pillman, Prif Weithredwr Cyfoeth Naturiol Cymru:
"Rydym wedi ymrwymo'n llwyr i ddiogelu a gwella ansawdd ein dyfroedd a'n hafonydd arfordirol ar gyfer pobl a natur, a phob blwyddyn, mae llawer iawn o waith sydd ddim yn cael ei weld yn digwydd i fynd i'r afael â ffynonellau llygredd ledled y wlad.
"Er ein bod yn dathlu ein harfordir ysblennydd a'n traethau o'r safon uchaf, gwyddom fod nawr yn amser allweddol ar gyfer newid, yn hytrach na bod yn hunanfodlon.
"Mae llawer o waith i'w wneud o hyd i ddiogelu ein dyfroedd ymdrochi. Yr unig ffordd o gael ansawdd ein dŵr i'r cyflwr rydym ei eisiau yw cydnabod bod gan bawb rôl i'w chwarae. Mae'n rhaid i ni i gyd wneud hyd yn oed yn well nawr ac ymdrechu i gael y dyfroedd rydyn ni eu heisiau ar gyfer ein hunain ac ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol."
Mae cofnodion ansawdd dŵr ymdrochi yn ddibynnol iawn ar newidiadau yn yr hinsawdd, yn benodol, cyfnodau o law trwm, a chyda'n hinsawdd yn newid, rhaid i ni fod yn barod i ddelio ag effeithiau pyliau glaw hirach, trymach yn rheolaidd.
Mae Cymru eisoes yn cael mwy o law ar gyfartaledd na rhannau eraill o'r DU ac nid oedd eleni'n eithriad.
Ym mis Gorffennaf, cafodd Cymru 191% o'i glawiad cyfartalog tymor hir ac yna 125% yn ystod Awst a Medi.
Y llynedd, dros yr un cyfnod, Cymru gafodd y cyfnod sychaf o saith mis mewn 150 mlynedd.
Mae'n siom bod dau o'n dyfroedd ymdrochi newydd eu dynodi wedi derbyn dosbarthiadau gwael. Mae Cyfoeth Naturiol Cymru yn gweithio gyda rhanddeiliaid i ymchwilio i'r achosion gyda'r bwriad o nodi lle y gellir gwneud gwelliannau.
Ychwanegodd y Gweinidog:
"Rydym yn gwybod y gall gwelliannau gymryd amser, ond gall hyd yn oed y camau lleiaf helpu i ddiogelu a gwella ansawdd ein dŵr yng Nghymru.
"Er bod cynnydd wedi'i wneud, mae llawer mwy i'w wneud o hyd i sicrhau dyfroedd glanach a iachach i bobl eu mwynhau."