Gofynion cwricwlwm newydd ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed mewn addysg feithrin heb ei chynnal neu ei chynnal.
Manylion
Beth yw Bil Cwricwlwm ac Asesu (Cymru)
Bydd y Bil yn creu gofynion cwricwlwm newydd ar gyfer pob dysgwr rhwng 3 ac 16 oed mewn addysg feithrin a gynhelir neu a ariennir nas cynhelir. Bydd yn disodli'r cwricwlwm cenedlaethol cyfredol a'r cwricwlwm sylfaenol.
Newid y gyfraith
Mae’r Bil yn disodli Rhan 7 o Ddeddf Addysg Act 2002, sy’n nodi’r trefniadau cwricwlwm presennol yng Nghymru. Nid yw’r darpariaethau hyn yn hyblyg ac yn ddigon ymatebol i allu ymdrin yn effeithiol â’r newidiadau ym maes technoleg a’r datblygiadau parhaus yn ein cymdeithas a’n heconomi.
Mwy o wybodaeth
Mae’r wefan ‘Mae addysg yn newid’ yn rhoi rhagor o wybodaeth am y cwricwlwm newydd.
Y camau nesaf
Dilynwch hynt a helynt y Bill drwy’r cyfnodau craffu ar wefan y Senedd.
Cefndir
Mae’r gwaith diwygio hwn yn ymrwymiad gan ein ers peth amser ac yn rhan o’i strategaeth genedlaethol, ‘Ffyniant i Bawb’. Mae hefyd yn dilyn yr argymhellion a ddaeth o Adolygiad yr Athro Donaldson, sef Dyfodol Llwyddiannus.