Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): asesiad o'r effaith ar y Gymraeg
Asesiad effaith y Gymraeg o Fil sy'n rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar aros dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ac mae hyn yn ymrwymiad sy’n cael blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ardoll yn gyfraniad teg gan ymwelwyr ac yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yn codi arian ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddiant. Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, sy’n golygu y bydd hon yn ardoll leol newydd wedi’i dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am y Bil Ardoll Ymwelwyr yma.
O ran ei dyluniad, mae'r ardoll wedi'i chadw'n syml ond yn deg er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl; rydym yn rhagweld y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd lleol sy'n dewis defnyddio ardoll drwy gynhyrchu refeniw i gefnogi ardaloedd lleol, a thrwy hynny wella enw da'r gyrchfan a chefnogi'r economi ymwelwyr. Bydd cofrestr statudol o ddarparwyr llety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob llety ymwelwyr diffiniedig yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a gellir dod o hyd i’r manylion a’r canlyniadau yma, ochr yn ochr ag ymchwil defnyddwyr i geisio barn trigolion Cymru a defnyddwyr gwyliau domestig yn y DU yma.
Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) drafft a dylid ei ystyried ochr yn ochr ag ef.
Diffiniadau
ACC
Ystyr ACC yw Awdurdod Cyllid Cymru, adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru: Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Ad-daliadau
Pan fydd yr ardoll ymwelwyr wedi'i throsglwyddo i ymwelydd a bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael ad-daliad.
Ardoll Ymwelwyr
Tâl ychwanegol a godir ar lety ymwelwyr dros nos. Cyfeirir at hyn hefyd mewn gwledydd eraill fel treth dwristiaeth, treth llety, neu dreth gwesty.
Awdurdod Lleol/ Awdurdodau Lleol
Y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, y cyfeirir atynt hefyd fel Awdurdodau Unedol.
Cyfraddau Sero
Arhosiad mewn llety ymwelwyr ag ardoll ar gyfradd o £0.
Darparwr Llety Ymwelwyr
Person/ busnes sy’n darparu neu’n cynnig darparu llety i ymwelwyr mewn safleoedd yng Nghymru wrth fasnachu neu gynnal eu busnes.
Esemptiadau
Mathau o lety na fydd yn destun ardoll ymwelwyr.
Llety Ymwelwyr
Llety i ymwelwyr sy'n cael ei ddiffinio yn y Bil sy'n ddarostyngedig i gofrestru fel darparwr llety i ymwelwyr.
Twristiaeth gynaliadwy
Twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr. (Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig).
Ymwelydd
Person sy'n aros mewn llety ymwelwyr.
Llinell amser ddangosol
2024 Cyflwyno
Cyflwyno'r bil llety ymwelwyr i'w graffu gan y Senedd. Cyhoeddi'r Asesiadau Effaith.
2025 Senedd yn pleidleisio
Os yw'r bil yn pasio, cael Cydsyniad Brenhinol.
2025 Disgresiwn lleol
Awdurdod lleol yn gallu dechrau ymgynhori'n lleol ac asesu effaith ardoll ymwelwyr.
2026 Cyfnod rhybudd
Cyfnod rhybudd tebygol o 12 mis os yw awdurdod yn penderfynu cyflwyno ardoll.
2026 Cofrestru
Darparwyr llety'n dechrau cofrestru mewn ardaloedd fydd yn cyflwyno'r ardoll.
2027 Gweithredu
Dyddiad dangosol cyflwyno'r ardoll gan awdurdod lleol.
1. Cyflwyniad
Cymraeg 2050 yw strategaeth genedlaethol Llywodraeth Cymru ar gyfer cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg i filiwn erbyn 2050 ac:
- codi canran y boblogaeth sy'n siarad Cymraeg yn ddyddiol, a
- chynyddu cyfran y rhai sy'n gallu siarad mwy nag ychydig eiriau o'r Gymraeg, o 10 y cant (yn 2013–15) i 20 y cant erbyn 2050.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo'n llwyr i'r strategaeth , gyda'r targed o filiwn o siaradwyr yn anelu at wrthdroi’r dirywiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg dros yr ugeinfed ganrif. Mae iaith Gymraeg ffyniannus hefyd wedi'i chynnwys yn un o'r saith nod llesiant yn Neddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015.
Mae gan Lywodraeth Cymru rwymedigaeth statudol i ystyried yn llawn effeithiau ei pholisïau ar y Gymraeg a'r rhai sy'n ei siarad. Mae gan Strategaeth Cymraeg 2050 3 thema gysylltiedig:
- Thema 1: Cynyddu nifer y siaradwyr Cymraeg
- Thema 2: Cynyddu'r defnydd o'r Gymraeg
- Thema 3: Creu amodau ffafriol - seilwaith a chyd-destun
2. Yr economi ymwelwyr yng Nghymru: ffeithiau allweddol
2.1 Mae'r economi ymwelwyr yn ffynhonnell bwysig o gyflogaeth mewn sawl ardal yng Nghymru. Roedd y diwydiant twristiaeth i gyfrif am 11.8% o gyflogaeth (159,000) yng Nghymru yn 2022 (Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021). Roedd 77% o gyflogaeth twristiaeth (123,000) ym maes lletygarwch.
2.2 Yn 2022 cafwyd £4.7 biliwn o wariant cysylltiedig ar deithiau twristiaeth yng Nghymru: £2.4 biliwn ar ymweliadau dydd twristiaeth gan drigolion Prydain Fawr, £1.9 biliwn ar ymweliadau dros nos gan drigolion Prydain Fawr a £0.4 biliwn gan ymwelwyr rhyngwladol.
Cyfanswm teithiau 2022 | Teithiau (miliynau) | Nosweithiau (miliynau) | Gwariant (miliynau) |
---|---|---|---|
Canolbarth Cymru | 1.14 | 3.02 | £194 |
Gogledd Cymru | 2.43 | 9.23 | £600 |
De-ddwyrain Cymru | 2.95 | 7.12 | £573 |
De-orllewin Cymru | 2.14 | 5.80 | £479 |
Yn ôl Cyfrifiad 2021 yn ymwneud â’r Diwydiannau llety a gwasanaethau bwyd: Gogledd Cymru sydd â’r nifer fwyaf o welyau llety ym mhedwar rhanbarth Cymru (298,095), sy'n cyfateb i bron i hanner (49%) y gwelyau llety yng Nghymru. Mae dros 4 o bob 5 (82%), 243,328, yn welyau llety garafanau a gwersylla. De-orllewin Cymru sydd â'r gyfran ail fwyaf (26%), gyda 160,245 o welyau llety. Mae dwy ran o dair (107,997) yn garafanau a gwersylla ond mae dros un rhan o bump, 35,914, yn hunanarlwyo (Crynodeb o Ddata ynghylch Stoc Welyau Cymru: y sefyllfa ym mis Mehefin 2022).
2.4 Os yw'r ardoll ymwelwyr yn hybu gwydnwch economaidd mewn ardaloedd sydd â chyfraddau cymharol uchel o arosiadau dros nos lle mae siaradwyr Cymraeg yn gyffredin, gallai helpu i gefnogi cyflawni un o amcanion 'Cymraeg 2050': creu amodau ffafriol i'r Gymraeg ffynnu.
2.5 Bydd canllawiau’n cael eu darparu i awdurdodau lleol, gan nodi bod angen refeniw a godir o'r ardoll i gefnogi rheoli cyrchfannau’n gynaliadwy. Bydd gofyn i awdurdodau lleol ddangos sut mae eu buddsoddiad yn dangos hyn mewn adroddiad blynyddol ar ôl ei gyflwyno. Bydd y canllawiau yn cynnwys argymhellion gan Lywodraeth Cymru bod awdurdodau lleol yn asesu effeithiau posibl ar eu cymunedau lleol, gan gynnwys ar y Gymraeg, a sectorau eraill fel busnesau a grwpiau bregus. Bydd yr ardoll ymwelwyr yn dreth leol sy'n rhoi'r ymreolaeth i awdurdodau lleol benderfynu sut mae'r refeniw yn cael ei ailfuddsoddi yn unol ag anghenion lleol.
3. Siaradwyr Cymraeg yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd
Yn ôl Cyfrifiad 2021:
3.1 O'r boblogaeth 16 oed a hŷn oedd yn byw yng Nghymru ac yn gweithio yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd, roedd 11,120 (15.6%) yn gallu siarad Cymraeg.
3.2 O'r boblogaeth 16 oed a hŷn oedd yn byw yng Ngwynedd ac yn gweithio yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd, roedd 2,340 (52.9%) yn gallu siarad Cymraeg.
3.3 O'r boblogaeth 16 oed a hŷn oedd yn byw ar Ynys Môn ac yn gweithio yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd, roedd 960 (47.7%) yn gallu siarad Cymraeg.
3.4 O'r boblogaeth 16 oed a hŷn oedd yn byw yng Ngheredigion ac yn gweithio yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd, roedd 730 (33.8%) yn gallu siarad Cymraeg.
3.5 Felly, pe bai ardoll ymwelwyr yn cael ei chyflwyno mewn ardaloedd lle mae cyfran gymharol uchel o siaradwyr Cymraeg yn gweithio yn y diwydiant llety a gwasanaethau bwyd, yr ardaloedd hynny a nodir uchod, gallai effeithio ar y Gymraeg.
3.6 Er enghraifft, pe bai'r ardoll yn rhoi hwb i'r economi leol drwy ddefnyddio a dosbarthu’r refeniw a godwyd, a hynny yn ei dro yn cynyddu cyfleoedd cyflogaeth yn y sector twristiaeth, gellid dadlau y gellid yn ei dro gysylltu mwy o gyfleoedd cyflogaeth â mwy o gyfle i ddefnyddio'r Gymraeg mewn gweithleoedd, gwasanaethau ac yn gymdeithasol. Gallai hyn hefyd gael effaith gadarnhaol ar hwyluso a hyrwyddo'r Gymraeg drwy ddarparu cyfleoedd i’r di-Gymraeg ddod i gysylltiad â’r iaith.
3.7 Yn yr un modd, gallai'r effaith ar yr ardaloedd hynny sydd â llai o siaradwyr Cymraeg fod yn gadarnhaol gan y gallai'r refeniw ysgogi cyfleoedd i gynyddu hyrwyddo'r Gymraeg.
3.8 Yn ôl ton mis Chwefror 2024 o'r Baromedr Twristiaeth, arolwg o tua 900 o fusnesau twristiaeth yng Nghymru (sy'n cael ei redeg gan Croeso Cymru sawl gwaith y flwyddyn), mae 55% o fusnesau twristiaeth yng Nghymru yn cyflogi o leiaf rai siaradwyr Cymraeg. Gogledd a Chanolbarth Cymru sy'n nodi’r nifer uchaf o siaradwyr Cymraeg (54% yr un), gyda De-orllewin Cymru a De-ddwyrain Cymru ill dau yn nodi 46%.
3.9 Mae gan ddau o bob pump busnes (40%) o leiaf un person yn defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd yn y gwaith. Mae'r gyfran hon lawer uwch yng Ngogledd Cymru (60%) a Chanolbarth Cymru (40%) nag yn Ne-orllewin Cymru (26%) a De-ddwyrain Cymru (21%) (Baromedr Twristiaeth: cam yr Chwefror, 2024).
3.10 Mae'r Baromedr yn rhannu'r sampl yn gategorïau o’r math o fusnes:
- Llety â Gwasanaeth
- Hunanarlwyo
- Gwersylla/Carafán
- Atyniad
- Gweithredwr Gweithgareddau
- Bwyty
- Hostel
(Mae 'defnyddio' yn cyfeirio at y rhai sy'n defnyddio'r Gymraeg yn rheolaidd mewn gwaith o ddydd i ddydd ac mae 'siarad' yn cael ei ddiffinio gan y rhai sy'n siarad Cymraeg fel iaith gyntaf).
3.11 Mae'r graff yn dangos gwahaniaeth rhwng rhai sectorau (er enghraifft, atyniadau, gweithredwyr gweithgareddau a bwytai) sydd â niferoedd sylweddol uwch o siaradwyr Cymraeg yn eu cyflogi nag eraill.
3.12 Mae bron pob sector yn nodi canran uwch o siaradwyr Cymraeg na’r disgwyl yn ôl yr ystadegau swyddogol sy’n adrodd am ganran y siaradwyr Cymraeg yng Nghymru, sy'n awgrymu bod y diwydiant twristiaeth yn gyffredinol a'r sectorau hyn yn benodol, yn cyflogi mwy yn anghymesur o siaradwyr Cymraeg na'r cyfartaledd. Gallai hyn fod oherwydd gwahaniaethau yn y diffiniad o siarad Cymraeg ar draws yr arolygon.
3.13 Gan fod y diwydiant twristiaeth yn debygol o gyflogi pobl iau ar gyflogau is, gellid casglu y gallai effaith yr ardoll ymwelwyr fod yn fwy ar yr is-set hon o'r boblogaeth Gymraeg, yn enwedig yn y rhanbarthau hynny sydd â niferoedd mwy o siaradwyr Cymraeg, sydd wedi'u crynhoi yn rhanbarthau Gogledd a Chanolbarth Cymru.
3.14 Fodd bynnag, gellid defnyddio'r refeniw a godir i gefnogi'r buddion a gynigir i ddiwylliant Cymru gan dwristiaeth; er enghraifft, drwy gefnogi'r diwydiant twristiaeth a chyfleoedd cyflogaeth neu fentrau mewn rhanbarthau Cymraeg eu hiaith.
3.15 Fel y nodwyd uchod ym mharagraff 3.6, bydd canllawiau swyddogol a ddarperir gan Lywodraeth Cymru yn cynnwys argymhellion i awdurdodau lleol asesu effeithiau posibl ar eu cymunedau lleol, gan gynnwys ar y Gymraeg.
4. Ymgynghori ac ymgysylltu
4.1 Mae swyddogion wedi ymgysylltu'n helaeth â rhanddeiliaid drwy gydol y broses o ddatblygu'r ddeddfwriaeth i helpu i lywio dyluniad a chwmpas yr ardoll. Derbyniwyd dros 1200 o ymatebion i'r ymgynghoriad ffurfiol yn 2022 (Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol). Cafwyd 58 o ymatebion drwy gyfrwng y Gymraeg. Mae crynodeb o ganfyddiadau allweddol sy'n ymwneud â'r Gymraeg wedi'u cynnwys isod ym mharagraff 14.
4.2 Trwy gydol y broses ddeddfwriaethol, byddwn yn parhau i ymgysylltu â'n partneriaid allweddol i ddeall safbwyntiau gwahanol er mwyn dylunio ardoll a fydd yn gweithio i bawb yng Nghymru. Hefyd, bydd yn ofynnol i’r awdurdodau lleol hynny a fyddai’n penderfynu codi ardoll yn eu hardal fonitro effaith yr ardoll ar eu cymunedau.
5. Rhif cyfeirnod
Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg: 02/06/2024
6. A yw'r cynnig yn dangos cysylltiad clir â strategaeth Llywodraeth Cymru ar gyfer y Gymraeg?
Cymraeg 2050: Miliwn o Siaradwyr a'r Rhaglen Waith gysylltiedig ar gyfer 2021-2026.
6.1 Mae cysylltiad gydag un o brif themâu Strategaeth Cymraeg 2050 - 'Creu amodau ffafriol – seilwaith a chyd-destun.' Gellid defnyddio refeniw a godir o ardoll i helpu i gefnogi creu a chynnal amodau ffafriol i'r Gymraeg ffynnu. Un o amcanion Strategaeth Cymraeg 2050 yw cefnogi seilwaith economaidd-gymdeithasol cymunedau Cymraeg. Mae hyn yn cyd-fynd â nod yr ardoll ymwelwyr - cefnogi cymunedau drwy ail-fuddsoddi yn yr amodau sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiant, gan gynnwys cefnogi seilwaith lleol.
6.2 Bydd gan Awdurdodau Lleol y pŵer i benderfynu ar y ffordd orau o gyflawni hyn mewn ffyrdd sy'n addas i'w cymunedau.
6.3 Bwriad yr ardoll ymwelwyr yw hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy, cefnogi cymunedau lleol a grymuso awdurdodau lleol i ddewis cyflwyno ardoll ymwelwyr ar ran eu preswylwyr. Mae'r rhain yn cysylltu â'n huchelgeisiau ehangach a amlinellir yn y Rhaglen Lywodraethu, sef:
- Fwrw ymlaen tuag at filiwn o siaradwyr Cymraeg, a galluogi twristiaeth, chwaraeon a’r celfyddydau i ffynnu.
- Datblygu mesurau treth, cynllunio a thai effeithiol pellach i sicrhau bod buddiannau pobl leol yn cael eu gwarchod.
- Cryfhau ymreolaeth ac effeithiolrwydd llywodraeth leol i'w gwneud yn fwy llwyddiannus wrth ddarparu gwasanaethau.
7. Disgrifiwch ac eglurwch effaith y cynnig ar y Gymraeg ac eglurwch sut y byddwch yn mynd i'r afael â'r effeithiau hyn er mwyn gwella canlyniadau ar gyfer y Gymraeg
7.1 Bydd yr ardoll ymwelwyr yn ddewisol, felly, bydd yr effeithiau fesul ardal leol, gan gynnwys yr effeithiau posibl ar y Gymraeg, yn amrywio yn ôl maint, natur a graddfa twristiaeth o fewn awdurdodau lleol. Bydd gan gyrchfannau ar draws Cymru elastigedd galw amrywiol, sy'n anhysbys. Felly, gall effeithiau ar alw defnyddwyr a sut y gallai hyn effeithio ar yr economi ymwelwyr a'r Gymraeg fod yn amrywiol yn ôl cyrchfan. Nid yw’n bosibl gwybod hyn oherwydd y diffyg data a thystiolaeth ar gyfer gwneud unrhyw ddatganiadau pendant.
7.2 Mae'r ymchwil presennol sy'n ymwneud ag effaith twristiaeth ar yr iaith Gymraeg yn brin ac mae tystiolaeth empirig yn gyfyngedig. Ni ddarparodd ymatebwyr i'r ymgynghoriad fawr ddim tystiolaeth ffeithiol ar y pwnc hwn, os o gwbl.
7.3 Mae un darn o waith ymchwil a wnaed yn 2001 gan Dylan Phillips a Catrin Thomas sy'n ystyried effeithiau twristiaeth ar y Gymraeg yng Ngogledd-orllewin Cymru. Mae'n amlinellu’r effaith ar y Gymraeg fel iaith gymunedol fyw, yn enwedig mewn ardaloedd twristiaeth lle mae lefelau uchel o fewnfudo wedi digwydd mewn cysylltiad uniongyrchol â'r diwydiant twristiaeth. Mae'n nodi effaith sylweddol ar nifer a chanran y siaradwyr Cymraeg yn yr ardaloedd hynny.
7.4 Erthygl yn 2020 gan Dr Dyfan Powell yn trafod effaith twristiaeth ar yr iaith yng Ngwynedd. Mae'n dweud:
Yn ystod yr ugain mlynedd diwethaf, mae yna berthynas rhwng cyflogaeth yn y sector a thwf yn yr iaith. Mae hi hefyd yn berthynas gadarnhaol, sy'n cynnig fod cyflogaeth yn y sector wedi cefnogi'r iaith
(Twristiaeth a’r iaith yng Ngwynedd)
7.5 Yn seiliedig ar yr ymchwil a nodwyd uchod, gallai ardoll ymwelwyr gefnogi nodau Cymraeg 2050 o ran creu amodau ffafriol i'r Gymraeg yn enwedig o fewn cymunedau Cymraeg eu hiaith lle ystyrir twristiaeth fel cyfrannwr sylweddol at yr economi leol.
Gall Gweinidogion Cymru adolygu’r polisi drwy reoliadau y byddai angen i’r Senedd eu cymeradwyo pe bai effeithiau andwyol yn cael eu gwireddu.
8. Effeithiau economaidd cadarnhaol posibl
8.1 Nod yr ardoll yw hyrwyddo ymreolaeth awdurdodau lleol ar wneud penderfyniadau ariannol. Bydd y refeniw yn cael ei ddyrannu’n fras ar gyfer cefnogi rheoli cyrchfannau’n arloesol ac yn gynaliadwy. Gan ei fod yn ardoll ddewisol, nid ydym yn gwybod eto faint o awdurdodau lleol fydd yn dewis cyflwyno ardoll, ac o'r herwydd ni allwn ragweld cyfran benodol o’r refeniw fydd cael ei defnyddio i gefnogi'r Gymraeg naill ai'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
8.2 Gellid cael effaith gadarnhaol ar y Gymraeg pe bai awdurdodau lleol yn defnyddio refeniw yr ardoll i ariannu mentrau sy'n gwella'r seilwaith a'r gwasanaethau mewn ardaloedd sydd â chanran gymharol uchel o siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd (neu hyd at y degawdau diwethaf). Gallai hyn hyrwyddo gwelededd, bywiogrwydd a hyfywedd y Gymraeg, yn ogystal â chynyddu ymwybyddiaeth a gwerthfawrogiad ymwelwyr a thrigolion fel ei gilydd.
8.3 Bydd canllawiau’n cael eu rhoi i awdurdodau lleol ar ddyrannu’r refeniw. Gellir defnyddio refeniw yr ardoll ymwelwyr i gynnal a galluogi twristiaeth mewn cyrchfannau sy'n defnyddio ardoll. Mae hyn oherwydd bod twristiaeth yn dibynnu ar fuddsoddiad cyhoeddus er mwyn bod yn llwyddiannus, ac mae'r refeniw ardoll ymwelwyr yn darparu ffynhonnell incwm ychwanegol ar gyfer y buddsoddiad hwn.
8.4 Gallai refeniw o'r ardoll gefnogi ardaloedd a chymunedau lleol drwy greu'r amodau galluogi ar gyfer llwyddiant a chefnogi economïau ymwelwyr lleol, a allai gefnogi hyrwyddo'r Gymraeg neu fentrau Cymraeg yn anuniongyrchol.
10. Effeithiau economaidd negyddol posibl
9.1 Fe allwn fodd bynnag ystyried effeithiau o safbwynt p'un a fyddai gostyngiad neu gynnydd mewn twristiaeth o ddefnyddio ardoll ymwelwyr. Mae’r Asesiad o’r Effaith Economaidd (AEE) (EIA) yn amcangyfrif newidiadau i gyflogaeth a gwerth ychwanegol gros o ganlyniad i’r ardoll ymwelwyr yn seiliedig ar dri senario sy’n amrywio o ymateb ymddygiadol gwan, canolig a chryf i’r ardoll.
9.2 Fodd bynnag, mae'r ystod o ymatebion ymddygiadol i ardoll ymwelwyr yn fwy cynnil a gall ymwelwyr newid eu hymddygiad mewn gwahanol ffyrdd, megis lleihau gwariant eilaidd mewn cyrchfan neu ddewis llety ymwelwyr cost is. Nid oes dealltwriaeth dda o'r newidiadau ymddygiadol hyn ac mae prinder tystiolaeth ar gael er mwyn deall hyn yn fanylach.
9.3 Mae yna effaith bosib hefyd ar deithiau dros nos sydd â’r bwriad o gefnogi'r Gymraeg ac yn enwedig addysg Gymraeg, yn y ffaith y byddai cynnydd ymylol yn y gost. Trafodir hyn ymhellach isod.
10. Effeithia addysgol a diwylliannol posibl
10.1 Gallai refeniw a godir o ardoll gael ei ailfuddsoddi mewn prosiectau twristiaeth i hyrwyddo'r Gymraeg a chynyddu'r cyfle i ymwelwyr ddod i gysylltiad â'n hiaith a'n diwylliant a chodi ymwybyddiaeth ohonynt.
10.2 Gallai ardoll ymwelwyr gynyddu cost teithiau addysgol dros nos ychydig, gan gynnwys ymweliadau â chanolfannau preswyl yr Urdd ac i'r rhai sy'n mynychu Eisteddfod Genedlaethol yr Urdd ac Eisteddfod Genedlaethol Cymru (os ydynt yn cael eu cynnal mewn ardaloedd gyda'r ardoll ymwelwyr). Byddai aros dros nos gyda’r canolfannau a'r gweithgareddau hyn o fewn cwmpas yr ardoll.
10.3 Bydd y gyfradd sydd wedi’i gosod ar gyfer yr ardoll yn pennu maint unrhyw effeithiau ymddygiadol. Yn dilyn adborth o'r ymgynghoriad, rydym hefyd wedi gosod cyfraddau is ar gyfer llety o fath hostel a gwersylla. Mae hyn oherwydd bod y math hwn o lety yn fwy fforddiadwy’n gyffredinol o'i gymharu â mathau eraill o lety. Bydd hyn yn helpu i leihau unrhyw gynnydd mewn costau ac felly'n lleihau unrhyw effeithiau negyddol posibl ar deithiau addysgol dros nos, o ystyried bod gan yr Urdd bum canolfan breswyl ar draws Cymru, llety o fath hostel yn bennaf a rhai cyfleusterau gwersylla.
10.4 Yn ôl adroddiad ar werth economaidd yr Urdd i economi Cymru, darparodd canolfannau preswyl yr Urdd yn Llangrannog, Glan-llyn a Chaerdydd lety ar gyfer dros 103,000 o nosweithiau ymwelwyr gan gynhyrchu cyfanswm gwerth economaidd o £7.9m yn eu hardaloedd lleol.
10.5 O ran yr Eisteddfod Genedlaethol, gall ymwelwyr sy'n mynychu aros dros nos yn y maes carafanau a'r meysydd gwersylla. Ar gyfartaledd, mae tua 1,200 o garafanau a 300 o bebyll yno yn ystod wythnos yr Eisteddfod. Mae'r gost i aros dros nos ar wahân i gost tocyn i fynd i Faes yr Eisteddfod (Gwybodaeth a rannwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2024). Mae tua 4,000 o bobl yn gwersylla ym Maes B. Mae'r ffi am wersylla wedi'i gynnwys mewn tocyn wythnos sydd hefyd yn cynnwys mynediad i faes yr Eisteddfod yn ystod y dydd a chyngherddau yn y nos.
10.6 Yn ogystal, mae'r Eisteddfod Genedlaethol yn rhentu tua 120 o ystafelloedd gwesty neu lety tymor byr y flwyddyn ar gyfer staff, beirniaid ac artistiaid. Byddai ardoll ymwelwyr yn berthnasol i'r llety hwn, os cynhelir yr Eisteddfod y flwyddyn honno mewn ardal awdurdod lleol sydd wedi gweithredu'r ardoll.
10.7 Fel y nodwyd mewn mannau eraill yn yr asesiad effaith hwn, mae'r ardoll ymwelwyr yn ddewisol i awdurdodau lleol eu cymhwyso. Mae trethi'n darparu refeniw y gellir ei fuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol hanfodol, gan felly fod o fudd i’r cyhoedd.
10.8 Pe bai costau ymweliadau preswyl â chanolfanau’r Urdd yn cynyddu, gallai hyn effeithio'n andwyol ar nifer yr ymwelwyr a'r defnydd o'r llety hwn. Gall hyn effeithio'n negyddol ar y Gymraeg gan fod canolfannau'r Urdd yn darparu cyfleoedd i sgwrsio a chymdeithasu yn Gymraeg. O ystyried mai dim ond un elfen yw’r llety o gost gyffedinol taith, bydd yn her nodi bod ardoll ymwelwyr ynddo’i hun wedi ysgogi newid ymddygiad posibl, gan y gallai costau cysylltiedig eraill godi neu ostwng.
10.9 Mae darpariaethau wedi'u cynnwys o fewn y Bil i Weinidogion adolygu'r adolygu’r polisi drwy reoliadau y byddai angen i’r Senedd eu cymeradwyo pe bai effeithiau andwyol yn ymddangos, ac i godi cyfradd sero ar rai arosiadau neu ddarparu ar gyfer senarios ychwanegol lle gellir rhoi ad-daliadau i drethdalwyr, drwy reoliadau cadarnhaol drafft. Bydd hyn yn cefnogi dull parhaus o adolygu a monitro er mwyn nodi a lleihau unrhyw effeithiau negyddol.
11. Teithiau preswyl ysgol
11.1 Gall teithiau preswyl ysgol roi cyfle i fyfyrwyr ymdrochi yn y Gymraeg, gan wella eu sgiliau ieithyddol a’u dealltwriaeth ddiwylliannol trwy brofiadau byd go iawn. Canfu adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020 fod ysgolion cynradd yn gwario 5% o'u cyllidebau ar gostau eraill nad ydynt yn staff ac mae ysgolion uwchradd yn gwario 7%. Mae hyn yn cynnwys costau fel cludiant ar gyfer tripiau ysgol a threuliau swyddfa (Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru). Caniateir i ysgolion godi tâl am gostau llety preswyl ond mae'r canllawiau'n glir y dylent ystyried fforddiadwyedd a'i gwneud yn glir bod y rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol yn cael eu rhyddhau rhag talu (Codi tâl am weithgareddau ysgol: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu a phenaethiaid). Gallai cost yr ardoll gynyddu costau ymweliad pe bai taith breswyl yn digwydd o fewn ardal awdurdod lleol sy'n codi ardoll. Gall ysgolion yn eu tro drosglwyddo'r gost ychwanegol honno i deuluoedd. Fodd bynnag, byddai angen ystyried cyfanswm y gost mewn ystyriaethau fforddiadwyedd fel rhan o ystyriaethau cynllunio arferol ar gyfer y mathau hyn o ymweliadau.
11.2 Fel y nodwyd yn asesiad o'r effaith ar hawliau plant, mae ardoll yn ddewisol i awdurdodau lleol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddai costau teithiau preswyl ysgol yn cynyddu i bob ymwelydd â Chymru. Mae twristiaeth yn amnewidadwy ac ymwelwyr fydd yn penderfynu ble i aros, am ba hyd, sut y gallant deithio a phryd y gallant ymweld. Gall y ffactorau hyn gael eu dylanwadu yn bennaf gan gyllidebau (lefelau incwm gwario, elastigedd incwm) a chostau (e.e. cyfanswm cost teithio, elastigedd pris). Felly, byddai'n heriol nodi’n sicr a fyddai ardoll ymwelwyr yn unig yn newid ymddygiad ymwelwyr, gan gynnwys y teithiau hynny a drefnwyd gan awdurdodau addysg.
12. Rhyddhadau i ddarparwyr addysg
12.1 Mae arosiadau dros nos sy'n cael eu cyflenwi gan ddarparwyr addysg (ysgolion, darparwyr addysg bellach neu hyfforddiant a sefydliadau addysg uwch) fel rhan o ddarpariaeth cwrs astudio a gynigir i ddisgyblion neu fyfyrwyr e.e. neuaddau preswyl neu lety preswyl mewn ysgol breifat) y tu hwnt i gwmpas yr ardoll. Byddai gan yr arosiadau dros nos hyn elfen addysgol sylweddol – a ddiffinir fel cwrs amser llawn ac sy’n amodol ar arolygiad gan Estyn.
12.2 Mae darpariaethau wedi'u nodi yn y Bil i Weinidogion Cymru greu, diwygio neu ddileu cyfraddau sero yn y dyfodol drwy reoliadau cadarnhaol drafft, a fyddai'n cael eu cymeradwyo gan y Senedd. Pe bai tystiolaeth yn dod i'r amlwg o effeithiau negyddol ar grwpiau penodol o ganlyniad i ddefnyddio ardoll ymwelwyr, mae'r ddeddfwriaeth yn darparu hyblygrwydd i leihau neu ddileu'r rhain.
12.3 Mae'r asesiad o'r effaith ar hawliau plant yn datgan bod ymwelydd yn cael ei ddiffinio fel person sy'n aros dros nos, ac mae person yn unigolyn o unrhyw oedran (yn unol â diffiniad y term) gan mai'r bwriad yw y bydd rhaid i bob ymwelydd (gan gynnwys plant o unrhyw oedran) dalu'r ardoll ymwelwyr. Mae hyn oherwydd bod pob ymwelydd yn cael effaith ar ardal lle maent yn aros, waeth beth fo'u hoedran.
13. Effaith ar y Gymraeg: tystiolaeth o ymatebion i'r ymgynghoriad
13.1 Er nad oedd gan y rhan fwyaf o'r ymatebwyr farn benodol ynghylch effaith yr ardoll ymwelwyr ar y Gymraeg, mynegodd nifer fechan o ymatebwyr bryder y gallai unrhyw ostyngiad mewn twristiaeth sy'n deillio o ardoll leihau cyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg, yn ogystal â chael effaith negyddol bosibl ar gymunedau Cymraeg. Ar y llaw arall, tynnodd rhai ymatebwyr sylw at y ffaith y gellid defnyddio’r refeniw a godir drwy ardoll i hybu a hwyluso'r defnydd o'r Gymraeg.
13.2 Mynegodd Dirprwy Gomisiynydd y Gymraeg (DGyG) y dymuniad i weld camau’n cael eu cymryd i gryfhau cymunedau Cymraeg, gan gynnwys y rhai sy'n gyrchfannau i dwristiaid. Mae’r DGyG yn cefnogi bwriad Llywodraeth Cymru i ddarparu sylfaen decach ar gyfer ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol rhwng trigolion ac ymwelwyr a chysylltu'r ardoll â strategaeth Cymraeg 2050. Roedd yr ymateb yn nodi y gallai'r ardoll gefnogi creu a chynnal amodau ffafriol i'r Gymraeg, yn ogystal â'r manteision a gynigir gan dwristiaeth i ddiwylliant Cymru.
13.3 Galwodd DGyG ar Lywodraeth Cymru i sicrhau y byddai'r refeniw ardoll yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol o ddod â budd economaidd i gymunedau Cymraeg, gan gyfrannu at greu swyddi sy'n gofyn am sgiliau Cymraeg. Yn ogystal, cefnogodd DGyG yr egwyddor o ddefnyddio refeniw ardoll i gryfhau sefydliadau sy'n darparu gwasanaethau addysgol cyfrwng Cymraeg, fel ffordd o gryfhau cymunedau Cymraeg eu hiaith a sicrhau hyfywedd y Gymraeg fel iaith gymunedol.
13.4 Rhannwyd barn debyg gan fenter gymunedol yng Nghymru a oedd o'r farn na ddylai'r ardoll ymwelwyr gael effaith negyddol ar y Gymraeg os defnyddir y refeniw a godir i gefnogi amcanion Strategaeth Hybu’r Gymraeg yr awdurdod lleol. Dylai incwm o'r ardoll ategu’r ymdrechion i gefnogi a datblygu cymunedau Cymraeg, drwy gefnogi ymyriadau sy'n datblygu'r economi a chreu cyfleoedd cyflogaeth lleol.
13.5 Yn eu hymateb i'r ymgynghoriad, cydnabu sefydliad Cymraeg bwysigrwydd yr economi a'i chryfhau er mwyn gwrthdroi’r gostyngiad yn nifer y siaradwyr Cymraeg a nifer y cymunedau Cymraeg eu hiaith. Nodwyd hefyd y cyfraniad pwysig a wneir gan y diwydiant twristiaeth i economi Cymru yn gyffredinol ac i economi llawer o gymunedau. Fodd bynnag, roedd yn credu na ddylai'r economi dwristiaeth gael effaith niweidiol ar yr iaith Gymraeg a'n cymunedau. Roedd yn cefnogi'r syniad o dwristiaeth gynaliadwy sy'n ystyried effeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol twristiaeth, ac anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a chymunedau sy’n lletya ymwelwyr. Mynegwyd barn y gallai ardoll helpu i liniaru effeithiau negyddol twristiaeth a chefnogi datblygiad lleol os defnyddir yr ardoll er budd cymunedau. Nodwyd bod twristiaeth yn rhoi pwysau ar wasanaethau, adnoddau a seilwaith lleol, ac yn creu dibyniaeth ar swyddi cyflog isel a thymhorol. Roedd hefyd yn credu bod y diwydiant twristiaeth yn alldynnol ac yn blaenoriaethu ymwelwyr a phobl nad ydynt yn byw yn yr ardal yn barhaol, tra bod pobl leol yn ysgwyddo baich y costau sy'n gysylltiedig ag effaith twristiaeth.
13.6 Roedd ymateb arall i’r ymgynghoriad yn ymwneud â'r Gymraeg yn cysylltu twristiaeth a'r iaith Gymraeg. Roeddynt yn defnyddio Cyfrifiad 2021 data fel enghraifft - dros yr 20 mlynedd diwethaf, mae canran y boblogaeth Gymraeg yn Llanberis wedi gostwng o 80.4% yn 2001 i 74.7% yn 2011 ac i lawr ymhellach i 69.7% erbyn 2021. Fe fynegon nhw eu pryder bod cymuned Gymraeg fel Llanberis yn un na all yr iaith fforddio ei cholli.
14. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar siaradwyr Cymraeg o bob oed (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol ill dau)?
Dylech nodi eich ymatebion i'r canlynol yn eich ateb i'r cwestiwn hwn, ynghyd ag unrhyw wybodaeth berthnasol arall.
Mae'r materion hyn yn cael eu trafod uchod.
15. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar gynaliadwyedd cymunedau Cymraeg eu hiaith (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol ill dau)?
Gall y rhain fod yn gymunedau gwledig clòs, rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn lleoliadau trefol, ac mewn cymunedau rhithwir sy'n cyrraedd ar draws mannau daearyddol.
15.1 Byddai ardoll ymwelwyr yn golygu y byddai ymwelwyr o Gymru a thu hwnt yn gwneud cyfraniad er mwyn helpu i gynnal gwasanaethau a seilwaith lleol, gan annog tegwch rhwng trigolion ac ymwelwyr o ran sut mae’r rhain yn cael eu hariannu. Gellir defnyddio’r elw net o ardoll tuag at weithgareddau sy’n hybu a/neu’n cefnogi’r Gymraeg. Mae gwasanaethau lleol a seilwaith yn bwysig nid yn unig i'r rhai sy'n ymweld, ond hefyd i drigolion a busnesau fel ei gilydd. Mae angen cyllid cyhoeddus ar ardaloedd lleol a rhanbarthau i gynnal seilwaith a gwasanaethau ar gyfer cymunedau lleol ac ymwelwyr.
15.2 Uchelgais Llywodraeth Cymru yw datblygu twristiaeth ymhellach drwy gefnogi cymunedau lleol mewn ffordd sy’n gynaliadwy ar gyfer y tir a’r amgylchedd, gan ddatblygu fframwaith sydd o fudd i ymwelwyr a dinasyddion ill dau. Bwriedir i’r ardoll ymwelwyr gyfrannu at y nodau hyn drwy fuddsoddi mewn rheoli a gwella cyrchfannau, a allai gynnwys:
- lliniaru effaith ynwelwyr
- cynnal a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
- hyrwyddo a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio
- darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i'w defnyddio gan ymwelwyr (p'un a ydynt hefyd ar gyfer pobl leol ai peidio).
15.3 Bydd y buddion a'r costau sy'n gysylltiedig â derbyn ymwelwyr yn amrywio ar draws Cymru. Bydd llawer iawn o ymwelwyr yn ymweld â rhai rhannau o Gymru ar adegau prysur (h.y. yn ystod yr haf) sy'n peri straen i wasanaethau a seilwaith lleol.
15.4 Mae rhai o'r ardaloedd hyn sydd â niferoedd uchel o ymwelwyr yn cynnwys cymunedau Cymraeg eu hiaith.
Ffynhonnell: Cyfrifiad y boblogaeth 2021 (Swyddfa Ystadegau Gwladol)
(Ffynhonnell: Arolwg Twristiaeth Prydain Fawr)
15.5 Mae'r ddau siart bar uchod yn dangos mai Gwynedd sydd â’r gyfran uchaf o siaradwyr Cymraeg a'r nifer uchaf o nosweithiau a dreulir gan ymwelwyr domestig.
15.6 Petai ardoll ymwelwyr yn cael ei chyflwyno yng Ngwynedd ac o ganlyniad, bod yr ardoll yn effeithio ar y Gymraeg, gallai'r effaith felly fod yn fwy yng Ngwynedd o'i gymharu ag awdurdodau lleol eraill.
15.7 Mae Rhaglen ARFOR yn bartneriaeth economaidd gydweithredol rhwng Ynys Môn, Gwynedd, Ceredigion, a Sir Gaerfyrddin sy'n cael ei hariannu gan Lywodraeth Cymru i gefnogi cymunedau Cymraeg eu hiaith. Yn adroddiad 2021 Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion, mae'r gwerthuswyr annibynnol yn trafod cadarnleoedd traddodiadol y Gymraeg:
‘Cyfeirir yn aml at siroedd Gwynedd, Ynys Môn, Ceredigion, a Sir Gâr fel y cadarnleoedd, er bod sawl sir neu ardal o fewn siroedd eraill yn rhannu nodweddion tebyg fel Dyffryn Conwy, Gogledd Sir Benfro, ac ardaloedd o Glwyd a Phowys. Mae consensws cyffredinol bod y cadarnleoedd hyn yn rhannu nodweddion cymdeithasol, economaidd a diwylliannol tebyg, gan gynnwys:
- Canran fawr o siaradwyr Cymraeg
- Pobl hŷn yn mewnfudo, pobl ifanc yn allfudo
- Gwledig, gyda dibyniaeth ar amaethyddiaeth, bwyd a thwristiaeth
- Trefi marchnad a threfi prifysgol
- Canran fawr o swyddi yn y sector cyhoeddus
- Y cyflogau isaf ym Mhrydain, ac ymhlith y cyflogau isaf yn Ewrop
Er eu bod yn cael eu cydnabod fel ardaloedd lle bu'r Gymraeg yn hanesyddol yn brif iaith bywyd cymunedol a gwaith, mae consensws pellach bod prosesau economaidd wedi bod yn ffactor ac yn rheswm dros ddirywiad yr iaith yn yr ardal. Ar ben hynny, bu diddordeb ac, yn fwy diweddar, ewyllys gwleidyddol i ddatblygu ymyriadau economaidd a all gefnogi'r iaith a'i galluogi i ffynnu yn y meysydd hyn. Mae'r pedwar awdurdod lleol hefyd yn rhannu ac yn cefnogi awydd i weithio mewn partneriaeth i sefydlu fframwaith datblygu economaidd a chynllunio iaith i ymateb i'r her.
15.8 Fel y nodir yn Strategaeth Cymraeg 2050, mae pwysigrwydd cynnal a thyfu cymunedau sydd â dwysedd uchel o siaradwyr Cymraeg yn bwysig am sawl rheswm:
‘Yn y cymunedau hyn y ceir y canrannau uwch o siaradwyr Cymraeg sy’n disgrifio'u hunain fel siaradwyr rhugl, ac yma y ceir y canrannau uwch o siaradwyr sy'n defnyddio'r Gymraeg amlaf. Er bod pob cymuned yn unigryw, mae yna rai nodweddion cyffredin i’r cymunedau hyn. Yn eu plith mae lefel uchel o symudedd o fewny boblogaeth – siaradwyr Cymraeg ifanc yn gadael, a mewnlifiad o bobl hŷn ar y cyfan. Mae nifer o’r ardaloedd hyn yn wledig, ac yn ddibynnol i raddau helaeth ar y diwydiant amaeth, y diwydiant bwyd a thwristiaeth. Yma hefyd y gwelwn drefi marchnad, a threfi prifysgol sydd â dibyniaeth uchel ar y sector cyhoeddus, e.e. gwasanaethau iechyd a llywodraeth leol. Ceir yn yr ardaloedd hyn hefyd bocedi o amddifadedd a thlodi gwledig, a chyflogau cyfartalog sydd ymhlith yr isaf yn y Deyrnas Unedig.
15.9 Bwriad y polisi yw y bydd ardoll ymwelwyr yn annog twristiaeth gynaliadwy. Bydd galluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn darparu arian ychwanegol ar gyfer cynnal gwasanaethau a seilwaith sy'n rhan annatod o brofiad trigolion ac ymwewyr. Bydd effeithiau cadarnhaol posibl ar y Gymraeg yn ddibynnol ar sut mae'r refeniw yn cael ei fuddsoddi gan awdurdodau lleol.
16. Effaith ar gymunedau Cymraeg eu hiaith: ardaloedd gwledig
16.1 Mae’r asesiad effaith prawfesur gwledig yn amlinellu effeithiau posibl ardoll ymwelwyr ar gymunedau gwledig yng Nghymru. Mae’n debygol na fyddai’r Ardoll yn effeithio ar y defnydd o’r Gymraeg, er y gallai fod llai o gyfleoedd i ddefnyddio’r Gymraeg pe byddai gostyngiad yn y galw, gan nodi ei bod yn debygol y bydd cyfran lai o ymwelwyr sy’n siarad Cymraeg o gyfanswm y boblogaeth sy’n ymweld.
16.2 Nid oes tystiolaeth ar gael yn dangos y byddai pobl yn gadael eu cymunedau yn benodol oherwydd ardoll ymwelwyr. Gall ystod o ffactorau cymhleth yrru ymddygiad o'r fath fel: gostyngiad yn y gefnogaeth ariannol gan y llywodraeth, costau uwch o wneud busnes, a cholli rhagolygon cyflogaeth, er enghraifft. Mae unrhyw effeithiau dadleoli yr ardoll yn cyfeirio at y posibilrwydd o golli galw posibl am dwristiaeth mewn un ardal ond mantais mewn ardal arall. Nid yw'n bosibl canfod union newid mewn ymddygiad gan y bydd hyn yn debygol o fod yn fwy cynnil na dim ond colli galw. Mae'n debygol y bydd effaith fach iawn/dim effaith fesuradwy oherwydd yr ardoll ar y defnydd o'r Gymraeg heblaw sylweddoli efallai y bydd llai o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg pe bai colled yn y galw.
16.3 Bydd natur a phenodoldeb y buddion a ddaw o'r refeniw a gynhyrchir, yn dibynnu ar y prosiectau penodol a gefnogir gan y refeniw. Bydd gofyn i awdurdodau lleol adrodd ar faint o refeniw sy'n cael ei wario ac ymhle mae'n cael ei wario, yn flynyddol. Disgwylir hefyd iddynt fonitro effaith yr ardoll yn eu hardaloedd eu hunain. Bydd gweithredu ardoll ymwelwyr yn rhoi data amser real gwerthfawr i awdurdodau lleol ar dueddiadau symudiadau ymwelwyr a'u gwariant ar lety yn eu hardal. Os caiff ei ategu gan arolygon pellach, gallai wella dealltwriaeth awdurdodau lleol o’u heconomïau ymwelwyr a chymhellion ymwelwyr i deithio i'w hardal, a fyddai'n rhan o fonitro a gwerthuso effaith ardoll ymwelwyr.
17. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar addysg cyfrwng Cymraeg a dysgwyr Cymraeg o bob oed, gan gynnwys oedolion (effeithiau cadarnhaol a/neu andwyol)?
Wedi'i gynnwys uchod.
18. Sut fydd y cynnig yn effeithio ar wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg (effeithiau cadarnhaol a/neu effeithiau andwyol)? (e.e. gwasanaethau iechyd a chymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, amgylchedd, llywodraeth leol ac ati)
Nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu'r ystod o wasanaethau sy'n cael eu cynnig i siaradwyr Cymraeg, a gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.
18.1 Pe bai'r ardoll ymwelwyr yn dangos effeithiau cadarnhaol trwy ddefnyddio'r refeniw i gryfhau twristiaeth cyrchfan gynaliadwy (er enghraifft, trwy fuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith lleol), yna gallai gael effaith fuddiol ymylol ar y gallu i ddarparu gwasanaethau yn Gymraeg. Fodd bynnag, o ystyried cwmpas y polisi, mae'n annhebygol o gael effaith sylweddol ar ddarparu gwasanaethau Cymraeg ym maes iechyd, gwasanaethau cymdeithasol, trafnidiaeth, tai, digidol, ieuenctid, seilwaith, yr amgylchedd a llywodraeth leol.
19. Sut fyddwch chi'n sicrhau bod pobl yn gwybod am wasanaethau sydd ar gael yn Gymraeg ac yn gallu eu cyrchu a'u defnyddio mor hawdd ag y gallant yn Saesneg?
19.1 Fel rhan o gynllunio a chreu’r gwasanaeth ardoll ymwelwyr, bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn rhoi’r Gymraeg wrth wraidd y gwaith o’i ddatblygu.
19.2 Mae'r ardoll ymwelwyr yn gyfle i gynyddu neu hyrwyddo a hwyluso’r defnydd o'r Gymraeg, er enghraifft drwy farchnata neu ddefnyddio termau Cymraeg ar gyfer yr ardoll.
19.3 Bydd ACC yn datblygu systemau a chynnwys yn y ddwy iaith, ac yn gweithio gyda defnyddwyr i sicrhau bod y gwasanaethau'n addas i'r diben. Mae ACC yn gweithredu ei wasanaethau sy’n ymwneud â chwsmeriaid megis swyddogaethau canolfannau galwadau, gohebiaeth, canllawiau, a digwyddiadau yn ddwyieithog er mwyn caniatáu i bobl ddefnyddio eu gwasanaethau yn eu dewis iaith. Bydd ACC yn parhau i hyrwyddo eu gwasanaethau presennol ac yn y dyfodol yn ddwyieithog.
20. Pa dystiolaeth / data ydych chi wedi'i defnyddio i lywio'ch asesiad, gan gynnwys tystiolaeth gan siaradwyr Cymraeg neu grwpiau diddordeb Cymraeg?
20.1 Mae llawer o'r ffynonellau gwybodaeth a ddyfynnir yn y ddogfen hon yn tynnu sylw at effaith twristiaeth ar y Gymraeg yn hytrach nag ystyried effaith mesurau trethiant ar ardaloedd sydd â chymunedau Cymraeg eu hiaith. Felly, mae cyfyngiadau ar faint y gellir ei ddeall o'r dystiolaeth sydd ar gael.
20.2 Gwnaethom ymgysylltu'n helaeth cyn yr ymgynghoriad er mwyn helpu i lunio ein ffordd o feddwl ac i ddeall rhai o effeithiau posibl ardoll. Roedd yr ymgynghoriad yn caniatáu ystyried ystod ehangach o ymatebion cyn gwneud unrhyw benderfyniadau terfynol ynghylch dyluniad a gweithrediad y dreth.
20.3 Trwy ymgysylltu ac ymgynghori, rydym wedi cyfarfod â chydweithwyr yn Is-adran Cymraeg 2050 o fewn Llywodraeth Cymru er mwyn deall effeithiau posibl ardoll ymwelwyr ar yr iaith Gymraeg. Rydym hefyd wedi ymgysylltu'n helaeth â phob awdurdod lleol yng Nghymru a rhwydwaith twristiaeth Cymraeg, Fforwm Eryri, i gofnodi eu safbwyntiau ar y cynigion.
20.4 Yn ein digwyddiadau ymgynghori, gwnaethom sicrhau bod ein hwyluswyr yn ddwyieithog a bod cyfieithu ar y pryd ar gael. Ymhlith yr ymatebion i'r ymgynghoriad a gyflwynwyd roedd sawl unigolyn a sefydliad Cymraeg fel y Mentrau Iaith a Chymdeithas yr Iaith.
20.5 Nodir crynodeb manwl o'r ymatebion a gafwyd gan sefydliadau allanol sy'n ymwneud â'r Gymraeg isod.
20.6 Yn ogystal â chynnal pedwar digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb ar draws Cymru, lansiwyd ymgyrch i godi ymwybyddiaeth ynghyd â'r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhannu gwybodaeth ac annog cyfranogiad. Roedd y gweithgaredd yn cynnwys rhannu cynnwys drwy sianeli dwyieithog corfforaethol Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru, a Croeso Cymru, Blog LlC, erthyglau yn y wasg gan gynnwys un yng nghylchgrawn Golwg a dwy ffilm ddigidol ddwyieithog. Sicrhaodd swyddogion fod yr ymgynghoriad yn hygyrch i gynulleidfa eang drwy gynhyrchu fersiwn gymunedol ac ieuenctid ynghyd â fformat hawdd ei ddeall.
21. Ymatebion i’r ymgynghoriad
21.1 Cafodd yr ymgynghoriad cyhoeddus dros 1200 o ymatebion gyda 58 ohonynt yn Gymraeg. Roedd yn ceisio barn ar effeithiau'r cynigion ar y Gymraeg, yn benodol ar gyfleoedd i bobl ddefnyddio'r Gymraeg ac ar beidio â thrin y Gymraeg yn llai ffafriol na'r Saesneg. Mae canlyniadau cwestiynau sy'n ymwneud â'r Gymraeg wedi'u cynnwys isod.
21.2 Y thema a grybwyllwyd amlaf gan ymatebwyr oedd y farn na fyddai cyflwyno ardoll ymwelwyr arfaethedig yn cael effaith amlwg ar y Gymraeg.
Nid ydym wedi nodi unrhyw effeithiau uniongyrchol (cadarnhaol neu negyddol) ar y cyfleoedd sydd ar gael i unigolion ddefnyddio'r Gymraeg nac ar gyfer trin y Gymraeg a'r Saesneg ar sail gyfartal, o gyflwyno ardoll ymwelwyr ynddo'i hun.
(Sefydliad rheoli tir)
Ddim yn meddwl y byddai cyflwyno ardoll ymwelwyr yn cael effaith ar allu busnes i weithredu gan ddefnyddio'r Gymraeg cyn belled â bod modd adrodd yn Gymraeg.
(Corff y diwydiant llety)
21.3 Thema arall a godwyd yn yr ymatebion i'r ymgynghoriad oedd y farn y byddai ardoll ymwelwyr yn cael effaith anuniongyrchol ar yr iaith Gymraeg drwy ganfyddiad yr ymwelwyr o Gymru. Yn benodol, mynegodd yr ymatebwyr bryder y byddai ymwelwyr yn anfodlon â chyflwyno'r ardoll gan y byddai'n cynyddu cost llety, gan arwain at farn negyddol o Gymru a'r Gymraeg o’r herwydd.
Dydw i ddim yn gweld sut y bydd cyflwyno treth i dwristiaid yn cael unrhyw effaith gadarnhaol ar farn ymwelwyr o Gymru, y Cymry a/neu'r Gymraeg. Yn wir, gallai fod canfyddiad negyddol […].”
(Preswylydd)
Allaf i ddim dychmygu bod treth annheg a roddir ar dwristiaid sy'n dymuno ymweld a gwario arian yng Nghymru yn debygol o wella’r farn am Gymru a'r Gymraeg.
(Darparwr llety)
21.4 Y thema gyffredin olaf a godwyd oedd pryderon y byddai teuluoedd Cymru yn cael eu dadleoli, gan arwain at lai o bobl yn dysgu ac yn siarad Cymraeg. Yn benodol, nododd yr ymatebwyr y byddai cyflwyno'r ardoll yn cael effeithiau andwyol ar economïau lleol ac ar ddarparwyr llety, gan arwain at lawer o deuluoedd yn adleoli i wledydd eraill. Awgrymodd yr ymatebion hyn wedyn y bydd teuluoedd yn mynychu ysgolion nad ydynt yn addysgu'r Gymraeg ac felly yn cael cyfleoedd cyfyngedig i ymarfer Cymraeg.
Mae angen ystyried pa waith arall sydd ar gael pe bai swyddi sylfaenol ac eilaidd yr economi ymwelwyr yn diflannu neu'n lleihau eu gwerth. Mae hynny'n broblem i siaradwyr Cymraeg neu, yn wir, siaradwyr Saesneg y byddai eu teuluoedd ifanc wedi bod yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg oni bai eu bod wedi gorfod gadael er mwyn dod o hyd i waith. Mae diffyg gwaith ynddo'i hun yn ddiffyg cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd
(Corff diwydiant twristiaeth)
Bydd effaith gyffredinol treth dwristiaeth yn arwain at lai o dwristiaid i Gymru, gan arwain at lai o incwm i fusnesau lleol ac felly’n gwneud pobl yn ddi-waith. Oherwydd y diffyg swyddi eraill ni fydd gan bobl sy'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd waith a byddant yn symud i ffwrdd i ddod o hyd iddo. Bydd hyn yn arwain at ddirywiad mewn siaradwyr Cymraeg a llai o blant yn yr ysgolion yn dysgu Cymraeg.
(Awdurdod lleol)
21.5 Yr awgrym mwyaf cyffredin ar gynyddu'r effeithiau cadarnhaol a nodwyd oedd sicrhau y byddai'r ardoll yn cefnogi'r sector twristiaeth. Roedd yr ymatebwyr a gododd y thema hon yn gweld bod darparwyr llety yn rhan annatod o gynnal a lledaenu'r Gymraeg, felly dylid eu cefnogi.
Ail-weithio'r cynnig mewn ffordd sy'n cefnogi'r diwydiant twristiaeth sy'n cyflogi siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.
(Awdurdod lleol)
21.6 Yr awgrym nesaf a grybwyllwyd amlaf oedd defnyddio deunydd dwyieithog yn y Gymraeg a'r Saesneg. Cynigiwyd y dylai unrhyw ddeunydd a roddir i ymwelwyr, a'r holl adroddiadau a gynhelir fel rhan o'r ardoll, ddefnyddio'r Gymraeg yn ogystal â'r Saesneg.
Dylai deunydd cyfathrebu fod yn ddwyieithog
(Awdurdod lleol)
Ail-weithio'r cynnig mewn ffordd sy'n cefnogi'r diwydiant twristiaeth sy'n cyflogi siaradwyr Cymraeg ar hyn o bryd.
(Ymatebydd anhysbys)
21.7 Yr awgrym cyffredin diwethaf oedd defnyddio'r refeniw a godwyd drwy'r ardoll i hybu a hwyluso'r Gymraeg yn uniongyrchol. Roedd yr ymatebwyr a gododd y thema hon yn awgrymu, ar wahân i gefnogi gwasanaethau lleol a thwristiaeth, y dylid buddsoddi'r refeniw a godir mewn sefydliadau sy'n hybu’r Gymraeg a'r diwylliant Cymraeg.
defnyddio’r ardoll i gynyddu cyllid ar gyfer ymwybyddiaeth o'r Gymraeg a diwylliant Cymru
(Awdurdod lleol)
Rydym yn galw ar y Llywodraeth i sicrhau y byddai'r refeniw ardoll yn cael ei gasglu a'i ddefnyddio yn y ffordd fwyaf effeithiol i ddod â budd economaidd i gymunedau Cymraeg, gan gyfrannu at greu swyddi da
(Ymatebydd anhysbys)
21.8 Ar y cyfan, ychydig o ymatebion a gafwyd o ran sut y gellid lliniaru effeithiau negyddol. Yr awgrym mwyaf cyffredin ar gyfer lliniaru'r effeithiau negyddol a nodwyd oedd sicrhau y byddai'r ardoll yn cefnogi'r sector twristiaeth. Fel y soniwyd yn flaenorol, roedd rhai ymatebwyr o'r farn bod y sector twristiaeth yn hanfodol o ran cynnal a hybu'r Gymraeg. O ganlyniad, roedd yr ymatebwyr hyn fel arfer yn awgrymu, drwy hyrwyddo'r diwydiant twristiaeth, y byddai'r effeithiau negyddol ar y Gymraeg yn cael eu lliniaru. Roedd un ymatebydd hefyd yn rhoi awgrymiadau penodol ar sut y gellid cefnogi'r sector twristiaeth.
Creu diwydiant twristiaeth a hamdden 52 wythnos y flwyddyn gyda seibiannau treth ychwanegol am fuddsoddi sydd, yn ei dro, yn dod â'r incwm y mae mawr ei angen fesul pen ac yn gwella Cynnyrch Domestig Gros Cymru
(Preswylydd)
21.9 Roedd yr awgrymiadau a gynigiwyd gan ymatebwyr ar gynyddu effeithiau cadarnhaol posibl ardoll ar y Gymraeg yn cynnwys:
- Gosod fel blaenoriaeth gwario ffyrdd o ddefnyddio'r Gymraeg er mwyn gwella profiad yr ymwelydd neu'r berthynas â’r cymunedau lletyol.
- Ymgyrchoedd dwyieithog ar gyfer hyrwyddo, marchnata neu ymwybyddiaeth wedi'u cyflwyno ar y cyd â chyflwyno ardoll ymwelwyr.
- Buddsoddiadau mewn atyniadau ymwelwyr yn canolbwyntio ar hanes neu iaith Cymru.
- Ad-daliadau i ymwelwyr sy’n archebu cyrsiau Cymraeg.
- Cefnogi ymyriadau sy'n datblygu'r economi ac yn creu cyfleoedd cyflogaeth lleol (megis Rhaglen ARFOR).
- Galluogi pobl leol i sicrhau tai fforddiadwy mewn cymunedau Cymraeg eu hiaith, drwy eu prynu neu eu rhentu (fel Cynllun Tai Cymunedau Cymraeg).
21.10 Bydd y pwyntiau hyn yn cael eu hystyried ymhellach mewn canllawiau sydd i'w cyhoeddi gan Weinidogion Cymru i awdurdodau lleol a darparwyr llety yng Nghymru.
22. Casgliadau
22.1 Gallai ardoll ymwelwyr yng Nghymru gael effeithiau cadarnhaol a negyddol ar y Gymraeg, yn dibynnu ar sut y caiff ei dylunio, ei gweithredu a'i chymhwyso.
22.2 Gellid cael effaith gadarnhaol os caiff refeniw ardoll ymwelwyr ei ddyrannu i gefnogi mentrau Cymraeg a gwella gweithgareddau diwylliannol a threftadaeth a all greu amodau ffafriol i'r Gymraeg ffynnu.
22.3 Gallai effaith negyddol ddigwydd os yw'r ardoll ymwelwyr yn cael effaith economaidd negyddol a allai arwain at golli swyddi posibl. Gall ansicrwydd gwaith gynyddu allfudiad pobl ifanc (y mae'r diwydiant yn ei gyflogi'n bennaf) a thrwy hynny effeithio ymhellach ar gynaliadwyedd ein cymunedau Cymraeg.
22.4 Gallai effaith yr ardoll ymwelwyr ar y Gymraeg amrywio ar draws gwahanol ranbarthau, sectorau a grwpiau, yn dibynnu ar lefel yr ardoll, y rhyddhadau a'r gostyngiadau, a dosbarthiad y refeniw.
22.5 Nod Llywodraeth Cymru yw cydbwyso buddiannau ymwelwyr, trigolion a busnesau a chefnogi twristiaeth gynaliadwy ac ymreolaeth leol.
22.6 Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol drwy gymryd agwedd ofalus at bennu cyfradd gychwynnol yr ardoll a bydd yn monitro ei effaith dros amser. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall effeithiau posibl.
22.7 Rhagwelir y bydd buddion ehangach cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn helpu i wella ardaloedd lleol sy'n mabwysiadu ardoll. Er enghraifft, bydd yr ardoll yn offeryn y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i ddatblygu, cefnogi a chynnal cyfleusterau a gwasanaethau sydd i raddau helaeth ar gyfer, neu a ddefnyddir gan, y rhai sy’n ymweld ag ardal awdurdod lleol at ddibenion hamdden. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y pwysau ar gyfleusterau a gwasanaethau o’r fath a allai godi neu waethygu o ganlyniad i niferoedd uchel o ymwelwyr, oherwydd ar hyn o bryd, yn gyffredinol, nid yw’r ymwelwyr hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at refeniw awdurdodau lleol. Bydd natur ddewisol y pŵer yn rhoi pŵer cyllidol newydd i awdurdodau lleol godi refeniw i gefnogi economïau ymwelwyr lleol yn y dyfodol.
23. Monitro a gwerthuso
23.1 Mae'r ardoll ymwelwyr yn dreth leol. Yr awdurdodau lleol hynny sy'n dewis cyflwyno ardoll fydd yn gyfrifol am adolygu effaith yr ardoll yn eu hardal.
23.2 Mae pennu amserlen ar gyfer adolygiad ôl-weithredu ffurfiol yn anodd oherwydd gall gymryd sawl blwyddyn i awdurdodau lleol gofrestru ar gyfer y cynllun. Felly, bydd gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun yn datblygu dros amser.
23.3 Mae’r Bil yn nodi gofyniad ar awdurdodau lleol i baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar swm y refeniw a gynhyrchir o’r ardoll a gwybodaeth am sut y defnyddiwyd yr ardoll at ddibenion rheoli cyrchfannau’n gynaliadwy, yn flynyddol.
23.4 Bydd swyddogion yn datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi arferion gorau a chyngor ar fonitro a gwerthuso effaith yr ardoll.
23.5 Bydd canlyniad y ddeddfwriaeth yn cael ei fonitro’n barhaus, drwy gyfuniad o ddulliau, gan gynnwys monitro economi Cymru a dangosyddion cyflenwad/galw. Defnyddio data sy’n bodoli eisoes a gasglwyd o arolygon perthnasol Croeso Cymru, Baromedr Twristiaeth a mwy o ymgysylltu gydag awdurdodau lleol a’r sector twristiaeth er mwyn deall effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth. Mae gan Weinidogion Cymru y gallu i ddiwygio’r cyfraddau pe bai effeithiau andwyol yn codi.
23.6 Rhagwelir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn monitro ac yn adolygu effeithiolrwydd gweinyddu’r ardoll yn barhaus drwy ymgysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol a busnesau twristiaeth. Ochr yn ochr â hyn, byddant yn ystyried ar ba ddata y dylid adrodd, megis swm y refeniw a gesglir.
23.7 Bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth ac yn monitro'n barhaus am unrhyw effeithiau niweidiol. Gellir gosod rheoliadau yn y dyfodol pe bai effeithiau negyddol neu anghymesur yn cael eu gwireddu a'u nodi.
24. Pa dystiolaeth arall fyddai'n eich helpu i gynnal asesiad gwell?
24.1 Bydd yn ofynnol i Awdurdodau Lleol gynnal eu hymgynghoriad a'u hasesiad effaith eu hunain gan gynnwys y Gymraeg, i gyflawni eu rhwymedigaethau cyfreithiol o dan Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol a’r Ddeddf Cydraddoldeb.
25. Sut fyddwch chi'n gwybod a yw eich polisi yn llwyddiant?
25.1 Bydd y ddeddfwriaeth yn llwyddiannus os bydd awdurdodau lleol yn dewis defnyddio ardoll ymwelwyr ac yn defnyddio'r refeniw i wella twristiaeth gynaliadwy yng Nghymru yn llwyddiannus.
25.2 Bydd gofyn i awdurdodau lleol lunio adroddiad blynyddol i ddangos sut y buddsoddwyd arian o’r ardoll. Bydd hyn yn ei gwneud yn bosibl asesu buddion diriaethol, hirdymor refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol ei fuddsoddi mewn cymunedau lleol ac i ba raddau y mae wedi cyfrannu at Strategaeth Cymraeg 2050.
25.3 Rydym yn amcangyfrif mai'r dyddiad cynharaf y gallai ardoll ymwelwyr gael ei chyflwyno gan awdurdod lleol, yn dilyn asesiadau effaith lleol, ymgynghori, a chyfnod rhybudd ffurfiol, yw 2027. Bydd yn cymryd rhai blynyddoedd i ardoll fod ar waith i werthuso effaith yr ardoll ymwelwyr ar y Gymraeg mewn ardal awdurdod lleol yn effeithiol.
Atodiad A: Ffynonellau gwybodaeth
- Hysbysiadau cydymffurfio - Comisiynydd y Gymraeg
- The Green Book - GOV.UK
- Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021
- Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr, arolwg twristiaeth dros nos Cymru, adroddiad blynyddol: 2022
- 2021 Census Profile for areas in England and Wales - Nomis
- Crynodeb o Ddata ynghylch Stoc Welyau Cymru: y sefyllfa ym mis Mehefin 2022
- Y gallu i siarad Cymraeg yn ôl diwydiant - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol
- Baromedr Twristiaeth
- Baromedr Twristiaeth: Ton Chwefror, 2024
- Ardoll ymwelwyr dewisol i awdurdodau lleol
- The Effects of Tourism on the Welsh Language in North-West Wales
- Twristiaeth a’r Iaith yng Ngwynedd - Arsyllfa
- Asesiad o Werth Economaidd yr Urdd 2023
- Adolygiad tystiolaeth o elastigion sy'n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru
- Gwybodaeth a rannwyd gan Eisteddfod Genedlaethol Cymru, 2024
- Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru
- Codi tâl am weithgareddau ysgol: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu a phenaethiaid
- Y Gymraeg yng Nghymru (Cyfrifiad 2021)
- Gall y rhain fod yn gymunedau gwledig clòs, rhwydweithiau cymdeithasol gwasgaredig mewn lleoliadau trefol, ac mewn cymunedau rhithwir sy'n cyrraedd ar draws mannau daearyddol.
- Proffiliau twristiaeth rhanbarthol a lleol: 2017 i 2019
- Gwerthuso, Casgliadau ac Argymhellion Rhaglen Arfor - Hydref 2021
- Nod Strategaeth y Gymraeg yw cynyddu'r ystod o wasanaethau sy'n cael eu cynnig i siaradwyr Cymraeg, a gweld cynnydd yn y defnydd o wasanaethau Cymraeg.