Neidio i'r prif gynnwy

Cyflwyniad

Mae Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn rhan o raglen ehangach i wella hygyrchedd cyfraith Cymru, a hwn fydd y bloc adeiladu cyntaf tuag at greu Codau Cyfraith Cymru. Nododd Comisiwn y Gyfraith yng Nghymru a Lloegr (The Form and Accessibility of the Law Applicable in Wales) sydd â chylch gwaith i wella hygyrchedd y gyfraith, y byddai deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol yn elwa ar gael ei chydgrynhoi. Mae rhanddeiliaid hefyd wedi mynegi dymuniad cryf am ddeddfwriaeth gliriach, sydd ar gael mewn un lle (ymgynghoriad Bil yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru)).

Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015

Bydd y Bil yn cyfrannu at gyflawni'r nodau llesiant a nodir yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.  Er nad oes newid polisi wrth gydgrynhoi deddfwriaeth, bydd yn cyfrannu, yn uniongyrchol ac yn anuniongyrchol, at themâu megis cefnogi ffyniant, creu Cymru fwy cyfartal, a dod yn wlad sy'n hyrwyddo diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg. Dim ond yn Saesneg y mae'r rhan fwyaf o'r ddeddfwriaeth ar gael ar hyn o bryd. Bydd y ddeddfwriaeth newydd yn gwbl ddwyieithog gan roi mwy o amlygrwydd a phwysigrwydd i'r Gymraeg ac i'r amgylchedd hanesyddol yn fwy cyffredinol.

Cwmpas y cydgrynhoi

Mae'r fframwaith cyfreithiol presennol ar gyfer gwarchod a rheoli'r amgylchedd hanesyddol wedi'i gynnwys yn bennaf yn:

  • Deddf Adeiladau Hanesyddol a Henebion Hynafol 1953
  • Deddf Henebion Hynafol ac Ardaloedd Archaeolegol 1979 (“Deddf 1979”)
  • Deddf Cynllunio (Adeiladau Rhestredig ac Ardaloedd Cadwraeth) 1990 (“Deddf 1990”)
  • Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) 2016 (“Deddf 2016”).

Bydd y bil cydgrynhoi yn dod â'r darpariaethau hyn at ei gilydd mewn un lle.  Bydd y Bil hefyd yn ailddatgan darpariaethau a geir ar hyn o bryd mewn Deddfau eraill sy'n berthnasol i'r amgylchedd hanesyddol, lle bydd gwneud hynny'n gwella hygyrchedd ac eglurder. Er enghraifft, rhai darpariaethau o Ddeddf Llywodraeth Leol 1972, Deddf Cynllunio Gwlad a Thref 1990 a Deddf Cynllunio a Phrynu Gorfodol 2004.

Mae Rheolau Sefydlog y Senedd Rheolau Sefydlog Senedd Cymru yn nodi'r gofynion ar gyfer yr hyn y gellir ei gynnwys mewn bil cydgrynhoi. Ni all Bil o'r fath gynnwys diwygio polisi a dylai'r gyfraith a gafodd ei chydgrynhoi gael yr un effaith gyfreithiol â'r ddeddfwriaeth wreiddiol. Wrth baratoi'r asesiad effaith hwn, rydym felly wedi ystyried effaith cydgrynhoi’r ddeddfwriaeth yn hytrach na'r polisi a geir yn y ddeddfwriaeth.  

Pam yr ydym yn cydgrynhoi?

Mynegwyd pryderon ers blynyddoedd lawer am gymhlethdod y gyfraith yn y Deyrnas Unedig a chyflwr anhrefnus ei llyfr statud enfawr a gwasgarog. 

Mae deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol yn effeithio ar unigolion preifat a chyrff cyhoeddus fel ei gilydd. Ar hyn o bryd mae dros 4,200 o henebion cofrestredig, dros 30,000 o adeiladau rhestredig a 500 o ardaloedd cadwraeth yng Nghymru. Mae Deddfau 1979 a 1990 yn rheoli'r gwaith o ddynodi, gwarchod a rheoli'r asedau hanesyddol hyn yn rheolaidd. Gan fod y Deddfau'n gofyn am gydsyniadau ffurfiol ar gyfer llawer o waith i asedau hanesyddol a bod gwaith anawdurdodedig yn droseddau, cyfeirir yn rheolaidd at y statudau perthnasol ym mhob Deddf ac fe’u defnyddir gan berchnogion, asiantiaid ac awdurdodau cydsynio. 

Cafodd Deddf 1979 a Deddf 1990 eu deddfu cyn datganoli, felly maent yn gynyddol anghyson â'r strwythurau gweinyddol a llywodraethol presennol. Mae'r iaith a ddefnyddir yn y Ddeddf yn hen ffasiwn, yn anhylaw ac, mewn rhai achosion, yn annealladwy. Mae Deddf 1979 yn gymwys i Gymru, Lloegr a'r Alban ac erbyn hyn, 40 mlynedd ar ôl ei phasio, mae wedi'i diwygio'n helaeth a chan bob un o'r tair gwlad. Dim ond i Gymru a Lloegr y mae Deddf 1990 yn gymwys, ond mae’r ddeddf honno hefyd wedi'i diwygio'n helaeth gan fod polisi amgylchedd hanesyddol yng Nghymru a Lloegr wedi mynd i gyfeiriadau gwahanol. 

Y canlyniad yw corff o gyfraith sy’n ei gwneud yn anodd penderfynu’r hyn sydd mewn grym a lle y mae mewn grym. Mae'n ddarn o ddeddfwriaeth ddryslyd ac anhygyrch, y mae hyd yn oed gweithwyr cyfreithiol proffesiynol yn ei gweld yn her i fynd i’r afael â hi a’i deall.

Roedd cefnogaeth drawsbleidiol ar gyfer cydgrynhoi'r ddeddfwriaeth wrth graffu ar y Bil a ddaeth yn Ddeddf 2016. Gwnaeth y Senedd feirniadu Llywodraeth Cymru am beidio â chydgrynhoi’r ddeddfwriaeth ar yr un pryd â gwneud diwygiadau. Yn yr un modd, mynegodd rhanddeiliaid siom nad oedd y cyfle i gydgrynhoi wedi'i gymryd yn ystod hynt Deddf 2016.

Manteision cydgrynhoi

Yn gyffredinol, bydd gwella hygyrchedd i'r gyfraith o fudd i'r sectorau cyhoeddus a phreifat, yn ogystal â dinasyddion. Bydd yn gwella'r defnydd effeithiol o'r gyfraith, yn magu mwy o hyder ynddi, ac yn arwain at wneud penderfyniadau mwy effeithlon.

Bydd cydgrynhoi deddfwriaeth yn arwain at gyfraith sydd wedi’i ffocysu, yn gyson, yn glir ac yn hygyrch. Cymru fydd y wlad gyntaf yn y DU i gael un Ddeddf ar gyfer yr amgylchedd hanesyddol, a fydd yn cefnogi'r gwaith o reoli ei hamgylchedd hanesyddol unigryw mewn modd cynaliadwy.

Gyda'r corff cydlynol a dealladwy hwn o gyfreithiau ar gael am y tro cyntaf yn y Gymraeg a'r Saesneg, bydd cyrff cyhoeddus, ymarferwyr cyfreithiol a dinasyddion yn gallu gwarchod a rheoli'r amgylchedd hanesyddol yn effeithiol fel y gall barhau i gyfrannu at les Cymru a'i phobl. Mae deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol yn ymdrin ag eiddo pobl ac mae deddfwriaeth yn gosod cyfyngiadau ar yr hyn y gallant ei wneud ag ef. Mae nifer o droseddau yn y ddeddfwriaeth ac mae'n bwysig bod y ddeddfwriaeth sylfaenol yn glir ac yn hygyrch fel bod pobl yn deall eu cyfrifoldebau.

Cynnydd yr asesiad effaith integredig

Cynhaliwyd cyfarfod cychwynnol yn 2019 rhwng Cadw, Swyddfa’r Codau Deddfwriaethol a swyddogion Llywodraeth Cymru sy’n arwain ar asesiadau effaith i sefydlu'r dull o baratoi asesiad effaith integredig (IIA) Bil yr Amgylchedd Hanesyddol a biliau cydgrynhoi yn fwy cyffredinol. Ystyriwyd yr hyn y dylai'r asesiad effaith ar gyfer deddfwriaeth gydgrynhoi (yn hytrach na biliau diwygio) fynd i'r afael ag ef. Lluniwyd drafft cychwynnol bryd hynny, ond yn sgil pandemig Covid-19 cafodd gwaith pellach ei ohirio wrth i staff gael eu dargyfeirio i ddyletswyddau cymorth brys. Ar ddiwedd 2020, nodwyd cwmpas yr asesiad effaith integredig a'r meysydd lle nodwyd bod angen tystiolaeth ychwanegol neu waith pellach.

Mae paratoi'r asesiad effaith integredig wedi bod yn broses ailadroddol wrth i'r prosiect fynd rhagddo, ac wrth i well ddealltwriaeth ynghylch sut y caiff y Bil ei strwythuro ddatblygu. Mae rhai o'r tybiaethau a wnaed i lywio'r asesiad effaith integredig wedi'u profi gyda chydweithwyr o fewn Cadw, gwasanaethau cyfreithiol a chyfreithwyr sy'n drafftio'r Bil. Yn ogystal, sefydlodd Cadw grŵp arbenigol bach i gynorthwyo gyda'r prosiect. Roedd y grŵp yn cynnwys swyddogion cadwraeth a chynllunio awdurdodau cynllunio lleol ac aelodau o gyrff proffesiynol yn y sector treftadaeth sy'n cynrychioli perchnogion, practisau preifat, ac eraill sydd â gwybodaeth dda am y ddeddfwriaeth bresennol. Mae'r grŵp wedi bod yn ddefnyddiol wrth ddarparu enghreifftiau o sut mae'r ddeddfwriaeth bresennol yn gweithio'n ymarferol a sut y gellir ei gwneud yn gliriach neu'n fwy cywir.

Effaith

Defnyddiwyd dulliau gwahanol i ddeall effaith y Bil. Mae gan Cadw rwydwaith rhagorol o bartneriaid a sianelau cyfathrebu ehangach ar waith i gefnogi gwaith ymgysylltu.

Mae diweddariad rheolaidd wedi'i anfon at unigolion a sefydliadau yn sector yr amgylchedd hanesyddol wrth i’r darpariaethau gael eu drafftio i sicrhau eu bod yn ymwybodol yn gynnar o ba fodd y gellid effeithio arnynt. Mae'r tanysgrifwyr i'r diweddariad hwn yn cynrychioli ystod eang o grwpiau sydd â buddiant yn yr amgylchedd hanesyddol, yn hytrach na dim ond y rhai sy'n gweithio'n uniongyrchol yn yr amgylchedd hanesyddol neu gydag ef.

Mae cydweithwyr yn Cadw, sy'n delio'n rheolaidd â Deddfau 1979 a 1990, wedi cael eu diweddaru ar gynnydd y Bil a'i ddarpariaethau newydd. Maent wedi cael cyfle i dynnu sylw at unrhyw faterion sy'n codi a allai gael effaith ymarferol ar swyddogion, perchnogion a deiliaid asedau hanesyddol, neu eu heiriolwyr.

Ymgynghorwyd â grŵp arbenigol sy'n cynnwys arbenigwyr o sector yr amgylchedd hanesyddol ar agweddau penodol ar y darpariaethau i ddeall sut y maent yn gweithio'n ymarferol. Roedd hyn er mwyn sicrhau ein bod wedi deall canlyniadau'r gwaith o ddrafftio'r ddeddfwriaeth newydd, ac i sicrhau y bydd yr effaith gyfreithiol bresennol yn cael ei chynnal. Wrth i'r gwaith o ddrafftio'r ddeddfwriaeth gydgrynhoi fynd rhagddo, mae'r strwythur, y derminoleg a'r rhannau newydd o'r ddeddfwriaeth sy'n dod i'r amlwg wedi'u rhannu â'r grŵp arbenigol i gael adborth cynnar.  Mae'r grŵp wedi canfod bod y drafftio newydd yn llawer mwy hygyrch a chlir.

Mae ein partneriaid presennol yn y sector megis y Grŵp Amgylchedd Hanesyddol a'r Fforwm Treftadaeth Adeiledig hefyd wedi cael gwybod am ddatblygiad y Bil. Bydd y grwpiau hyn yn hanfodol wrth i ni symud i'r cam gweithredu.

Mae'r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol yn cynnwys cynrychiolwyr o amrywiaeth o gyrff treftadaeth a sefydliadau cysylltiedig megis awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Cyfoeth Naturiol Cymru, Cyngor Gweithredu Gwirfoddol Cymru, ymddiriedolaethau archaeolegol Cymru, amgueddfeydd a llyfrgelloedd, yr Ymddiriedolaeth Genedlaethol a Chymdeithas Llywodraeth Leol Cymru

Mae'r Fforwm Treftadaeth Adeiledig yn cynnwys cynrychiolwyr o awdurdodau lleol, awdurdodau Parciau Cenedlaethol, Comisiwn Brenhinol Henebion Cymru, cymdeithasau amwynder cenedlaethol a'r Eglwys yng Nghymru

Mae'n amlwg y bydd y cyfnod gweithredu ar gyfer y Bil yn allweddol, ac y bydd angen gwaith ymgysylltu'n barhaus ag amrywiaeth o sefydliadau (os caiff ei basio gan y Senedd). Bydd hyn yn cynnwys cyrff cyhoeddus, megis awdurdodau cynllunio lleol a fydd yn ymdrin â'r ddeddfwriaeth bob dydd. Fodd bynnag, bydd angen gwahanol raddau o ymgysylltu a chymorth ar nifer o sefydliadau eraill yn y sector treftadaeth a thu hwnt. Bydd angen gwaith ymgysylltu mwy uniongyrchol ar gyrff proffesiynol, er enghraifft, penseiri a chynllunwyr tra bydd angen codi ymwybyddiaeth sylfaenol yn unig ymysg eraill, fel gwerthwyr tai.  Er y bydd effaith y ddeddfwriaeth yn aros yr un fath, bydd angen i berchnogion adeiladau rhestredig a henebion cofrestredig fod yn ymwybodol hefyd o'r newid mewn deddfwriaeth yng Nghymru.  Byddwn yn parhau i weithio gyda sefydliadau cynrychioliadol i gyrraedd y gynulleidfa hon.

Costau

Nid yw asesiad effaith rheoleiddiol yn ofynnol ar gyfer Biliau cydgrynhoi, gan na ddylai effaith y ddeddfwriaeth newid ac felly ni ddylai fod unrhyw gostau ychwanegol sylweddol yn gysylltiedig â'i gweithredu (i Lywodraeth Cymru nac i eraill). Os bydd darpariaethau Bil yn arwain at wariant sylweddol, yna ni fydd modd ei gyflwyno fel Bil cydgrynhoi a byddai angen iddo ddilyn gweithdrefnau Bil diwygio yn lle hynny.

Nid yw'r union gostau ariannol sy'n gysylltiedig â chyfraith anhygyrch yn hysbys. Er hynny, mae gwella hygyrchedd yn debygol o leihau'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen i ymchwilio a chymhwyso'r gyfraith; nid yn unig i gyfreithwyr mewn practisau neu gyfreithwyr sy'n gweithio'n fewnol yn y sectorau cyhoeddus a phreifat ond hefyd i fusnesau a dinasyddion a allai ei chael yn amhosibl – neu o leiaf yn anghymesur o ddrud – i gael mynediad i'r gyfraith yn uniongyrchol.

Ychydig iawn o gostau trosiannol sy'n gysylltiedig â'r cydgrynhoi hwn. Maent yn deillio'n bennaf o'r amser a'r adnoddau sydd eu hangen i ddiweddaru canllawiau, ffurflenni a gwefannau yn ogystal â'r angen i ddarparu gweithdai ymgyfarwyddo. Mae rhagor o wybodaeth ar gael yn y Memorandwm Esboniadol i'r Bil.

Mae prawf hidlo’r gystadleuaeth wedi'i gwblhau, ac ni ddisgwylir i'r darpariaethau effeithio ar gystadleuaeth yng Nghymru na chystadleurwydd busnesau Cymru.

Casgliad

Nid yw'r asesiad effaith hwn wedi nodi unrhyw rannau o boblogaeth Cymru a fydd yn cael eu heffeithio'n negyddol mewn ffordd arwyddocaol drwy gydgrynhoi deddfwriaeth Cymru ar yr amgylchedd hanesyddol. Bydd y Bil yn ailddatgan y ddeddfwriaeth bresennol, heb newid y polisi. Ni fydd y cyfundrefnau rheoli ar gyfer asedau hanesyddol dynodedig a'u prosesau cydsyniad cysylltiedig yn newid. Er enghraifft, bydd yr un prosesau a gweithdrefnau ar waith ar gyfer perchnogion a deiliaid henebion cofrestredig neu adeiladau rhestredig sy'n dymuno gwneud gwaith iddynt. Fodd bynnag, bydd angen i berchnogion a meddianwyr fod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth newydd i wneud ceisiadau cywir am waith.

Bydd effeithiau trosiannol i'r awdurdodau cydsynio perthnasol a chyrff y sector treftadaeth sy'n ymwneud â'r broses o wneud cais am gydsyniad. Bydd Cadw yn darparu gwybodaeth er mwyn i sefydliadau ymgyfarwyddo â'r ddeddfwriaeth a bydd yn parhau i weithio gyda chynrychiolwyr o awdurdodau lleol yn ystod y cyfnod gweithredu i sicrhau eu bod yn ymwybodol o'r ddeddfwriaeth newydd ac yn gallu paratoi ar gyfer y gwaith y mae angen iddynt ei wneud ar eu gwefannau, eu ffurflenni a'u canllawiau. Bydd Cadw yn darparu templedi a thaflenni gwybodaeth i gynorthwyo gyda hyn.

Gan nad yw cydgrynhoi yn gyfle i ddatblygu polisïau newydd, nid yw’n ofynnol ymgynghori'n ffurfiol. Mae nifer o sefydliadau ac unigolion yn y sector treftadaeth wedi bod yn rhan o gynnydd y Bil cydgrynhoi er mwyn sicrhau nad yw effaith y ddeddfwriaeth newydd wedi newid a'i bod yn parhau i weithio'n ymarferol i'r rhai sy'n ei chymhwyso.

Beth yw'r effeithiau cadarnhaol a negyddol mwyaf arwyddocaol?

Bydd yr effaith fwyaf arwyddocaol o gydgrynhoi deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol Cymru ar y Gymraeg. Ar hyn o bryd, dim ond yn Saesneg y mae'r ddeddfwriaeth sylfaenol ar gael.  Mae deddfwriaeth ddwyieithog yn rhoi cyfle a dewis i ddefnyddwyr o ran pa fersiwn o'r gyfraith y maent am ei defnyddio. 

Bydd y Bil yn gwella'r defnydd o'r Gymraeg fel iaith y gyfraith ac yn sicrhau bod y Gymraeg a'r Saesneg yn cael eu trin yn gyfartal mewn deddfwriaeth. Bydd yn gwneud deddfwriaeth Cymru yn fwy hygyrch. Bydd cyrff cyhoeddus, megis awdurdodau lleol a Pharciau Cenedlaethol yn ogystal â gweithwyr proffesiynol yn y sectorau cyfreithiol a threftadaeth yn gallu defnyddio deddfwriaeth yn y ddwy iaith gan wybod bod terminoleg ac ystyr yn gyson.

Bydd y Bil cydgrynhoi yn helpu i hybu’r defnydd o'r Gymraeg ac yn helpu siaradwyr Cymraeg i ddefnyddio'r adnodd cyfreithiol hwn yn eu dewis iaith. Bydd yn sicrhau nad yw'r rhai sy'n dymuno defnyddio'r Gymraeg o dan anfantais. Dyma'r tro cyntaf hefyd i'r iaith dechnegol a ddefnyddiwyd yn Neddfau 1979 a 1990 gael ei dadansoddi a'i chyfieithu'n fanwl gan sicrhau bod fersiynau Cymraeg a Saesneg yn defnyddio terminoleg gyson.

Gan fod effaith y ddeddfwriaeth yn aros yr un fath, mae'n annhebygol y bydd unrhyw effeithiau arwyddocaol eraill, naill ai'n gadarnhaol neu'n negyddol. Bydd y ddeddfwriaeth ei hun yn haws ei deall, a lle bo'n bosibl bydd yn defnyddio iaith bob dydd. Gallai fod rhai materion o ran cael mynediad i'r ddeddfwriaeth oherwydd mai dim ond ar-lein y bydd ar gael.  Fodd bynnag, nid oes llawer o bobl yn cyfeirio at gopi caled o'r ddeddfwriaeth ar hyn o bryd, yn enwedig gan fod y ddeddfwriaeth wedi'i diwygio mor drwm.  Ond gall yr argaeledd effeithio ar rai pobl sydd â mynediad gwael, neu ddim mynediad, i'r rhyngrwyd.  Fodd bynnag, bydd y rhai sy'n eiriol dros eraill yn ei chael yn haws dod o hyd i'r ddeddfwriaeth newydd a'i deall a ddylai helpu i gynghori pobl yn fwy effeithlon a phriodol.

Bydd effeithiau tymor byrrach ar fusnesau a sefydliadau sy'n defnyddio'r ddeddfwriaeth hon. Bydd angen i werthwyr tai, cyfreithwyr a grwpiau eiriolaeth, er enghraifft, ymgyfarwyddo â'r darpariaethau newydd ond ni fydd unrhyw newid mewn polisi. O ran hynny, bydd Cadw yn gallu darparu llawer o'r wybodaeth sydd ei hangen i sicrhau bod eu gwefannau a deunyddiau eraill yn gyfredol. Yn y tymor hwy, dylai hygyrchedd i ddeddfwriaeth mewn un lle sy'n hawdd dod o hyd iddi a'i deall ddarparu’r offer sydd eu hangen arnynt. Mae'n debygol y bydd hyn yn lleihau rhywfaint o'r amser a'r adnoddau y maent yn eu treulio i ymchwilio i wybodaeth sydd ei hangen arnynt.

Sut y bydd y cynnig yn gwneud cymaint o gyfraniad â phosibl at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant ac yn osgoi, yn lleihau neu'n lliniaru unrhyw effeithiau negyddol?

Mae cydgrynhoi deddfwriaeth amgylchedd hanesyddol Cymru yn cyfrannu'n weithredol at nod Llywodraeth Cymru, sef ‘Cymru â diwylliant bywiog lle mae’r  Gymraeg yn ffynnu’. 

Bydd cydgrynhoi yn cyfrannu at hyrwyddo treftadaeth a lles diwylliannol Cymru gan mai dyma fydd y tro cyntaf i ddeddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol fod ar gael yn ddwyieithog, ar ffurf fodern, ac mewn un lle. Mae arwyddocâd symbolaidd i hyn o ran tynnu sylw at hyder cynyddol gwlad sydd wedi’i datganoli.

Mae cysylltiadau clir â'r gofyniad i ‘hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg’ fel iaith y gyfraith, a strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg, sef ‘Cymraeg 2050: Miliwn o siaradwyr Cymraeg’, gan y bydd cydgrynhoi yn gam ymlaen o ran trin y ddwy iaith yn gyfartal yng nghyfraith Cymru. Bydd yn symleiddio'r ffordd y caiff y gyfraith ei chyflwyno a bydd ei hygyrchedd ar-lein yn ffordd o gynyddu'r defnydd o ddeunyddiau Cymraeg. Bydd yr iaith a'r derminoleg yn fodern ac yn haws eu deall ac, am y tro cyntaf, byddant yn gyson â deddfwriaeth yr amgylchedd hanesyddol yn Saesneg. Bydd hyn yn hanfodol er mwyn sicrhau y bydd perchnogion, meddianwyr ac ymarferwyr fel ei gilydd yn defnyddio geirfa gyson yn y maes hwn o'r gyfraith.

Mae Llywodraeth Cymru eisoes wedi datblygu gwefan ddwyieithog o'r enw Cyfraith Cymru / Law Wales i roi sylwadau ac esboniadau am gyfraith Cymru. Gellir ei defnyddio fel porth i gael yr wybodaeth ddiweddaraf am ddeddfwriaeth gydgrynhoi yr amgylchedd hanesyddol. 

Drwy sicrhau bod y ddeddfwriaeth ar gael yn Gymraeg, bydd gwasanaethau cyfreithiol yn cael eu gwella a bydd mynediad gwell i'r cyhoedd. Bydd yn haws i gyrff cynghori a chyrff cyhoeddus ddarparu cyngor a gwasanaethau drwy gyfrwng y Gymraeg. Bydd angen i Lywodraeth Cymru sicrhau bod y gwasanaeth hwn yn cael ei hyrwyddo drwy ddefnyddio dolenni o wefan Cadw, er enghraifft, gan fod hynny’n debygol o fod y lle cyntaf er mwyn dod o hyd i gyngor ar yr amgylchedd hanesyddol. Bydd Cadw hefyd yn gallu dosbarthu gwybodaeth berthnasol drwy'r Grŵp Amgylchedd Hanesyddol a fforymau eraill y mae’n aelod ohonynt, yn ogystal â thrwy ei ddiweddariad rheolaidd ynglŷn â’r amgylchedd hanesyddol sydd â thros 7,000 o danysgrifwyr.

Sut caiff effaith y cynnig ei monitro a'i gwerthuso wrth i’r gwaith fynd rhagddo a phan gaiff ei gwblhau?

Bydd y rhaglen i wella hygyrchedd cyfraith Cymru yn cael ei monitro'n ehangach gan Fwrdd y Rhaglen Ddeddfwriaethol a Phwyllgor Sefydlog y Cabinet ar y Rhaglen Ddeddfwriaethol. Fel rhan o'r broses hon, bydd y defnydd o wefan Cyfraith Cymru / Law Wales yn cael ei fonitro. Bydd hyn yn darparu sail ar gyfer asesu gweithrediad Deddf yr Amgylchedd Hanesyddol (Cymru) yn fwy penodol. Bydd angen adolygu canllawiau a deunyddiau gwefan a allai roi cyfle i hyrwyddo'r ddeddfwriaeth ac ymgynghori ar y deunyddiau diwygiedig lle bo angen.

Gan y bydd effaith y ddeddfwriaeth yn aros yr un fath, mae'n anodd gwerthuso effaith uniongyrchol y ddeddfwriaeth newydd.  Fodd bynnag, bydd adborth yn cael ei gasglu ynghylch a yw pobl yn credu bod y ddeddfwriaeth yn gliriach, yn fwy hygyrch ac yn haws ei deall.  Fel rhan o'r cynllun gweithredu byddwn hefyd yn cynnal ymarfer gwersi a ddysgwyd fel y gall timau sy'n gweithio ar filiau cydgrynhoi eraill ddysgu o'n profiad.