Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Gweinidog Iechyd Eluned Morgan wedi cadarnhau bod mwy na biliwn o eitemau o gyfarpar diogelu personol (PPE) wedi'u rhoi i'r GIG a'r sector gofal cymdeithasol ledled Cymru ers dechrau'r pandemig.

Cyhoeddwyd gyntaf:
30 Medi 2021
Diweddarwyd ddiwethaf:

Ers mis Mawrth 2020, bu Llywodraeth Cymru'n gweithio gyda Phartneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru (NWSSP) i ddarparu PPE am ddim ar gyfer pawb sy'n gweithio mewn iechyd a gofal cymdeithasol. 

Bydd PPE am ddim yn parhau i gael ei gyflenwi i ofal sylfaenol ac i ofal cymdeithasol am gyhyd ag y bydd ei angen yn ystod y pandemig. Mae cytundeb lefel gwasanaeth â Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru - sy'n sicrhau bod gwasanaethau gofal cymdeithasol gan gynnwys cartrefi gofal yn cael PPE  - wedi'i ymestyn tan fis Mawrth 2022.

Dywedodd y Gweinidog Iechyd Eluned Morgan:

Rydyn ni wedi cyrraedd carreg filltir arwyddocaol o roi biliwn o ddarnau o PPE. Hoffwn dalu teyrnged i ymdrechion parhaus Partneriaeth Cydwasanaethau GIG Cymru wrth gaffael a darparu PPE i gadw gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol rheng flaen yn ddiogel yn ystod y pandemig.

Mae cyflenwi a dosbarthu PPE o ansawdd uchel yn dal i fod yn rhan allweddol o'n hymateb i bandemig COVID-19 sy'n parhau o hyd. 

Wrth inni gynllunio ymlaen llaw ar gyfer y gaeaf, a chyda COVID-19 yn dal i roi pwysau ar ein systemau iechyd a gofal cymdeithasol, rwy'n falch o gadarnhau bod stociau o PPE yn sefydlog ac rydyn ni'n gweithio gyda NWSSP i sicrhau bod gennym gyflenwad am o leiaf 16 wythnos.

Mae ein gweithwyr iechyd a gofal cymdeithasol yn gweithio ar y rheng flaen yn ystod y pandemig hwn, ac rydyn ni wedi ymrwymo i barhau i roi PPE am ddim iddynt am gyhyd ag y bydd ei angen i helpu i'w cadw'n ddiogel.