Mae Llywodraeth Cymru yn gofyn am farn ar gynigion newydd a fyddai'n gosod dyletswydd ar y sector cyhoeddus i gyflawni caffael a rheoli contractau sy'n fwy cyfrifol yn gymdeithasol yng Nghymru.
Yn unol â Datganiad Polisi Caffael Cymru a gyhoeddwyd yn ddiweddar, o dan y cynigion hyn, byddai gwaith teg a gwerth cymdeithasol wrth wraidd holl gaffaeliadau'r sector cyhoeddus; gan symud oddi wrth ganolbwyntio ar gyflawni arbedion ariannol yn unig.
Mae'r cynigion wedi'u nodi yn y Bil Partneriaethau Cymdeithasol a Chaffael Cyhoeddus (Cymru) drafft sy'n destun ymgynghoriad tan 23 Ebrill.
Byddai'r Bil drafft yn:
- Cryfhau a ffurfioli trefniadau partneriaeth gymdeithasol yng Nghymru ac yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i bennu amcanion gwaith teg
- Cefnogi awdurdodau contractio i sicrhau bod lles a gwaith teg yn ystyriaethau canolog ym maes caffael, er mwyn cefnogi twf economaidd a chynaliadwyedd hirdymor gwasanaethau cyhoeddus
- Symleiddio a dileu dyblygu rhwng y nifer fawr o ddisgwyliadau polisi a roddir ar adrannau caffael
- Sicrhau bod llesiant a chanlyniadau gwaith teg wrth wraidd strategaethau a phrosesau caffael
- Gwella'r cysylltiad rhwng prosesau caffael a chyflawni canlyniadau drwy reoli contractau'n well
- Gwella tryloywder drwy gofnodi metrigau a chyhoeddi adroddiadau rheolaidd gan rannu arfer da a meysydd lle mae angen gwella
- Dal sefydliadau i gyfrif am sicrhau bod amodau contract sy'n cefnogi arferion sy'n gyfrifol yn gymdeithasol yn cael eu cynnal drwy'r cadwyni cyflenwi, yn enwedig mewn contractau adeiladu mawr a chontractau gwasanaethau allanol.
I gael rhagor o fanylion am y bil drafft, y dogfennau ymgynghori neu i ddweud eich dweud, ewch i'n gwefan.