Gwenda Thomas, y Dirprwy Weinidog Gwasanaethau Cymdeithasol
Mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn creu system gyfreithiol newydd ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol. Fel y dywedais yn fy natganiad ysgrifenedig i’r Cynulliad ar 31 Hydref 2013, mae’r Bil yn creu fframwaith a fydd yn ein galluogi i ddelio â’r newidiadau economaidd a demograffig sy’n ein wynebu yn awr. Yn y Datganiad hwn byddaf yn amlinellu fy null o wireddu’r newidiadau a gyflwynir yn y Bil. I grynhoi, byddaf yn:
- parhau i gynnwys dinasyddion yn llawn yn y broses o gydgynhyrchu diwygiadau ac yn datblygu’r rhain dan arweiniad ein Fforwm Partneriaeth, sy’n gorff eang, trawsbleidiol a thraws-sector;
- cyhoeddi amserlen fanwl ar gyfer is-ddeddfwriaeth unwaith y bydd y Bil wedi derbyn Cydsyniad Brenhinol;
- datblygu rhaglen hyfforddi ar gyfer y gweithlu gofal cymdeithasol, y gweithlu iechyd a gweithlu’r trydydd sector er mwyn paratoi ar gyfer newid arferion gwaith;
- datblygu pecyn cyfathrebu a fydd yn darparu negeseuon clir a chryno er mwyn cyfleu newidiadau’r Bil i’r cyhoedd yn gyffredinol;
- ailflaenoriaethu rhaglenni Llywodraeth Cymru ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol er mwyn cyfeirio adnoddau at ddarparu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy;
- cydgysylltu’r gweithgarwch hwn mewn cynllun gweithredu cynhwysfawr, dros gyfnod o dair blynedd, a fydd yn ymdrin â meysydd eang deddfwriaeth, hyfforddi, cyfathrebu a chyllid.
Nid yw’r model presennol o ddarparu gofal cymdeithasol yng Nghymru yn gynaliadwy, a bydd gwasanaethau yn dod dan bwysau cynyddol yn sgil galw uwch a chyllidebau is. Gwelwyd gostyngiad o £1 biliwn, mewn termau real, yng nghyllideb refeniw’r Cynulliad rhwng 2010-11 a 2014-15. Nid yw amddiffyn cyllidebau ar gyfer modelau darparu presennol yn ymarferol yn y tymor hir. Roedd Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy i Gymru: Fframwaith Gweithredu yn amlinellu cynllun Llywodraeth Cymru ar gyfer trawsnewid gwasanaethau cymdeithasol yn llwyr, ac mae Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru) yn un agwedd ar gyflawni’r weledigaeth honno. Dim ond ar sail partneriaeth rhwng llywodraeth y wlad a llywodraeth leol, y GIG a darparwyr annibynnol, y gellir sicrhau’r sylfaen ddeddfwriaethol ar gyfer y weledigaeth honno. Mae Llywodraeth Cymru wedi ymrwymo i sicrhau bod y newidiadau a amlinellir yn y Bil yn gweld golau dydd erbyn diwedd tymor y Cynulliad hwn.
Mae’r Bil yn cyfuno ac yn moderneiddio’r gyfraith ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol Cymru, gan roi mwy o bwyslais ar gamau atal, a dod â phobl yn nes at benderfyniadau am y gwasanaethau sy’n effeithio arnynt. Mae’n anorfod y bydd cyfraith mor bwysig yn arwain at ailystyried y rheoliadau a’r codau ymarfer sy’n sail i’r ddeddfwriaeth sylfaenol – ac mae honno’n rhaglen newid ynddi’i hun. Mae’r gwaith o baratoi datganiadau o fwriad polisi eisoes ar y gweill, a chaiff y rhain eu cyhoeddi’n fuan, cyn eu datblygu’n gyfarwyddiadau polisi technegol i lywio ffurf y rheoliadau drafft. Rwyf wedi cyhoeddi cyfres o ddatganiadau yn amlinellu fy mholisi ar gyfer rhannau helaeth o’r Bil ac mae’r broses o ddatblygu, profi a chyfathrebu’r manylion wedi cychwyn. Yn wir, cymerwyd camau breision eisoes – yn enwedig o ran diogelu, taliadau uniongyrchol a’r model cenedlaethol ar gyfer llesiant.
Bydd y camau gweithredu nesaf yn adeiladu ar y gwaith sydd eisoes ar y gweill i ddatblygu’r model gofal a llesiant newydd, gan gynnwys trefniadau ar gyfer asesu a chymhwystra. Ffrwyth cydweithio yw hyn, sydd eisoes wedi arwain at wella darpariaethau’r Bil, drwy welliant. Bydd gwaith trafod arall hefyd yn parhau ac yn datblygu: rwy’n meddwl yn arbennig am waith gyda rhanddeiliaid fel gwaith y Grŵp Trosolwg Taliadau Uniongyrchol, sy’n cynhyrchu’r egwyddorion a fydd yn sail i’n rheoliadau a’n Cod Ymarfer ar y mater pwysig hwn. Enghraifft arall yw’r trafod manwl â rhanddeiliaid ynglŷn ag agweddau ymarferol gweithredu darpariaethau diogelu’r Bil, sy’n digwydd dan arweiniad y Panel Cynghori ar Ddiogelu.
Fel y mae’r gwaith hwn yn dangos, rwyf wedi ymrwymo’n llwyr i feithrin a chefnogi consensws cenedlaethol ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy, pryd bynnag y bo modd. Cwblhawyd holl agweddau allweddol datblygu Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy drwy ymwneud yn agos â dinasyddion a than arweiniad cryf llywodraeth leol, y GIG a darparwyr annibynnol, yn cydweithio â’i gilydd. Bydd y dull eang hwn o gyd-drafod yn parhau drwy gydol cam nesaf y broses o ddatblygu gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy - a byddaf yn disgwyl i’r Panel Dinasyddion, a’r Fforwm Partneriaeth trawsbleidiol a thraws-sector rwyf fi’n ei gadeirio, helpu i lywio’r gwaith o weithredu’r Bil.
Dilynir rhaglen waith drefnus i ddatblygu is-ddeddfwriaeth y Bil. O fis Ionawr ymlaen, bydd fy swyddogion yn prysuro’r gwaith sydd eisoes ar y gweill â rhanddeiliaid, er mwyn datblygu a mireinio manylion ein bwriad o ran polisi’r rheoliadau. Bydd y cyfreithwyr yn dechrau drafftio’r is-ddeddfwriaeth yn dilyn cyfnod 3 y Bil. Bydd hyn yn cynnwys datblygu asesiad llawn o’r effaith rheoleiddiol a memoranda esboniadol ar gyfer y rheoliadau eu hunain. Bydd y gwaith hwn yn arwain at ymgynghoriad ffurfiol ar y prif ddarnau o is-ddeddfwriaeth yn ystod tymor yr hydref 2014, a bydd cyfle priodol i bwyllgorau’r Cynulliad graffu arnynt. Yna, caiff gwelliannau eu paratoi a’u cyflwyno fel y gall y Cynulliad graffu arnynt yn ystod 2015. Caiff y Codau Ymarfer a fydd yn cwblhau fframwaith cyfreithiol gwasanaethau cymdeithasol Cymru eu datblygu ochr yn ochr â’r rheoliadau perthnasol. Yna caniateir digon o amser yn ystod 2015 i gynnal hyfforddiant, cyn gweithredu’r rhan fwyaf o’r offerynnau statudol erbyn 1 Ebrill 2016.
Mae’n amlwg y bydd angen newid y ffordd y caiff gwasanaethau rheng flaen eu darparu a’u rheoli er mwyn gwireddu’r strwythur cyfreithiol newydd hwn ar gyfer y gwasanaethau cymdeithasol. Bydd Llywodraeth Cymru yn defnyddio Rhaglen Datblygu’r Gweithlu Gofal Cymdeithasol, sy’n werth £8.2 miliwn (ynghyd â buddsoddiad partneriaid lleol), i ddatblygu rhaglen hyfforddi i gefnogi gweithredu’r Bil. Bydd y prif randdeiliaid yn cyfrannu at ddatblygu’r Rhaglen Hyfforddi Genedlaethol hon, a fydd yn mynd y tu hwnt i’r gwasanaethau cymdeithasol – gan ymgorffori’r gweithlu iechyd, gweithlu’r trydydd sector a gweithluoedd eraill hefyd, os yw hynny’n berthnasol. Y grŵp llywio sy’n gorchwylio materion yn ymwneud â’r gweithlu, fel rhan o’r rhaglen Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy, sy’n gyfrifol am gomisiynu gwaith yn y maes hwn. Bydd y rhaglen hyfforddi a fydd yn deillio o’r gwaith yn ei lle cyn i’r darpariaethau craidd ddod i rym.
Bydd y cynllun gweithredu hefyd yn cynnwys ffrwd ar gyfer cyfathrebu, gan gydnabod bod angen cyfathrebu’n glir ac yn ofalus â’r cyhoedd ynglŷn â gweithredu’r Bil. Bydd hyn yn amlinellu’r goblygiadau i’r cyhoedd, ei gyfraniad at gydgynhyrchu, a’r hyn y gall ei ddisgwyl gan y fframwaith gofal cymdeithasol ar ei newydd wedd.
Comisiynodd Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru a Chydffederasiwn y GIG adroddiad gan y Sefydliad Gofal Cyhoeddus ar oblygiadau pontio a goblygiadau mwy hirdymor Bil Gwasanaethau Cymdeithasol a Llesiant (Cymru). Rwy’n croesawu’r adroddiad hwn: mae’n ddadansoddiad trylwyr ac ystyrlon o’r newidiadau sydd eu hangen er mwyn cyflawni nodau Gwasanaethau Cymdeithasol Cynaliadwy. Dim ond drwy bartneriaeth y gellir trawsnewid gwasanaethau yn y ffordd y mae pob un ohonom yn gytûn arni, gan weithio drwy’r system iechyd a gofal cymdeithasol yn ei chyfanrwydd. Er mwyn gwireddu holl botensial y Bil, mae angen diwygio pob sector ar y lefel leol, y lefel ranbarthol a’r lefel genedlaethol. Rwy’n cytuno’n arbennig â chanfyddiadau’r adroddiad y bydd angen i’r awdurdodau lleol ddatblygu cynlluniau gweithredu lleol, ar sail hunanasesiad trylwyr a thrwy gydweithio â phartneriaid lleol. Bydd angen iddynt hefyd weithio gyda dinasyddion i greu diwylliant o gydweithio a chydgynhyrchu agosach wrth lunio gwasanaethau. Rwyf hefyd yn cytuno â chanfyddiadau’r adroddiad y bydd angen i’r Byrddau Iechyd Lleol gydweithio’n agos â’r awdurdodau lleol i gynnal hunanasesiad lleol trwyadl a chytuno ar gynllun ar gyfer datblygu gwasanaethau.
Awgrymodd y Sefydliad Gofal Cyhoeddus gamau ar gyfer Llywodraeth Cymru ac asiantaethau cenedlaethol hefyd, er mwyn rhoi’r Bil ar waith. Yn ogystal â datblygu a gweithredu is-ddeddfwriaeth y Bil, mae Llywodraeth Cymru hefyd yn bwrw ati i gefnogi awdurdodau lleol, y trydydd sector a’r GIG i ddatblygu model ystyrlon ar gyfer gwasanaethau atal ac ymyrryd yn fuan, gan gynnwys tystiolaeth o arferion gorau a chefnogaeth a syniadau ymarferol ar gyfer gweithredu. Mae gan Lywodraeth Cymru a’r Fforwm Partneriaeth gyfraniad parhaus i’w wneud er mwyn sicrhau bod arferion gorau yn cael eu lledaenu ledled Cymru, drwy ddilyn yr un drefn o ddadansoddi hynt y gwaith o weithredu’r Bil, drwy rannu dulliau sy’n gweithio a thrwy gefnogi gwerthusiadau, os bydd y rhain yn berthnasol i’r wlad gyfan, yn ogystal â chydgysylltu camau gweithredu lleol a rhanbarthol.
Rhaglen sengl genedlaethol yw hon i newid holl brif gyrff llywodraeth leol, y GIG a’r sector gwirfoddol yng Nghymru er mwyn sicrhau bod set gyson o negeseuon yn cael eu cyfleu a bod pawb yn trafod â’i gilydd. Caiff ei datblygu dan arweiniad Fforwm Partneriaeth Cenedlaethol y Gwasanaethau Cymdeithasol. Er mwyn llwyddo i ymateb i’r heriau sy’n wynebu pob un ohonom yn y gwasanaethau cymdeithasol, rhaid bod yn ddewr, rhaid arloesi a rhaid i bawb - o’r rheng flaen i’r awdurdodau lleol, y byrddau iechyd lleol, sefydliadau preifat cenedlaethol a’r trydydd sector - ymroi i’r gwaith.
Diben y Bil yw creu’r fframwaith cenedlaethol a fydd yn galluogi’r gwasanaethau cymdeithasol i fod yn fwy cynaliadwy. Ond mae’r newidiadau sydd eu hangen yn rhai pellgyrhaeddol, a sylweddolwn fod angen cymorth pontio ar gyfer ein diwygiadau.
Llywodraeth leol sy’n darparu’r rhan fwyaf o’r arian ar gyfer gwasanaethau cymdeithasol, ond mae Cyllideb Llywodraeth Cymru yn cynnwys adnoddau rhaglen i gefnogi’r broses o sicrhau gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar draws y system gyfan. Gwneir hyn, er enghraifft, drwy fuddsoddi mewn datblygu a chyflwyno rhaglenni atal fel y Gwasanaethau Integredig Cymorth i Deuluoedd a fydd ar waith ledled Cymru y flwyddyn nesaf; drwy gefnogi systemau gwybodaeth cydgysylltiedig ar draws ffiniau awdurdodau lleol a’r GIG; drwy gyllid ar gyfer rhaglenni’r trydydd sector; drwy fwrsariaethau gwaith cymdeithasol Cyngor Gofal Cymru a’n buddsoddiad mewn datblygu’r gweithlu gofal cymdeithasol; a thrwy waith y Comisiynydd Pobl Hŷn. Rwyf wedi ymrwymo i roi cymorth i’r Awdurdodau Lleol a’u partneriaid wrth iddynt roi’r Bil ar waith ac, fel yr addewais, rwyf wedi sicrhau bod £1.5 miliwn ar gael yn 2013-14 a £1.5 miliwn arall yn 2014-15 i helpu â’r costau trosiannol a fydd yn codi wrth weithredu’r newidiadau sy’n ofynnol yn sgil y Bil. Mae Llywodraeth Cymru hefyd yn buddsoddi’n sylweddol er mwyn integreiddio gwasanaethau iechyd a gofal cymdeithasol drwy’r Gronfa Gofal Canolraddol, sy’n werth £50 miliwn, a chyfran helaeth o’r Gronfa Cydweithredu Rhanbarthol.
Fy nghylch gorchwyl i ar draws pob un o’r rhaglenni hyn yw sicrhau bod pob buddsoddiad yn cefnogi’r broses o gyflwyno gwasanaethau cymdeithasol cynaliadwy ar draws y system gyfan.