Uned gwarantin yw rhan o fferm sydd yn lle caeedig bioddiogel ar gyfer anifeiliaid sy’n symud i’r fferm o farchnad neu ddaliad arall, neu ar gyfer anifeiliaid sy’n dychwelyd i'r fferm o sioe amaethyddol neu farchnad.
Bydd yr uned gwarantin yn rhoi anifeiliaid mewn cwarantin oddi wrth weddill y prif ddaliad am gyfnod y rheol 6 niwrnod er mwyn caniatáu i weddill y daliad weithredu yn ôl yr arfer.
Bydd set o reolau gweithredol a safonau yn gwarantu’r lefel uchaf bosibl o fioddiogelwch i'r fferm, a bydd yn cyfyngu ar y cysylltiad rhwng anifeiliaid sydd mewn cwarantin ac anifeiliaid sydd ar y prif ddaliad.
Mae rhagor o wybodaeth am y cynllun, a sut i gael uned gwarantin ar gael yn y Canllawiau i Geidwaid Da Byw, ar gael ar y wefan hon.
Manteision uned gwarantin
Mae unedau cwarantin wedi cael eu creu er mwyn cael cydbwysedd rhwng hyblygrwydd i symud ar gyfer masnachu a chynnal safon uchel o fioddiogelwch.
Caiff ffermwr ddefnyddio uned gwarantin ar gyfer y canlynol:
- I roi anifeiliaid, sy’n dychwelyd neu’n cael eu cyflwyno, mewn cwarantin, a chael bod yn rhydd i symud anifeiliaid o’u prif ddaliad i sioe neu farchnad yn ystod y cyfnod.
- I symud anifeiliaid sy’n dychwelyd o sioe cyn mynd i sioe arall, heb orfod cadw at y rheol 6 niwrnod. Ar yr amod eu bod yn cael eu rhoi mewn cwarantin rhwng sioeau ac yn cadw at y rheol 6 niwrnod ar ôl eu sioe olaf.
Bydd ffermydd sydd heb uned gwarantin ardystiedig yn gorfod cadw at y rheol 6 niwrnod wrth gyflwyno neu ddychwelyd anifeiliaid i'r prif ddaliad.
Rydym yn argymell bod ffermwyr yn penderfynu a ydynt am sefydlu uned gwarantin ai peidio, a hynny yn seiliedig ar anghenion a gweithrediad eu fferm. I rai ffermwyr, bydd mantais fawr o sefydlu uned gwarantin.
Bydd yn well gan ffermwyr eraill weithredu drwy gadw at y rheol 6 niwrnod. Caiff ffermwr ddewis ardystio hyd at ddwy uned gwarantin i gynyddu lefel yr hyblygrwydd i'w fferm o ran symud a masnachu.
Ardystio
Cynllun sy’n eiddo i Lywodraeth Cymru yw unedau cwarantin. Mae’r gwaith ardystio, a’r dyletswyddau gweithredol ar gyfer y cynllun, yn digwydd y tu allan i’r llywodraeth. Maent yn cael eu cadw gan gorff ardystio a gymeradwywyd gan UKAS.
Mae UKAS wedi cymeradwyo’r cyrff ardystio canlynol:
- Quality Welsh Food Certification Ltd (QWFC) www.qwfc.co.uk
I gael ardystiad, rhaid i uned gwarantin gael ei harchwilio gan gorff ardystio. Os yw uned yn bodloni'r manylebau, bydd yn uned gwarantin ardystiedig am 18 mis. Ar ôl hynny, bydd angen ail-ardystio i barhau i weithredu fel uned gwarantin. Codir ffi am y gwasanaeth ardystio ac adnewyddu, a’r corff ardystio sy’n pennu’r ffi hwnnw.
Adrodd ac archwilio
Mae unedau cwarantin yn agored i archwiliadau dirybudd gan y Sefydliad Iechyd Anifeiliaid a Phlanhigion (APHA). Mae’r archwiliadau’n sicrhau bod yr unedau cwarantin yn cynnal effeithiolrwydd o'r dyddiad ardystio hyd at y dyddiad adnewyddu.
Gofynion Unedau Cwarantin
Er mwyn sicrhau bod y safon uchel o fioddiogelwch yn cael ei chynnal, rhaid i'r unedau cwarantin gadw at set o ofynion a rheolau gweithredol. Mae’r rheolau hyn yn hanfodol i sicrhau’r lefel uchaf bosibl o wahanu rhwng y prif ddaliad a’r anifeiliaid sydd yn y cwarantin. Mae’r unedau cwarantin yn lleihau’r risg o drosglwyddo clefyd i'r prif ddaliad, a thrwy hynny, i ffermydd eraill yng Nghymru.
Pwrpas gofynion yr unedau cwarantin yw atal anifeiliaid sydd mewn uned gwarantin rhag cael unrhyw gysylltiad â’r anifeiliaid eraill ar y fferm. Mae pob gofyniad wedi cael ei ddylunio i ddarparu'r lefel uchaf bosibl o wahanu. Mae rhagor o wybodaeth ar gael am y gofynion yn y Canllaw i Geidwaid Da Byw ar wefan Llywodraeth Cymru.
Drwy gynnal y gofynion hyn, gellir lleihau’r risg fod clefydau egsotig ac endemig hynod heintus rhag lledaenu o ffermydd yng Nghymru. Bydd hyn hefyd yn gymorth i warantu buches/diadell genedlaethol fwy iach.
Rhaid i unedau cwarantin gael eu hardystio gan Gorff Ardystio sydd wedi cael ei achredu gan UKAS (Gwasanaeth Achredu'r Deyrnas Unedig). Un Corff Ardystio sydd wedi cael ei achredu i ardystio unedau cwarantin, sef: Quality Welsh Food Certification Ltd. E-bost: info@qwfc.co.uk Ffon: 01970 636 688.
Yn dilyn Adolygiad Cerrig Milltir o'r cynllun unedau cwarantin yn 2018, mae’n bosibl y bydd yr wybodaeth ar y tudalennau hyn yn newid wrth i argymhellion yr adolygiad gael eu hystyried a’u gweithredu.
Os oes gennych ragor o ymholiadau ar y cynllun unedau cwarantin, cysylltwch â:
Polisi Clefydau Anifeiliaid
Swyddfa’r Prif Swyddog Milfeddygol
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
neu