Mae Prif Weinidog Cymru, Mark Drakeford wedi gorchymyn archwiliad brys o gerfluniau, enwau strydoedd ac adeiladau i fynd i’r afael â chysylltiadau Cymru gyda’r fasnach mewn caethweision.
Daw’r cyhoeddiad yn dilyn mis o weithredu gan y mudiad Black Lives Matter, sydd wedi tynnu sylw at anghydraddoldeb ar sail hil ar draws y byd.
Bydd yr archwiliad, a fydd yn cael ei gynnal ar hyd a lled y wlad, yn cael ei arwain gan Gaynor Legall, eiriolwr grymus dros fenywod o leiafrifoedd ethnig yng Nghymru. Bydd Legall, a gafodd ei geni yng Nghaerdydd, yn arwain y grŵp gorchwyl a gorffen a ddewiswyd oherwydd eu gwybodaeth arbenigol o’r fasnach mewn caethweision, yr Ymerodraeth Brydeinig a hanes cymunedau duon yng Nghymru.
Dywedodd y Prif Weinidog:
“Mae’r mudiad Black Lives Matter wedi tynnu sylw at nifer o faterion pwysig y mae angen inni fynd i’r afael â hwy fel gwlad. Un o’r rhain yw'r angen i Gymru ystyried y pethau gweledol hynny sy’n ein hatgoffa o orffennol y wlad. Mae hyn yn arbennig o wir wrth inni edrych ar erchyllterau’r fasnach mewn caethweision.
“Mae rhai o’n hadeiladau hanesyddol yn ein hatgoffa o’r cyfnod hwn yn ein hanes. Gallai ymddangos fod rhai ohonynt yn creu arwyr o ffigurau hanesyddol a weithredodd mewn ffordd yr ydym yn ei gondemnio bellach. Gallai unigolion sy’n gysylltiedig â’r fasnach mewn caethweision gael eu cofio mewn enwau strydoedd neu enwau adeiladau cyhoeddus. Maent yn goffadwriaeth o orffennol nad ydym wedi ei herio’n llawn ac mae gofyn inni ei herio nawr.
“Nid yw hyn yn golygu y dylem ail-ysgrifennu'r gorffennol – y diben yw ei ystyried â’r cyfiawnder haeddiannol. Os caiff ei wneud yn y ffordd iawn, gallwn greu perthynas gyfoethocach a doethach gyda’n hanes. Gallwn ddod o hyd i straeon a ffigurau newydd i’w dathlu. Gallwn ddangos Cymru sy’n dathlu ein cymunedau amrywiol mewn ffordd haeddiannol. Dyma’r hyn y mae ein gorffennol yn ei haeddu ac y mae ein presennol am ei weld, a dyma sydd yn iawn.”
Byddwn yn ymgynghori â grŵp allanol o bobl ifanc a chymunedau am y canfyddiadau cyn inni gynllunio’r ffordd orau o symud ymlaen gyda’n gilydd. Hefyd, yn y man bydd ein Gweinidog Addysg yn cyhoeddi manylion pellach gweithgor i oruchwylio datblygiad adnoddau dysgu, a nodi bylchau yn yr adnoddau neu’r hyfforddiant presennol sy’n gysylltiedig â chymunedau BAME, eu cyfraniadau a’u profiadau. Mae’r gwaith hwn yn cyd-fynd ag adolygiad Estyn o hanes Cymru a fydd yn ystyried yn llawn hanes, hunaniaeth a diwylliant BAME yng Nghymru ac yn ehangach.