Beth sydd gan gist o'r 18fed ganrif a ddefnyddiwyd i ddewis aelodau rheithgor, medal Rhyfel y Crimea, a blwch mouches (smotiau harddwch) o Baris yn gyffredin?
Mae pob un o'r eitemau hyn yn cael eu storio mewn amgueddfa neu archif annibynnol yng Nghymru sy'n derbyn cyllid i sicrhau bod yr arteffactau yn eu gofal yn cael eu diogelu ar gyfer y tymor hir a bod ganddynt ddigon o le i barhau i ychwanegu at eu casgliadau.
Mae Llywodraeth Cymru yn buddsoddi bron i £500,000 mewn wyth prosiect cadwraeth ledled Cymru i sicrhau bod miloedd o wrthrychau (a'r straeon lleol sydd y tu ôl iddynt) yn cael eu cadw'n ddiogel ac ar gael i'w gweld am genedlaethau i ddod.
Mae llawer o amgueddfeydd lleol ac annibynnol wedi'u lleoli mewn adeiladau hanesyddol fel gorsafoedd bad achub, mwyngloddiau neu blastai. Mae natur yr adeiladau yn aml yn ei gwneud hi'n anodd ac yn gostus cynnal yr amodau sydd eu hangen i ofalu am gasgliadau. Bydd y cyllid yn canolbwyntio ar wella cyfleusterau storio i ddiogelu gwrthrychau yn well.
Un o'r rhai sy'n derbyn y grant yw ystad Llanerchaeron a reolir gan yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol yng Ngheredigion. Dyluniwyd y tŷ Sioraidd gan John Nash, y pensaer o gyfnod y Rhaglywiaeth, ac mae'n arddangos dros 5,000 o eitemau o gasgliad Pamela Ward o hen bethau a dodrefn (gan gynnwys y blwch mouches). Bydd y cyllid yn cael ei ddefnyddio i greu dau le newydd ar gyfer casgliadau a gwella'r storfa bresennol. Bydd un o'r lleoedd newydd yn storfa agored y gellir ei gweld sy'n darparu mwy o fynediad cyhoeddus i gasgliadau.
Cartref y blwch dethol rheithgor a'r fedal ryfel yw Llety'r Barnwr, Llanandras, hen lys a adferwyd yn llawn o'r bedwaredd ganrif ar bymtheg sydd hefyd yn gartref i gasgliad hanes lleol sy'n tyfu'n barhaus. Bydd y grant yn cael ei ddefnyddio i adleoli'r casgliad o fewn yr adeilad i le sydd dair gwaith maint y storfa bresennol, ac i ychwanegu gweithle ar gyfer casgliadau newydd / ardal ymchwil mewn ystafell gyfagos.
Dywedodd y Gweinidog Diwylliant Jack Sargeant am y Rhaglen Gwella Cyfalaf Rheoli Casgliadau:
Mae amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau yn storfeydd gwerthfawr o straeon cymunedol lleol a hanes diwylliannol Cymru. Maent yn gofalu am ddogfennau a gwrthrychau sy'n ein helpu i ddeall ein gorffennol ac yn ein hysbrydoli yn y presennol.
Rwy'n falch iawn y bydd ein grant newydd yn helpu i feithrin capasiti o fewn amgueddfeydd lleol a gwasanaethau archifau i ddiogelu ein treftadaeth a gwneud eu casgliadau'n fwy hygyrch i'r cyhoedd.
Dywedodd Rheolwr Casgliadau a Thai'r Ymddiriedolaeth Genedlaethol ar gyfer Sir Gaerfyrddin a Cheredigion, Heddwen Cadwallader:
Bydd y grant ar gyfer y prosiect hwn yn ein galluogi i ddatgloi mwy o botensial casgliadau hanesyddol Llanerchaeron i ennyn diddordeb ac ysbrydoli pobl yn ogystal â gwella ein gallu i warchod yr eitemau yr ydym yn gofalu amdanynt mewn modd cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.