Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): asesiad o’r effaith ar hawliau plant
Asesiad o'r effaith ar hawliau plant o Fil sy'n rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Trosolwg
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ac mae hyn yn ymrwymiad sy’n cael blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ardoll yn gyfraniad teg gan ymwelwyr ac yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yn codi arian ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddiant. Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, sy’n golygu y bydd hon yn ardoll leol newydd wedi’i dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am y Bil Ardoll Ymwelwyr yma.
O ran ei dyluniad, mae'r ardoll wedi'i chadw'n syml ond yn deg er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl; rydym yn rhagweld y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd lleol sy'n dewis defnyddio ardoll drwy gynhyrchu refeniw i gefnogi ardaloedd lleol, a thrwy hynny wella enw da'r gyrchfan a chefnogi'r economi ymwelwyr.
Bydd cofrestr statudol o ddarparwyr llety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob llety ymwelwyr diffiniedig yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a gellir dod o hyd i’r manylion a’r canlyniadau yma, ochr yn ochr ag ymchwil defnyddwyr i geisio barn trigolion Cymru a defnyddwyr gwyliau domestig yn y DU yma.
Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) drafft a dylid ei ystyried ochr yn ochr ag ef.
Diffiniadau
Geiriau/ymadroddion allweddol
Diffiniad.
ACC
Ystyr ACC yw Awdurdod Cyllid Cymru, adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru: Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Ad-daliadau
Pan fydd yr ardoll ymwelwyr wedi'i throsglwyddo i ymwelydd a bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael ad-daliad.
Ardoll Ymwelwyr
Tâl ychwanegol a godir ar lety ymwelwyr dros nos. Cyfeirir at hyn hefyd mewn gwledydd eraill fel treth dwristiaeth, treth llety, neu dreth gwesty.
Awdurdod Lleol/ Awdurdodau Lleol
Y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, y cyfeirir atynt hefyd fel Awdurdodau Unedol.
Cyfraddau Sero
Arhosiad mewn llety ymwelwyr ag ardoll ar gyfradd o £0.
Darparwr Llety Ymwelwyr
Person/ busnes sy’n darparu neu’n cynnig darparu llety i ymwelwyr mewn safleoedd yng Nghymru wrth fasnachu neu gynnal eu busnes.
Esemptiadau
Mathau o lety na fydd yn destun ardoll ymwelwyr.
Llety Ymwelwyr
Llety i ymwelwyr sy'n cael ei ddiffinio yn y Bil sy'n ddarostyngedig i gofrestru fel darparwr llety i ymwelwyr.
Twristiaeth gynaliadwy
Twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr. (Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig).
Ymwelydd
Person sy'n aros mewn llety ymwelwyr.
Llinell amser ddangosol
2024 Cyflwyno
Cyflwyno'r bil llety ymwelwyr i'w graffu gan y Senedd. Cyhoeddi'r Asesiadau Effaith.
2025 Senedd yn pleidleisio
Os yw'r bil yn pasio, cael Cydsyniad Brenhinol.
2025 Disgresiwn lleol
Awdurdod lleol yn gallu dechrau ymgynhori'n lleol ac asesu effaith ardoll ymwelwyr.
2026 Cyfnod rhybudd
Cyfnod rhybudd tebygol o 12 mis os yw awdurdod yn penderfynu cyflwyno ardoll.
2026 Cofrestru
Darparwyr llety'n dechrau cofrestru mewn ardaloedd fydd yn cyflwyno'r ardoll.
2027 Gweithredu
Dyddiad dangosol cyflwyno'r ardoll gan awdurdod lleol.
1. Cyflwyniad
1.1 Mae Mesur Hawliau Plant a Phobl Ifanc (Cymru) 2011 yn gosod dyletswydd ar Weinidogion Cymru i roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP) a'i Brotocolau Dewisol wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau.
1.2 Mae'r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) yn ystyried effaith Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ("y Bil") ar blant yng Nghymru a'u hawliau o dan CCUHP.
1.3 Wrth baratoi'r Bil, ystyriwyd a allai plant a grwpiau penodol o blant gael eu heffeithio. Mae hyn wedi llywio'r dadansoddiad o sut mae'r Bil yn effeithio ar erthyglau'r Confensiwn.
2. Amcanion polisi
2.1 Mae'r Rhaglen Lywodraethu yn ymrwymo Llywodraeth Cymru i gyflwyno deddfwriaeth sy'n caniatáu i awdurdodau lleol godi ardoll twristiaeth yn eu hardal. Mae'r Bil yn darparu pŵer dewisol sy'n galluogi awdurdodau lleol i godi ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Aethpwyd â'r ardoll ymwelwyr ymlaen fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru rhwng Tachwedd 2021 a Mai 2024. Roedd hyn yn cynnwys llunio'r polisi, ymgynghori, a'r dull cyffredinol o weithio tuag at ein cynigion.
2.2 Diben cyffredinol y Bil yw rhoi pŵer i awdurdodau lleol fabwysiadu ardoll ymwelwyr, a defnyddio'r refeniw a gynhyrchir i wella'r gwasanaethau a'r seilwaith lleol yn eu hardal. Bydd hyn yn:
- Sicrhau cyfran fwy cyfartal o'r costau i ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol sydd o fudd i ymwelwyr rhwng poblogaethau preswylwyr ac ymwelwyr.
- Rhoi’r gallu i awdurdodau lleol gynhyrchu refeniw ychwanegol y gellir ei fuddsoddi'n ôl mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n cefnogi twristiaeth.
- Cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn uniongyrchol.
2.3 Mae unrhyw effeithiau negyddol posibl (anuniongyrchol) ar blant a phobl ifanc a allai godi o gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn cael eu harchwilio'n fanylach yn yr asesiad hwn. Wrth ystyried yr effeithiau ar erthyglau'r confensiwn, mae'r asesiad effaith hwn yn cyd-gysylltu â sawl ystyriaeth a archwiliwyd yn yr asesiad o’r effaith Economaidd-gymdeithasol a’r asesiad o’r effaith ar Gydraddoldeb yr ardoll ymwelwyr. Felly, argymhellir eu bod yn cael eu darllen ochr yn ochr â'i gilydd..
2.4 Mae hwn yn asesiad cychwynnol o effaith bosibl yr Ardoll Ymwelwyr a bydd Llywodraeth Cymru yn parhau i adolygu a diweddaru'r ddogfen hon lle bo angen yn ystod y broses ddeddfwriaeth. Bydd unrhyw iteriadau yn y dyfodol yn adlewyrchu gwell dealltwriaeth o'r effeithiau hyn wrth i dystiolaeth bellach ddod ar gael.
2.5 Cyn cyflwyno ardoll, bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gynnal eu hasesiadau effaith eu hunain yn seiliedig ar eu hanghenion lleol a bydd gofyn iddynt fonitro’r effeithiau yn eu hardal.
2.6 O ystyried bod yr ardoll yn ddewisol ac y gallai gymryd blynyddoedd i awdurdodau lleol ei mabwysiadu, bydd y broses o werthuso’r ardoll yn esblygu. Fodd bynnag, mae systemau ar waith i fonitro’r effaith dros amser:
- Byddai awdurdodau lleol yn cyhoeddi adroddiad blynyddol ar swm y refeniw a gynhyrchir a ble mae’n cael ei wario i gefnogi twristiaeth gynaliadwy.
- Bydd Llywodraeth Cymru yn monitro’r effaith drwy ddefnyddio data megis arolygon Croeso Cymru, y Baromedr Twristiaeth, yn ogystal ag ymgysylltu ag awdurdodau lleol a busnesau.
- Bydd Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) yn monitro ac yn adolygu effeithiolrwydd gweinyddu’r ardoll drwy ymgysylltu ag awdurdodau lleol a busnesau a bydd yn adrodd ar swm y refeniw a gesglir.
2.7 Mae darpariaethau'r Bil yn darparu ar gyfer:
- Dyletswydd, ar ran Gweinidogion Cymru, i gadw cofrestr o ddarparwyr llety ymwelwyr yng Nghymru.
- Dyletswydd ar ddarparwyr llety ymwelwyr i gofrestru: rhaid i ddarparwr llety ymwelwyr fod wedi'i gofrestru mewn perthynas â'r llety ymwelwyr a ddarperir neu y cynigir ei ddarparu.
- Pŵer i Weinidogion Cymru gyhoeddi gwybodaeth sy’n deillio o’r gofrestr.
- Pŵer i osod ardoll: Bydd y Bil yn rhoi pŵer dewisol i awdurdodau lleol er mwyn eu galluogi i godi ardoll ymwelwyr.
- Sail a chyfrifo’r ardoll: Bydd ardoll ymwelwyr yn dâl fesul person fesul noson ar lety dros nos. Bydd y gyfradd yn cael ei gosod yn genedlaethol gan Weinidogion Cymru a fydd yn sicrhau cysondeb ledled Cymru. Nid yw’r ardoll yn daladwy am arosiadau sy’n hwy na 31 noson.
- Atebolrwydd i dalu: Bydd yr atebolrwydd am gasglu a thalu’r ardoll yn gorwedd gyda'r darparwr llety.
- Cyflwyno a Gweinyddu’r Ardoll: Mae’r Bil yn sicrhau bod yn rhaid i awdurdodau lleol ymgynghori cyn penderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr.
- Adrodd ac Adolygu: Mae’r Bil yn nodi bod yn rhaid i awdurdodau lleol gadw cyfrif ar wahân ar gyfer yr ardoll ymwelwyr, adrodd yn flynyddol ar faint o arian a gesglir a sut y defnyddiwyd y refeniw.
- Defnydd o enillion net: Rhaid i awdurdodau lleol ddefnyddio enillion net ardoll ymwelwyr i hwyluso cyflawni amcanion sy'n ymwneud â "rheoli a gwella cyrchfannau”.
- Casglu: Rhaid i bersonau atebol gyflwyno ffurflen dreth bob chwarter neu gallant ei chyflwyno’n flynyddol yn dibynnu ar swm yr ardoll yr amcangyfrifir y bydd wedi'i chasglu ar draws y flwyddyn dreth.
- Esemptiadau, cyfraddau sero ac ad-daliadau: Bydd rhai arosiadau dros nos (fel y nodir yn y cyfarwyddiadau cyfreithiol) yn cael eu heithrio, ddim yn daladwy (cyfradd sero) neu'n destun ad-daliad.
- Gorfodi: Rhoddir pwerau gorfodi i ACC gan gynnwys pŵer i sicrhau gwybodaeth, archwilio safleoedd a gosod cosbau.
- Apeliadau: Mae’r Bil yn darparu pwerau gwneud rheoliadau ar gyfer apelau yn erbyn penderfyniadau ACC.
2.8 Rhoddwyd ystyriaeth i effaith y ddeddfwriaeth hon mewn perthynas â'r 5 ffordd o weithio a nodwyd o fewn Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru). Bwriad yr ardoll ymwelwyr yw cyfrannu at nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol o greu Cymru fwy cyfartal. Bydd defnyddio ardoll ymwelwyr yn galluogi hyn drwy sicrhau cyfran fwy cyfartal o'r costau rhwng poblogaethau preswylwyr ac ymwelwyr ar gyfer seilwaith a gwasanaethau a rennir.
3. Dadansoddi'r dystiolaeth ac asesu'r effaith
Gan ddefnyddio'r dystiolaeth yr ydych wedi'i chasglu, pa effaith y mae eich polisi’n debygol o'i chael ar blant a phobl ifanc? Pa gamau fyddwch chi'n eu cymryd i liniaru a/neu leihau unrhyw effeithiau negyddol?
3.1 Asesir nad yw'r effaith gyffredinol ar Hawliau Plant yn sylweddol a’i bod yn gadarnhaol ar y cyfan. Mae hyn oherwydd cynhyrchir refeniw ychwanegol, y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i wella'r cynnig twristiaeth yn eu hardal. Bydd refeniw yn cael ei ddefnyddio i wella ystod o amwynderau a fydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr.
3.2 Er mai ffocws y Bil yw caniatáu i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, gallai canlyniad penderfyniad i gyflwyno ardoll gael effaith ar blant a phobl ifanc, yn enwedig y rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
3.3 Er mwyn lliniaru neu leihau unrhyw effeithiau negyddol a sicrhau bod lefel o gynnydd yn cael ei bodloni fel nad yw'r rhai ar incwm is yn cael eu cymell i beidio â thalu'r costau ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r ardoll, neu’n methu â gwneud hynny, mae dwy gyfradd wedi'u nodi yn y Bil, cyfradd is ar gyfer hosteli a meysydd gwersylla a chyfradd uwch ar gyfer pob llety arall.
3.4 Gall Gweinidogion Cymru asesu’r cyfraddau a diwygio’r cyfraddau ardoll ymwelwyr a bennir mewn deddfwriaeth pe bai effeithiau andwyol yn cael eu gwireddu. At hynny, gall Gweinidogion ddiwygio pa arosiadau sy'n ddarostyngedig i ba gyfradd, h.y. cyfradd is, cyfradd uwch neu gyfradd sero, pe bai tystiolaeth o unrhyw effaith anghymesur yn dod i’r amlwg.
3.5 Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried effeithiau posibl a chynnal ymgynghoriad i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio ardoll ymwelwyr.
4. Erthyglau CCUHP neu brotocolau dewisol sy'n ymwneud â'n deddfwriaeth arfaethedig
Erthygl | Effaith |
---|---|
2. Peidio â gwahaniaethu Mae'r Confensiwn yn berthnasol i bob un, waeth beth fo’i hil, ei grefydd, ei alluoedd, beth bynnag mae’n ei feddwl neu'n ei ddweud ac o ba fath bynnag o deulu y daw ohono. | Nodir effaith/her bosibl ym mharagraff 4.1. Mae'n anodd asesu a lliniaru yn erbyn unrhyw effaith negyddol bosibl ar hyn o bryd, ond mae cynlluniau ar waith i adolygu'r polisi a'r effeithiau. |
3. Gwneud yr hyn sydd orau i'r plentyn Dylai pob sefydliad sy'n ymwneud â phlant weithio tuag at yr hyn sydd orau i bob plentyn. | Rydym wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc drwy Plant yng Nghymru a’r Senedd Ieuenctid ac rydym yn bwriadu ymgysylltu eto ar ôl cyflwyno'r Bil. Bydd disgwyl hefyd i awdurdodau lleol ymgysylltu â'u cymunedau cyn penderfynu mabwysiadu ardoll a monitro ei effaith dros amser. Bydd Aelodau’r Senedd yn cael cyfle i graffu’n fanwl ar gynnwys y Bil drwy gydol y broses ddeddfu. Bydd y cynnig ac effeithiau’r ardoll ymwelwyr yn cael eu hadolygu gan Lywodraeth Cymru a’r awdurdodau lleol a'u diwygio gan Weinidogion Cymru os bydd angen wrth i dystiolaeth bellach ddod ar gael. |
22. Plant sy’n ffoaduriaid Dylai plant sy'n dod i wlad fel ffoaduriaid gael yr un hawliau â phlant a anwyd yn y wlad honno. | Fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Gydraddoldeb, mae’r bil drafft yn cynnig bod arosiadau sy’n gysylltiedig â llety brys dros dro a drefnir gan sefydliadau elusennol i ffoaduriaid a cheiswyr lloches mewn llety ymwelwyr naill ai’n gymwys ar gyfer cyfradd sero neu gellid gwneud cais am ad-daliad. Yn yr un modd, nid yw unigolion sydd wedi cyrraedd y DU drwy gynlluniau’r Swyddfa Gartref megis ceiswyr lloches a ffoaduriaid yn destun yr ardoll. |
23. Plant ag anabledd Dylai plant sydd ag anabledd o unrhyw fath gael gofal a chymorth arbennig fel y gallant fyw bywydau llawn ac annibynnol. | Nod cyffredinol yr ardoll yw cynhyrchu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol sy’n dewis defnyddio ardoll, ni wnaethom nodi effeithiau uniongyrchol ar blant ag anabledd. Fodd bynnag, efallai y bydd effaith anuniongyrchol oherwydd cynnydd yn y costau cyffredinol i bobl anabl sy’n teithio yng nghwmni gofalwr. Rydym wedi darparu ar gyfer mecanwaith ad-dalu ar gyfer pobl anabl sydd angen gofalwr i fynd gyda nhw fel rhan o'u hymweliad. Rydym yn deall bod gan bobl anabl anghenion, blaenoriaethau a phrofiadau gwahanol o ran twristiaeth, a'u bod yn fwy tebygol o wynebu rhwystrau a heriau amrywiol wrth geisio cael gafael ar gyfleoedd twristiaeth a'u mwynhau. Cyn gweithredu’r ardoll, rhaid i Awdurdod Lleol roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011 ac i bob ystyriaeth berthnasol arall. |
24. Iechyd a Gwasanaethau Iechyd Mae gan blant yr hawl i ofal iechyd o ansawdd da ac i ddŵr glân, bwyd maethlon ac amgylchedd glân er mwyn iddynt gadw'n iach. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn. | Gallai ardoll ymwelwyr wella ansawdd bywyd os buddsoddir refeniw i ddiogelu’r amgylchedd ar gyfer cenedlaethau’r dyfodol. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc o gynhyrchu refeniw ychwanegol, y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i wella’r gwasanaethau a’r seilwaith lleol yn eu hardal. Gellid defnyddio refeniw i wella ystod o amwynderau a fydd o fudd i breswylwyr ac ymwelwyr. Fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar Iechyd, gallai effeithiau economaidd cadarnhaol ardoll ymwelwyr ar ardal arwain at ganlyniadau gwell o ran iechyd oherwydd cynnydd yn y galw am dwristiaeth, creu swyddi, a buddsoddiad mewn cymunedau lleol. Gallai effeithiau economaidd negyddol arwain at golli swyddi, llai o fuddsoddiad, ac ansawdd bywyd is, a allai gael effaith negyddol ar iechyd. O ran arosiadau cysylltiedig ag iechyd i’r rhai y mae’n ofynnol iddynt aros dros nos i gael gofal meddygol neu seibiant (neu i gefnogi aelodau o’r teulu sy’n cael gofal), y Senedd fydd yn penderfynu a yw arosiadau o’r fath wedi’u heithrio. Nid oes unrhyw ddarpariaeth yn y Bil i ddarparu rhyddhad ar gyfer y math hwn o arhosiad. Gweler paragraff 4.16. Dylid nodi bod cymorth ar gael gan rai elusennau ac mae gan rai byrddau iechyd gyfleusterau ar y safle i deuluoedd y mae angen iddynt aros mewn llety dros nos am resymau meddygol, megis Ronald McDonald House sy’n darparu llety yn agos at Ysbyty Plant Arch Noa yng Nghaerdydd. Byddai hyrwyddo'r cymorth sydd ar gael yn helpu i liniaru effaith anfwriadol. |
27. Safon byw ddigonol Mae gan blant yr hawl i safon byw sy'n ddigon da er mwyn diwallu eu hanghenion corfforol a meddyliol. Dylai'r Llywodraeth helpu teuluoedd na allant fforddio darparu hyn. | Rydym wedi ymgysylltu â phlant a phobl ifanc a byddwn yn parhau i ymgysylltu ar ôl cyflwyno'r Bil. Bydd disgwyl i awdurdodau lleol hefyd ymgysylltu â'u cymunedau cyn penderfynu mabwysiadu ardoll a monitro ei effaith dros amser. |
28. Yr hawl i addysg Mae gan blant yr hawl i addysg. Dylai disgyblaeth mewn ysgolion barchu urddas dynol plant. Dylai addysg gynradd fod am ddim. Dylai gwledydd cyfoethog helpu gwledydd tlotach i gyflawni hyn. | Bydd effeithiau anuniongyrchol oherwydd cost uwch tripiau preswyl a drefnir gan ysgolion, clybiau chwaraeon, clybiau cymdeithasol a/neu ddarparwyr addysgol eraill. Ceir mwy o fanylion ym mharagraff 4.12. Bydd y cynnig ac effeithiau’r ardoll ymwelwyr yn cael eu hadolygu a'u diwygio os bydd angen wrth i dystiolaeth bellach ddod ar gael. |
29. Nodau addysg Dylai addysg ddatblygu personoliaeth a thalentau pob plentyn i'r eithaf. Dylai annog plant i barchu eu rhieni, eu diwylliant eu hunain ac eraill, a’r amgylchedd. | Gallu gwella. Mae'r ardoll ymwelwyr yn ymdrechu i hyrwyddo tegwch - mae ymwelydd yn cyfrannu at yr ardal leol er mwyn cefnogi cymunedau lleol a thwristiaeth gynaliadwy. Bydd y cynnig ac effeithiau’r ardoll ymwelwyr yn cael eu hadolygu a'u diwygio os bydd angen wrth i dystiolaeth bellach ddod ar gael. |
31. Hamdden, chwarae a diwylliant Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau. | Gweler paragraff 4.12 isod am fwy o fanylion. Her bosibl. Gallai fod costau uwch yn gysylltiedig â theithiau addysgol a chwaraeon plant, fodd bynnag, nid yw'r union effaith yn fesuradwy. Fodd bynnag, byddwn yn monitro effeithiau'r ardoll, a disgwylir i awdurdodau lleol gynnal asesiadau effaith i lywio eu penderfyniad ynghylch a ddylid mabwysiadu ardoll, ac os ydynt yn dewis gwneud hynny, i fonitro effeithiau eu hardaloedd hefyd. |
Erthygl 2: (Peidio â gwahaniaethu)
Mae'r erthygl hon o’r Confensiwn yn berthnasol i bob un, waeth beth fo’i ethnigrwydd, ei grefydd, ei alluoedd, beth bynnag mae’n ei feddwl neu'n ei ddweud ac o ba fath bynnag o deulu y daw ohono.
Statws: Heriau
Eglurhad
4.1 Mae'r erthygl hon yn ymwneud â lles cyffredinol a'r ystyriaeth a roddir i blant. Mae'n debygol y bydd cynnydd cymedrol yn y gost a ysgwyddir am aros dros nos - gan gynnwys teithiau addysgol neu chwaraeon o fewn yr awdurdodau lleol hynny sy'n cyflwyno ardoll.
4.2 Gall hyn gael effaith anghymesur ar blant a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is, y gallai eu teuluoedd eisoes fod yn ei chael hi'n fwy heriol i ariannu teithiau o'r fath.
4.3 Er mwyn lleihau'r risg y bydd yr ardoll yn dod yn rhwystr i bobl sydd dan anfantais economaidd-gymdeithasol rhag aros mewn llety ymwelwyr dros nos yng Nghymru, gall Gweinidogion Cymru adolygu’r cyfraddau ochr yn ochr ag amodau cyffredinol y farchnad a byddant yn monitro i sicrhau eu bod yn bodloni amcanion y polisi a’u bod yn deg.
Cost gynyddol arhosiad dros nos
4.4 I gydnabod y gallai trethi uwch atal teithwyr ar gyllideb neu unigolion ag incwm is, mae'r strwythur y cyfraddau yn y Bil wedi'i ddylunio gyda dwy gyfradd, cyfradd is a chyfradd uwch. Cymhwysir y cyfraddau fesul person, fesul noson, sef £1.25 ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o lety ymwlewyr, a chyfradd is o £0.75 ar gyfer hosteli a meysydd pebyll. Cyflwynwyd y gyfradd is i gydnabod bod y mathau hyn o lety ymwelwyr yn cael eu darparu, ar gyfartaledd, am gost is o'i gymharu ag eraill. Mae nodi hyn yn lleihau natur atchweliadol yr ardoll, y nod yw cadw'r dreth mor syml â phosibl i'w gweinyddu o safbwynt cydymffurfedd sy'n golygu y bydd yn fwy cost-effeithiol yn y tymor hwy.
4.5 Yn seiliedig ar gyfradd is o £0.75 ar gyfer hosteli a meysydd pebyll ac arhosiad o 3 noson ar gyfartaledd, byddai hyn yn cyfateb i gynnydd cyfartalog mewn costau o £2.25 + TAW y person (£2.45). Ac yn seiliedig ar gyfradd o £1.25 a hyd arhosiad o 3 noson ar gyfartaledd, byddai hyn yn cyfateb i gynnydd cyfartalog mewn cost o £3.75 + TAW fesul person (£4.50) pe bai darparwyr llety ymwelwyr yn trosglwyddo’r ardoll i ymwelwyr (rydym yn disgwyl y bydd hynny’n digwydd).
4.6 Felly mae'n debygol y bydd cynnydd cymedrol yn y gost am aros dros nos os bydd yr ardoll yn cael ei throsglwyddo i’r ymwelwyr - gan gynnwys teithiau addysgol neu chwaraeon o fewn yr awdurdodau lleol hynny sy'n cyflwyno ardoll. Mae'n debygol y bydd ymwelwyr yn ystyried y gyllideb a’r fforddiadwyedd wrth benderfynu ble i fynd ar wyliau ac efallai y byddant yn dewis aros mewn lleoliadau eraill lle na chodir ardoll neu leihau hyd eu harhosiad er mwyn lleihau'r gost ychwanegol.
4.7 Byddai'r ardoll yn rhan o gost gyffredinol ymweliad, fel y byddai holl rannau eraill y gost fel teithio, llety, bwyd a diod, adloniant ac ati. Byddai'r ardoll yn cynrychioli canran fach o'r gwariant cyffredinol.
Ail-fuddsoddi gan Awdurdodau Lleol
4.8 Gallai ardoll ymwelwyr o £1.25 fesul person, fesul noson a godir ar ymwelwyr sy'n aros mewn llety ymwelwyr yng Nghymru godi hyd at £33 miliwn y flwyddyn. Gan mai mater i bob awdurdod lleol fydd penderfynu a ddylid cyflwyno ardoll neu beidio, nid yw'n bosibl pennu'r union swm o refeniw y byddai ardoll yn ei godi. Mae'r ffigur o £33 miliwn yn rhagdybio y bydd ardoll ymwelwyr yn cael ei chymhwyso ar draws Cymru gyfan. Bydd union faint y refeniw yn amrywio yn ôl yr ardaloedd awdurdod lleol sy'n dewis ei gymhwyso.
4.9 Mae effaith ardollau ymwelwyr ar blant a phobl ifanc yn dibynnu ar sut mae'r refeniw yn cael ei ddefnyddio ac a yw'r costau cysylltiedig yn creu heriau economaidd neu fuddion i deuluoedd neu fusnesau. Mae cynllunio ac ystyried y canlyniadau posibl yn ofalus yn hanfodol ar gyfer sicrhau dull cytbwys sydd o fudd i'r gymuned leol a chenedlaethau'r dyfodol. Awdurdodau lleol fydd yn cynnal ymgynghoriad ac ymgysylltu â'u cymunedau i benderfynu ble i wario'r refeniw a godir gan yr ardoll.
4.10 Pe bai cyflwyno ardoll ymwelwyr yn arwain at lai o dwristiaid yn dod i ardal leol yng Nghymru sy'n codi’r ardoll, gallai'r gostyngiad hwn mewn twristiaeth arwain at ganlyniadau economaidd anuniongyrchol i'r gymuned leol, gan effeithio ar gyfleoedd gwaith i bobl ifanc a/neu eu rhieni a allai yn ei dro effeithio ar incwm aelwydydd. I'r gwrthwyneb, pe bai'r ymwelwyr hynny'n dewis aros mewn ardal lle nad oedd yr ardoll ar waith, mae'n bosibl y gallai cyfleoedd gwaith yn yr ardal honno gynyddu.
4.11 Mae'r Asesiad o’r Effaith Economaidd a gomisiynwyd i gyd-fynd â'r ddeddfwriaeth yn nodi tri senario o ymateb ymddygiadol cryf, niwtral neu wan, sy’n cynrychioli canran fach iawn o ymwelwyr sy’n dewis peidio ag ymweld â Chymru oherwydd bod ardoll yn cael ei defnyddio. Ceir effaith gymharol fach ar swyddi pe bai ymateb ymddygiadol andwyol. Caiff hyn ei wrthbwyso i raddau helaeth gan y cynnydd mewn set o weithgarwch cyflogaeth gwerth uwch.
Erthygl 28
Mae gan blant yr hawl i addysg ac erthygl.31: Mae gan bob plentyn yr hawl i ymlacio a chwarae, ac i ymuno mewn ystod eang o weithgareddau.
Statws: Heriau
Eglurhad
Gallai fod costau uwch yn gysylltiedig â theithiau addysgol a chwaraeon plant, fodd bynnag, nid yw'r union effaith yn fesuradwy. Efallai y bydd cymorth ariannol ar gael gan Awdurdodau Lleol ar gyfer teithiau ysgol. Gall y Grant Hanfodion Ysgol helpu i dalu costau gweithgareddau ysgol, gan gynnwys teithiau ysgol. Gall teuluoedd ar incwm is sydd â phlant yn y dosbarth derbyn i flwyddyn 11 ac sy'n derbyn budd-daliadau penodol wneud cais am y grant hwn. Gall dysgwyr sy'n gymwys ar hyn o bryd i gael prydau ysgol am ddim wneud cais, ac mae pob plentyn sy'n derbyn gofal yn gymwys ar gyfer y grant, p'un a ydynt yn cael prydau ysgol am ddim ai peidio (Plant yng Nghymru).
4.13 Byddwn yn monitro effeithiau'r ardoll, a disgwylir i awdurdodau lleol gynnal asesiadau effaith i lywio eu penderfyniad ynghylch mabwysiadu ardoll ai peidio, a phe baent yn dewis gwneud hynny, i fonitro’r effeithiau yn eu hardaloedd hefyd. Ychydig o resymeg polisi sydd o ran pam y dylid rhyddhau plant o'r ardoll ymwelwyr. Mae plentyn yn ymwelydd hyd yn oed os yw pwrpas ei daith yn addysgol, felly mae yna effaith, a chost sy'n gysylltiedig â'r ardal leol o hyd. Yn ogystal, mae ardoll ymwelwyr yn dreth sy'n seiliedig ar ddefnydd ac felly ychydig o resymeg sydd dros ryddhad o ystyried bod mynd ar wyliau neu ymweliad yn seiliedig ar ddewis.
4.14 Mae pob ymwelydd yn cael effaith ar ardal. Gallai fod yn wahaniaethol o bosib pe bai'r ddeddfwriaeth yn ei gwneud yn ofynnol i gyflwyno dull adnabod (ID) i alluogi unrhyw ryddhad. Mae hyn am na fydd gan bob plentyn ID a’u bod yn llai tebygol o fod â hynny o'i gymharu ag oedolion. Byddai gofyn am wiriad ID ar gyfer arosiadau domestig dros nos yng Nghymru yn faich gweinyddol anghymesur ac yn codi materion yn ymwneud â thrin gwybodaeth sensitif a allai achosi heriau sylweddol i ddarparwyr llety ymwelwyr.
4.15 Bydd plant yng nghwmni oedolyn a fyddai wedi gwneud yr ‘archeb’ a dyma’r person sydd wedi ymrwymo i gontract am ddarpariaeth llety ymwelwyr dros nos gan ddarparwr llety ymwelwyr ac felly sy'n gyfrifol am dalu.
Polisi ar esemptiadau a rhyddhadau
4.16 Mae'r ardoll ymwelwyr yng Nghymru wedi'i dylunio i fod yn syml i’w chymhwyso i ymwelwyr a darparwyr llety ymwelwyr.
4.17 Rydym wedi ystyried rhyddhadau i blant a phobl ifanc i gydnabod bod ardollau ymwelwyr mewn cyrchfannau eraill ar draws Ewrop yn aml yn cael eu cymhwyso. Er bod y data ar deithwyr iau yn gyfyngedig, mae amcangyfrifon cychwynnol yn awgrymu y gallai rhyddhad llwyr i'r rhai dan 16 leihau refeniw ardoll o tua thraean. Gallai rhyddhad i blant hefyd gynyddu'r cymhlethdod a'r costau casglu ar gyfer gorfodi. Pe bai dymuniad i adennill y gostyngiad hwn mewn refeniw, yna byddai angen i gyfraddau ar gyfer y rhai dros 16 oed godi er mwyn i'r gostyngiad mewn refeniw a ysgogir gan y rhyddhad, gael ei wrthbwyso’n fras. Mae'n bwysig pwysleisio bod effeithiau ymddygiadol yn fwy tebygol o ddod i'r amlwg os yw'r cyfraddau'n cynrychioli cyfran uwch o gost llety. Felly rydym wedi cyfyngu ar gymhwyso rhyddhadau ac wedi mabwysiadu dull sylfaen dreth eang ond wedi gosod cyfraddau is, o gymharu â llawer o ardollau tebyg dramor.
4.18 Gyda chyfradd isel, a dyluniad ardoll symlach, ein nod yw casglu’r dreth yn y ffordd fwyaf effeithlon posibl, sy'n bwysig - o ystyried cynnyrch isel yr ardoll o'i gymharu â threthi eraill.
4.19 Ystyriwyd cyfraddau sero posibl yn ystod yr ymgynghoriad dim ond lle’r oedd sail resymegol glir dros wneud hynny. Y rhesymeg a ddefnyddiwyd ar gyfer cyfraddau sero yw:
- Os nad oedd yr arhosiad o ddewis a'i fod yn bodloni gofyniad preswylio sylfaenol os nad yw preswylfa arferol unigolyn yn addas i fyw ynddo neu ddiffyg preswylfa arall.
- Byddai cymhwyso'r ardoll yn anghymesur
4.20 Ni chodir ardoll ar lety a drefnir gan awdurdod lleol ar gyfer plant a phobl ifanc mewn gofal neu mewn llety dros dro.
4.21 Mae'r rhan fwyaf o arosiadau o ddewis y rhai sy'n aros yn y llety ymwelwyr. Mae arian yn cyfnewid am drwydded dros dro i aros yn y llety ymwelwyr. Dewis unigolyn yw aros mewn cyrchfan, mewn llety ymwelwyr sy'n cyd-fynd â'u gofynion. Felly, mae'r ardoll ymwelwyr yn dreth sy'n seiliedig ar ddefnydd, felly prin iawn dylai’r rhyddhadau fod gan fod ymwelwyr yn dewis aros ac felly’n derbyn y costau sy'n gysylltiedig â gwneud hynny ac yn ymwybodol o'r rhain ymlaen llaw.
4.22 Bydd ardoll ymwelwyr Cymru yn berthnasol i blant a phobl ifanc. Os daw tystiolaeth i’r amlwg bod ardoll yn cael effaith negyddol ac anghymesur ar blant a phobl ifanc ar ôl i ardoll gael ei gweithredu gan awdurdod lleol, yna mae lle o fewn y ddeddfwriaeth i gyfraddau sero gael eu hadolygu a’u diwygio yn ôl yr angen gan Weinidogion Cymru.
Esemptiadau ar gyfer teithiau addysg/preswyl
4.23 Nid yw arosiadau gan fyfyrwyr mewn llety myfyrwyr, neuaddau preswyl neu lety preswyl, er enghraifft, y rhai hynny sy'n preswylio mewn ysgolion preifat neu mewn addysg uwch amser llawn yn y brifysgol neu sefydliadau addysg drydyddol eraill, yn cael eu hystyried fel llety ymwelwyr ac felly ni fydd yr ardoll yn berthnasol.
4.24 Byddai teithiau ysgol preswyl a drefnir gan ysgolion, clybiau chwaraeon, clybiau cymdeithasol a/neu ddarparwyr addysgol eraill, yn destun ardoll ymwelwyr pe bai'r daith yn digwydd mewn ardal awdurdod lleol sy'n codi ardoll ac os ydynt yn aros mewn llety a ddiffinnir fel llety ymwelwyr yn y Bil. Mae'r tâl yn rhan o gost yr arhosiad fel y mae pob rhan arall o'r gost. Mae canllawiau penodol y mae'n rhaid i ysgolion eu hystyried wrth drefnu tripiau ysgol sy'n ei gwneud yn amlwg bod yn rhaid ystyried fforddiadwyedd a bod y rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol wedi’u heithrio rhag talu costau bwyd a llety (Arweiniad i Gyrff Llywodraethu ynghylch Codi Tâl am Weithgareddau Ysgol).
4.25 Yn dilyn adborth o'r ymarfer ymgynghori, rydym hefyd wedi gosod cyfraddau is am lety o fath hostel a meysydd pebyll. Mae hyn oherwydd bod y math hwn o lety ymwelwyr yn fwy fforddiadwy o'i gymharu â mathau eraill o lety ymwelwyr.
4.26 Fel y nodwyd yn yr Asesiad o’r Effaith ar y Gymraeg, canfu adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru a gynhaliwyd gan Lywodraeth Cymru yn 2020 fod ysgolion cynradd yn gwario 5% o'u cyllidebau ar gostau eraill nad ydynt yn ymwneud â staff ac ysgolion uwchradd 7%. Mae hyn yn cynnwys costau fel cludiant ar gyfer tripiau ysgol a threuliau swyddfa (Adolygiad o wariant ysgolion yng Nghymru). Caniateir i ysgolion godi tâl am gostau lletya a llety preswyl ond mae'r canllawiau'n glir y dylent ystyried fforddiadwyedd a'i gwneud yn glir bod y rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol yn cael eu rhyddhau rhag talu (Codi tâl am weithgareddau ysgol: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu a phenaethiaid). Gallai cost yr ardoll gynyddu costau ymweliad pe bai taith breswyl yn digwydd o fewn ardal awdurdod lleol sy'n codi ardoll. Gall ysgolion yn eu tro drosglwyddo'r gost ychwanegol honno i deuluoedd. Fodd bynnag, byddai angen ystyried cyfanswm y gost wrth ystyried fforddiadwyedd fel rhan o ystyriaethau cynllunio arferol y mathau hyn o ymweliadau.
4.27 Gan fod ardoll yn ddewisol i awdurdodau lleol, nid yw hyn o reidrwydd yn golygu y byddai costau teithiau preswyl ysgol yn cynyddu i bob ymwelydd â Chymru. Mae twristiaeth yn amnewidiol a bydd ymwelwyr yn penderfynu ble i aros, am ba hyd, sut y gallant deithio a phryd y gallant ymweld. Gall y ffactorau hyn gael eu dylanwadu’n bennaf gan gyllidebau (lefelau incwm gwario, elastigedd incwm) a chostau (e.e. cyfanswm cost teithio, elastigedd pris). Felly, byddai'n heriol nodi’n sicr y byddai ardoll ymwelwyr yn unig yn newid ymddygiad ymwelwyr, gan gynnwys y teithiau hynny a drefnir gan awdurdodau addysg.
4.28 Ni ddisgwylir i ddefnyddio ardoll ymwelwyr gael effaith negyddol ar ymweliadau preswyl â chanolfannau'r Urdd, fodd bynnag nid yw’n bosibl pennu hyn o ystyried yr ansicrwydd o ran pa awdurdodau lleol fyddai’n defnyddio ardoll ymwelwyr a graddau unrhyw ymateb ymddygiadol.
4.29 Pe bai costau ymweliadau preswyl â chanolfannau’r Urdd yn cynyddu, gallai hyn effeithio'n andwyol ar nifer yr ymwelwyr a'r defnydd o'r llety ymwelwyr hwn. O ystyried mai dim ond un elfen yw’r llety o gost gyffredinol taith, bydd yn her nodi bod ardoll ymwelwyr ynddo’i hun wedi ysgogi newid ymddygiad posibl, gan y gallai costau cysylltiedig eraill godi neu ostwng.
Defnydd yr awdurdodau lleol o’r ardoll ymwelwyr
4.30 Rhaid i’r awdurdod lleol ddefnyddio’r enillion a ddaw o’r ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ei ardal, sy’n cynnwys lliniaru effaith ymwelwyr, hyrwyddo’r Gymraeg, cefnogi twristiaeth a theithio cynaliadwy, a darparu a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i ymwelwyr a phobl leol.
4.31 Nod y prosiectau a ariennir trwy ardollau yw diogelu tirweddau sensitif a gwerthfawr yn ecolegol, uwchraddio llwybrau ac arwyddion amwynderau ymwelwyr, diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl, gwella hygyrchedd i ymwelwyr trwy agor meysydd parcio, a llwybrau cerdded a beicio newydd.
4.32 Bydd pob awdurdod lleol yn gwneud ei benderfyniadau ei hun ar sut y caiff y refeniw ei wario er mwyn datblygu rheolaeth gynaliadwy o gyrchfannau yn eu hardal. Mae canllawiau’n cael eu llunio a fydd yn nodi arferion gorau o ran llywodraethu a chydweithio. Bydd adborth gan randdeiliaid, gan gynnwys gan blant a phobl ifanc drwy ymgysylltu pellach, yn llywio’r hyn sydd wedi’i gynnwys yn y canllawiau i awdurdodau lleol.
4.33 Rhaid i awdurdodau lleol lunio adroddiad blynyddol i roi gwybod i bobl am y swm a gasglwyd ac a dderbyniwyd gan yr awdurdod lleol a sut y gwariwyd y refeniw o’r ardoll, neu sut y bydd yn cael ei wario. Dylai'r adroddiad roi dealltwriaeth o'r effaith y mae'r prosiectau hynny wedi'i chael ar fusnesau a chymunedau lleol.
5. Casglu tystiolaeth ac ymgysylltu â phlant a phobl ifanc
Ymgynghoriad cyhoeddus
5.1 Cynhaliwyd yr ymgynghoriad ar ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, ac mae crynodeb o'r ymatebion i’w gael yma. Roedd y ddogfen ymgynghori ar gael mewn fersiwn pobl ifanc/cymunedol a fersiwn hawdd ei ddeall. Sicrhaodd swyddogion fod rhanddeiliaid yn ymwybodol o'r gwahanol fformatau oedd ar gael wrth lansio'r ymgynghoriad. Cynhyrchwyd fideo esboniadol yn targedu pobl ifanc ac fe’i rhoddwyd ar ein sianel YouTube a'i chwarae cyn ymgysylltu â phlant a phobl ifanc. Derbyniwyd 126 o ymatebion yn y fformatau amgen. Roedd sylwadau o blaid yn canolbwyntio ar effaith ymwelwyr ar gymunedau fel:
Mae ymwelwyr yn cael effaith enfawr ar ein gwasanaethau a'r seilwaith yr ydym ni fel preswylwyr yn talu amdanyn nhw felly mae'n iawn gofyn iddyn nhw gyfrannu. Gellir defnyddio'r arian i wella cyfleusterau, seilwaith a'r amgylchedd gan wneud yr ymweliad yn y dyfodol yn well iddyn nhw ac yn fwy cynaliadwy ar gyfer y dyfodol.
5.2 Roedd un ymatebydd yn teimlo y gallai'r ardoll fod yn offeryn defnyddiol wrth ddod â mwy o dwristiaid i mewn i ardal ac felly'n cael effaith gadarnhaol ar yr economi leol:
Gallai hyn fod yn ffynhonnell incwm bwysig i ardaloedd lleol, a gallai annog cymunedau i ddenu ymwelwyr (os yw cymunedau'n gweld budd yr ardoll!)
Roedd y rhai a oedd yn erbyn cyflwyno ardoll yn crybwyll costau cynyddol a'r effaith ar fusnesau:
Mae gen i garafán yng Nghymru ac os bydd hyn yn cael ei gyflwyno bydd yn rhy ddrud i mi a fy nheulu ymweld â hi, byddwn yn ei symud i leoliad yn Lloegr.
O ran rhyddhad, gofynnodd Cwestiwn 10: A oes unrhyw ryddhadau eraill y dylem eu hystyried? Roedd 36% (318 allan o'r 1,087 o ymatebwyr) yn cytuno y dylid rhyddhau plant a phobl ifanc rhag ardoll.
Fodd bynnag, y thema a godwyd ail amlaf ymysg y rhai a gefnogai ryddhad ychwanegol oedd pryderon na fyddai cymhwyso'r ardoll i blant yn briodol. Roedd yr ymatebwyr hyn yn gyffredinol yn gweld y byddai'n annheg cymhwyso ardoll i blant, gyda llawer o'u hymweliadau'n debygol o fod at ddibenion addysgol.
[…] yn cefnogi nifer o sefydliadau gyda gweithgareddau dan arweiniad gwirfoddolwyr ar gyfer ieuenctid a phobl ifanc sy'n eu helpu i dreulio amser yn yr awyr agored - a dylai'r gweithgareddau/pobl ifanc hyn hefyd gael eu heithrio o'r ardoll. Er enghraifft, ymweliadau addysgol a phreswyl; Cynllun Gwobr Dug Caeredin; Sgowtiaid a Geidiaid.
(Darparwr llety)
Mae plant angen tripiau preswyl fel rhan o'u haddysg ac felly dylen nhw fod wedi'u heithrio er mwyn peidio ag ychwanegu costau ychwanegol at y teithiau hyn.
(Ymatebydd anhysbys)
5.3 Llety arbenigol
Roedd esemptiad arall a awgrymwyd gan rai ymatebwyr i'r ymgynghoriad yn ymwneud â darparwyr llety arbenigol. Roedd yr ymatebwyr hyn yn gyffredinol o’r farn na ddylai canolfannau gofal ar gyfer unigolion ag anawsterau dysgu, ac anghenion iechyd corfforol neu feddyliol gael eu llethu gyda'r ardoll gan nad yw'r math hwn o lety yn gysylltiedig â thwristiaeth a’i fod yn creu gwerth i gymdeithas.
Llety arbenigol sy'n rhoi gofal seibiant e.e. canolfannau sy'n gofalu am blant neu oedolion sydd ag anawsterau dysgu, dementia neu broblemau iechyd difrifol. Llety arbenigol sydd â chyfleusterau sy'n trin cyflyrau meddygol neu sydd â chyfleusterau neu wasanaethau arbenigol, e.e. canolfannau gwyliau gyda chyfleusterau dialysis, gofal hosbis
(Awdurdod lleol).
Nid yw arosiadau mewn cartrefi gofal neu lety sy’n darparu gofal seibiant yn cael eu diffinio fel llety ymwelwyr yn y Bil, ac felly ni fydd yr ardoll yn berthnasol.
5.4 Y Gymraeg
Y thema gyffredin olaf a godwyd mewn ymateb i'r cwestiwn hwn oedd pryderon y byddai teuluoedd Cymru yn cael eu dadleoli, gan arwain at lai o bobl yn dysgu ac yn siarad Cymraeg. Amlygodd rhai ymatebwyr y byddai cyflwyno'r ardoll yn cael effeithiau andwyol ar economïau lleol ac ar ddarparwyr llety ymwelwyr, gan arwain at deuluoedd yn adleoli i wledydd eraill. Awgrymodd yr ymatebion hyn wedyn y bydd teuluoedd yn mynychu ysgolion nad ydynt yn addysgu'r Gymraeg ac felly y byddai’r cyfleoedd i ymarfer Cymraeg yn gyfyngedig.
Mae angen ystyried pa waith arall sydd ar gael pe bai swyddi sylfaenol ac eilaidd yr economi ymwelwyr yn diflannu neu'n lleihau eu gwerth. Mae hynny'n broblem i siaradwyr Cymraeg neu, yn wir, siaradwyr Saesneg y byddai eu teuluoedd ifanc wedi bod yn mynychu ysgolion cyfrwng Cymraeg oni bai eu bod wedi gorfod gadael er mwyn dod o hyd i waith. Mae diffyg gwaith ynddo'i hun yn ddiffyg cyfle i ddefnyddio'r Gymraeg bob dydd.
(Corff diwydiant twristiaeth)
Bydd effaith gyffredinol treth dwristiaeth yn arwain at lai o dwristiaid i Gymru, gan arwain at lai o incwm i fusnesau lleol ac felly’n gwneud pobl yn ddi-waith. Oherwydd y diffyg swyddi eraill ni fydd gan bobl sy'n siarad Cymraeg ar hyn o bryd waith a byddant yn symud i ffwrdd i ddod o hyd iddo. Bydd hyn yn arwain at ddirywiad mewn siaradwyr Cymraeg a llai o blant yn yr ysgolion yn dysgu Cymraeg.
(Awdurdod lleol)
Cafwyd adborth gan gynrychiolydd yr Urdd ar y cynigion o ystyried bod bron i 25,000 yn ymweld â Gwersyll Llangrannog yn flynyddol, gallai ardoll hefyd effeithio ar nifer o grwpiau ieuenctid Cymru sy'n trefnu arosiadau preswyl yng Nghymru. Nodwyd yr effeithiau andwyol posib ar ganolfannau'r Urdd ac ar incwm teuluoedd, yn ogystal â chyllidebau ysgolion.
6. Canfyddiadau o’r ymchwil
6.1 Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor i ddadansoddi effeithiau aneconomaidd ardollau ymwelwyr dramor. Nid oedd tystiolaeth ar gael o ymchwil desg helaeth ar effaith ardollau ymwelwyr yn ymwneud â phlant a phobl ifanc.
6.2 Nododd yr adroddiad fod dulliau amrywiol yn cael eu defnyddio mewn awdurdodaethau dramor, gyda chlytwaith o ryddhadau neu gyfraddau is yn cael eu cymhwyso yn seiliedig ar nodweddion amrywiol. Mae plant a phobl ifanc wedi'u heithrio neu'n destun cyfradd is mewn rhai cyrchfannau. Mae rhai ardaloedd yn cymhwyso'r ardoll ymwelwyr i blant a phobl ifanc, ond mae diffiniadau’n amrywio. Er enghraifft, gall rhyddhadau fod ar gyfer pobl 12 oed ac iau, 16 oed ac iau neu 18 oed ac iau neu amrywiadau eraill.
6.3 Mae cyfraddau treth deiliadaeth yn amrywio ar draws aelod-wladwriaethau'r UE a dinasoedd yr UE, gyda gwahanol seiliau treth, cyfraddau treth, a chyfraddau TAW ar lety mewn gwestai. Un enghraifft yw Barcelona – mae gan y ddinas a Chatalwnia dreth dwristiaeth sydd lle mae plant dan 16 oed yn esempt, ar yr amod eu bod yn gallu profi eu hoedran trwy ddogfennaeth swyddogol fel cerdyn adnabod neu basbort. Nid oes gennym system cardiau adnabod tebyg yn y Deyrnas Unedig.
Data arall
6.4 Yn 2022, roedd 48% o'r teithiau dros nos a gymerwyd yng Nghymru gan drigolion Prydain Fawr yn cynnwys plentyn neu blant ym mharti’r daith (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr, arolwg twristiaeth dros nos Cymru, adroddiad blynyddol: 2022). Nododd y data diweddaraf o’r arolwg Teithwyr Rhyngwladol fod plant o dan 16 oed i gyfrif am 3.4% o’r ymwelwyr rhyngwladol â'r DU yn Ch2 2022 (Ch2 2022 - Y Swyddfa Ystadegau Gwladol – Data Travelpac o'r Arolwg Teithwyr Rhyngwladol gan gynnwys data ar oedran a rhyw teithwyr, pwrpas a hyd y daith, a gwariant).
6.5 Mae arolwg Aelwydydd Islaw’r Incwm yr Adran Gwaith a Phensiynau yn casglu data ar blant sy'n profi amddifadedd materol o ran diffyg gwahanol eitemau a gwasanaethau. Mae data 2020-2021 yn dangos bod 27% o blant yn y DU mewn teuluoedd sydd eisiau o leiaf wythnos o wyliau oddi cartref gyda'r teulu ond na allant fforddio hynny
6.6 Fel y trafodwyd, byddai ardoll ymwelwyr yn ychwanegu at gost gwyliau teulu. Gall hyn wneud gwyliau i gyrchfannau sy'n cymhwyso ardoll ymwelwyr yn fwy anodd ei fforddio o'i gymharu â chyrchfannau nad ydynt yn cymhwyso ardoll. Fodd bynnag, penderfyniad awdurdod lleol yw cyflwyno ardoll ymwelwyr, ac nid yw'n cael ei orfodi ar draws Cymru. Felly, nid yw'n bosibl pennu a fyddai defnyddio ardoll ymwelwyr yn gwneud gwyliau i Gymru yn fwy anodd ei fforddio gan y gallai ymwelwyr ddewis aros mewn lleoliadau eraill yng Nghymru lle nad yw'r ardoll yn cael ei chodi neu leihau hyd eu harhosiad er mwyn lleihau'r gost ychwanegol, neu leihau gwariant ar agweddau eraill o’u taith.
7. Ymgysylltu â rhanddeiliaid
Plant yng Nghymru
7.1 Ymgysylltodd swyddogion yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc rhwng 11 ac 17 oed, gan ofyn am eu barn ar yr ardoll ymwelwyr trwy drafodaethau ac ymarferion chwarae rôl. Cynhyrchwyd animeiddiad digidol yn targedu pobl ifanc a roddwyd ar Sianel YouTube Llywodraeth Cymru i gyflwyno'r sesiwn.
7.2 Mynegodd plant a phobl ifanc yn y sesiwn y materion canlynol:
- Yr angen i'r ardoll ystyried rhyddhadau ar gyfer plant a phobl sy’n byw yng Nghymru.
- Dylai Llywodraeth Cymru ystyried arfer gorau o wledydd eraill.
- Roedd pryder am yr ymwelwyr llai abl i fforddio'r ardoll, fel y rhai o aelwydydd incwm isel.
- Roeddent hefyd yn awyddus i’r arian gael ei wario'n dryloyw ac iddo gael ei ailfuddsoddi mewn cymunedau lleol.
7.3 Ail-gysylltodd swyddogion â 28 o blant a phobl ifanc rhwng 11 a 18 oed mewn digwyddiad wyneb yn wyneb Plant yng Nghymru yn Llanwrtyd, ym mis Chwefror 2024. Roedd hyn yn fodd dan arweiniad a rhyngweithiol i bobl ifanc ddarganfod mwy am yr ardoll a mynegi barn ar sut roeddent yn meddwl y gallai'r ardoll effeithio arnyn nhw.
7.4 Bydd swyddogion yn trefnu ymgysylltu pellach ar ôl cyflwyno'r Bil.
7.5 Cododd y plant a’r bobl ifanc yn y sesiwn y pwyntiau canlynol:
- Ar y cyfan, roedd consensws o blaid cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru, gan bwysleisio y byddai tryloywder a gwelededd ynghylch yr ardoll yn hanfodol fel y gallai pobl weld ymhle roedd yr arian yn cael ei wario - a'i fod yn cael ei wario ar dwristiaeth, nid ar addysg er enghraifft. Pe bai'n cael ei ddefnyddio yn y ffordd iawn, byddai'r ardoll o fudd i gymunedau ac ymwelwyr.
- Pryderon y gallai'r ardoll annog teuluoedd ar incwm isel neu grwpiau mawr i beidio â mynd ar wyliau yng Nghymru neu ardaloedd awdurdodau lleol sy'n mabwysiadu'r ardoll.
- Pryderon y gallai busnesau gael eu heffeithio gan yr ardal leol yn denu llai o ymwelwyr.
- Gallai'r ardoll wella cyfleusterau a allai yn eu tro annog mwy o dwristiaid.
- Roedd anabledd gan un o’r cyfranogwr ac roedd ci therapi gyda hi. Roedd hi'n pryderu bod llety sy’n diwallu ei hanghenion hi eisoes yn ddrytach na llety arferol. Mae’r gost ychwanegol ar ei harhosiad yn teimlo’n annheg a byddai’n ‘brathu.’
- Awgrymodd un cyfranogwr y dylai’r ardoll fod yn destun prawf modd, ni ddylai pobl ar incwm is orfod talu’r un faint â phobl gyfoethog.
- Awgrymodd un cyfranogwr y dylai'r gyfradd fod yn uwch yn ystod yr adegau prysur, nid trwy gydol y flwyddyn.
- Y pethau cadarnhaol posibl a godwyd oedd y gellid defnyddio refeniw i wella cyfleusterau a gwasanaethau cyhoeddus fel toiledau cyhoeddus, yn enwedig cyfleusterau hygyrch a oedd yn aml ar gau y tu allan i'r tymor oherwydd diffyg arian.
- Argymhelliad y dylai'r cyfraddau fod yn uwch yn ystod y cyfnodau brig, nid drwy gydol y flwyddyn.
- Awgrymiadau na ddylai dinasyddion Cymru (pobl sy'n talu treth yng Nghymru) orfod ei dalu.
- Roedd nifer o'r farn na ddylai plant na phobl oedrannus orfod talu, ac y dylai'r rhai ar Gredyd Cynhwysol/budd-daliadau, myfyrwyr, a phobl anabl, hefyd fod yn esempt.
- Roeddent hefyd o’r farn y dylai'r digartref, Sipsiwn, Roma a Theithwyr, ffoaduriaid hefyd fod yn esempt rhag talu'r ardoll.
- Roedd un cyfranogwr yn teimlo y gallai ardoll helpu'r amgylchedd gan y gallai olygu mwy o deithiau am ddim ar fysiau mewn ardaloedd twristaidd. Mae trafnidiaeth gyhoeddus yn brin mewn ambell ranbarth a byddai mwy o arosfannau bysiau a bysiau yn beth da.
- Yn ôl adborth pellach, roedd tryloywder o ran ble mae arian yn cael ei wario yn hollbwysig, er mwyn sicrhau ei fod yn cael ei wario ar dwristiaeth. Os caiff ei ddefnyddio yn y ffordd gywir, byddai cymunedau’n elwa. Mae angen cyfathrebu'n glir sut mae refeniw yn cael ei wario.
Senedd Ieuenctid
7.6 Ar ôl ymgynghori, holodd swyddogion aelodau Senedd Ieuenctid Cymru ym mis Rhagfyr 2023. Roedd un ymateb yn awgrymu y gallai'r ardoll fod o ddefnydd i awdurdodau lleol, yn enwedig y rhai sy'n boblogaidd gyda thwristiaid. Awgrymwyd y gellid buddsoddi’r arian a godir gan yr ardoll i wella seilwaith, cyfleusterau ac atyniadau lleol, yn ogystal â diogelu bywyd gwyllt a'r amgylchedd. Roedd yr ymatebydd yn cydnabod bod twristiaeth yn cael effeithiau negyddol a chadarnhaol, gyda phroblemau’n cael eu hachosi gan or-dwristiaeth fel tagfeydd a difrod i'r amgylchedd ond ar yr un pryd roedd yn dda i fusnesau lleol.
7.7 Roedd yr ymatebydd yn teimlo y dylai pobl (o unrhyw oedran) dalu'r ardoll os oeddent yn ennill dros drothwy incwm penodol, ac y dylai pobl sy'n defnyddio trafnidiaeth breifat hefyd dalu, ond y dylai pobl sy’n defnyddio trafnidiaeth gyhoeddus (trên a bysiau) fod yn atebol am swm llai.
7.8 Fodd bynnag, nid oeddent yn meddwl y dylai pobl o Gymru, a oedd yn ymweld ag ardal arall o Gymru, dalu’r ardoll gan y dylai fod gan Gymry hawl i fwynhau popeth sy’n dda am eu gwlad eu hunain. Cynigiodd yr atebydd hefyd y dylai pensiynwyr sy’n ennill o dan drothwy penodol fod yn esempt.
Ystyried a yw unrhyw un o Hawliau Dinasyddion yr UE (fel y cyfeirir atynt yn yr Asesiad o'r Effaith ar Gydraddoldeb) yn ymwneud â phobl ifanc hyd at 18 oed
7.9 Ni ystyrir y bydd y Bil yn cael effaith benodol ar ddinasyddion yr UE, AEE neu'r Swistir (sydd â’u hawliau wedi'u diogelu gan y Cytundebau Hawliau Dinasyddion) o'i gymharu â phobl eraill sy'n byw yng Nghymru, gan gynnwys y rhai hyd at 18 oed.
8. Cyngor a phenderfyniad gweinidogol
Sut fydd eich dadansoddiad o'r effeithiau hyn yn llywio eich cyngor gweinidogol?
8.1 Y cyngor i weinidogion yw cyflwyno'r Bil yn hydref 2024, gyda chrynodeb o'r dadansoddiad a nodir ym Memorandwm Esboniadol y Bil. Mae'r CRIA wedi’i gytuno gan y Dirprwy Gyfarwyddwr Strategaeth Trethi a Chysylltiadau Rhynglywodraethol yn Nhrysorlys Cymru. Mae Gweinidogion wedi cytuno ar ganfyddiadau'r CRIA.
9. 9. Cyhoeddi'r CRIA
9.1 Bydd y CRIA yn cael ei gyhoeddi yn hydref 2024 ar wefan Llywodraeth Cymru.
10. Cyfathrebu gyda phlant a phobl ifanc
Os ydych wedi gofyn am farn plant a phobl ifanc ar eich cynnig, sut fyddwch yn rhoi gwybod iddynt am y canlyniad?
10.1 Roedd y cyfranogwyr am ddysgu mwy am yr ardoll ac awgrymwyd nifer o
ffyrdd y gallai Llywodraeth Cymru roi’r wybodaeth ddiweddaraf iddynt:
- Newyddion teledu e.e. Newsround
- Cyfryngau Cymdeithasol (hysbysebion YouTube)
- E-byst
- Gwefan/cyfryngau cymdeithasol y llywodraeth
- Senedd.tv
- Arolygon barn ac arolygon sy'n cynnwys y cysyniad
- Papurau newydd
- Hysbysebion Spotify – hysbysebion sain
- Podlediadau ar gyfer polisïau Llywodraeth Cymru
- Pobl i fynychu ysgolion i ddweud wrth y plant am y polisi
- Mynd yn ôl at Plant yng Nghymru pan mae'r polisi wedi'i gyhoeddi
- Cynhyrchu taflen wybodaeth gyda'r ffeithiau allweddol i egluro cynnwys y Bil, yn targedu plant a phobl ifanc
10.2 Wrth gyhoeddi'r asesiad effaith hwn ar wefan Llywodraeth Cymru, byddwn yn ysgrifennu at y Senedd Ieuenctid ac at Plant yng Nghymru. Byddwn yn dilyn hynny gydag ymgysylltiad i drafod cynnwys y Bil.
11. Monitro ac adolygu
Rhowch amlinelliad o ba fecanwaith monitro ac adolygu y byddwch yn ei roi ar waith er mwyn adolygu'r CRIA hwn
11.1 Mae'r ardoll ymwelwyr yn dreth leol. Yr awdurdodau lleol hynny sy'n dewis cyflwyno ardoll fydd yn gyfrifol am adolygu effaith yr ardoll yn eu hardal. Bydd yn ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi adroddiad blynyddol yn rhoi manylion ar sut mae’r cyngor wedi, neu’n bwriadu, defnyddio enillion yr ardoll ar gyfer y flwyddyn ariannol dan sylw, a sut mae’r defnydd hwnnw at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau yn ardal y cyngor.
11.2 Mae pennu amserlen ar gyfer adolygiad ôl-weithredu ffurfiol yn anodd oherwydd gall gymryd sawl blwyddyn i awdurdodau lleol gofrestru ar gyfer y cynllun. Felly, bydd gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun yn datblygu dros amser.
11.3 Nid yw'n bosibl pennu a fydd yr ardoll yn cael effaith ar nifer yr ymwelwyr, o ystyried yr ansicrwydd ynghylch pa awdurdodau lleol all ddefnyddio ardoll ymwelwyr a maint unrhyw ymateb ymddygiadol.
11.4 Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiad ar faint o refeniw a gynhyrchir o’r ardoll a gwybodaeth am sut y defnyddiwyd yr ardoll at ddibenion rheoli cyrchfannau cynaliadwy, bob blwyddyn.
11.5 Bydd swyddogion yn datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi arferion gorau a chyngor ar fonitro a gwerthuso effaith yr ardoll.
11.6 Bydd canlyniad y ddeddfwriaeth yn cael ei fonitro’n barhaus, drwy gyfuniad o ddulliau, gan gynnwys monitro economi Cymru a dangosyddion cyflenwad/galw. Defnyddio data sy’n bodoli eisoes a gasglwyd o arolygon perthnasol Croeso Cymru, Baromedr Twristiaeth a mwy o ymgysylltu gydag awdurdodau lleol a’r sector twristiaeth er mwyn deall effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth. Gall Gweinidogion Cymru adolygu’r cyfraddau pe bai effeithiau andwyol yn dod i’r amlwg.
11.7 Rhagwelir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn monitro ac yn adolygu effeithiolrwydd gweinyddu’r ardoll yn barhaus drwy ymgysylltu’n rheolaidd ag awdurdodau lleol a busnesau twristiaeth. Ochr yn ochr â hyn, byddant yn ystyried pa ddata y dylid ei adrodd, megis swm y refeniw a gesglir.
11.8 Bydd Llywodraeth Cymru yn gwerthuso effaith y ddeddfwriaeth ac yn monitro'n barhaus unrhyw effeithiau andwyol. Mae’n bosibl y caiff rheoliadau eu gosod yn y dyfodol pe bai effeithiau negyddol neu anghymesur yn dod i’r amlwg ac yn cael eu nodi.
11.9 Bydd swyddogion yn ailedrych ar y fersiwn cyhoeddedig o’u CRIA, a’i ailenwi fel adolygiad o'r CRIA gwreiddiol, ac yn diweddaru'r dystiolaeth o effaith. Byddai'r asesiad effaith a adolygwyd yn cael ei gyflwyno i’r Gweinidogion gydag unrhyw gynigion i ddiwygio'r polisi, yr arfer neu'r canllawiau. Byddai'r adolygiad CRIA hwn hefyd yn cael ei gyhoeddi.
12. Yn dilyn yr adolygiad hwn, a oes angen unrhyw ddiwygiadau i'r polisi neu ei weithrediad?
12.1 Bydd y canllawiau a ddatblygir yn cyd-fynd â’r rhwymedigaethau statudol presennol ar gyfer Awdurdod Lleol i roi ystyriaeth ddyledus i'w ddyletswyddau statudol i gynnal asesiadau o'r effaith ar gydraddoldeb o dan Ddeddf Cydraddoldeb 2010 a Dyletswydd Cydraddoldeb y Sector Cyhoeddus yng Nghymru a ddaeth i rym yn 2011. Bydd hyn yn cynnwys ‘ystyried sut mae ei bolisi yn bodloni gofynion Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ac yn cyfrannu'n benodol at yr amcanion o greu Cymru lewyrchus; Cymru sy'n fwy cyfartal; a Chymru o gymunedau cydlynus.’
12.2 Wrth weithredu ardoll, pe bai tystiolaeth o effeithiau negyddol yn cael eu gwireddu, gall Gweinidogion Cymru greu rhyddhadau newydd neu addasu'r rhyddhadau presennol.