Mae blog Llunio Dyfodol Cymru wedi’i sefydlu i barhau â’r drafodaeth gyda rhanddeiliaid ar ddeddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae Deddf Llesiant Cenedlaethau’r Dyfodol (Cymru) 2015 yn ei gwneud yn ofynnol i’r holl gyrff cyhoeddus yng Nghymru, gan gynnwys Llywodraeth Cymru, feddwl am effaith hirdymor eu penderfyniadau a chydweithio fwy gyda’n cymunedau a’i gilydd.
Yn ystod 2021 byddwn yn gosod Cerrig Milltir Cenedlaethol am y tro cyntaf, yn ogystal ag edrych o’r newydd ar ein Dangosyddion Cenedlaethol i weld a yw’r pandemig wedi tynnu sylw at unrhyw fylchau. Byddwn hefyd yn llunio Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol sy’n amlinellu’r tueddiadau tebygol yn y dyfodol o ran llesiant economaidd, cymdeithasol, amgylcheddol a diwylliannol Cymru.
Dyma’r tair rhan bwysig o Lesiant Cenedlaethau’r Dyfodol sy’n dweud wrthym am y cynnydd rydym yn ei wneud tuag at ein nodau llesiant a’r heriau a chyfleoedd tebygol y gallwn eu hwynebu ar y ffordd. Rydym wedi ymrwymo i gwblhau rhan gyntaf y gwaith hwn erbyn mis Rhagfyr 2021.
Mae blog Llunio Dyfodol Cymru wedi’i sefydlu i barhau â’r drafodaeth gyda rhanddeiliaid ar y gwaith o osod Cerrig Milltir Cenedlaethol, diweddaru’r Dangosyddion Llesiant Cenedlaethol, a datblygu’r Adroddiad Tueddiadau’r Dyfodol nesaf ar gyfer Cymru.
Y blog hwn yw un o’r ffyrdd rydym yn bwriadu defnyddio safbwyntiau a phrofiadau pobl ar draws Cymru wrth inni wneud y gwaith hwn.
Dros y misoedd nesaf byddwn yn uwch lwytho cyfres o bostiadau yn canolbwyntio ar Gerrig Milltir, Dangosyddion a Thueddiadau. Rydym hefyd yn bwriadu cynnwys cyfraniadau gan westeion o’r tu allan i Lywodraeth Cymru, er mwyn rhannu eu barn ar y dangosyddion a thueddiadau allweddol sy’n effeithio ar Gymru.
Rydym yn gobeithio y byddwch yn manteisio ar y cyfle i ddarllen a chymryd rhan yn y blog hwn, ac rydym yn awyddus i glywed eich barn yn y sylwadau. Rydym bob amser yn barod i gael sgwrs fanylach, os byddai hynny’n well gennych chi. Cysylltwch dros e-bost – lluniodyfodolcymru@llyw.cymru