Blaenoriaethau mesurau arbennig Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr: Hydref 2024 i Fawrth 2025
Disgwyliadau Llywodraeth Cymru ar gyfer gwelliannau dros y 6 mis nesaf.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Cyflwyniad
Mae Bwrdd Iechyd Prifysgol Betsi Cadwaladr wedi bod o dan fesurau arbennig ers mis Chwefror 2023. Mae adroddiadau chwarterol wedi'u cyhoeddi, gan fyfyrio ar y cynnydd a wnaed, y gwersi a ddysgwyd, a gwelliannau a heriau sydd wedi'u nodi.
Mae'r bwrdd iechyd wedi gwneud rhywfaint o gynnydd da o ran camau galluogi ers iddo gael ei uwchgyfeirio i fesurau arbennig. Mae'r bwrdd iechyd yn canolbwyntio ar adeiladu ar y rhain er mwyn sicrhau eu bod yn ymwreiddio ymhellach, gan arwain at welliannau cynaliadwy.
Mae'n hanfodol bod canlyniadau ac effaith y gwaith a wnaed hyd yma yn arwain at gyflawni gwelliannau a buddiannau gwirioneddol i gleifion a staff, bod prosesau ansawdd a diogelwch yn dechrau gwella a bod amseroedd aros ar gyfer gofal brys a gofal mewn argyfwng a gofal dewisol yn cyd-fynd â metrigau cenedlaethol.
Mae Llywodraeth Cymru yn disgwyl gweld blaenoriaeth yn cael ei rhoi i'r meysydd canlynol dros y chwe mis nesaf:
Llywodraethiant
- Gwerthuso ac effaith rhaglen sefydlu'r bwrdd a datblygu'r bwrdd.
- Cwblhau hunanasesiad y bwrdd ac effeithiolrwydd pwyllgorau ac asesu'r camau nesaf.
- Rhoi'r cynllun gweithredu y cytunwyd arno ar waith mewn ymateb i'r argymhellion o'r adolygiad o swyddfa ysgrifennydd y bwrdd gan gynnwys asesu'r gwaith gweithredu.
Arweinyddiaeth, gallu a diwylliant
- Parhau i recriwtio i dîm gweithredol llawn a rhoi rhaglen datblygu arweinyddiaeth ar waith sy'n canolbwyntio ar anghenion y tîm newydd.
- Ymgysylltu clinigol ac arwain gwelliant i fod yn amlwg ar draws y gwasanaethau gan ddangos enghreifftiau o gydweithio ac arwain “swyddogion gweithredol clinigol” a dealltwriaeth gan bob swyddog gweithredol o feysydd risg clinigol.
- Parhau i gyflwyno rhaglen waith sy'n canolbwyntio ar atgyfnerthu diwylliant, arweinyddiaeth dosturiol, gwerthoedd ac ymddygiadau ac ymgysylltu â ffocws ymarferol ar ysgogi newid.
- Parhau i ymwreiddio'r dull gweithredu y cytunwyd arno i ennyn ymddiriedaeth a hyder o fewn y sefydliad a chyda rhanddeiliaid, gan gynnwys sefydlu mecanwaith effeithiol ar gyfer monitro a gwella ymgysylltiad staff a rhoi arolygon pwls ar waith bob chwe mis i fonitro'r effaith.
Ansawdd gofal
- Cwblhau a gwerthuso llwybrau braenaru ym maes y system rheoli ansawdd - gwasanaethau fasgwlaidd ac wroleg - a dangos sut y mae'r system rheoli ansawdd integredig yn cael ei defnyddio ar draws y sefydliad.
- Dangos sut y mae prosesau data gwell ar gyfer darparu llwybrau clinigol, canlyniadau clinigol a phrofiadau cleifion yn cael eu defnyddio i nodi methiannau mewn gwasanaethau ac ysgogi gwelliannau i ansawdd.
- Dangos sut mae'r polisi pryderon integredig yn cefnogi'r sefydliad i gydnabod, ymateb, dysgu a gwella o ddigwyddiadau, cwynion ac adolygiadau marwolaethau.
- Cwblhau, lle bo'n ymarferol, argymhellion yr adolygiadau mesurau arbennig a gweithio gyda Gweithrediaeth y GIG i ymgorffori'r prosesau llywodraethiant clinigol gofynnol.
Perfformiad a chanlyniadau
- Gwella mynediad a phrofiad fel y cânt eu mesur drwy wella amseroedd aros 52 wythnos adeg y cam cleifion allanol cyntaf o fis i fis, dim cleifion yn aros dros 156 wythnos am driniaeth, dim achosion o aros mwy na 4 awr cyn trosglwyddo cleifion o ambiwlansys a pherfformiad gwell o ran amseroedd aros 4 awr a 12 awr mewn adrannau achosion brys.
- Dangos sut y mae'r sefydliad yn defnyddio'r rhyngwyneb gofal sylfaenol a gofal eilaidd i leihau achosion y gellir eu hosgoi o gludo cleifion neu dderbyn cleifion i'r ysbyty, a lleihau hyd yr arhosiad a datblygu gwell darpariaeth gwasanaeth cymunedol i gefnogi cleifion hŷn.
- Datblygu a dechrau rhoi cynigion ar waith sy'n anelu at sefydlogi gofal sylfaenol, gan ganolbwyntio ar wasanaethau deintyddiaeth ar unwaith.
- Parhau i gyflwyno'r model llif parhaus ar draws y tri safle acíwt, gan gyd-fynd â lleihau oedi yn achos llwybrau gofal ac ymwreiddio Gofal Argyfwng yr Un Diwrnod (SDEC) a chanolfannau gofal sylfaenol brys.
- Gwneud cynnydd o ran rhoi llwybrau iechyd cymunedol, argymhellion Cael Pethau’n Iawn y Tro Cyntaf (GIRFT) a chamau gweithredu cynhyrchiant theatrau ar waith.
Cyllid, strategaeth a chynllunio
- Parhau i gyflawni, ymgorffori a dangos tystiolaeth yn erbyn y blaenoriaethau allweddol a nodir yn y cynllun gweithredu ar gyllid mesurau arbennig.
- Parhau â'r cynnydd a wnaed i gefnogi'r sefydliad i ddangos tystiolaeth o gynnydd tuag at lywodraethiant ariannol cadarn ac amgylchedd rheoli ariannol cadarn.
- Dangos tystiolaeth o welliant clir yn y llwybr ariannol arfaethedig ar gyfer 2024 i 2025. Mae hyn yn cynnwys cyflawni cynllun ariannol y bwrdd iechyd, a fyddai hefyd yn adlewyrchu'r gwaith o gyflawni'r cyfanswm rheoli targed a bennwyd yn 2023 i 2024; gwell gafael a rheolaeth ar y pwysau ariannol a gweithredol presennol; a chynnydd pellach o ran nodi a darparu cyfleoedd.
- Datblygu a dangos strategaeth glir i gyflawni sefyllfa (reolaidd) o fantoli'r cyfrifon, gyda map ffordd clir a cherrig milltir allweddol ar gyfer cyflawni. Mae hyn yn cynnwys datblygu cynllun blynyddol credadwy ar gyfer 2025 i 2026 gyda gwelliant parhaus i'w wneud tuag at ddatblygu Cynllun Tymor Canolig Integredig (IMTP) tair blynedd cytbwys yn y blynyddoedd i ddod.
- Dechrau proses gydag amserlenni y cytunwyd arnynt ar gyfer datblygu cynllun gwasanaethau clinigol, a lywir gan ymgysylltu â rhanddeiliaid.
Gwasanaethau bregus
- Adolygu'r capasiti a'r galw ym mhob gwasanaeth yn sylfaen ar gyfer cynllun cyflawni gweithredol clinigol ar gyfer pob arbenigedd lle y mae her.
- Rhoi cynlluniau gwella a thrawsnewid clir ar waith gan gynnwys ond heb fod yn gyfyngedig i iechyd meddwl a Gwasanaethau Iechyd Meddwl Plant a Phobl Ifanc (CAMHS), deintyddiaeth gofal sylfaenol, gwasanaethau fasgwlaidd, wroleg, offthalmoleg, oncoleg, iechyd y geg (i gynnwys gwasanaethau orthodonteg a'r ên a'r wyneb), llawdriniaeth gyffredinol, dermatoleg a phlastigau.
- Sicrhau bod mecanweithiau cadarn ar waith i gyflawni gofynion yr achos busnes orthopedig, tra'n sicrhau bod safleoedd presennol yn gweithredu yn erbyn y model gweithredu y cytunwyd arno a bod lefelau cynhyrchiant a gweithgarwch yn cael eu cynnal.
- Sicrhau bod dewisiadau amgen cadarn yn lle adrannau achosion brys ar draws y rhanbarth a chymryd camau parhaus i sicrhau gwelliannau ar draws y tair adran achosion brys.