Neidio i'r prif gynnwy

Trwy gadw at fesurau bioddiogelwch da, byddwch yn eich diogelu chi'ch hun a'ch stoc.

Cyhoeddwyd gyntaf:
16 Tachwedd 2018
Diweddarwyd ddiwethaf:

Trwy gadw at fesurau bioddiogelwch da, byddwch yn eich diogelu chi'ch hun a'ch stoc rhag:

  • clefydau
  • plâu
  • biofrawychiaeth

Mae clefydau'n cael eu lledaenu mewn sawl ffordd, gan gynnwys trwy:

  • symud anifeiliaid, pobl a pheiriannau rhwng ac o fewn ffermydd
  • cyflwyno anifeiliaid newydd
  • dod i gysylltiad â stoc cymdogion
  • eu halogi gan fermin ac adar gwyllt
  • anifeiliaid yn yfed o afonydd a nentydd sydd wedi'u halogi

Beth y dylwn ei wneud?

I gadw'n fioddiogel, cadwch at y canlynol:

  • peidiwch â gadael i haint ddod i'ch fferm na'i ledaenu o gwmpas eich fferm, ar eich dillad, esgidiau na'ch dwylo
  • cyfyngwch ar nifer y bobl a pheiriannau sy'n cael dod i'ch fferm a'u rheoli wedi iddyn nhw gyrraedd
  • cadwch mynedfeydd, mannau parcio, buarthau, storfeydd a mannau bwydo yn lân a thwt
  • gofalwch fod gennych olchwr pŵer, brwsys, pibau dŵr, dŵr a diheintydd a bod ymwelwyr yn eu defnyddio
  • cadwch siediau'r anifeiliaid yn lân ac wedi'u hawyru'n dda - peidiwch â'u gorlenwi
  • peidiwch â rhannu offer chwistrellu a dosio - os yw'n amhosib peidio, golchwch a diheintiwch nhw.
  • golchwch a diheintiwch offer a pheiriannau'r fferm (yn enwedig os ydych yn eu rhannu â ffermwr arall) - gofalwch fod contractwyr yn gwneud hefyd
  • rhowch ddiet gytbwys a maethlon i'ch anifeiliaid - peidiwch â'u bwydo â llaeth amrwd ag iddo gyfrif celloedd uchel
  • gofalwch eich bod yn gwybod hanes yr anifeiliaid rydych yn eu prynu (hanes profion, sticeri pasbort TB a ChECS)
  • lluniwch gynllun iechyd â'ch milfeddyg, gan gynnwys ynysu stoc newydd neu stoc sy'n dychwelyd
  • rhwystrwch unrhyw gysylltiad â stoc cymdogion - cadwch eich ffensys mewn cyflwr da
  • cynhaliwch raglenni rheoli plâu
  • gosodwch ffens o gwmpas pyllau dŵr, nentydd ac afonydd - gofalwch fod y dŵr mewn cafnau'n ffres a glân
  • rhowch rwydi am byllau dŵr rhag i adar gwyllt ddod i fwydo - rhowch fwyd a dŵr i'ch adar mewn mannau caeedig
  • cadwch eich stoc draw oddi wrth slyri sydd wedi'i wasgaru am o leiaf dau fis
  • gofalwch fod tagiau adnabod a chofnodion yn gywir a chyfoes
  • gwaredwch stoc marw'n briodol
  • cadwch eich llygaid ar agor am arwyddion clefydau - rhowch wybod i'r Asiantaeth Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion cyn gynted ag y bydd gennych unrhyw awgrym bod clefyd hysbysadwy ar y fferm

Pam y dylwn fod yn fioddiogel

Gall achos o glefyd anifeiliaid (er enghraifft Clwy'r Traed a'r Genau) olygu trychineb i gynhyrchwyr. Maen nhw'n achosi stres a gofid personol yn ogystal â chaledi ariannol.

Trwy gadw at fesurau bioddiogelwch da, gallwch:

  • ddiogelu'ch anifeiliaid, anifeiliaid eich cymdogion a chefn gwlad
  • cadw clefydau allan
  • rhwystro clefydau rhag lledaenu
  • cadw'ch anifeiliaid yn iach
  • torri costau atal a thrin clefydau
  • gwella effeithlonrwydd y fferm

Dewch i ddysgu am TB Advantage ar y wefan llaeth AHDB.

Dysgwchfwy am TB mewn gwartheg a bioddiogelwch ar y hwb TB.

Fideo am wella bioddiogelwch y fferm