Neidio i'r prif gynnwy
Beverly Owen

Mae Beverly Owen yn aelod o Gomisiwn Trafnidiaeth De-orllewin Cymru.

Mae gan Beverly radd mewn Tai ac Adfywio a thros 20 mlynedd o brofiad o lywodraeth leol mewn amrywiaeth o uwch rolau. Ar ôl arwain y gwaith o ddatblygu a chyflwyno nifer o raglenni adfywio economaidd a chymdeithasol mawr yn y de-ddwyrain, cafodd Beverly ei phenodi’n Gyfarwyddwr Strategol – Lle Cyngor Dinas Casnewydd ym mis Gorffennaf 2016.

Beverly yw’r uwch-swyddog yn y Cyngor sy’n gyfrifol am dwf a datblygiad economaidd parhaus Casnewydd, ac mae’n goruchwylio gweithgarwch adfywio ac amrywiaeth eang o wasanaethau eraill yn y ddinas, gan gynnwys trafnidiaeth a seilwaith. Mae Beverly hefyd yn un o Gyfarwyddwyr Bwrdd Ffowndri Lled-ddargludyddion Cyfansawdd Dinas-ranbarth Caerdydd a Chwmni Eiddo Cyd-fenter Nordig Casnewydd.