Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru): asesiad effaith integredig
Asesiad effaith integredig o Fil sy'n rhoi'r dewis i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ar aros dros nos mewn llety ymwelwyr yn eu hardal.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Adran 1. Pa gamau y mae Llywodraeth Cymru yn eu hystyried a pham?
Ymrwymiad Llywodraeth Cymru
Mae Llywodraeth Cymru yn cyflwyno deddfwriaeth i alluogi awdurdodau lleol i gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal, ac mae hyn yn ymrwymiad sy’n cael blaenoriaeth yn y Rhaglen Lywodraethu. Bydd yr ardoll yn gyfraniad teg gan ymwelwyr ac yn cael ei chodi ar arosiadau dros nos mewn llety ymwelwyr. Bydd yn codi arian ychwanegol er mwyn i awdurdodau lleol ail-fuddsoddi yn y gwasanaethau cyhoeddus a’r seilwaith sy’n sicrhau bod twristiaeth yn llwyddiant. Bydd gan bob awdurdod lleol y pŵer i benderfynu cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ei ardal, sy’n golygu y bydd hon yn ardoll leol newydd wedi’i dylunio mewn ffordd sy’n gweithio i drigolion, busnesau ac ymwelwyr. Gellir dod o hyd i fanylion am y Bil.
O ran ei dyluniad, mae'r ardoll wedi'i chadw'n syml ond yn deg er mwyn helpu i leihau unrhyw effeithiau negyddol posibl; rydym yn rhagweld y bydd yn cael effaith gadarnhaol ar ardaloedd lleol sy'n dewis defnyddio ardoll drwy gynhyrchu refeniw i gefnogi ardaloedd lleol, a thrwy hynny wella enw da'r gyrchfan a chefnogi'r economi ymwelwyr.
Bydd cofrestr statudol o ddarparwyr llety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob llety ymwelwyr diffiniedig yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol.
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus ar y cynigion ar gyfer yr ardoll ymwelwyr rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022, a gellir dod o hyd i’r manylion a’r canlyniadau yma, ochr yn ochr ag ymchwil defnyddwyr i geisio barn trigolion Cymru adefnyddwyr gwyliau domestig yn y DU yma.
Mae'r asesiad effaith hwn yn ymwneud â'r Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) drafft a dylid ei ystyried ochr yn ochr ag ef.
Diffiniadau
Geiriau/ymadroddion allweddol
Diffiniad.
ACC
Ystyr ACC yw Awdurdod Cyllid Cymru, adran anweinidogol o Lywodraeth Cymru sydd ar hyn o bryd yn cyflwyno’r ddwy dreth ddatganoledig yng Nghymru: Treth Trafodiadau Tir a Threth Gwarediadau Tirlenwi.
Ad-daliadau
Pan fydd yr ardoll ymwelwyr wedi'i throsglwyddo i ymwelydd a bod y ddeddfwriaeth yn caniatáu iddynt gael ad-daliad.
Ardoll Ymwelwyr
Tâl ychwanegol a godir ar lety ymwelwyr dros nos. Cyfeirir at hyn hefyd mewn gwledydd eraill fel treth dwristiaeth, treth llety, neu dreth gwesty.
Awdurdod Lleol/ Awdurdodau Lleol
Y 22 Prif Gyngor yng Nghymru, y cyfeirir atynt hefyd fel Awdurdodau Unedol.
Cyfraddau Sero
Arhosiad mewn llety ymwelwyr ag ardoll ar gyfradd o £0.
Darparwr Llety Ymwelwyr
Person/ busnes sy’n darparu neu’n cynnig darparu llety i ymwelwyr mewn safleoedd yng Nghymru wrth fasnachu neu gynnal eu busnes.
Esemptiadau
Mathau o lety na fydd yn destun ardoll ymwelwyr.
Llety Ymwelwyr
Llety i ymwelwyr sy'n cael ei ddiffinio yn y Bil sy'n ddarostyngedig i gofrestru fel darparwr llety i ymwelwyr.
Twristiaeth gynaliadwy
Twristiaeth sy’n rhoi ystyriaeth lawn i’w heffeithiau economaidd, cymdeithasol ac amgylcheddol nawr ac yn y dyfodol, gan fynd i’r afael ag anghenion ymwelwyr, y diwydiant, yr amgylchedd a’r cymunedau sy’n croesawu ymwelwyr. (Sefydliad Twristiaeth y Byd y Cenhedloedd Unedig).
Ymwelydd
Person sy'n aros mewn llety ymwelwyr.
Llinell amser ddangosol
2024 Cyflwyno
Cyflwyno'r bil llety ymwelwyr i'w graffu gan y Senedd. Cyhoeddi'r Asesiadau Effaith.
2025 Senedd yn pleidleisio
Os yw'r bil yn pasio, cael Cydsyniad Brenhinol.
2025 Disgresiwn lleol
Awdurdod lleol yn gallu dechrau ymgynhori'n lleol ac asesu effaith ardoll ymwelwyr.
2026 Cyfnod rhybudd
Cyfnod rhybudd tebygol o 12 mis os yw awdurdod yn penderfynu cyflwyno ardoll.
2026 Cofrestru
Darparwyr llety'n dechrau cofrestru mewn ardaloedd fydd yn cyflwyno'r ardoll.
2027 Gweithredu
Dyddiad dangosol cyflwyno'r ardoll gan awdurdod lleol.
Atal a'r hirdymor
Mae twristiaeth yn dod ag effeithiau cadarnhaol a negyddol. Er enghraifft, mae twristiaeth yn darparu budd drwy ddarparu swyddi, gyrfaoedd, twf economaidd, cyfleoedd addysgol a chadwraeth safleoedd a henebion hanesyddol. Mae'n cynrychioli cyfraniad economaidd i economi Cymru o Werth Ychwanegol Gros (GYG) amcangyfrifedig o £3.8 biliwn (neu 5.1% o gyfanswm YGG ar draws Cymru) yn 2022 (Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2024). Mae twristiaeth yn cyfrannu'n sylweddol at yr economi yng Nghymru. Roedd dros 69 miliwn o ymweliadau â Chymru yn 2023 yn cynrychioli gwariant cyfunol o dros £4.95 biliwn. Roedd 8.65 miliwn o'r ymweliadau hyn yn arosiadau dros nos yn cynrychioli gwariant o £2.02 biliwn (Ystadegau twristiaeth ddomestig Prydain Fawr (tripiau dros nos): 2022 i 2023 (diwygiedig) a Ymweliadau a gwariant gan ymwelwyr rhyngwladol â Chymru).
Fodd bynnag, mae cost gysylltiedig i’r cymunedau lleol hynny sy’n croesawu ymwelwyr. Gall ymwelwyr greu pwysau ychwanegol ar wasanaethau lleol a seilwaith a rennir â phreswylwyr. Cydnabyddir yn eang bod twristiaeth yn cael effeithiau negyddol yn fyd-eang, megis costau amgylcheddol gyda gor-ecsbloetio'r amgylchedd naturiol (Applying principles of circular economy to sustainable tourism a The biodiversity implications of changes in coastal tourism due to climate change), a chostau cymdeithasol a achosir gan brinder cyflenwadau tai wrth i gartrefi gael eu prynu fel ail gartrefi gan ymwelwyr (Gwaith ymchwil ar ail gartrefi: crynodeb o’r adolygiad o’r dystiolaeth).
Mae'r Bil hwn yn ceisio darparu cyfleoedd newydd ar gyfer buddsoddi ar lefel leol trwy ddarparu refeniw ychwanegol i helpu i reoli twristiaeth. Bydd yn grymuso awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau yn unol ag anghenion eu cymunedau dros yr hirdymor.
Integreiddio
Yn ystod hinsawdd economaidd arbennig o heriol yn dilyn pandemig byd-eang ac argyfwng costau byw, mae pwysau’n dal i fod ar wasanaethau lleol yng Nghymru. Byddai ardoll ymwelwyr yn sicrhau bod cyfraniad yn cael ei dalu gan ymwelwyr y gellir ei ail-fuddsoddi yn yr ardaloedd lleol hynny. Bydd hyn yn helpu i gynnal gwasanaethau a seilwaith lleol ac yn helpu meithrin ymdeimlad o gyfrifoldeb ar y cyd rhwng preswylwyr ac ymwelwyr, i ddiogelu, a buddsoddi mewn ardaloedd lleol. Bydd hyn yn annog dull mwy cynaliadwy o ymdrin â thwristiaeth a rheoli cyrchfannau.
Mae yna lawer o enghreifftiau’n fyd-eang , sy'n dangos sut mae ardoll ymwelwyr yn cael ei defnyddio i gynhyrchu arian sy'n cefnogi mannau gwyrdd, strydoedd taclus, gwasanaethau i ymwelwyr, cymunedau lleol, cadwraeth tirnodau, a thrafnidiaeth gyhoeddus. Er enghraifft, ers 2016, mae Ynysoedd Baleares wedi bod â Threth Gynaliadwy (ITS) i ariannu 'cronfa ar gyfer hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy'. Mae ITS wedi ariannu 168 o brosiectau hyd at eu cwblhau, gyda chyfanswm gwerth €263 miliwn a chymeradwywyd 27 o brosiectau newydd yn 2023 gyda chyfanswm gwerth o €138 miliwn (Sustainable Balearic Islands). Mae prosiectau a ariannwyd yn ymwneud ag amrywiaeth eang o faterion, gan gynnwys yr amgylchedd, twristiaeth gynaliadwy, treftadaeth ddiwylliannol, ymchwil wyddonol, hyfforddiant a chyflogaeth, a rhentu cymdeithasol. Gallai prosiectau a ariennir gan ardoll ymwelwyr yng Nghymru anelu at ddiogelu tirweddau sensitif a gwerthfawr yn ecolegol; uwchraddio llwybrau ac arwyddion amwynderau ymwelwyr; diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl; gwella mynediad i ymwelwyr drwy agor meysydd parcio newydd, llwybrau cerdded a beicio sy'n cefnogi amcanion twristiaeth ac amgylcheddol ehangach.
Aeth pwyd â'r ardoll ymwelwyr ymlaen fel rhan o’r Cytundeb Cydweithio rhwng Llywodraeth Cymru a Phlaid Cymru o Dachwedd 2021 i Fai 2024. Roedd hyn yn cynnwys llunio'r polisi, ymgynghori, a'r dull cyffredinol o weithio tuag at ein cynigion.
Cydweithio a chyfranogiad
Mae ymgysylltu â phartneriaid a rhanddeiliaid wedi bod yn hanfodol ar gyfer datblygu'r ddeddfwriaeth hon. Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu'n eang yn fewnol ac yn allanol er mwyn sicrhau bod safbwyntiau wedi'u clywed gan ystod eang o randdeiliaid ar effeithiau posibl yr ardoll, boed hynny'n uniongyrchol neu'n anuniongyrchol.
Yn y cyfnod cyn yr ymgynghoriad, bu swyddogion yn ymgysylltu'n helaeth ag awdurdodau lleol, darparwyr lletygarwch a llety trwy Grŵp Cyfeirio Busnes, Fforymau Twristiaeth Ranbarthol a’r Fforwm Economi Ymwelwyr. Cyfarfu swyddogion â llwyfannau archebu ar-lein, Parciau Cenedlaethol, sefydliadau trydydd sector a gweinyddiaethau mewn gwledydd eraill sydd wedi sefydlu ardollau ymwelwyr.
Yn ogystal â phedwar digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb ledled Cymru a digwyddiad rhithwir, lansiwyd ymgyrch ymwybyddiaeth ynghyd â'r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhannu gwybodaeth ac annog cyfranogiad. Roedd y gweithgaredd yn cynnwys rhannu cynnwys ar sianeli cyfryngau cymdeithasol corfforaethol Llywodraeth Cymru, Trysorlys Cymru a Croeso Cymru, blog gan Lywodraeth Cymru a dwy ffilm ddigidol gydag un yn targedu pobl ifanc. Cyhoeddwyd erthyglau yn y cyfryngau lleol, a rhannwyd galwad i weithredu trwy gylchlythyrau Llywodraeth Cymru a rhanddeiliaid er mwyn denu’n nifer mwyaf o ymatebion.
Sefydlwyd gweithgor ardoll ymwelwyr er mwyn deall effeithiau gweithredu ardoll. Roedd y grŵp yn cynnwys cymysgedd o gynrychiolwyr o awdurdodau lleol, darparwyr llety ymwelwyr, Parciau Cenedlaethol, arbenigwyr treth annibynnol a chyrff sy'n cynrychioli twristiaeth. Canolbwyntiodd y gweithgor y trafodaethau er mwyn helpu i ddatblygu'r canllawiau ar gyfer gweithredu'r ardoll.
Darperir Atodiad sy’n nodi ein gweithgarwch ymgysylltu gyda’r ddogfen hon. Mae’n nodi'r rhai yr ydym wedi ymgysylltu â hwy’n benodol mewn meysydd er mwyn gwella ein dealltwriaeth o'r effeithiau posibl, fel rhan o ddatblygu’r asesiad effaith integredig.
Effeithiau
Diben cyffredinol y Bil yw rhoi pŵer i awdurdodau lleol fabwysiadu ardoll ymwelwyr, a defnyddio'r refeniw a gynhyrchir i wella'r gwasanaethau a'r seilwaith lleol yn eu hardal. Bydd cofrestr statudol o lety ymwelwyr, sy’n cynnwys pob darparwr llety ymwelwyr yng Nghymru, yn cefnogi cyflwyno ardoll ymwelwyr ac yn galluogi gwell dealltwriaeth o’r sector er mwyn helpu i lywio ymyriadau polisi yn y dyfodol. Bydd hyn yn:
- Sicrhau rhaniad mwy cyfartal o'r costau ar gyfer ariannu gwasanaethau a seilwaith lleol sydd o fudd i ymwelwyr rhwng poblogaethau preswylwyr ac ymwelwyr.
- Rhoi’r gallu i awdurdodau lleol gynhyrchu refeniw ychwanegol y gellir ei fuddsoddi'n ôl mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n cefnogi twristiaeth.
- Cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer twristiaeth gynaliadwy yn uniongyrchol.
Mae unrhyw effeithiau negyddol posibl (anuniongyrchol) a allai godi o gyflwyno'r ddeddfwriaeth yn cael eu harchwilio'n fanylach o adran 2 yr asesiad hwn a'r asesiadau effaith unigol a gyhoeddir ochr yn ochr â'r asesiad effaith integredig hwn.
Costau ac arbedion
Mae gan fabwysiadu ardoll ymwelwyr gostau cysylltiedig, ond yn gyffredinol, y bwriad yw cynhyrchu refeniw ychwanegol ar gyfer gwneud gwelliannau i'r ardaloedd hynny sy'n mabwysiadu ardoll. Datblygwyd Asesiad Effaith Rheoleiddiol i gyd-fynd â'r Bil, gan gynnwys ynglŷn â'i oblygiadau costau ac arbedion i Lywodraeth Cymru, awdurdodau lleol, Awdurdod Cyllid Cymru, darparwyr llety ymwelwyr, ymwelwyr a phreswylwyr.
Mecanwaith
Mae deddfwriaeth sylfaenol yn angenrheidiol er mwyn cyflawni'r cynigion a nodir uchod.
Adran 2. Beth fydd yr effaith ar les cymdeithasol?
2.1 Pobl a chymunedau
Mae pob ymwelydd â chyrchfan yn gost i'r ardal leol. Bydd ymwelwyr yn penderfynu ble i aros yn seiliedig ar eu cyllidebau a'u hanghenion. Mae ardoll ymwelwyr yn gost ychwanegol i ymwelwyr sy'n aros petai busnesau'n pasio'r gost gyffredinol ymlaen. Rydym o'r farn y bydd pob ymwelydd yn cael effaith ar ardal, ac felly rydym wedi lleihau unrhyw ryddhadau, ac eithrio mewn amgylchiadau lle gwnaethom asesu y byddai eu cynnwys yng nghwmpas yr ardoll yn anghymesur.
Codwyd pryderon drwy gydol yr ymgynghoriad y gallai'r polisi fod yn annheg i'r rhai sy'n aros mewn llety cost is. Gallai trethi uwch atal teithwyr sydd ar gyllideb neu unigolion sydd ag incwm is rhag ymweld ag ardaloedd sy'n mabwysiadu ardoll, gan godi pryderon o bosibl am degwch a chynwysoldeb. Fodd bynnag, mae'r ardoll wedi'i chynllunio gyda dwy gyfradd a fydd yn cael eu cymhwyso fesul person y noson. Y gyfradd sylfaenol fydd £1.25 ar gyfer y rhan fwyaf o fathau o lety a bydd cyfradd is ar gyfer hosteli a safleoedd gwersylla o £0.75. Mae ychwanegu cyfradd is yn cydnabod bod cost y mathau hyn o lety yn is o gymharu ag eraill.
Er mwyn lleihau'r risg i'r ardoll ddod yn rhwystr i bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol sy'n mynd ar wyliau yng Nghymru, gall Gweinidogion Cymru asesu a newid y cyfraddau a nodir yn y ddeddfwriaeth.
Y bwriad yw y bydd y refeniw o'r ardoll yn helpu i liniaru unrhyw effeithiau andwyol drwy ddarparu buddion o welliannau i'r ardal leol, trwy ddefnyddio'r refeniw i helpu i gynnal ac adfywio'r gwasanaethau a'r seilwaith lleol. Er enghraifft, gallai refeniw ychwanegol ariannu mentrau trafnidiaeth lleol, gan wella cysylltiadau rhwng cymunedau a fyddai o fudd i drigolion ac ymwelwyr.
Bydd y gofrestr gyhoeddus yn darparu gwybodaeth er mwyn i ymwelwyr fedru gwirio a yw’r math o lety y maent yn bwriadu ei archebu ar gyfer arhosiad dros nos mewn ardal sy’n destun ardoll ymwelwyr (a allai olygu y bydd darparwr yn codi tâl ychwanegol arnynt), mewn ardal heb ardoll (sy’n golygu na ddylai’r darparwr godi unrhyw gost ychwanegol arnynt mewn perthynas ag ardoll ymwelwyr), neu’n destun ymgynghoriad i gyflwyno’r ardoll (sy’n golygu efallai y bydd tâl ychwanegol yn cael ei godi erbyn i’r archeb ddod i rym). Byddai'r wybodaeth hon yn helpu i ennyn ymddiriedaeth a rhoi sicrwydd ynglŷn ag unrhyw dâl ardoll ymwelwyr y mae darparwr yn ei godi ar ymwelydd fel rhan o'i arhosiad dros nos.
2.2 Hawliau plant
Mae'n ofynnol i Weinidogion roi sylw dyledus i Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn wrth arfer unrhyw un o'u swyddogaethau. Mae'r Asesiad o’r Effaith ar Hawliau Plant (CRIA) yn ystyried effaith y Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) ar blant a phobl ifanc yng Nghymru a'u hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn (CCUHP).
Mae canlyniad ein hasesiad ar hawliau plant yn dangos nad oes unrhyw effeithiau negyddol uniongyrchol yn deillio o'r ardoll. Rydym yn rhagweld effaith gadarnhaol ar blant a phobl ifanc o gynhyrchu refeniw ychwanegol, y gall awdurdodau lleol ei ddefnyddio i wella'r gwasanaethau a'r seilwaith lleol yn eu hardal. Gellid defnyddio’r refeniw i wella ystod o amwynderau a fydd o fudd i breswylwyr ac i ymwelwyr. Gallai fod potensial ar gyfer effeithiau negyddol ar blant a phobl ifanc o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is oherwydd y cynnydd mewn costau ar gyfer aros dros nos os caiff yr ardoll ei phasio ymlaen - gan gynnwys teithiau addysgol neu chwaraeon o fewn yr awdurdodau lleol hynny sy'n cyflwyno ardoll. Rydym yn cydnabod y bydd ymwelwyr yn ystyried eu cyllideb a fforddiadwyedd wrth gynllunio’u hymweliad ag ardal ac efallai y byddant yn addasu eu patrymau gwariant a'u hymddygiad mewn ymateb i ardoll.
Byddai teithiau preswyl ysgol a drefnir gan ysgolion, chwaraeon, clybiau cymdeithasol a/neu ddarparwyr addysgol eraill, yn destun ardoll ymwelwyr pe bai'r daith yn digwydd mewn ardal awdurdod lleol sy'n codi ardoll. Os bydd darparwr yn dewis trosglwyddo'r costau ardoll i'r ymwelydd, yna mae'r tâl yn rhan o gost yr arhosiad fel ag y mae pob rhan arall o'r gost. Mae canllawiau penodol y mae'n rhaid i ysgolion eu hystyried wrth drefnu tripiau ysgol sy'n amlygu ffaith bod yn rhaid ystyried fforddiadwyedd ac y gallai'r rhai sy'n derbyn budd-daliadau penodol fod yn gymwys i gael cymorth ariannol (Codi tâl am weithgareddau ysgol: canllawiau ar gyfer cyrff llywodraethu a phenaethiaid).
Mae arosiadau gan fyfyrwyr mewn llety myfyrwyr, neuaddau preswyl neu lety preswyl, er enghraifft, y rhai sy'n preswylio mewn ysgolion preifat neu mewn addysg uwch amser llawn yn y Brifysgol neu sefydliadau addysg drydyddol eraill, yn cael eu hystyried yn esempt.
Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried effeithiau posibl a chynnal ymgynghoriad i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio ardoll ymwelwyr.
Darperir dolen i’r asesiad o’r effaith ar hawliau plant yma ac mae’n rhoi dadansoddiad manylach o'n hasesiad yn erbyn erthyglau CCUHP neu brotocolau dewisol sy'n ymwneud â'n deddfwriaeth arfaethedig.
2.3 Cydraddoldeb
Cynhaliwyd yr asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb er mwyn ystyried effeithiau posibl y ddeddfwriaeth ar bobl sydd â nodweddion gwarchodedig fel y disgrifir yn Neddf Cydraddoldeb 2010.
Mae ein hystyriaeth o effeithiau posibl y Bil ar bobl sy'n rhannu nodweddion gwarchodedig wedi nodi bod y darpariaethau'n annhebygol o effeithio'n uniongyrchol ar bobl ar sail nodweddion gwarchodedig.
Mae ein hystyriaeth o'r effaith ar bobl anabl yn un ardal lle gall costau fod yn uwch, gan fod tystiolaeth yn awgrymu mewn rhai senarios y gallai pobl anabl wynebu costau uwch am aros mewn llety i ymwelwyr (Cost of living for people with disabilities). I bobl anabl, gall archebu gwyliau arwain at gostau ychwanegol (Disabled people's costs of living) oherwydd diffyg ystafelloedd hygyrch, dod o hyd i lety hygyrch a fforddiadwy ac opsiynau trafnidiaeth, yn enwedig mewn ardaloedd gwledig ac anghysbell, ac yn ystod y tymhorau brig (Drws ar Glo: Datgloi bywydau a hawliau pobl anabl yng Nghymru ar ôl COVID-19 a Disability Price Tag 2023: the extra cost of disability). Fodd bynnag, mae pob darparwr llety ymwelwyr yn ddarostyngedig i'r Ddyletswydd Cydraddoldeb a rhaid iddynt sicrhau bod eu llety yn hygyrch (oni bai bod rhesymau pam nad yw hyn yn bosibl - er enghraifft oherwydd statws adeilad rhestredig).
Ystyriwyd a ddylai pobl anabl sydd angen gofalwr i ofalu amdanynt a rhoi cymorth iddynt er mwyn hwyluso ymweliad orfod talu’r ardoll. O ganlyniad, bydd y Bil yn penodi ACC i roi ad-daliadau i berson anabl sy'n derbyn budd-dal anabledd cymwys sydd wedi talu ardoll ymwelwyr tra’n aros mewn llety ymwelwyr pan fydd yng nghwmni gofalwr.
Mae swyddogion wedi ymgysylltu â chynrychiolwyr o Anabledd Cymru, Autistic UK, Grwpiau Mynediad yng Nghymru, Gofalwyr Cymru a'r Ymddiriedolaeth Gofalwyr a byddant yn parhau i ymgysylltu â chynrychiolwyr y diwydiant twristiaeth, awdurdodau lleol ac Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) i weithio trwy unrhyw heriau wrth weithredu'r ardoll. Fel y nodir yn yr asesiad hwn, mae'n ofynnol i awdurdodau lleol gyhoeddi asesiad effaith lleol sy'n gwerthuso effeithiau posibl eu cynnig ar gymunedau a busnesau yn eu hardal, fel rhan o'u gofynion ymgynghori. Yn ogystal, os daw tystiolaeth i’r amlwg sy'n dangos bod rhai grwpiau’n cael eu heffeithio'n anghymesur gan yr ardoll, bydd Gweinidogion Cymru yn gallu cyflwyno esemptiadau neu ryddhadau newydd neu addasu rhai sy'n bodoli eisoes, i unioni hyn.
Mae asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb llawn hefyd wedi'i gyhoeddi ac mae ar gael yma.
2.4 Prawfesur gwledig
Gall twristiaeth wledig fod o fudd i gymunedau lleol drwy ddarparu ffynhonnell incwm atodol i'r sectorau ffermio a gwasanaeth drwy gyfle i wireddu gwerth economaidd cynhyrchion o ansawdd uchel a gynhyrchir yn lleol, treftadaeth a hunaniaeth. Mae'r buddion hyn yn arwain at dwf economaidd gyda ffynonellau incwm a chyflogaeth newydd yn cael eu creu trwy dwristiaeth.
Amlygodd Asesiad Effaith Prawfesur Gwledig faterion yn ymwneud â chysylltedd digidol a'r potensial i'r ardoll effeithio mwy ar fusnesau micro i fach. Cydnabyddir bod darparwyr llety ymwelwyr yn fwy tebygol o fod yn fusnesau bach, neu ficrofusnesau (Arolygon deiliadaeth llety twristiaeth Cymru: Ionawr i Fawrth 2023) ac felly, y gall y gweinyddu sy’n gysylltiedig â’r ardoll, gan gynnwys gwneud cais i gofrestru, fod yn fwy beichus i’r busnesau hyn, yn enwedig y rhai sydd â systemau cyfrifyddu llai soffistigedig. Efallai y bydd angen i fusnesau ddiweddaru eu systemau digidol er mwyn gwneud cais a chynnal eu manylion cofrestru ac ystyried prosesau newydd ar gyfer ffeilio a chyflwyno ffurflenni ar gyfer gweinyddu ardoll ymwelwyr yn effeithiol. Mae hyn yn faich gweinyddol ychwanegol i'r busnesau hyn; mae'r baich hwn yn cynyddu i'r busnesau hynny sydd â llai o allu digidol. Fodd bynnag, mae'r ardoll yn syml o ran ei dyluniad ac mae'n debygol y bydd y baich, gan gynnwys y broses gofrestru, yn fach gan ein bod wedi rhoi de minimis ar waith i alluogi'r rhan fwyaf o fusnesau bach i lenwi a dychwelyd y ffurflen ardoll yn llai aml (bob blwyddyn yn hytrach nag yn chwarterol) i Awdurdod Cyllid Cymru (ACC).
Mae asesiad effaith prawfesur gwledig llawn hefyd wedi'i gyhoeddi ac mae ar gael yma.
2.5 Iechyd
Nid oes tystiolaeth benodol o effaith ardollau ymwelwyr ar ddimensiwn iechyd. Mae Llyfr Gwyrdd Trysorlys ei Fawrhydi yn nodi mai trosglwyddiad adnoddau o un parti i’r llall yw trethu, ac felly nad yw’n gwneud cymdeithas yn well nac yn waeth ei byd yn gyffredinol. Nid yw trethu ynddo'i hun yn cael unrhyw effaith uniongyrchol ar iechyd, fodd bynnag, rydym wedi ystyried effeithiau eilaidd pe bai trethu’n ysgogi newid ymddygiadol.
Mae ein hasesiad o’r effaith ar iechyd yn canolbwyntio'n llwyr ar barth effeithiau iechyd sy'n deillio o golli galw net o ddefnyddio ardoll ymwelwyr neu enillion o fuddsoddi'r refeniw hynny yn ôl i'r cynnig twristiaeth. Yn ogystal, mae'r ffocws ar breswylwyr ac iechyd y cyhoedd. Nid yw'r effeithiau ar iechyd ymwelwyr yn cael eu hystyried mewn unrhyw fanylder gan fod twristiaeth yn amnewidiadwy. Nid yw ardoll yn lleihau gallu ymwelydd i gael amser hamdden neu wyliau gan eu bod yn penderfynu ble a phryd i ymweld yn unol â'u cyllidebau a pha weithgareddau y maent yn eu gwneud mewn cyrchfan. Gan fod amrywiadau eisoes ym mhrisiau cyrchfannau, ni ystyrir y byddai ardoll yn atal ymwelwyr domestig y DU o ran eu gallu i deithio. Felly, nid oes unrhyw effaith ar iechyd ymwelwyr.
2.6 Preifatrwydd
Mae Asesiad o’r Effaith ar Ddiogelu Data wedi’i gynnal gan fod y Bil yn cyflwyno proses newydd o gasglu a phrosesu data personol a data categori arbennig. Mae’r Bil yn cyflwyno ardoll ymwelwyr yn ôl disgresiwn y gall awdurdodau lleol ddewis ei gweithredu. Mae’r Bil hefyd yn ei gwneud yn ofynnol i bob darparwr llety i ymwelwyr gofrestru.
Bydd y pwerau cofrestru yn un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru, a fydd yn gallu trosglwyddo’r swyddogaethau hynny i sefydliad arall eu gweithredu. Bydd y gofrestr yn cynnwys manylion personol am y darparwr a’r math o lety ymwelwyr, i gefnogi ACC gyda’r gwaith o gasglu a gweinyddu’r ardoll ymwelwyr. Bydd rhan o'r gofrestr ar gael i'r cyhoedd, er mwyn tryloywder gwybodaeth i ymwelwyr. Bydd cyflwyno’r gofrestr yn weithredol yn destun sgrinio pellach o'r effeithiau ar ddiogelu data.
Bydd yr ardoll ymwelwyr yn cael ei chasglu a’i rheoli’n ganolog fel un o swyddogaethau Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ar ran awdurdodau lleol. Bydd hyn yn gofyn am ddata cyfun gan dalwyr ardoll ar nifer yr ymwelwyr sy'n aros, i gefnogi gweithgareddau cydymffurfiedd. Ochr yn ochr â hyn bydd gan ACC bwerau i ymchwilio i dalwyr ardoll. Lle bo angen, er enghraifft, er mwyn atal twyll, efallai y bydd angen i ACC brosesu rhywfaint o ddata categori arbennig. Bydd ACC yn rheoli'r data ardoll ymwelwyr yn ddiogel i ddiogelu gwybodaeth talwyr ardoll fel y mae ar gyfer ei drethi presennol. Er mwyn sicrhau hyn, bydd ACC yn cyflwyno eu hasesiad eu hun o’r Effaith ar Ddiogelu Data.
Mae asesiad o’r effaith ar ddiogelu data llawn wedi'i gyhoeddi ac mae ar gael yma.
Adran 3. Beth fydd yr effaith ar les diwylliannol a'r iaith gymraeg?
Lles diwylliannol
Nod Deddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015 ar gyfer diwylliant yw:
Cymdeithas sy'n hyrwyddo ac yn gwarchod diwylliant, treftadaeth a'r Gymraeg ac sy'n annog pobl i gyfranogi yn y celfyddydau, chwaraeon a gweithgareddau hamdden.
Yn gyffredinol, ystyrir bod rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol gyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal a buddsoddi'r refeniw a gynhyrchir mewn gwasanaethau a seilwaith lleol yn gwella lles diwylliannol. Y tu hwnt i hyn, nid ystyrir bod darpariaethau'r Bil yn effeithio'n negyddol ar les diwylliannol.
O lond llaw o astudiaethau achos (Tourism taxes by design), mae'n amlwg y gall refeniw o ardollau ymwelwyr wneud gwahaniaeth cadarnhaol i waith cyrchfannau o ran cadwraeth natur, adfer treftadaeth ddiwylliannol, a helpu i ariannu prosiectau cymdeithasol a chymunedol. Er bod ardollau ymwelwyr yn aml yn bwnc trafod llosg, mae tystiolaeth bod parodrwydd i dalu (PiD) ymhlith defnyddwyr yn gymharol uwch os yw diben y dreth a'r defnydd o refeniw yn dryloyw ac yn ystyrlon (Tourists' willingness to pay to improve sustainability and experience at destination).
Mae nifer o atyniadau diwylliannol Cymru yn rhad ac am ddim. Er enghraifft, mae mynediad i 101 o'r 130 o safleoedd treftadaeth a reolir gan Cadw (Gwasanaeth amgylchedd hanesyddol Llywodraeth Cymru) yn rhad ac am ddim. Felly, os bydd yr ardoll yn newid gwariant cyffredinol ymwelwyr â Chymru yn ystod eu hymweliad, efallai y bydd yr effaith ar bresenoldeb yn y sefydliadau hyn yn niwtral, neu hyd yn oed yn gadarnhaol.
Fodd bynnag, gallai'r gost uwch i ymwelwyr olygu eu bod yn gwario llai ar y cynnig twristiaeth ehangach, a allai leihau’r ymgysylltiad ag atyniadau y telir amdanynt. Gall hyn fod yn arbennig o wir i'r rhai sydd mewn cartrefi incwm isel, sydd eisoes yn dweud bod cost yn rhwystr rhag ymgysylltu â diwylliant (Archwilio'r berthynas rhwng diwylliant a llesiant). Efallai y bydd effeithiau hefyd ar deithiau addysgol, er enghraifft ymweliadau ag Eisteddfodau. Rydym yn bwriadu lliniaru'r effeithiau hyn drwy sicrhau bod yr ardoll yn gymesur o ran ei dyluniad, sy'n golygu nad yw llawer o ymwelwyr yn debygol o weld effaith ariannol fawr.
Fodd bynnag, y bwriad yw y bydd yr ardoll yn darparu ffynhonnell incwm ychwanegol ar gyfer buddsoddiad cyhoeddus sy'n galluogi'r amodau hynny sy'n gwneud twristiaeth yn llwyddiannus yng Nghymru. Gan ddibynnu ar sut mae awdurdod lleol yn penderfynu ymhle i wario'r refeniw, gellid ei gyfeirio at weithgareddau a phrosiectau sy'n hyrwyddo'r diwylliant a'r dreftadaeth leol. Yn ogystal, disgwylir i awdurdodau lleol ymgynghori â'u cymunedau ynghylch ble mae'r arian yn cael ei wario a monitro effeithiau'r ardoll ar ôl cyflwyno unrhyw ardoll yn yr ardal leol.
3.2 Y Gymraeg
Gallai’r Gymraeg gael ei heffeithio’n negyddol yn anuniongyrchol os yw’r ardoll yn atal ymwelwyr rhag dod i Gymru, yn enwedig y rhai sydd â diddordeb yn yr iaith a'r diwylliant Cymraeg. Gallai effeithiau ar y Gymraeg hefyd ymddangos os yw'r ardoll yn lleihau cystadleurwydd a phroffidioldeb y sector twristiaeth, sy'n cyflogi siaradwyr Cymraeg, gan gynnwys yr ymwelwyr hynny rhag cynnal ymweliadau addysgol â chyrchfannau yng Nghymru. Pe bai ardaloedd awdurdodau lleol sy'n defnyddio ardoll ymwelwyr yn gyrchfannau sy'n darparu cyfleoedd i ymgymryd ag ymweliadau addysgol drwy gyfrwng y Gymraeg, yna gallai hyn gael effaith andwyol pe bai'r gost ychwanegol i ymwelwyr yn eu hatal rhag ymweld.
Mae unrhyw effeithiau dadleoli'r ardoll yn cyfeirio at y posibilrwydd o golled bosibl o ran y galw am dwristiaeth mewn un ardal ond cynnydd mewn ardal arall. Nid yw'n bosibl canfod union newid mewn ymddygiad gan y bydd hyn yn debygol o fod yn fwy cynnil na dim ond colled o ran y galw. Mae'n debygol y bydd effaith fach iawn/dim effaith fesuradwy oherwydd yr ardoll ar y defnydd o'r Gymraeg heblaw sylweddoli efallai y byddai llai o gyfleoedd i ddefnyddio'r Gymraeg petai colled o ran y galw. Nid oes tystiolaeth yn dangos y byddai pobl yn gadael eu cymunedau oherwydd ardoll ymwelwyr.
Mae’r Gymraeg yn ganolog i fywyd a diwylliant Cymru. Mae’r ardoll yn dangos cysylltiad clir â Thema 3 Cymraeg 2050, y gallai’r refeniw gefnogi creu a chynnal amodau ffafriol i'r Gymraeg. Gallai'r refeniw a godir gael ei ddefnyddio i gefnogi'r buddion a gynigir i ddiwylliant Cymru gan dwristiaeth; er enghraifft, mae'r economi ymwelwyr yn cynnig cyfle i bobl ifanc sy'n siarad Cymraeg weithio yn eu cymunedau, a chyfle i ymwelwyr ddysgu am a mwynhau diwylliant, cerddoriaeth a'r iaith Gymraeg. Gallai'r ardoll felly gefnogi'r diwydiant twristiaeth a chyfleoedd cyflogaeth neu fentrau mewn rhanbarthau Cymraeg eu hiaith.
Cyhoeddwyd asesiad o’r effaith ar y gymraeg llawn ac mae ar gael yma.
Adran 4. Beth fydd yr effaith ar les economaidd?
Mae cefnogi twf yn economi Cymru, a thrwy hyn drechu tlodi, wrth wraidd Rhaglen Lywodraethu Llywodraeth Cymru.
4.1 Busnes, y cyhoedd ac unigolion
Mae twristiaeth yn ddiwydiant hanfodol sy'n galluogi economi Cymru i ffynnu, gan gynrychioli dros 10% o swyddi mewn rhai ardaloedd yng Nghymru (Proffil Economi Ymwelwyr Cymru: 2021).
Wrth gyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru, ceir potensial i gefnogi’r diwydiant twristiaeth yn sylweddol drwy ail-fuddsoddi’r refeniw a gynhyrchir i wella’r cynnig twristiaeth a’r atyniadau presennol. Gallai’r ail-fuddsoddiad hwn wella apêl hirdymor Cymru fel cyrchfan i dwristiaid ac ysgogi twf yn nifer yr ymwelwyr, a thrwy hynny hybu Gwerth Ychwanegol Gros (GYG) twristiaeth mewn ardaloedd sy’n gweithredu’r ardoll. Fodd bynnag, yn y tymor byr, efallai y bydd rhai effeithiau negyddol ar y sector twristiaeth, gan gynnwys newidiadau mewn ymddygiad ymwelwyr, megis llai o ymwelwyr neu lai o wariant, a mwy o faich gweinyddol ar ddarparwyr llety ymwelwyr.
Mae’r effeithiau busnes uniongyrchol yn cynnwys:
- Yr amser sydd ei angen i wneud cais i gofrestru a rheoli unrhyw ddiwygiadau
- Yr amser i brosesu a ffeilio ffurflen dreth i ACC (naill ai bob chwarter neu bob blwyddyn)
- Diweddaru systemau archebu neu systemau gwybodaeth rheoli eiddo
- Costau ariannol cynghorwyr neu gyfrifwyr, pe bai darparwyr yn dewis cyflogi neu ddefnyddio gwasanaethau parti arall i brosesu a ffeilio ffurflenni ar eu rhan
- Cost ariannol yr ardoll ymwelwyr ei hun
Bydd hyn yn amrywio yn ôl faint o ymwelwyr y mae darparwr yn eu croesawu, a sawl llety ymwelwyr y mae'n ei weithredu. Ar ben hynny, gall darparwyr lyncu'r costau neu eu trosglwyddo i ymwelwyr, felly nid yw'n bosibl pennu'r union gostau fesul darparwr.
Gan dybio bod y costau'n cael eu trosglwyddo'n llawn i ymwelwyr, gallai hyn arwain at ostyngiad yn y galw. Mae'r Asesiad o'r Effaith Economaidd yn amlinellu effeithiau macro gostyngiad yn y galw pe bai hyn yn digwydd. Sylwch, nid yw'n bosibl canfod beth fydd yr effaith ar y galw i ddarparwyr unigol o ganlyniad i ddefnyddio ardoll ymwelwyr oherwydd gall elastigedd pris y galw amrywio o ddarparwr i ddarparwr. Er enghraifft, bydd lleoliad, tywydd, amser o'r flwyddyn, amwynderau, digwyddiadau ac ansawdd i gyd yn dylanwadu ar y galw gan ddefnyddwyr ochr yn ochr ag elastigedd pris ac incwm. Hefyd, gall lefel y trosgwlyddo amrywio fesul darparwr ac felly bydd yr effeithiau eto yn amrywio yn unol â hynny. Efallai y bydd y darparwyr hynny sy'n trosglwyddo'r gost yn llawn yn gweld gostyngiad yn y galw o’u cymharu â chystadleuwyr sy'n llyncu'r costau. Ac eto, gall y rhai sy'n llyncu'r costau wneud toriadau mewn mannau eraill (er enghraifft llai o fuddsoddiad) i ymdopi â'r costau busnes uwch, a gallai hyn ynddo'i hun ddylanwadu ar y galw gan ymwelwyr am y darparwr. Yn fyr, bydd yr effeithiau ar unrhyw ddarparwr unigol yn amrywio yn ôl ymddygiad y darparwyr ac ymddygiad ymwelwyr ochr yn ochr â'r llu o ffactorau heblaw am y pris.
Mae’r asesiad o’r effaith economaidd yn asesu’n fanylach sensitifrwydd ymwelwyr i newidiadau ym mhris llety a sut y byddai colled o ran galw yn effeithio ar economi Cymru. Y prif beth i’w ddysgu o'n hasesiad o'r effaith economaidd yw, yn seiliedig ar dystiolaeth o wledydd eraill, casgliad rhesymol o dybiaethau a'r hyn a wyddom am yr economi yng Nghymru, yw bod effaith economaidd yr ardoll yn debygol o fod yn ymylol o'i gymharu â maint yr economi yng Nghymru ac ymylol o'i gymharu â maint y sector twristiaeth yng Nghymru.
Codwyd pryderon drwy gydol yr ymgynghoriad ynglŷn ag effaith a allai fod yn anghymesur ar ddarparwyr llety ymwelwyr llai a fyddai'n ddarostyngedig i'r un gofynion â darparwyr mwy, er enghraifft gallai’r ardoll gael effeithiau andwyol ar ddarparwyr llety llai, sy’n aml wedi’u lleoli mewn ardaloedd gwledig (Rural business statistics). Er mwyn lliniaru'r effaith hon, mae'r ardoll wedi'i chynllunio mewn modd sy’n syml i'w gweinyddu, a'r broses gofrestru hefyd yn cael ei datblygu i fod yn syml o ran ei dull. Roedd Llywodraeth Cymru o'r farn ei bod yn bwysig bod dyluniad y dreth yn syml i'w weinyddu o safbwynt cydymffurfedd, a fydd yn ei gwneud yn fwy cost-effeithiol dros y tymor hwy. Bydd hyfforddiant a chanllawiau a ddatblygir gan Lywodraeth Cymru ac ACC hefyd i gefnogi darparwyr llety ymwelwyr. Bydd ACC yn ystyried dewisiadau amgen nad ydynt yn ddigidol pan fo angen (megis cofrestru â llaw, ffurflenni treth papur, llythyrau yn hytrach nag e-bost, canolfannau galw heibio) os yw’n gymesur gwneud hynny. Sut bynnag, byddant yn darparu cymorth o ryw fath i'r rhai sydd â mynediad a sgiliau digidol cyfyngedig.
Yn gyffredinol, er bod disgwyl i’r effaith economaidd uniongyrchol fod yn fach iawn, gallai’r manteision hirdymor gryfhau’r sector twristiaeth yng Nghymru yn sylweddol.
4.2 Sector cyhoeddus gan gynnwys llywodraeth leol a chyrff cyhoeddus eraill
I’r sector cyhoeddus, caiff manteision pwerau codi refeniw ychwanegol eu cydbwyso yn erbyn cost gweinyddu'r ardoll i awdurdodau lleol. Mae ymgysylltu wedi'i dargedu ag awdurdodau lleol hefyd wedi digwydd drwy gydol datblygiad y Bil er mwyn trafod ystyriaethau llywodraethu, archwilio ac adrodd a phrosesau ac effeithiau lleol y model gweithredu arfaethedig ar gyfer yr ardoll. Helpodd y trafodaethau hyn i fireinio dyluniad yr ardoll ymhellach.
Gall yr effeithiau a brofir gan awdurdodau lleol amrywio gan y bydd pwerau'n ddewisol ac mae cyfansoddiad twristiaeth yn wahanol ar draws ardaloedd awdurdodau lleol. Er enghraifft, os yw awdurdodau lleol cyfagos yn gwneud dewisiadau gwahanol ynglŷn ag a ddylid cyflwyno'r ardoll neu beidio, efallai y bydd rhai ymwelwyr yn dewis ymweld â lleoliad gwahanol er mwyn gwneud iawn am unrhyw newidiadau i gost yr arhosiad a'u cyllidebau. Gall hyn gynyddu'r galw am lety dros nos mewn awdurdodau lleol sydd â llety cost is nad ydynt yn gweithredu ardoll a’i leihau yn yr ardaloedd hynny sy'n gweithredu ardoll. Fel y trafodwyd, gall newid ymddygiad fod yn fwy cynnil na cholli galw’n unig, ond yn hytrach gall effeithiau fod ar wariant neu weithgaredd eilaidd. Efallai y bydd unigolion yn dal i ymweld â'r un gyrchfan ond gan archebu llety cost is, aros am lai o nosweithiau neu newid eu harferion gwario. Neu, gall ymwelwyr gynyddu'r cyfanswm y maent yn ei wario er mwyn cyfiawnhau’r ardoll.
Amcangyfrifir y byddai’r refeniw a gai ei gynhyrchu ar draws Cymru pe bai pob awdurdod lleol yn dewis cyflwyno ardoll fel y’i cwmpaswyd hyd at £33 miliwn y flwyddyn. Byddai’r refeniw yn amrywio ar draws ardaloedd awdurdodau lleol gan adlewyrchu’r amrywiaeth ym maint yr economi ymwelwyr ar draws Cymru. Mae'r ardoll yn gyfle i awdurdodau lleol godi incwm ychwanegol, a allai, o ystyried yr hinsawdd economaidd arbennig o heriol, helpu i gefnogi gwasanaethau lleol sydd eisoes dan bwysau mewn meysydd sy'n ymwneud â gwariant rheoli cyrchfannau’n gynaliadwy.
Byddai’r Bil yn cynnig budd ychwanegol oherwydd byddai’r wybodaeth sydd ar gael o gofrestr gyhoeddus yn rhoi un ffynhonnell werthfawr o wybodaeth i awdurdodau lleol am lety ymwelwyr yn eu hardal, a fyddai’n cefnogi unrhyw ystyriaeth o ran gweithredu’r ardoll, yn hytrach na gorfod asesu’r data presennol nad yw bob amser yn gwbl ddibynadwy a chyson.
4.3 Trydydd Sector
Ymgysylltodd swyddogion â'r trydydd sector er mwyn deall profiadau byw grwpiau agored i niwed a chymunedau heb gynrychiolaeth ddigonol pan yn defnyddio llety ymwelwyr. Nod hyn oedd nodi effeithiau posibl a lleihau unrhyw effeithiau negyddol lle bo hynny'n bosibl. Mae Atodiad A yn darparu rhestr lawn o'r sefydliadau rydym wedi ymgysylltu â nhw.
Nododd yr ymgysylltu hwn y gall pobl ddigartref, gan gynnwys y rhai sy'n profi trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV), a cheiswyr lloches sy’n ffoaduriaid Heb Hawl i Gyllid Cyhoeddus (NRPF) gael eu lletya dros dro mewn llety ymwelwyr wrth aros am gartrefi parhaol. Gall y llwybr at gartref dros dro mewn llety ymwelwyr fod drwy'r awdurdod lleol, elusen, neu'n wedi’i drefnu eu hunain. Cyfrifoldeb yr awdurdod lleol yw swyddogaethau tai; fodd bynnag, rydym yn cydnabod y gall rhai elusennau fod yn helpu unigolion i drefnu llety dros dro wrth aros am gymorth gan awdurdod lleol.
Yn achos darparwyr gwasanaethau sy'n cefnogi'r rhai sydd â NRPF, cânt eu hariannu gan y Swyddfa Gartref ar gyfer y swyddogaeth hon. Maent wedi tynnu sylw at 'gap' ar gronfeydd wrth ddarparu llety mewn sefyllfaoedd brys/dros dro. Yn y sefyllfa hon bydd y darparwr gwasanaeth yn aml yn ariannu'r llety o'i gronfeydd wrth gefn neu roddion a dderbynnir. Y llwybrau a ffefrir i elusennau yn yr amgylchiadau hyn yw trwy'r Swyddfa Gartref neu wasanaethau awdurdodau lleol. Nid yw dewis defnyddio llety masnachol i ymwelwyr yn ddull a ffefrir am sawl rheswm, yn anad dim mae risg o hyd nad yw'r person yn cael ei gartrefu'n ddiogel.
Pe bai cyflwyno ardoll ymwelwyr yn y sefyllfaoedd hyn yn golygu ei bod yn ofynnol i elusennau neu unigolion agored i niwed dalu cost yr ardoll, gallai hyn gael effaith negyddol gan mai cyllideb gyfyngedig neu nad oes ganddynt gyllideb o gwbl ar gyfer talu unrhyw daliad ychwanegol am yr ardoll a byddant yn ddibynnol ar drydydd parti, yr elusen gofrestredig yn yr achos hwn, i'w cefnogi.
Rydym felly wedi galluogi o fewn y Bil y bydd elusennau cofrestredig sy'n cefnogi unigolion yn yr amgylchiadau hyn yn gallu adennill unrhyw symiau ardoll. Mae Llywodraeth Cymru yn cydnabod, ar gyfer y mathau hyn o arhosiad, na fydd bob amser yn bosibl neu’n briodol i'r elusen ddatgelu gwybodaeth gyfrinachol, felly, rydym wedi sicrhau bod yr ad-daliadau hyn yn cael eu prosesu gan Awdurdod Cyllid Cymru a all sicrhau bod mesurau diogelu priodol yn eu lle ar gyfer ymdrin ag unrhyw wybodaeth sensitif wrth brosesu ad-daliadau. Gallai dogfennau y gellir eu gwirio gynnwys cofnodion archebu, derbynebau, datganiadau ariannol a gohebiaeth rhwng yr elusen, y defnyddiwr gwasanaeth a’r darparwr llety ymwelwyr.
Pan fo arosiadau’n cael eu trefnu gan yr unigolion eu hunain, ni fyddai'n bosibl codi cyfradd sero ar yr arosiadau hyn na rhoi ad-daliad. Y rheswm am hyn yw y byddai'n creu baich anghymesur ac amhriodol ar ddarparwyr llety ymwelwyr i asesu statws tai unigolyn.
4.4 Asesiad o’r effaith ar gyfiawnder
Mae’r asesiad o'r effaith ar gyfiawnder yn crynhoi canlyniad ymgysylltu â'r Weinyddiaeth Gyfiawnder. Bydd gweinyddu’r gofrestr yn ganolog un o swyddogaethau Gweinidogion Cymru. Rydym hefyd wedi dewis model darparu a weinyddir yn ganolog ar gyfer yr ardoll ymwlewyr ac yn bwriadu i Awdurdod Cyllid Cymru gyflwyno’r ardoll wrth iddynt gasglu a rheoli’r trethi datganoledig yng Nghymru. Daeth yr asesiad i'r casgliad fod y cynigion yn debygol o gael dim effaith o gwbl neu’r effaith leiaf posibl ar y system gyfiawnder.
Adran 5. Beth fydd yr effaith ar les amgylcheddol?
5.1 Adnoddau naturiol
Mae cynnig twristiaeth Cymru yn dibynnu’n helaeth ar argaeledd adnoddau naturiol o ansawdd uchel ac ecosystemau iach (Croeso i Gymru: blaenoriaethau i'r economi ymwelwyr 2020 i 2025). Daw ymwelwyr i Gymru i ymgysylltu â’i hardaloedd o harddwch naturiol, ac i archwilio'r amgylchedd naturiol sydd gan Gymru i'w gynnig. Mae Cymru'n cael ei hystyried yn gyrchfan ar gyfer gweithgareddau awyr agored – canfyddiad sy'n cael ei gefnogi gan yr amgylchedd gwyrdd a naturiol (Arolwg Ymwelwyr Cymru: 2019).
Er nad yw cyflwyno ardoll ymwelwyr ei hun wedi'i fwriadu i effeithio'n uniongyrchol ar yr amgylchedd, efallai y bydd effeithiau eilaidd o'i chyflwyno, pe bai cynnydd neu ostyngiad yn y galw twristaidd mewn ardaloedd sy'n cyflwyno ardoll. Fel yr archwiliwyd yn yr asesiad o’r effaith economaidd , a'r asesiad effaith rheoleiddiol - mae yna gryn ansicrwydd ynglŷn â’r ymateb ymddygiadol i ardoll ymwelwyr.
Nid newid ymddygiad ymwelwyr yw bwriad yr ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag, fel y soniwyd, gallai fod ymateb ymddygiadol gan rai ymwelwyr. Os bydd gostyngiad yn nifer yr ymwelwyr i Gymru oherwydd cyflwyno'r ardoll, efallai y bydd hyn yn ei dro yn lleihau rhai o effeithiau negyddol twristiaeth ar adnoddau naturiol, a drafodir yn fanylach isod.
Yn gyffredinol, gall twristiaeth effeithio'n negyddol ar adnoddau naturiol drwy or-dwristiaeth - er enghraifft, nifer fawr o bobl yn dewis dringo mynyddoedd poblogaidd Cymru yn ystod cyfnodau prysur, neu nifer fawr o bobl yn ymweld â'r traethau pan fydd y tywydd yn braf. Ceir nifer o ganlyniadau i'r gweithgareddau hyn, megis cynnydd mewn sbwriel, difrod ffisegol i'r amgylchedd naturiol (er enghraifft i lwybrau troed gan gerddwyr), neu lefelau uwch o lygredd o’r cynnydd mewn traffig a pharcio (The Environmental Impacts of Tourism). Edrychodd astudiaeth ddiweddar gan Gyfoeth Naturiol Cymru ar ardaloedd allweddol i ymwelwyr, gan gymharu cyfnod y cyfyngiadau symud ym mis Mehefin 2020 â'r tymor twristiaid prysur a ddilynodd ym mis Mehefin 2021. Er mai cipolwg yn unig oedd yr asesiad, dangosodd yr asesiad fod y cynnydd yn nifer y twristiaid yn 2021 wedi cael effaith negyddol ar fioamrywiaeth (Cipolwg ar ein heffaith ar y byd naturiol i helpu i lunio dyfodol cynaliadwy).
Disgwylir effeithiau cadarnhaol ar draws economi Cymru wrth i’r refeniw treth gael ei ail-wario gan awdurdodau lleol ledled Cymru. Mae'r Bil yn cynnig bod y refeniw yn cael ei wario ar brosiectau sy'n ymwneud â rheoli a gwella cyrchfannau sy'n cynnwys camau sydd yn:
- lliniaru effaith ymwelwyr
- cynnal a hyrwyddo'r defnydd o'r Gymraeg
- hyrwyddo a chefnogi twf economaidd cynaliadwy twristiaeth a mathau eraill o deithio
- darparu, cynnal a gwella seilwaith, cyfleusterau a gwasanaethau i'w defnyddio gan ymwelwyr (p'un a ydynt hefyd ar gyfer pobl leol ai peidio).
Fodd bynnag, bydd y ffordd y mae awdurdodau lleol sy'n defnyddio ardoll yn bwriadu defnyddio'r refeniw yn dibynnu ar swyddogion etholedig mewn ymgynghoriad â'u hardaloedd lleol. Felly, gellir defnyddio'r refeniw a godir gan yr ardoll i fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau hyn, gan helpu i sicrhau bod adnoddau'n cael eu rheoli’n gynaliadwy. Gellid gwneud hyn drwy ddefnyddio refeniw o'r ardoll i helpu i warchod ardaloedd, ariannu prosiectau cadwraeth lleol, neu liniaru effeithiau twristiaeth - er y byddai graddfa a natur unrhyw fuddion yn dibynnu ar union brosiectau neu weithgaredd a ariennir gan awdurdodau lleol. Felly, ni allwn nodi beth fyddai'r union fuddion o brosiectau neu weithgareddau anhysbys eto.
Defnyddir ardollau ymwelwyr yn llwyddiannus mewn mwy na 40 o wledydd a chyrchfannau teithio ledled y byd ac mae sawl enghraifft o gyrchfannau sydd wedi defnyddio'r refeniw a gynhyrchir gan ardoll er budd ac er mwyn gwella'r amgylchedd naturiol.
Ariannodd Seland Newydd 10 prosiect yn 2019-2020 trwy ei Ardoll Cadwraeth a Thwristiaeth Ymwelwyr Rhyngwladol. Nod y prosiectau hyn yw diogelu tirweddau sensitif a gwerthfawr yn ecolegol, uwchraddio llwybrau ac arwyddion amwynderau ymwelwyr a diogelu rhywogaethau sydd mewn perygl (International Visitor Conservation and Tourism Levy). Yng Ngwlad yr Iâ, lle sy'n adnabyddus am ei amgylchedd unigryw, ystyrir ei atyniadau naturiol fel ei brif apêl i dwristiaid. Mae’r Gronfa Diogelu Safleoedd Twristiaeth (TSPF) yn ariannu prosiectau sy'n ymwneud â chadwraeth a mynediad i atyniadau twristiaid naturiol. Mae prosiectau nodweddiadol yn cynnwys adeiladu llwybrau, rampiau mynediad, pontydd a rheiliau llaw; llwyfannau gwylio a rhwystrau diogelwch; cyfleusterau parcio a thoiledau; ac arwyddion a byrddau gwybodaeth (Adolygiad o effeithiau ardollau ymwelwyr mewn cyrchfannau byd-eang). Enghraifft arall yw cymuned y Fforest Ddu yn Münstertal, sydd wedi llwyddo i ddefnyddio rhan o'i threth dwristaidd leol i hyrwyddo mesurau amaethyddol traddodiadol fel ffermio agored, helpu i gefnogi natur a diogelu rhywogaethau tra hefyd yn cadw a gwella apêl yr ardal i dwristiaid (Financial support for landscape conservation through tourist taxes).
Mae manteision amlwg y gallai ardoll ymwelwyr yng Nghymru eu darparu. Mae'r defnyddio mannau a gwasanaethau cyhoeddus yn rhan annatod o brofiad cyffredinol ymwelwyr. Gall buddsoddi a chynnal y rhain wella enw da'r gyrchfan sydd o fudd i ymwelwyr, trigolion, busnesau ac adnoddau naturiol Cymru.
5.1a Sut fydd y cynnig yn cyflawni un neu fwy o'r Blaenoriaethau Cenedlaethol yn y Polisi Adnoddau Naturiol (PAN)?
Ni fydd cyflwyno ardoll ymwelwyr ynddo’i hun yn darparu unrhyw un o'r Blaenoriaethau Cenedlaethol yn y Polisi Adnoddau Naturiol yn uniongyrchol. Fodd bynnag, rydym yn cydnabod mai cymunedau sydd yn y sefyllfa orau i lunio a deall blaenoriaethau lleol a bod yr economi ymwelwyr yn amrywiol ar draws Cymru. Felly, drwy gyflwyno deddfwriaeth sy'n rhoi pwerau dewisol i awdurdodau lleol weithredu ardoll ymwelwyr, mae'n cefnogi ac yn cyd-fynd â'r flaenoriaeth 'mabwysiadu dull sy'n seiliedig ar leoedd', gan rymuso awdurdodau lleol i wneud eu penderfyniadau eu hunain sy'n cyd-fynd ag anghenion eu cymunedau.
5.1b A yw'r cynnig yn helpu i fynd i'r afael â'r heriau a'r cyfleoedd cenedlaethol canlynol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy?
Gallai cyflwyno ardoll helpu i fynd i'r afael â rhai o’r heriau a’r cyfleoedd cenedlaethol ar gyfer rheoli adnoddau naturiol yn gynaliadwy, fodd bynnag, fel y nodwyd yn flaenorol, bydd hyn yn dibynnu ar sut mae awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r ardoll yn dewis gwario'r refeniw ychwanegol.
5.2 Asesiad o'r effaith ar fioamrywiaeth
Gwreiddio bioamrywiaeth
1. Sut bydd eich cynnig yn integreiddio bioamrywiaeth i’r broses o wneud penderfyniadau?
Bydd y ddeddfwriaeth hon yn rhoi'r gallu i awdurdodau lleol godi ardoll ymwelwyr ar arosiadau dros nos yn eu cymunedau. Nid yw bioamrywiaeth yn agwedd uniongyrchol ar y broses o wneud penderfyniadau mewn perthynas â'r ardoll ymwelwyr, fodd bynnag, o gofio y gellir cyfeirio'r refeniw sy'n deillio o'r trethi hyn i ariannu prosiectau penodol sy'n cefnogi'r economi ymwelwyr, gallai'r rhain gynnwys rheoli unrhyw effeithiau negyddol twristiaeth fel dirywiad amgylcheddol – mater i awdurdodau lleol fydd gwneud penderfyniadau ar sail y blaenoriaethau yn eu hardal.
Bydd gan awdurdodau lleol gyfrifoldeb am wariant a rhaid iddynt ystyried ffactorau bioamrywiaeth fel rhan o'u penderfyniadau yn unol â'u dyletswyddau o dan Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016 Rhan 1 (Adran 6 Y Ddyletswydd Bioamrywiaeth a Chydnerthedd Ecosystemau: canllawiau adrodd).
Nid newid ymddygiad twristiaid yw bwriad yr ardoll ymwelwyr; fodd bynnag, amcangyfrifir y gallai fod ymateb ymddygiadol h.y. ymwelwyr yn dewis ymweld ag ardaloedd lleol lle nad ydynt yn codi ardoll er mwyn osgoi'r costau ychwanegol. Pe bai llai o ymwelwyr yn dod i Gymru (neu awdurdod lleol penodol yng Nghymru), yna gallai hyn arwain at ostyngiad yn yr Allyriadau Nwyon Tŷ Gwydr (GHGs) , lefelau is o sbwriel ac erydiad bioamrywiaeth yn yr ardal honno (yn dibynnu ar sut mae busnesau ac ymwelwyr yn ymateb).
Cydnabyddir yn eang y gall twristiaeth effeithio ar gyrchfannau twristiaeth mewn ffyrdd cadarnhaol a negyddol, gan gwmpasu dimensiynau economaidd, cymdeithasol-ddiwylliannol ac amgylcheddol. Yn fyd-eang, gall effeithiau negyddol achosi:
- Costau amgylcheddol gyda'r amgylchedd naturiol yn cael ei or-ecsbloetio.
- Colli bio-amrywiaeth (Applying principles of circular economy to sustainable tourism a The biodiversity implications of changes in coastal tourism due to climate change), wrth i amgylcheddau naturiol gael eu herydu neu eu difetha gan draffig ar droed a'r amgylchedd adeiledig.
- Heriau taflu sbwriel a rheoli gwastraff, wrth i nifer yr ymwelwyr gynyddu hefyd maint y sbwriel a'r effaith ar wasanaethau rheoli gwastraff.
- Tagfeydd traffig, lle nad yw seilwaith trafnidiaeth yn gallu cefnogi traffig ymwelwyr mewn cyrchfannau poblogaidd (Tourism Jobs and Growth)
- Allyriadau carbon, a achosir gan deithio sy'n gysylltiedig â thwristiaeth, yr amcangyfrifir eu bod i gyfrif am 5% o'r holl allyriadau carbon yn fyd-eang yn 2016 (Tourism’s Carbon Emissions Measured in Landmark Report)
- Erydiad pridd a llwybrau, wrth i nifer fawr o dwristiaid ymweld â safleoedd twristiaeth poblogaidd (Tourism Impacts: Evidence of Impacts on employment, gender, income)
Mae grwpiau amgylcheddol fel Cadwch Gymru'n Daclus wedi cydnabod y cyfleoedd a ddarperir gan ardoll ymwelwyr. Yn eu hymateb i'r ymgynghoriad a thrwy bapur ymchwil diweddar ar sbwriel twristiaeth , tynnwyd sylw at y ffaith, oni bai bod y materion negyddol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth yn cael eu datrys, y gallai'r cynnig twristiaeth yng Nghymru gael ei effeithio'n andwyol wrth i amgylcheddau naturiol grebachu a chael eu heffeithio’n anochel gan nifer cynyddol yr ymwelwyr a’r traffig. Gellid defnyddio'r refeniw a gynhyrchir gan ardoll i gefnogi'r bwlch adnoddau hwn, sy'n ymwneud yn uniongyrchol â chynnal ac adfer amgylcheddau naturiol lleol a chyfleusterau ategol er mwyn sicrhau bod ymwelwyr eisiau dychwelyd i Gymru, a thrwy hynny gynyddu lefelau refeniw o bosibl wrth i fwy o dwristiaid ddychwelyd i Gymru dros yr hirdymor ac o ganlyniad yr arian sydd ar gael i'w wario ar wella'r ardal leol.
Yn ogystal, er yn anfwriadol, pe bai nifer yr ymwelwyr yn gostwng mewn rhai ardaloedd gallai hyn gael effaith amgylcheddol gadarnhaol, gan leihau llygredd ac allanolion negyddol eraill twristiaeth. Gallai fod gwahanol effeithiau ar wahanol awdurdodau lleol gwahanol yn dibynnu ar nifer y twristiaid ym mhob ardal.
Neu, gallai gwella ardal a'i chyfleusterau gan ddefnyddio'r refeniw o'r ardoll ddenu mwy o ymwelwyr, felly gall fod mwy o effaith amgylcheddol, ond mae'n anodd amcangyfrif hyn. Neu, os bydd cyflwyno'r ardoll yn arwain at ymwelwyr yn dewis ymweliadau dydd, gall hyn waethygu'r effeithiau amgylcheddol negyddol sy'n gysylltiedig â thwristiaeth dydd, heb greu'r refeniw er mwyn helpu i liniaru'r effeithiau hyn (o ystyried bod y tâl ar arosiadau dros nos).
Efallai y bydd rhai effeithiau amgylcheddol cadarnhaol yn gysylltiedig â chyflwyno ardoll ymwelwyr, er, fel y nodwyd bydd hyn yn dibynnu ar flaenoriaethau gwario’r awdurdod lleol sy'n codi'r tâl. Mae'r Bil yn nodi y dylai awdurdodau lleol wario'r refeniw a godir ar reoli a gwella cyrchfannau, fel y gellir mynd i’r afael ag unrhyw ddirywiad a deimlir yn yr ardal leol o ganlyniad i dwristiaeth drwy ddefnyddio'r cyllid ychwanegol hwn.
2. A yw eich cynnig wedi sicrhau bod bioamrywiaeth yn cael ei hystyried mewn penderfyniadau busnes?
Roedd yr amgylchedd naturiol a’r golygfeydd yn themâu allweddol mewn ymchwil yn ymwneud â pham yr oedd pobl yn ymweld â Chymru. Roedd ein hamgylchedd a'n golygfeydd yn gryfderau sylweddol a nodwyd trwy ymchwil ansoddol, sy'n gwneud i Gymru deimlo'n unigryw o'i chymharu â chyrchfannau gwyliau eraill y DU (Arolwg Ymwelwyr Cymru: 2019). Os nad yw'r amodau galluogi ar gyfer twristiaeth yn cael eu diogelu, yna gallai hyn arwain at ostyngiad yn nifer yr ymwelwyr. Y dirwedd a'r harddwch naturiol sy'n denu ymwelwyr i Gymru yw'r hyn y gall ymwelwyr effeithio fwyaf arno. Os nad oes cyllid ar gael i liniaru’r effeithiau, yna gallai fod effaith ar yr hyn sy’n denu twristiaeth gan arwain at ddirywiad tymor hwy ar gyfer twristiaeth. Yn ogystal, gall rhai ardaloedd fod yn awyddus i wella’r cynnig neu’r gwasanaethau lleol a ddarperir i fynd i'r afael â materion lleol unigryw er budd ymwelwyr a phreswylwyr, ond nad oes ganddynt yr adnoddau ar gael i wneud hyn ar hyn o bryd.
Bydd yn ofynnol i fusnes ystyried y prosesau ychwanegol ar gyfer gweinyddu'r ardoll h.y. casglu a chyflwyno ffurflenni’r ardoll. Er mwyn lliniaru’r effaith hon, rydym wedi gweithio gyda rhanddeiliaid, ochr yn ochr ag Awdurdod Cyllid Cymru (ACC), i ddeall yr effeithiau posibl a byddwn yn datblygu canllawiau a sesiynau hyfforddi i gefnogi darparwyr llety ymwelwyr i weinyddu’r ardoll.
Bydd y canllawiau a ddatblygir yn nodi pwysigrwydd ceisio barn rhanddeiliaid amgylcheddol er mwyn deall unrhyw faterion yn well. Bydd awdurdodau lleol yn cael eu hannog i ystyried adran 6 o Ddeddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016, sy'n ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau cyhoeddus geisio cynnal a gwella bioamrywiaeth trwy eu penderfyniadau a'u harfer swyddogaethau.
3. Sut mae eich cynnig yn gwella dealltwriaeth ac yn codi ymwybyddiaeth o bwysigrwydd bioamrywiaeth, gan annog eraill i weithredu?
Pwrpas yr ardoll ymwelwyr yw codi refeniw i awdurdodau lleol ei fuddsoddi mewn twristiaeth gynaliadwy. Fel yr uchod, mae Llywodraeth Cymru wrthi'n ystyried y canllawiau a ddarperir i awdurdodau lleol wrth weithredu'r ardoll a fydd yn annog awdurdodau lleol i ystyried adran 6 Deddf yr Amgylchedd (Cymru) 2016.
Gwella ein tystiolaeth, ein dealltwriaeth a’n monitro
4. Ydych chi wedi defnyddio'r dystiolaeth orau sydd ar gael o fioamrywiaeth i lywio eich cynnig a'r asesiad hwn?
Amherthnasol
5. Ydych chi wedi defnyddio'r wybodaeth ddiweddaraf am yr effeithiau allweddol ar fioamrywiaeth i wneud penderfyniadau ar sail tystiolaeth?
O lond llaw o astudiaethau achos (Tourism taxes by design), mae'n amlwg y gall refeniw o ardollau ymwelwyr wneud gwahaniaeth cadarnhaol i ymdrechion cyrchfannau i warchod natur, adfer treftadaeth ddiwylliannol, a helpu i ariannu prosiectau cymdeithasol a chymunedol.
Comisiynodd Llywodraeth Cymru Brifysgol Bangor i adolygu effeithiau ardollau ymwelwyr mewn cyrchfannau byd-eang (Adolygiad o effeithiau ardollau ymwelwyr mewn cyrchfannau byd-eang). Dangosodd yr ymchwil fod refeniw ardoll ymwelwyr yn cael eu defnyddio’n gyffredinol i ariannu nwyddau cyhoeddus sy'n benodol i'r diwydiant twristiaeth, megis marchnata cyrchfannau, ac i liniaru'r allanolion a achosir gan y diwydiant, megis diogelu ac adfer yr amgylchedd. Mae'r ffocws a roddir ar y ddau faes gwariant hyn yn amrywio ar draws yr astudiaethau achos a ystyriwyd.
Er mwyn sicrhau dadansoddiad cadarn o'r effaith amcangyfrifedig ar anghenion y bobl sy'n byw, gweithio, cymdeithasu ac yn gwneud busnes mewn ardaloedd gwledig, mae'r asesiad hwn wedi ystyried yr allbynnau o:
- Adolygiad o Effeithiau Ardollau Ymwelwyr mewn Cyrchfannau Byd-eang
- Effeithiau Posibl Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru ar yr Economi a Nwyon Tŷ Gwydr
- Alma Economics, Adolygiad tystiolaeth o elastigedd sy’n berthnasol i ardoll ymwelwyr yng Nghymru.
6. A all eich cynnig gyfrannu at ein corff gwybodaeth ar gyfer bioamrywiaeth?
Na, pwrpas yr ardoll ymwelwyr yw darparu pŵer dewisol a fydd yn caniatáu i awdurdodau lleol godi refeniw trwy godi ardoll ar arosiadau dros nos.
Llywodraethu a chefnogi’r gwaith o weithredu dros fioamrywiaeth
7. A all eich cynnig gefnogi gweithredu dros fioamrywiaeth mewn unrhyw ffordd?
Gall, er mai'r awdurdodau lleol hynny sy'n dewis gweithredu'r ardoll ymwelwyr fydd yn penderfynu sut y defnyddir y refeniw. Mae potensial i refeniw gael ei ddefnyddio i gefnogi gweithredu bioamrywiaeth. Neu'n fwy cyffredinol, i hyrwyddo twristiaeth gynaliadwy a lleihau effeithiau’r poblogaethau sy'n ymweld. Gall defnyddio ardoll ymwelwyr hyrwyddo teithio mwy ymwybodol pe bai’r refeniw yn cael ei ddefnyddio i leihau effeithiau amgylcheddol neu fioamrywiaeth negyddol.
8. A all eich cynnig helpu i feithrin capasiti ar gyfer gweithredu dros fioamrywiaeth?
Gall, yn dibynnu ar y defnydd o refeniw.
9. Ydych chi wedi cofnodi penderfyniadau a chamau gweithredu i gynnal a gwella bioamrywiaeth?
Amherthnasol – mater i’r awdurdodau lleol sy’n defnyddio ardoll ymwelwyr fydd penderfynu ar yr union ddyraniad y refeniw.
5.3 Newid Hinsawdd
Mae newid hinsawdd wedi’i nodi fel un o'r bygythiadau mwyaf sy'n wynebu cenedlaethau'r dyfodol. Mae angen i ni leihau ein hallyriadau trwy weithredu datgarboneiddio (5.3a) ac addasu i effeithiau newid hinsawdd trwy gynyddu ein gwydnwch (5.3b).
5.3a Datgarboneiddio
Er na fwriedir i gyflwyno ardoll ymwelwyr ynddo’i hun effeithio'n uniongyrchol ar yr amgylchedd, efallai y bydd effeithiau eilaidd o'i gyflwyno, pe bai awdurdod lleol yn dewis cyflwyno ardoll ymwelwyr yn eu hardal. Fel yr archwiliwyd o fewn yr asesiad o’r effaith economaidd, mae cryn ansicrwydd ynghylch yr ymateb ymddygiadol i ardoll ymwelwyr. Fodd bynnag pe bai effaith economaidd negyddol yn cael ei gwireddu, yn seiliedig ar amcangyfrif pesimistaidd a bod llai o ymwelwyr yn dod i Gymru (neu awdurdod lleol penodol yng Nghymru), yna gallai hyn gael effaith gadarnhaol ar allyriadau carbon.
Am ragor o wybodaeth am yr effaith y gallai cyflwyno'r ardoll ymwelwyr ei chael ar nwyon tŷ gwydr (GHG) yng Nghymru, gwelern ‘Effeithiau Posibl Ardoll Ymwelwyr yng Nghymru ar yr Economi a Nwyon Tŷ Gwydr’.
5.3b Addasu
Nid yw'r cynnig yn effeithio'n uniongyrchol ar y gallu i addasu i effeithiau newid yn yr hinsawdd. Fodd bynnag, mae'r angen am gynaliadwyedd amgylcheddol yn rhan greiddiol o Flaenoriaethau 2020-2025 i’r Economi Ymwelwyr. O ganlyniad, gall y refeniw a godir gan yr ardoll ymwelwyr fynd tuag at fynd i'r afael â rhai o'r effeithiau hyn – er y bydd natur y rhain yn dibynnu ar sut mae awdurdodau lleol sy'n gweithredu'r ardoll yn dewis gwario'r refeniw ychwanegol.
5.4 Asesiad Amgylcheddol Strategol (AAS)
Nid oes angen AAS ar gyfer y polisi hwn oherwydd o dan Erthygl 3(8), Rheoliadau Asesiadau Amgylcheddol o Gynlluniau a Rhaglenni (Cymru) 2004 nid yw'n berthnasol i gynlluniau a rhaglenni ariannol neu gyllidebol. Yn ogystal, er bod yr ardoll ymwelwyr yn ddarpariaeth ddeddfwriaethol sy'n ymwneud â thwristiaeth, nid yw'n gosod fframwaith ar gyfer unrhyw gydsyniadau datblygu yn y dyfodol ac ni fydd yn cael effaith uniongyrchol sylweddol ar yr amgylchedd.
5.5 Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd (ARhC)
Nid oes angen Asesiad Rheoliadau Cynefinoedd yn ôl y gyfraith gan na fydd y Bil yn effeithio ar rwydwaith safleoedd gwarchodedig Ewropeaidd Natura 2000.
5.6 Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol (AEA)
Nid yw'r Bil yn brosiect sydd angen caniatâd datblygu ac felly nid yw'r rheoliadau amrywiol sy'n gofyn am Asesiad o'r Effaith Amgylcheddol yn berthnasol.
Adran 6. Beth fydd yn effeithio ar anfantais economaidd-gymdeithasol?
Mae tystiolaeth i awgrymu bod parodrwydd person i dalu ardoll ymwelwyr mewn gwledydd eraill wedi’i gysylltu’n gadarnhaol â'i statws economaidd-gymdeithasol, gan awgrymu bod pobl dan anfantais yn fwy tebygol o gael eu hatal rhag ymweld â Chymru. Efallai bod y rhai sydd mewn oedrannau sy'n gysylltiedig yn nodweddiadol ag incwm is (er enghraifft, pobl iau), yn llai abl i fforddio'r gost llety ychwanegol sy'n gysylltiedig â'r ardoll (Tourists' willingness to pay to improve sustainability and experience at destination).
Yn ogystal, mae parodrwydd i dalu yn uniongyrchol gysylltiedig ag incwm a chyllideb ymwelydd (ibid, t48). Mae astudiaethau wedi adrodd bod dynion yn fwy parod i dalu ardoll ymwelwyr - gallai hyn fod oherwydd y rhyngweithio rhwng rhywedd ac incwm, lle mae gan fenywod incwm is ar gyfartaledd na dynion (How much less were women paid in 2019?).
Yr ardaloedd tlotaf yng Nghymru yw rhai o'r ardaloedd sy'n gweld rhannau mwy o'u heconomi yn dibynnu ar dwristiaeth. Os bydd yr ardoll ymwelwyr yn arwain at ostyngiad yn y galw am dwristiaeth, neu’r gwariant cyfartalog byddai hyn yn cael effaith negyddol ar yr economi leol, yn enwedig mewn ardaloedd sy'n dibynnu'n helaeth ar dwristiaeth. Gall yr ardoll effeithio ar gymunedau dan anfantais economaidd-gymdeithasol i raddau mwy gan fod natur gwaith yn y sector hwn yn cael ei nodweddu gan gyflog isel ac oriau ansicr. Mae’r asesiad o’r effaith economaidd-gymdeithasol llawn yn dadansoddi’r effaith bosibl ar gymunedau economaidd-gymdeithasol difreintiedig y gallai colli swyddi a llai o incwm i’r rhai sy’n gweithio yn y diwydiant twristiaeth ei chael, yn ogystal â’r gymuned fusnes ehangach a allai hefyd gael ei heffeithio’n negyddol drwy lefelau is o drosiant pe bai’r ardoll ymwelwyr yn arwain at lai o wariant ategol gan ymwelwyr neu lai o ymwelwyr.
Er mwyn lleihau'r risg hon a nodwyd sef bod yr ardoll yn rhwystr i bobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol allu mynd ar wyliau yng Nghymru, mae Gweinidogion Cymru wedi ymrwymo i gadw'r ardoll yn swm bach y gellir ei adolygu er mwyn sicrhau nad yw'n atal pobl dan anfantais economaidd-gymdeithasol rhag gallu mynd ar wyliau yng Nghymru ac i sicrhau y gellir ymateb yn gyflym i'r effaith economaidd a deimlir ar gymunedau lleol. Mae hefyd yn ofynnol i awdurdodau lleol ystyried effeithiau posibl a chynnal ymgynghoriad i lywio'r broses o wneud penderfyniadau ynghylch defnyddio ardoll ymwelwyr.
Ar lefel unigol, mae'n amhosibl pennu sut y byddai ardoll ymwelwyr yn effeithio ar unigolyn gan fod y modelu economaidd a ddarperir yn yr asesiad effaith rheoleiddiol yn ystyried pob ardal awdurdod lleol yng Nghymru yn gweithredu’r ardoll.
Un o brif nodau'r ardoll yw ail gydbwyso’r cyfraniadau ar gyfer cynnal ardal leol a rhoi ysgogiad fydd yn sicrhau arian ychwanegol i ardaloedd sy'n croesawu ymwelwyr. Mae adolygiad o Drethi Twristiaeth gan Gymdeithas Twristiaeth Ewrop yn awgrymu, er mwyn i drethi twristiaeth fod yn llwyddiannus, fod angen dwyochredd a buddion diriaethol i gymunedau lleol (Tax and tourism).
Mae'n ofynnol i awdurdodau lleol sy'n dewis mabwysiadu ardoll yn eu hardal, wario'r refeniw a gynhyrchir ar reoli a gwella cyrchfannau, felly, i'r rhai sy'n byw yng Nghymru, yn enwedig mewn mannau poblogaidd gyda thwristiaid, gallai cyflwyno'r ardoll gael effeithiau cadarnhaol.
Mae asesiad o’r effaith conomaidd-gymdeithasol llawn wedi'i gyhoeddi ac mae ar gael yma.
Adran 7. Cofnod o’r asesiadau effaith llawn sy'n ofynnol
Asesiad effaith | Ydy/Nac ydy | Os ‘Ydy’, dylech: |
---|---|---|
Hawliau plant | Ydy | Cwblhau’r Asesiad o’r effaith ar hawliau plant isod |
Cydraddoldeb | Ydy | Cwblhewch yr asesiad effaith ar gydraddoldeb isod |
Dyletswydd economaidd-gymdeithasol | Ydy | Cwblhau’r asesiad dyletswydd economaidd-gymdeithasol isod |
Prawfesur gwledig | Ydy | Cwblhau’r asesiad effaith prawfesur gwledig isod |
Iechyd | Ydy | Cyfeirio at y canllaw asesiad effaith integredig |
Preifatrwydd | Ydy | Cwblhewch yr asesiad effaith diogelu data isod |
Y Gymraeg | Ydy | Cwblhau’r asesiad o’r effaith ar y Gymraeg isod |
Economaidd / Rheoleiddiol | Ydy | Cyfeirio at y canllaw asesiad effaith integredig |
Cyfiawnder | Ydy | Cwblhau’r ffurflen Nodi’r Effaith ar y System Gyfiawnder ar y fewnrwyd |
Bioamrywiaeth | Ydy | Cwblhau’r asesiad o'r effaith ar fioamrywiaeth isod |
Newid hinsawdd | Ydy | Cyfeirio at y canllaw asesiad effaith integredig |
Asesiad amgylcheddol strategol | Nac ydy | Cyfeirio at y canllaw asesiad effaith integredig |
Asesiad rheoliadau cynefinoedd | Nac ydy | Cyfeirio at y canllaw asesiad effaith integredig |
Asesiad o'r effaith amgylcheddol | Nac ydy | Cyfeirio at y canllaw asesiad effaith integredig |
Adran 8. Casgliad
8.1 Sut mae’r bobl sydd fwyaf tebygol o gael eu heffeithio gan y cynnig wedi bod yn rhan o’i ddatblygu?
Cynhaliwyd ymgynghoriad cyhoeddus rhwng mis Medi a mis Rhagfyr 2022 yn gofyn am farn y cyhoedd a rhanddeiliaid ar gynnig Llywodraeth Cymru i gyflwyno ardoll ymwelwyr dewisol i Gymru. Cyhoeddwyd crynodeb o'r ymatebion ym mis Mawrth 2023.
Bu ymgysylltu helaeth â darparwyr lletygarwch a llety ymwelwyr drwy Grŵp Cyfeirio Busnes, grwpiau cynrychioliadol y diwydiant twristiaeth drwy Fforymau Twristiaeth Rhanbarthol a’r Fforwm Economi Ymwelwyr, Awdurdod Cyllid Cymru (ACC) ac awdurdodau lleol. Mae Swyddogion Llywodraeth Cymru hefyd wedi ymgysylltu â llwyfannau archebu ar-lein, Parciau Cenedlaethol, sefydliadau trydydd sector, a gweinyddiaethau mewn gwledydd eraill sydd wedi sefydlu ardollau ymwelwyr.
Cynhaliwyd pedwar digwyddiad ymgynghori wyneb yn wyneb ar draws Cymru yn ogystal â digwyddiad rhithwir, lansiwyd ymgyrch codi ymwybyddiaeth gyda'r ymgynghoriad cyhoeddus er mwyn rhannu gwybodaeth ac annog cyfranogiad.
Ymgysylltodd swyddogion yn uniongyrchol â phlant a phobl ifanc rhwng 12 ac 17 oed, gan ofyn am eu barn ar yr ardoll ymwelwyr trwy drafodaethau ac ymarferion chwarae rôl. Roedd yr ymgynghoriad yn hygyrch i gynulleidfa eang gyda fersiwn cymunedol ac ieuenctid wedi'i chyhoeddi ynghyd â fformat hawdd ei ddeall.
Yn dilyn yr ymgynghoriad, ac yn y cyfnod cyn cyflwyno'r ddeddfwriaeth, mae Llywodraeth Cymru wedi parhau i ymgysylltu â grwpiau cynrychioliadol a allai gael eu heffeithio gan ardoll ymwelwyr. Roedd yr ymgysylltiad wedi’i dargedu hwn er mwyn casglu mwy o dystiolaeth ynghylch effeithiau posibl ardoll ar randdeiliaid amrywiol, egluro'r polisi a thrafod lliniaru unrhyw ganlyniadau anfwriadol ar y rhai sydd â nodweddion gwarchodedig, y rhai sydd mewn ardaloedd gwledig a'r rhai o gefndiroedd economaidd-gymdeithasol is.
Mae ymgysylltu wedi’i gynnal yn benodol mewn ardaloedd er mwyn llywio ein dealltwriaeth o'r profiadau byw o'r effaith bosibl ar grwpiau agored i niwed, fel rhan o ddatblygiad yr asesiad o’r effaith ar gydraddoldeb, asesiad o’r effaith ar hawliau plant, asesiad o’r effaith economaidd-gymdeithasol ac asesiad o'r effaith ar y Gymraeg. Mae Atodiad A yn cynnwys rhestr lawn o'r ymgysylltu hwn.
Byddwn yn parhau i ymgysylltu fel rhan o adolygiad ôl-weithredu'r ddeddfwriaeth, a bydd yn ofynnol hefyd i'r awdurdodau lleol hynny a fydd yn penderfynu codi ardoll yn eu hardal fonitro effaith yr ardoll ar eu cymunedau.
8.2 Beth yw'r effeithiau mwyaf arwyddocaol, cadarnhaol a negyddol?
Mae'r asesiad effaith integredig hwn yn seiliedig ar ymchwil sy'n bodoli'n barod, astudiaethau a gomisiynwyd, adborth ymgynghori, a mewnbwn rhanddeiliaid. Mae Llywodraeth Cymru wedi nodi rhai themâu allweddol drwy'r broses asesu effaith:
- Gallai'r ardoll ymwelwyr gynhyrchu refeniw ychwanegol i awdurdodau lleol fuddsoddi mewn gwasanaethau a seilwaith sy'n gysylltiedig â thwristiaeth.
- Newidiadau yng ngwariant ymwelwyr – er mwyn darparu ar gyfer cost ychwanegol yr ardoll, efallai y bydd rhai ymwelwyr yn gwario llai mewn meysydd eraill (er enghraifft, gwariant eilaidd ar brydau bwyd neu adloniant). Gall hyn effeithio ar refeniw busnesau ehangach yn yr ardal leol sy'n elwa o wariant ymwelwyr.
- Newidiadau yn nifer yr ymwelwyr - yn y sefyllfa fwyaf eithafol fe all rhai ymwelwyr ddewis ymweld ag ardaloedd awdurdodau lleol gwahanol h.y. y rhai sydd ddim yn codi ardoll, neu wlad arall yn gyfan gwbl, er mwyn osgoi cost ychwanegol yr ardoll. Mae ymchwil yn awgrymu bod hyn yn fwy tebygol yn y cyfnod cyflwyno cychwynnol, ond y gallai'r effeithiau hyn leihau wrth i dderbyn yr ardoll gynyddu.
- Gallai'r ardoll ymwelwyr gael effeithiau cymysg ar wahanol grwpiau sydd â nodweddion gwarchodedig, yn dibynnu ar y rhyddhadau a sut mae’r refeniw yn cael ei ddefnyddio.
- Gallai'r ardoll ymwelwyr gael effeithiau cadarnhaol neu negyddol ar yr amgylchedd, yn dibynnu ar y newidiadau yn nifer yr ymwelwyr ac ailfuddsoddiad y refeniw.
Er bod rhai effeithiau negyddol wedi’u codi a’u cofnodi, mae gan ail-fuddsoddi’r arian a gynhyrchir gan yr ardoll gan awdurdodau lleol y potensial i gefnogi'r diwydiant hwn, er enghraifft drwy wella cynnig twristiaeth Cymru neu ansawdd ein hatyniadau presennol. Yn y tymor hwy, gall hyn gryfhau cynnig Cymru a chefnogi'r duedd barhaus o dwf cynaliadwy yn nifer yr ymwelwyr.
8.3 Yng ngoleuni'r effeithiau a nodwyd, sut y bydd y cynnig yn osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol
Mae'r cynnig ardoll ymwelwyr yn cefnogi ein huchelgeisiau ar gyfer twristiaeth mwy cynaliadwy.
Nod Llywodraeth Cymru yw cydbwyso buddiannau ymwelwyr, trigolion a busnesau a chefnogi twristiaeth gynaliadwy ac ymreolaeth leol. Bydd ardoll ymwelwyr yn cyfrannu at ein hamcanion llesiant a'r saith nod llesiant drwy rymuso awdurdodau lleol i wneud penderfyniadau ar sail eu hanghenion lleol a rhoi'r gallu i awdurdodau lleol gynhyrchu refeniw ychwanegol y gellir ei fuddsoddi'n ôl mewn gwasanaethau a seilwaith lleol sy'n cefnogi twristiaeth, a thrwy gefnogi uchelgeisiau ar gyfer twristiaeth fwy cynaliadwy.
Mae Llywodraeth Cymru wedi ceisio osgoi, lleihau neu liniaru unrhyw effeithiau negyddol drwy fabwysiadu agwedd ofalus tuag at bennu cyfradd gychwynnol yr ardoll a bydd yn monitro ei effaith dros amser. Byddwn yn parhau i weithio gyda rhanddeiliaid i ddeall effeithiau posibl.
Rhagwelir y bydd manteision ehangach cyflwyno ardoll ymwelwyr yng Nghymru yn helpu i wella ardaloedd lleol sy'n mabwysiadu ardoll. Er enghraifft, bydd yr ardoll yn rhoi adnodd i awdurdodau lleol y gallant ei ddefnyddio i ddatblygu, cefnogi a chynnal cyfleusterau a gwasanaethau sydd ar gyfer, neu sy’n cael eu defnyddio gan, y rhai sy’n ymweld ag ardal yr awdurdod at ddibenion hamdden yn bennaf. Gall hyn fod yn arbennig o berthnasol yng nghyd-destun y pwysau ar gyfleusterau a gwasanaethau o’r fath a allai godi neu waethygu o ganlyniad i niferoedd uchel o ymwelwyr, oherwydd ar hyn o bryd, yn gyffredinol, nid yw’r ymwelwyr hyn yn cyfrannu’n uniongyrchol at refeniw awdurdodau lleol. Bydd natur ddewisol y pŵer yn rhoi pŵer cyllidol newydd i awdurdodau lleol godi refeniw i gefnogi economïau ymwelwyr lleol yn y dyfodol.
8.4 Sut y bydd effaith y cynnig yn cael ei fonitro a'i werthuso wrth iddo fynd rhagddo a phryd y bydd yn dod i ben?
Mae’r Bil wedi’i gynllunio gyda rhywfaint o hyblygrwydd i ganiatáu gwneud addasiadau yn y dyfodol pe bai unrhyw effeithiau anghymesur neu ganlyniadau anfwriadol yn dod i’r amlwg.
Mae Llywodraeth Cymru yn mabwysiadu agwedd ofalus tuag at bennu cyfraddau cychwynnol yr ardoll a monitro ei heffaith dros amser. Mae'r dull hwn yn darparu cydbwysedd o gynhyrchu digon o refeniw tra'n lleihau'r risg o ymateb ymddygiadol. Bydd hyn yn rhoi cyfle i ymwelwyr ddod yn gyfarwydd â thalu ardoll yng Nghymru.
Mae’r ardoll ymwelwyr yn dreth ddewisol, felly mae pennu amserlen ar gyfer adolygiad ôl-weithredu ffurfiol yn anodd gan y gall gymryd sawl blwyddyn i awdurdodau lleol gofrestru ar gyfer y cynllun. Felly, bydd gwerthuso effeithiolrwydd y cynllun yn esblygu dros amser.
Mae’r Bil yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol baratoi a chyhoeddi adroddiad blynyddol ar swm y refeniw a gynhyrchir o’r ardoll a gwybodaeth am sut y defnyddiwyd yr ardoll at ddibenion rheoli a gwella cyrchfannau.
Bydd swyddogion yn datblygu canllawiau ar gyfer awdurdodau lleol yn nodi arferion gorau a chyngor ar fonitro a gwerthuso effaith yr ardoll.
Defnyddir cyfuniad o ddulliau i fonitro canlyniad y ddeddfwriaeth, gan gynnwys defnyddio data a gasglwyd o arolygon perthnasol Croeso Cymru, Baromedr Twristiaeth ac arolygu/ymgysylltu ag awdurdodau lleol er mwyn deall effeithiolrwydd y ddeddfwriaeth.
Rhagwelir y bydd Awdurdod Cyllid Cymru yn monitro gweinyddiaeth yr ardoll drwy ymgysylltu'n rheolaidd ag awdurdodau lleol fel y nodir yn y Cytundeb Lefel Gwasanaeth sefydledig rhwng awdurdodau lleol ac ACC, a thrwy ymgysylltu/adborth gan fyrddau twristiaeth, busnesau twristiaeth a chynrychiolwyr cymunedol.
Adran 9. Datganiad
Yr wyf yn fodlon bod effaith y camau arfaethedig wedi cael eu hasesu a'u cofnodi'n ddigonol.
Enw'r Uwch Swyddog Cyfrifol / Dirprwy Gyfarwyddwr: Anna Adams
Adran: Trysorlys Cymru
Dyddiad: Tachwedd 2024
Atodiad A
Bil Llety Ymwelwyr (Cofrestr ac Ardoll) Etc. (Cymru) – Ymgysylltu â Rhanddeiliaid ynglŷn ag asesiadau effaith.
Mae swyddogion Llywodraeth Cymru wedi ymgysylltu’n eang yn fewnol ac yn allanol i sicrhau ein bod wedi clywed barn ystod eang o randdeiliaid ar effeithiau posibl yr ardoll, boed hynny’n uniongyrchol neu’n anuniongyrchol.
Ochr yn ochr ag ymgysylltu â darparwyr llety ymwelwyr, awdurdodau lleol, Croeso Cymru ac Awdurdod Cyllid Cymru, mae’r rhestr isod yn nodi’r sefydliadau a rhanddeiliaid allanol yr ydym wedi ymgysylltu â hwy’n benodol mewn meysydd i lywio ein dealltwriaeth o’r effaith bosibl ar grwpiau agored i niwed, fel rhan o’r gwaith o ddatblygu ein hasesiad o'r effaith ar gydraddoldeb, asesiad o'r effaith ar hawliau plant, asesiad o'r effaith economaidd-gymdeithasol ac asesiad o'r effaith ar y Gymraeg.
Ymgysylltu allanol
Sefydliad | Meysydd oedd yn destun ymgynghori |
---|---|
Cymorth i Ferched Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
Cydlynwyr Rhanbarthol trais yn erbyn menywod, cam-drin domestig a thrais rhywiol (VAWDASV) | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
BAWSO | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
Grŵp Partneriaeth y Trydydd Sector | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Llamau | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
Tîm Cymorth Lleiafrifoedd Ethnig ac Ieuenctid | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
NFU Cymru | Asesiad effaith prawfesur gwledig |
Cymdeithas Tir a Busnes Gwlad | Asesiad effaith prawfesur gwledig |
Undeb Amaethwyr Cymru | Asesiad effaith prawfesur gwledig |
Parciau Cenedlaethol | Asesiad effaith prawfesur gwledig |
Partneriaeth Gymdeithasol Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Cyngor Rhyng-ffydd Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
TGP Cymru - Teithio Ymlaen | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
Sipsiwn a Theithwyr Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb
|
Anabledd Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Autistic UK | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Guide Dogs Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Freedom 365 | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Triniaeth Deg i Ferched Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Plant yng Nghymru – Plant a Phobl Ifanc | Asesiad o’r effaith ar hawliau plant |
Senedd Ieuenctid Cymru | Asesiad o’r effaith ar hawliau plant |
Gofalwyr Cymru ac Ymddiriedolaeth Gofalwyr Cymru | Asesiad o'r effaith ar gydraddoldeb |
Llywodraeth yr Alban – Tîm Bil Ardoll Ymwelwyr (Yr Alban) | Pob asesiad effaith |
Urdd Gobaith Cymru Eisteddfod Genedlaethol Cymru | Asesiad o'r effaith ar y Gymraeg |