Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol): asesiad o’r effaith ar gyfiawnder
Asesiad effaith cyfiawnder o effaith y bil ar gyfer diwygio rhestrau ymgeiswyr etholiadol y Senedd.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Crynodeb gweithredol
Asesiad Llywodraeth Cymru o effeithiau'r ddeddfwriaeth hon ar y system gyfiawnder yw nad yw'n cael unrhyw effaith bosibl neu'n ddibwys.
Cyflwyniad
Mae deddfwriaeth sylfaenol ar y gweill i weithredu ail gam y mesurau i ddiwygio'r Senedd. Efallai y bydd y Weinyddiaeth Gyfiawnder yn dymuno cyfeirio at JSII-1035-WG-Senedd Reform, a oedd yn ymdrin â mesurau eraill i ddiwygio'r Senedd y darperir ar eu cyfer ym Mil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau). Nod y Bil hwn, sydd eisoes wedi'i gyflwyno i'r Senedd, yw gwneud nifer o ddiwygiadau i etholiadau'r Senedd, gan gynnwys cynyddu nifer yr Aelodau, newid y system bleidleisio a diweddaru'r ffiniau ar gyfer etholaethau'r Senedd.
Nid yw'r ddeddfwriaeth (Bil Senedd Cymru (Rhestrau Ymgeiswyr Etholiadol)), sef ffocws y ffurflen JSII hon, yn creu trosedd newydd. Ar hyn o bryd, y bwriad yw i'r Bil ehangu trosedd bresennol mewn is-ddeddfwriaeth i amgylchiadau eraill. Nid oes cynlluniau i ehangu'r drosedd yn eang, ac felly bach iawn fydd yr effaith bosibl.
Bydd y Bil yn cyflwyno cwotâu ar gyfer menywod mewn etholiadau i'r Senedd, gan ei gwneud yn ofynnol i restrau ymgeiswyr pleidiau (ar gyfer etholiadau i'r Senedd) gydymffurfio â rheolau ynghylch cyfran a gosodiad menywod arnynt. Bydd y rheolau yn ei gwneud yn ofynnol i bleidiau gwleidyddol sicrhau bod o leiaf 50% o'r ymgeiswyr ar unrhyw un o'u rhestrau ymgeiswyr yn fenywod, a bod gan o leiaf 50% o'u rhestrau ar gyfer etholiad cyffredinol i'r Senedd fenyw yn y safle cyntaf. Bydd rheol benodol hefyd mewn perthynas â gosod menywod ar unrhyw restr unigol. Mae'r Bil yn nodi'r gofynion ar gyfer y cwotâu ac yn darparu ar gyfer eu gorfodi drwy ddarpariaeth i'w gwneud mewn gorchymyn o dan adran 13 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 (y cyfeirir ato'n aml fel "y Gorchymyn Cynnal Etholiadau"). Rhagwelir y bydd y ddarpariaeth sydd i'w gwneud yn y Gorchymyn adran 13 yn debyg i’r hyn a ganlyn. Bydd rhestrau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau cwota fertigol (h.y. y rhai ar lefel etholaeth unigol) yn cael eu gwrthod fel rhai annilys ac ni fydd enwebeion ar y rhestr yn dod yn ymgeiswyr. Os canfyddir bod plaid wedi methu â chydymffurfio â'r rheol cwota ar lefel genedlaethol/Cymru gyfan (h.y. y rheol bod gan 50% o restrau fenyw yn y safle cyntaf/yr unig safle), bydd trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i aildrefnu rhestrau fel eu bod yn cydymffurfio, ac os na ellir gwneud hynny ac os daw hi i'r pen, efallai y bydd angen i ymgeisydd unigol ar restr o un beidio â chael ei enwebu. Er mwyn galluogi Swyddogion Canlyniadau i ddilysu rhestrau, bydd gofyn i ymgeiswyr roi datganiad (yn nodi a ydynt yn fenyw ai peidio). Ni fydd y datganiad yn cael ei gynnwys yn y drosedd bresennol o ddarparu gwybodaeth ffug ar ffurflen enwebu (erthygl 34 o'r Gorchymyn presennol SI 2007/236). Mae cyfraith achosion yn bodoli mewn perthynas â swyddog canlyniadau yn gwrthod enwebiad sy'n enghraifft o dwyll amlwg, ac mewn perthynas â'r seiliau y gellir herio etholiad arnynt (sef drwy ddeiseb etholiadol, a gyflwynir gerbron llys etholiadol).
Felly, mae'r rheolau cwota yn arwain at amgylchiadau eraill a allai fod yn gyfystyr â thwyll, a gallant hefyd arwain at amgylchiadau eraill lle gallai unigolyn gyflwyno deiseb etholiadol. Er hynny, nid oes cynlluniau ar hyn o bryd i wneud darpariaeth benodol ar y materion hyn mewn cysylltiad â'r cwotâu.
Ar hyn o bryd, y bwriad yw y bydd is-ddeddfwriaeth, sydd i'w gwneud o dan y ddeddfwriaeth sylfaenol, yn cymhwyso trosedd sy'n ymwneud â Swyddogion Canlyniadau (torri dyletswydd swyddogol, yn erthygl 32 o'r Gorchymyn presennol) i rôl newydd (Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol) sy'n cael ei chreu yn rhinwedd y ddeddfwriaeth newydd. Bydd gan y Swyddog swyddogaethau sy'n ymwneud â gorfodi'r rheol ar lefel genedlaethol/Cymru gyfan.
Er bod y ddeddfwriaeth yn arwain at gynnydd posibl yn nifer y ceisiadau i’r llysoedd, ystyrir mai bach iawn yw’r tebygolrwydd y bydd cynnydd yn digwydd. Dim ond i rôl Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol, sydd wedi'i chyfyngu i etholiadau'r Senedd, y bwriedir ehangu'r drosedd o dorri dyletswydd swyddogol. Er y gallai hyn gynyddu'r posibilrwydd o achosion o anghydfod a chyflwyno deisebau, rydym yn amcangyfrif na fyddai unrhyw achosion yn y rhan fwyaf o etholiadau'r Senedd yn y dyfodol, fel sydd wedi bod yn wir yn y gorffennol.
Beth sy'n cael ei gynnig
Bydd y Bil yn deddfu i gyflwyno cwotâu ar gyfer menywod mewn etholiadau i Senedd Cymru. Mae'r cwotâu yn rhan o becyn o ddiwygiadau i'r Senedd, a ddechreuodd gyda Bil Senedd Cymru (Aelodau ac Etholiadau), a gyflwynwyd ar 18 Medi. Diben y diwygiadau yw gwneud y Senedd yn ddeddfwrfa fwy effeithiol ar gyfer, ac ar ran, pobl Cymru. Mae rhan o hynny'n cynnwys rhoi'r cwotâu ar waith er mwyn dychwelyd Senedd sydd â chydbwysedd o ran rhywedd sy'n adlewyrchu'n fras boblogaeth Cymru, gan fod deddfwrfa fwy cynrychioliadol yn ddeddfwrfa fwy effeithiol. Mae menywod yn fwyafrif heb gynrychiolaeth ddigonol yn y Senedd. Mae 51% o boblogaeth Cymru yn fenywod, ac ar hyn o bryd dim ond 43% o Aelodau o'r Senedd sy'n fenywod. Bydd y cwotâu yn cynyddu'r siawns o sicrhau cydbwysedd o ran rhywedd, a fydd yn helpu i gyflawni'r diben o ddeddfwrfa fwy effeithiol. Rydym yn bwriadu cyflwyno'r Bil ym mis Mawrth, gan anelu at roi'r cwotâu ar waith erbyn etholiad y Senedd yn 2026 a'u cymhwyso i bob etholiad cyffredinol i'r Senedd ar ôl hynny.
Bydd angen i restrau ymgeiswyr gydymffurfio â'r cwota drwy gynnwys o leiaf 50% o ymgeiswyr sy'n fenywod a chydymffurfio â'r meini prawf gosod, fel y'u rhagnodir yn y ddeddfwriaeth sylfaenol.
Bydd y cwota yn ofyniad gorfodol ar gyfer pleidiau. Drwy osod cwotâu ar sail ddeddfwriaethol, ein nod yw sicrhau cydbwysedd o ran rhywedd sy'n adlewyrchu'r boblogaeth y mae'r Senedd yn ei gwasanaethu, er mwyn hybu ymhellach y nod o ddeddfwrfa fwy effeithiol.
Ni fydd unrhyw droseddau newydd yn cael eu creu, er y gall yr is-ddeddfwriaeth ehangu trosedd sy'n bodoli eisoes.
Mae'r gyfraith etholiadol bresennol yn darparu ar gyfer nifer o droseddau etholiadol sy'n ymwneud â chynnal etholiadau yn deg, wedi'u targedu at weinyddwyr a chyfranogwyr etholiadol. Gellid cael bod Swyddogion Canlyniadau wedi torri eu dyletswydd swyddogol os byddant yn methu â chynnal etholiad yn unol â chyfraith etholiadol y Senedd (y drosedd yn erthygl 32(1) o'r Gorchymyn Ymddygiad presennol OS 2007/236). Gall yr is-ddeddfwriaeth a wneir i weithredu'r Bil ddiwygio'r drosedd hon fel ei bod yn gymwys hefyd mewn cysylltiad â'r Swyddog Cydymffurfiaeth Enwebiadau Cenedlaethol. Er y gallai person arall wedyn gyflawni'r drosedd, ac y byddai gan Swyddogion Canlyniadau fwy o ddyletswyddau i gydymffurfio â hwy wrth weinyddu'r etholiad, ystyrir mai bach iawn yw'r tebygolrwydd y bydd hyn yn arwain at gynnydd mewn achosion gerbron y llysoedd. Dim ond i un person y byddai'n ehangu'r drosedd ac ystyrir ei bod yn annhebygol y byddai'r person hwnnw a'r Swyddogion Canlyniadau yn cyflawni'r drosedd. Bydd y gyfraith ynglŷn â'u dyletswyddau i orfodi'r cwotâu yn glir ac mae'n debygol y bydd y Comisiwn Etholiadol yn cyhoeddi canllawiau i'w helpu i gyflawni eu swyddogaethau.
Y drosedd bresennol berthnasol i gyfranogwyr fyddai darparu gwybodaeth ffug ar bapur enwebu, (sy'n arfer lwgr), ond ni fwriedir cynnwys rhoi datganiad ffug yn rhan o'r drosedd arfer lwgr honno (yn erthygl 34 o Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Cynrychiolaeth y Bobl) 2007, y Gorchymyn Cynnal Etholiadau presennol).
Er nad yw'r Bil yn creu troseddau newydd, gan y bydd yn gweithredu rheolau newydd y mae rhaid i weinyddwyr a chyfranogwyr gadw atynt, mae hyn yn cynyddu'r amgylchiadau posibl y gellid cyflwyno deiseb etholiadol oddi tanynt.
Fodd bynnag, ystyrir mai bach iawn yw'r risg y bydd hyn yn digwydd. O dan amgylchiadau o'r fath, rhaid cyflwyno deiseb etholiadol o fewn 21 diwrnod i'r etholiad dan sylw (yn benodol y diwrnod y dychwelir yr Aelod) ac mae gofyniad ariannol sylweddol ynghlwm wrthi. Nid yw deisebau etholiadol yn digwydd yn aml – nid oes deisebau etholiadol wedi'u cyflwyno mewn cysylltiad ag etholiadau'r Senedd hyd yma.
Adolygiad ôl-weithredu
Bydd y Bil yn cael ei gyflwyno ar 11 Mawrth 2024 a bydd yn cynnwys dull er mwyn ysgogi adolygiad o weithrediad ac effeithiau'r ddeddfwriaeth gan y Senedd yn fuan ar ôl yr etholiad cyntaf pan ddaw'r darpariaethau yn gymwys. Rhagwelir mai etholiad y Senedd yn 2026 fydd hwn.
Gall yr adolygiad gan y Senedd gynnwys ystyried unrhyw effaith y mae'r cwota wedi'i chael ac a oes angen unrhyw addasiadau cyn yr etholiad nesaf. Gallai effeithiau o'r fath gynnwys achosion o ddeisebau etholiadol.
Bydd rhestrau nad ydynt yn cydymffurfio â'r rheolau cwota fertigol, ar lefel etholaeth unigol, yn cael eu hystyried yn annilys ac ni fydd enwebeion ar y rhestr yn dod yn ymgeiswyr, oni bai y gall y blaid wleidyddol ddatrys y mater o ddiffyg cydymffurfio o fewn terfyn amser i'w bennu yn y gyfraith. Os canfyddir bod plaid wedi methu â chydymffurfio â'r rheolau cwota rhywedd ar lefel genedlaethol/Cymru gyfan, bydd trefniadau yn cael eu rhoi ar waith i aildrefnu rhestrau fel eu bod yn cydymffurfio.