Disgwylir i Fil a fydd yn gwahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol gael ei osod gerbron y Cynulliad Cenedlaethol heddiw (8 Gorffennaf).
Nod y Bil Anifeiliaid Gwyllt Mewn Syrcasau Teithiol (Cymru) yw mynd i’r afael â phryderon moesegol drwy wahardd defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yng Nghymru.
Cafodd y Bil, a fyddai'n gweld yr arfer o ddefnyddio anifeiliaid fel camelod, sebraod a cheirw Llychlyn mewn syrcasau teithiol, ei gefnogi gan fwyafrif helaeth yr ymatebwyr i ymgynghoriad diweddar, lle cafwyd dros 6,500 o ymatebion.
Er nad oes ond dwy syrcas deithiol yn y DU sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt, maent yn dod i Gymru yn rheolaidd, a phob tro maent yn dod, mae galwadau o'r newydd i wahardd yr arfer.
O dan y ddeddfwriaeth newydd bydd gweithredwr syrcas deithiol yn cyflawni trosedd os yw’n defnyddio anifail gwyllt mewn syrcas deithiol, neu'n peri neu'n caniatáu i berson arall wneud hynny.
Byddai unrhyw un sy'n cael ei ddyfarnu'n euog o dorri'r gyfraith yn wynebu dirwy ddiderfyn gan y llysoedd.
Dywedodd Gweinidog yr Amgylchedd, Ynni a Materion Gwledig, Lesley Griffiths, fod y cyhoedd o blaid y Bil.
Mae'r ffaith bod nifer yr anifeiliaid sy'n cael eu cadw gan syrcasau teithiol yn gostwng yn arwydd clir nad yw'r math hwn o adloniant mor boblogaidd gyda'r cyhoedd ag yr oedd ar un adeg.
Mae gan anifeiliaid gwyllt deimladau, a dylid eu trin ag urddas a pharch – yn hytrach na'u hecsbloetio er ein hadloniant ni mewn syrcasau teithiol.
Bach iawn yw'r cyfraniad mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn ei wneud at ein dealltwriaeth o anifeiliaid gwyllt a'r gwaith o'u gwarchod.
Mae cyflwyno'r Bil hwn yn anfon neges glir bod y Llywodraeth hon a phobl Cymru yn credu bod yr arfer hwn yn un sy'n perthyn i'r gorffennol ac yn foesegol annerbyniol.
Dywedodd Cyfarwyddwr Cynorthwyol yr RSPSA ar gyfer Cysylltiadau Allanol, Claire Lawson:
Rydyn ni'n wrth ein boddau bod Llywodraeth Cymru wedi cyflwyno'r Bil hwn.
Mae cadw anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau yn arfer sy'n perthyn i'r gorffennol a does dim lle ar gyfer hynny yng Nghymru fodern.
Rydyn ni mor ddiolchgar i bawb ledled Cymru sydd wedi cefnogi'r ymgyrch hon. Rydyn ni wedi gweld cynnydd sylweddol yn nifer y bobl ledled Cymru sydd o blaid gwahardd yr arfer, ac mae'n wych bod Llywodraeth Cymru wedi gwrando ac wedi gweithredu dros yr anifeiliaid hyn.
Dywedodd Pennaeth Llesiant Anifeiliaid ac Anifeiliaid mewn Caethiwed Born Free, Dr Chris Draper:
Mae defnyddio anifeiliaid gwyllt mewn syrcasau teithiol yn arfer amhoblogaidd sy'n perthyn i'r gorffennol, a thrwy'r ddeddfwriaeth hon bydd Cymru yn ymuno â rhestr gynyddol o wledydd sydd wedi gwahardd yr arfer hwn – mae hefyd yn golygu ei bod yn bosibl y bydd Prydain Fawr yn rhydd o syrcasau sy'n defnyddio anifeiliaid gwyllt cyn bo hir.
Mae Born Free a'i gefnogwyr wedi bod yn ymgyrchu dros y canlyniad hwn ers amser maith, ac rydyn ni'n gobeithio y bydd y Cynulliad yn pasio’r Bil hwn yn gyflym.
Mae’r ddeddfwriaeth newydd hon ar gyfer Cymru yn gyson â deddfwriaeth debyg yn yr Alban a Gweriniaeth Iwerddon, a bydd Lloegr yn dilyn cyn bo hir.
Disgwylir i'r Bil gael ei gyflwyno i'r Cynulliad Cenedlaethol heddiw, a bydd y Gweinidog yn rhoi Datganiad Deddfwriaethol am y Bil yn ystod Cyfarfod Llawn y Senedd yfory.