Mae Bil i wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru wedi ei basio heddiw (dydd Mercher 15 Gorffennaf) gan y Senedd.
Cafodd y Bil ei gyflwyno ychydig dros flwyddyn yn ȏl, yn dilyn ymgynghoriad a welodd filoedd o aelodau’r cyhoedd yn datgan eu barn.
Cafwyd dros 6,500 o ymatebion i’r ymgynghoriad cyhoeddus ar y Bil drafft, gyda 97% o’r ymatebwyr o blaid cyflwyno gwaharddiad.
Mae llawer iawn sefydliadau y Trydydd sector wedi lobïo hefyd dros y gwaharddiad.
Yn destun Cydsyniad Brenhinol, daw y gwaharddiad i rym ar Rhagfyr 1af.
Meddai Lesley Griffiths, Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig:
“Bydd y Bil hwn yn mynd i’r afael â phryderon moesegol pobl ledled Cymru drwy wahardd y defnydd o anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol.
“Mae defnyddio anifeiliaid gwyllt i ddiddanu yn y ffordd yma yn hen ffasiwn – mae gan anifeiliaid gwyllt deimladau ac anghenion cymhleth, ac ni ddylent gael eu defnyddio fel dull o’n diddanu.
“Hoffwn ddiolch i bawb sydd wedi cyfrannu at gael y Bil i’r cam hwn, gan gynnwys Pwyllgorau ac Aelodau’r Senedd am eu hystyriaethau ac am graffu ar y Bil, a’r sefydliadau a’r unigolion gymerodd yr amser i ddarparu tystiolaeth yn ystod y broses gaffael.”
Meddai Claire Lawson, cyfarwyddwr cynorthwyol yr RSPCA dros gysylltiadau allanol yng Nghymru:
“Mae hwn yn ddiwrnod hanesyddol i anifeiliaid yng Nghymru – a’r syniad o anifeiliaid gwyllt yn cael eu defnyddio mewn syrcasau teithiol yn rhywbeth sydd yn y gorffennol bellach, unwaith ac am byth.
"Mae’r RSPCA yn falch o fod wedi ymgyrchu mor hir ar y mater hwn – ac roedd cryfder y teimladau ym mhob cwr o’r wlad i’w gweld yn glir.
"Rydym yn falch iawn bod y Bil hwn gan Lywodraeth Cymru bellach wedi pasio ei rwystr deddfwriaethol olaf; gan ei wneud yn ddatganiad hynod bwysig ynghylch sut y mae polisïau yng Nghymru yn cyd-fynd â’r hyn y mae’r gymdeithas yn ei deimlo a’r gwerth a roddwn i fodau byw eraill.”