Pasiwyd Bil yn cyflwyno'r ail dreth ddatganoledig yng Nghymru – y dreth gwarediadau tirlenwi – gan Gynulliad Cenedlaethol Cymru.
Y Bil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) yw'r trydydd o dri bil i sefydlu trefniadau ar gyfer trethi yng Nghymru.
Bydd y dreth trafodiadau tir, a fydd yn disodli’r dreth dirlenwi yng Nghymru, yn cael effaith ym mis Ebrill 2018. Bydd y cyllid sy’n cael ei godi’n helpu i ariannu gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru.
Bydd y dreth gwarediadau tirlenwi - yn debyg iawn i'r dreth dirlenwi bresennol, sy'n cael ei chasglu ledled Cymru a Lloegr - yn dreth ar waredu gwastraff drwy safleoedd tirlenwi. Y rheini sy'n gweithredu safleoedd tirlenwi fydd yn ei thalu, a bydd y costau hyn yn cael eu trosglwyddo i weithredwyr gwastraff.
O dan y bil, bydd y dreth gwarediadau tirlenwi yn cael ei chodi hefyd pan fo gwastraff yn cael ei waredu drwy safleoedd tirlenwi heb awdurdod i wneud hynny. Bydd hyn yn golygu bod rhwystr ariannol i annog pobl i beidio â chael gwared ar wastraff yn anghyfreithlon. Bydd pobl yn cael eu cymell i dalu'r gyfran deg o dreth drwy gael gwared ar wastraff mewn safle tirlenwi cofrestredig.
Ar hyn o bryd, mae 25 o safleoedd tirlenwi, sy'n cael eu rhedeg gan 20 o weithredwyr safleoedd tirlenwi, i'w cael yng Nghymru. Mae'r Swyddfa Cyfrifoldeb Cyllidebol yn rhagweld y bydd y dreth dirlenwi yn cynhyrchu £25m yng Nghymru yn 2018-19.
Bydd yr Ysgrifennydd Cyllid yn cyhoeddi cyfraddau'r dreth gwarediadau tirlenwi erbyn 1 Hydref, a bydd y rheoliadau yn cael eu gosod ar ôl Cyllideb yr Hydref Llywodraeth y DU.
Bydd cymunedau lleol sy'n cael eu heffeithio gan waredu gwastraff drwy safleoedd tirlenwi yn elwa ar gynllun grant newydd yng Nghymru – Cynllun Cymunedau'r Dreth Gwarediadau Tirlenwi – a fydd yn cael ei gyflwyno ym mis Ebrill 2018.
Gan groesawu gweld y Bil yn cael ei basio gan y Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd Mark Drakeford, yr Ysgrifennydd Cyllid:
“Y Bil hwn yw'r trydydd darn o ddeddfwriaeth i sefydlu trefniadau trethi yng Nghymru ac mae'n gam pwysig arall ar ein taith ddatganoli.
“Cyn pen blwyddyn, byddwn ni'n cyflwyno'r trethi Cymreig cyntaf ers bron i 800 o flynyddoedd a bydd Cymru yn ysgwyddo'r cyfrifoldeb am godi ein harian ein hunain i'w wario ar wasanaethau cyhoeddus.
“Pan fydd wedi dod yn gyfraith, bydd y Bil hwn yn caniatáu inni gyflwyno treth ar warediadau drwy safleoedd tirlenwi yng Nghymru o fis Ebrill 2018. Mae'r Bil yn sicrhau y bydd gwasanaethau cyhoeddus yng Nghymru yn parhau i elwa ar y cyllid sydd wedi’i godi hyd yma gan y dreth hon.
“Mae Cymru ar flaen y gad o safbwynt polisi gwastraff ac mae'r dreth gwarediadau tirlenwi yn elfen bwysig o wireddu ein nod o dorri'n llwyr ar wastraff yng Nghymru.
“Rydyn ni wedi gweithio’n agos gyda rhanddeiliaid wrth ddatblygu’r Bil hwn. Er bod y dreth yn gyson â'r dreth dirlenwi bresennol yn gyffredinol, ac yn rhoi sefydlogrwydd i fusnesau ac yn lleihau i'r eithaf ar nifer y bobl sy’n dod yma i waredu eu gwastraff, rydyn ni wedi gwneud amryw o welliannau i'r dreth.
“Mae’n syml ac yn glir i’w rhoi ar waith; mae’n datrys unrhyw ddryswch ac ansicrwydd; mae’n gyfredol ac yn berthnasol i Gymru. Ynghyd â deddfwriaeth arall yn ymwneud â threthi, rydym wedi ei chyflwyno i fraenaru'r tir ar gyfer trosglwyddo pwerau trethi yn ddidrafferth."
Mae disgwyl i Fil Treth Gwarediadau Tirlenwi (Cymru) gael Cydsyniad Brenhinol yn yr haf.