Neidio i'r prif gynnwy

Crynodeb o'r gyfraith newydd i wella ansawdd ac ymgysylltiad cyhoeddus ym maes iechyd a gofal cymdeithasol.

Darllen manylion ar y ddalen hon

Dogfennau

Hawdd ei ddeall , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 343 KB

PDF
343 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Manylion

Ar 1 Mehefin 2020, daeth y Deddf Iechyd a Gofal Cymdeithasol (Ansawdd ac Ymgysylltu) (Cymru) yn gyfraith.

Daeth y ddeddf i rym ar 1 Ebrill 2023, ac mae’r gwaith o’i gweithredu yn parhau.

Nod y ddeddf yw:

  • cryfhau'r Ddyletswydd Ansawdd bresennol ar gyrff y GIG, ac estyn honno i gynnwys Gweinidogion Cymru ar gyfer eu swyddogaethau sy’n ymwneud â gwasanaethau iechyd
  • gosod Dyletswydd Gonestrwydd ar ddarparwyr gwasanaethau'r GIG i sicrhau eu bod yn agored ac yn onest gyda chleifion a defnyddwyr gwasanaethau sy’n cael niwed yn ystod eu gofal
  • cryfhau lleisiau dinasyddion drwy Gorff Llais y Dinesydd i Gymru gyfan ar gyfer iechyd a gofal cymdeithasol, yn lle’r cynghorau iechyd cymuned
  • ei gwneud yn bosibl penodi Is-gadeiryddion i Ymddiriedolaethau’r GIG, yn yr un modd â’r byrddau iechyd

I gael rhagor o wybodaeth, cysylltwch â: IGCAnsawddacYmgysylltu@llyw.cymru