Neidio i'r prif gynnwy

Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol

Cyhoeddwyd gyntaf:
29 Ionawr 2014
Diweddarwyd ddiwethaf:

Cyhoeddwyd y cynnwys hwn dan weinyddiaeth Llywodraeth Cymru 2011 i 2016

Rhoddais ymrwymiad yn ystod y Ddadl Cyfnod 1 yn y Cyfarfod Llawn ar Fil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) y byddwn yn cyhoeddi datganiad ysgrifenedig ar drefniadau gofal trawsffiniol erbyn diwedd y mis hwn, ac mae'n dda gennyf felly allu cyflwyno hwn heddiw.

Bydd aelodau'n gwybod imi noddi nifer o Gynigion Cydsyniad Deddfwriaethol dros yr ychydig fisoedd diwethaf, cynigion sydd wedi ceisio cymeradwyaeth i gwblhau trefniadau ar gyfer trefniadau trawsffiniol i oedolion ac i blant.

Mae trefniadau trawsffiniol yn bwysig iawn, yn enwedig i'r sawl sy'n ceisio gofal a chymorth y tu allan i Gymru, neu y darperir gofal a chymorth iddynt y tu allan i Gymru; ond oherwydd union natur y trefniadau hynny, ni ellir eu datblygu mewn ffordd ynysig. Mae'r trefniadau hyn yn ganlyniad i ddull cydweithredol cryf a phenderfyniad i roi ffyrdd o gefnogi ac amddiffyn y rhai mwyaf bregus yn ein cymdeithas ar waith. Cymhlethwyd datblygiad y trefniadau trawsffiniol hyn ymhellach gan y ffaith bod ein Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) ni, Bil Gofal yr Adran Iechyd a Bil Plant a Theuluoedd yr Adran Addysg, i gyd yn symud yn eu blaenau yr un pryd.

Heddiw, felly, caf gyfle i ddiolch i'r Gweinidogion sy'n cyfateb i mi yn Lloegr, yr Alban a Gogledd Iwerddon am weithio mewn modd mor gydweithredol, a darparu cyfle i ni i gyd ddathlu'r trefniadau trawsffiniol yr ydym wedi eu rhoi ar waith i roi gwell cymorth i'n dinasyddion ar draws y Deyrnas Unedig.

Canolbwyntiaf yma, er hynny, ar beth fydd ystyr hyn i ddinasyddion Cymru:

I ddechrau, i breswylwyr cartrefi gofal rydym wedi ymestyn eu gallu i gael eu lleoli y tu allan i Gymru, i gynnwys yr Alban a Gogledd Iwerddon. Ar hyn o bryd dim ond mewn perthynas â Lloegr y mae'r gyfraith yn caniatáu i awdurdodau lleol wneud hyn. Bellach, bydd y trefniadau newydd hyn yn gweithredu ar draws y pedair cenedl ac yn galluogi teuluoedd i fod mewn gwell cysylltiad a chwarae rhan integrol yng ngofal eu perthynas. Yr awdurdod lleol lle'r oedd y person yn preswylio cyn mynd i mewn i'r cartref gofal, h.y. yr awdurdod lleoli, fydd yn gyfrifol am gost y lleoliadau hyn o hyd, ac felly ni fydd hyn yn effeithio ar gyfrifoldeb yr awdurdodau lleol yng Nghymru, nac yn gosod unrhyw faich ariannol ychwanegol arnynt.

Yn ail, rydym wedi gwarchod parhad gofal i bobl sydd wedi'u lleoli ar draws ffiniau yn y DU os digwydd i fusnes darparwr fethu, boed drwy ofal preswyl neu ofal cartref. Rydym wedi creu amddiffyniad yn y gyfraith sy'n golygu lle bo person yn cael gofal gan ddarparwr yng Nghymru, Lloegr neu Ogledd Iwerddon o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yng Nghymru, Lloegr neu'r Alban neu gan Ymddiriedolaeth Iechyd a Gofal Cymdeithasol yng Ngogledd Iwerddon, bod gan yr awdurdod lleol y lleolir y darparwr gofal ynddo, ddyletswydd dros dro i ddarparu ar gyfer anghenion gofal a chymorth brys y sawl a oedd yn cael gofal gan y darparwr hwnnw. Mae enghreifftiau fel y rhai a ddigwyddodd pan fethodd 'Southern Cross' mewn blynyddoedd diweddar wedi tynnu sylw at yr angen i roi prosesau o'r fath ar waith. Darperir hefyd i'r awdurdod lleol yn y sefyllfaoedd hyn adennill y gost oddi wrth yr awdurdod lleoli, neu oddi wrth yr unigolyn os yw'n talu am ei ofal ei hun.

Rwyf wedi sicrhau bod pobl yng Nghymru sy'n cael gofal o dan drefniadau a wnaed gan awdurdod lleol yng Nghymru yn cael yr un lefel o amddiffyniad os bydd darparwr yn methu drwy ddiwygiadau i'r Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant.

Mae gan yr Alban drefniadau gwahanol ac felly ni fydd dyletswyddau dros dro o'r fath ar awdurdodau lleol yn yr Alban i ddiwallu anghenion os digwydd i fusnes darparwr gofal yn yr Alban fethu. Er hynny, mae dyletswyddau cyffredinol yn ei gwneud yn ofynnol i awdurdodau lleol yr Alban ystyried rhoi cymorth i rywun mewn angen sy'n sicrhau y rhoddir lefel debyg o amddiffyniad.

Yn drydydd, rydym wedi cytuno ar drefniadau a fydd yn galluogi ymestyn y darpariaethau ar leoliadau trawsffiniol i fathau eraill o drefniadau lety, fel tai â chymorth, ac a fydd yn caniatáu i'r darpariaethau fod yn gymwys pan fo'r oedolyn yn gwneud ei drefniadau llety ei hun gan ddefnyddio taliadau uniongyrchol. Bydd y trefniadau newydd ar gyfer lleoliadau trawsffiniol hefyd yn ei gwneud yn eglur bod cyfrifoldeb yr awdurdod lleoli yn parhau hyd yn oed pan fo'r unigolyn yn treulio amser i ffwrdd o'i lety, er enghraifft os yw yn yr ysbyty.

Yn olaf, mae'r trefniadau trawsffiniol ar gyfer y sawl sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal iechyd meddwl adran 117 wedi eu newid rhwng Cymru a Lloegr, gyda diwygiadau i ddod, trwy gyfrwng y Bil Gofal, i'r darpariaethau yn Neddf Iechyd Meddwl 1983. Mae'r trefniadau newydd yn sicrhau mai awdurdod lleol yr ardal lle'r oedd yr unigolyn yn preswylio fel arfer cyn ei driniaeth ysbyty fydd yn gyfrifol am y cymorth i'r sawl sy'n cael gwasanaethau ôl-ofal, hyd yn oed pan anfonir yr unigolyn i ardal wahanol pan gaiff ei ryddhau o'r ysbyty. Mae'r trefniadau hyn hefyd yn darparu y gall Gweinidogion Cymru gymrodeddu mewn achosion o anghydfod ynghylch preswylio fel arfer yng Nghymru; ac yn darparu y gall Gweinidogion Cymru a'r Ysgrifennydd Gwladol gytuno a chyhoeddi trefniadau ar gyfer achosion o anghydfod ar draws ffiniau Cymru a Lloegr.

Roedd Bil Plant a Theuluoedd y Deyrnas Unedig hefyd yn cynnig cyfleoedd i newid trefniadau trawsffiniol rhwng Cymru a Lloegr: mewn perthynas â datgymhwyso Cofrestr y Ddeddf Mabwysiadu a Phlant yng Nghymru; darparu triniaeth gyfartal i unigolion a fabwysiadwyd a'u perthnasau, i bennu'r terfyn amser ar gyfer paratoi cynllun gofal i blentyn. Gwnaed y trefniadau olaf hyn drwy roi pwerau gwneud rheoliadau i Weinidogion Cymru mewn perthynas â gosod terfyn amser i awdurdod lleol orfod paratoi cynllun gofal wedi iddo wneud cais i'r llys am orchymyn gofal neu oruchwyliaeth. Mae a wnelo diwygiadau pellach sy'n ymestyn i Gymru a Lloegr ag anghenion addysgol arbennig, rhannu cyfnodau absenoldeb rhieni a gweithio hyblyg, gofal plant a'r swyddogaeth gryfach i'r Comisiynydd Plant.

Mae'r trefniadau hyn yn amserol ac yn addas fel y gallwn symud polisïau arbennig Cymru ymlaen ymhellach a sicrhau yr un pryd bod cysondeb a chydweithrediad ar draws Cymru a Lloegr ac mewn rhai amgylchiadau ar draws y Deyrnas Unedig.

Rwy'n ddiolchgar i'r Ysgrifennydd Gwladol dros Iechyd ac i'r Gweinidog Gwladol dros Ofal a Chymorth am gydweithredu drwy gynnwys atebion ymarferol yn y Bil Gofal a fydd yn sicrhau diogelu lles pobl sy'n symud o gwmpas y Deyrnas Unedig; ac yn yr un modd i'r Is-ysgrifennydd Seneddol dros Blant a Theuluoedd, y mae ei gefnogaeth wedi caniatáu inni hyrwyddo cynlluniau i greu Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol i Gymru, a sefydlir yn 2014/15 ac a fydd yn gymorth i gyflwyno cynlluniau gofal a chymorth cyfannol.

Rwy'n hyderus y bydd y trefniadau trawsffiniol newydd hyn yn darparu gwell parhad gofal ac yn cryfhau'r dyletswyddau cydweithredu ar draws ein ffiniau, gan ddiogelu yr un pryd bolisïau arbennig pob cenedl. Maent wedi ehangu rhai a oedd yn y gorffennol wedi eu cyfyngu i Gymru a Lloegr. Y dechrau yn unig yw hyn, a byddaf yn parhau i gydweithio'n â'm cymheiriaid yn Whitehall i sicrhau bod y lefel hon o gydweithredu'n ymestyn i gynnwys rhoi'r trefniadau ar waith.