Daeth yr ymgynghoriad i ben 18 Rhagfyr 2015.
Manylion am y canlyniad
Crynodeb o'r ymatebion , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 529 KB
Crynodeb o ymatebion - gweithdai cyfranogi gyda phlant, pobl ifanc a rhieni/gofalwyr , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB
Ymatebion ymgynghori: Ymgyrch NDCS Cymru / Sense Cymru (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 613 KB
Ymatebion: Ymgyrch Iaith Gymraeg , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 15 MB
Ymatebion 1-159 (Saesneg yn unig) , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 32 MB
Ymgynghoriad gwreiddiol
Mae fersiwn ddrafft y Bil yn nodi'r cynigion ar gyfer sefydlu system ddeddfwriaethol newydd i gefnogi plant a phobl ifanc 0-25 oed sydd ag anghenion dysgu ychwanegol.
Disgrifiad o'r ymgynghoriad
Byddai’r system newydd yn disodli’r ddeddfwriaeth bresennol sy’n ymwneud ag anghenion addysgol arbennig ac asesu plant a phobl ifanc sydd ag anawsterau a/neu anableddau dysgu mewn addysg a hyfforddiant ôl-16.
Dylid darllen y ddogfen ymgynghori ochr yn ochr â fersiwn ddrafft y Bil yn ogystal â’r Memorandwm Esboniadol drafft gan gynnwys y Nodiadau Esboniadol a’r asesiadau effaith cysylltiedig.
Rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiwn ddrafft gychwynnol o God arfaethedig Anghenion Dysgu Ychwanegol ynghyd ag amlinelliad o’n cynlluniau ar gyfer gweithredu. Nid yw’r ddwy ddogfen hyn yn rhan o’r ymgynghoriad hwn a chânt eu cyhoeddi er gwybodaeth yn unig ac er mwyn hwyluso’r gwaith o ystyried cynnwys y Bil drafft.
Rydym wedi casglu sylwadau gan blant a phobl ifanc fel rhan o’r ymgynghoriad hwn drwy gynnal cyfres o ddigwyddiadau ymgysylltu ar eu cyfer. Rydym hefyd wedi cyhoeddi fersiwn o’r ddogfen ymgynghori ar gyfer plant a phobl ifanc ynghyd ag esboniad hawdd ei ddeall o’r Bil drafft.