Bydd eich cais ar gyfer Gofal Plant Cymru yn cael ei adolygu a’ch cyfrif yn cael ei ddiweddaru o fewn 10 diwrnod gwaith.
Cynnwys
Cyfeirnod unigryw
Ar ôl cyflwyno'r cais rhiant, bydd cyfeirnod unigryw yn cael ei gynhyrchu a'i arddangos ar y sgrin. Bydd hwn hefyd yn cael ei e-bostio atoch chi. Cadwch hwn yn ddiogel gan y byddwch chi ei angen ar gyfer pob gohebiaeth â'ch awdurdod lleol.
Adolygiad gan awdurdod lleol
Bydd eich cais yn cael ei adolygu gan yr awdurdod lleol perthnasol o fewn 10 diwrnod gwaith.
Pan fydd yr awdurdod lleol wedi adolygu eich cais, byddwch chi’n derbyn e-bost yn dweud bod eich cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru wedi’i ddiweddaru ac y dylech chi fewngofnodi i’ch cyfrif Cynnig Gofal Plant Cymru gyda’ch Cyfeirnod a’ch cyfrinair Porth y Llywodraeth i’w wirio. Bydd yr holl hysbysiadau, ac unrhyw wybodaeth benodol gan eich Awdurdod Lleol, yn cael eu harddangos ar eich dangosfwrdd.
Os caiff eich cais ei gymeradwyo, yna rhaid i chi greu Cytundeb ar-lein unwaith y byddwch wedi cytuno ar oriau a ariennir gan y Cynnig i'w darparu gan eich lleoliad gofal plant.
Dewis lleoliad gofal plant
Ar ôl i'ch cais gael ei gymeradwyo, nid yw'r cyllid yn ei le nes eich bod wedi creu Cytundeb ar-lein gyda'r lleoliad gofal plant o’ch dewis, a'r lleoliad wedi cymeradwyo hyn ar-lein. Rhaid cwblhau'r camau hyn er mwyn i'r cyllid gael ei hawlio gan y lleoliad.
Unwaith y byddwch wedi cytuno ar oriau a ariennir gan y Cynnig i'w darparu gan y lleoliad o’ch dewis, bydd angen i chi greu Cytundeb ar-lein drwy borth Cynnig Gofal Plant Cymru.
Hyd yn oed os oedd eich plentyn yn cael mynediad at ofal plant yn y lleoliad cyn bod yn gymwys ar gyfer Cynnig Gofal Plant Cymru, bydd angen i chi greu Cytundeb Cynnig Gofal Plant Cymru ar-lein er mwyn i'r lleoliad hawlio cyllid.