Sut y gallwch chi gefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i fyw bywydau annibynnol.
Cynnwys
Cyflwyniad gan Albert Heaney CBE, Prif Swyddog Gofal Cymdeithasol Cymru
Ein gweledigaeth ar gyfer gwasanaethau plant yng Nghymru yw i fwy o blant gael cymorth i aros gyda'u teuluoedd a lleihau nifer y plant a phobl ifanc sy'n derbyn gofal.
Mae ein Rhaglen Lywodraethu’n cynnwys 8 ymrwymiad sy'n darparu'r fframwaith i wneud hyn. Un o'r ymrwymiadau hyn yw cryfhau cyrff cyhoeddus yn eu rôl fel rhiant corfforaethol.
Bydd cyflawni'r ymrwymiadau hyn yn creu newid ar draws y system gyfan yng Nghymru ac yn cyd-fynd â nodau ac amcanion ein cynllun plant a phobl ifanc.
Rydym yn gwybod y bydd angen amser i gyflwyno'r newidiadau sydd eu hangen i wireddu ein gweledigaeth ac na fydd modd ei gwireddu dros nos, ond rydym yn gwybod bod pethau'n gallu newid yn gyflym pan fydd pawb yn cydweithio. Mae'r siarter rhianta corfforaethol yn enghraifft dda o sut allwn ni i gyd weithio gyda'n gilydd i gefnogi a gwella canlyniadau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael y cyfleoedd bywyd maen nhw'n eu haeddu. Mae egwyddorion ac addewidion y siarter yn cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
Diolch am roi o'ch amser i ddarllen y pecyn cymorth hwn. Gobeithio y bydd yr wybodaeth yn helpu i ateb eich cwestiynau ac yn eich annog i ymuno â ni i fod y rhieni corfforaethol gorau y gallwn fod. Drwy ddod yn rhiant corfforaethol, gallwch ein helpu i sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael yr un cyfleoedd bywyd â phlant a phobl ifanc eraill yng Nghymru.
Beth yw rhianta corfforaethol?
Mae'r term "rhianta corfforaethol" wedi ei ddefnyddio'n bennaf i esbonio rôl awdurdod lleol ym mywydau plant o’i ardal sy'n derbyn gofal. Dyma egluro ei ystyr gan ddefnyddio awdurdodau lleol fel enghraifft:
Pan ddaw plentyn i ofal, daw'r awdurdod lleol yn ‘rhiant corfforaethol’ sy'n golygu bod ganddo'r cyfrifoldeb ar y cyd â'i aelodau etholedig, ei weithwyr a'i asiantaethau partner i fod y rhiant gorau y gall fod i'r plentyn hwnnw. Mae gan bob aelod a gweithiwr y cyngor gyfrifoldeb statudol i weithredu ar ran y plentyn hwnnw yn yr un modd ag y byddai rhiant da yn gweithredu dros ei blentyn ei hun.
Mae bod yn rhiant corfforaethol yn golygu bod eisiau'r gorau i blentyn, i weld y plentyn hwnnw’n:
- ffynnu gydag iechyd da
- teimlo'n ddiogel ac yn hapus
- gwneud yn dda yn yr ysgol ac yn mwynhau perthynas dda gyda'i gyfoedion
- cyfrannu yn ei gymuned
- gwneud y gorau o gyfleoedd hamdden, gwasanaethau gwaith ieuenctid, hobïau a diddordebau
- tyfu tuag at fod yn oedolyn sydd â’r gallu i fyw bywyd annibynnol
- llwyddo fel oedolyn drwy addysg, gyrfaoedd da a swyddi o'i ddewis, ac yn cael sicrwydd ariannol
Nid yw rhianta corfforaethol wedi'i gyfyngu i awdurdodau lleol. Hoffem weld pawb yn rhannu cyfrifoldeb ar draws cyrff y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector i fod yn rhiant corfforaethol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Gwyddom fod gan gyrff iechyd, addysg, tai a chyrff eraill oll gyfraniad i’w wneud i'w helpu i ffynnu a llwyddo.
Nod y pecyn cymorth hwn yw rhoi enghreifftiau o sut y gall cyrff amrywiol y sector cyhoeddus, y sector preifat a'r trydydd sector wneud hynny a dod yn rhiant corfforaethol.
Mae plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal angen i rieni corfforaethol fabwysiadu dull gweithredu sy'n seiliedig ar hawliau drwy:
- weithredu er budd gorau'r plant a'r bobl ifanc, gan eu cynorthwyo i arfer eu hawliau a hyrwyddo eu hiechyd a'u llesiant corfforol a meddyliol
- sicrhau bod plant a phobl ifanc yn derbyn gofal mewn ffordd sy'n eu galluogi i ddatblygu perthnasoedd tymor hir, cariadus ag eraill ac i gynnal perthnasoedd sy'n bwysig iddyn nhw
- gweithredu'n gydnaws â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn ym mhopeth a wnewch
- eu hannog i fynegi eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau yn yr iaith o'u dewis
- deall a chefnogi pobl ifanc ar gwestiynau a phroblemau’n ymwneud â phethau sy'n bwysig iddyn nhw
- sicrhau bod eich staff yn deall ac yn gallu cyfeirio pobl ifanc at sefydliadau sy'n gallu eu cynorthwyo
- ystyried eu barn, eu dymuniadau a’u teimladau
- eu helpu i gael mynediad at wasanaethau a ddarperir gan yr awdurdod lleol, ei bartneriaid, y sector gwirfoddol a'r trydydd sector ac ar draws y gymuned, ac i wneud y defnydd gorau ohonyn nhw
- cefnogi plant a phobl ifanc i fod â rhan weithgar yn y gymuned ac i gynnal y cysylltiadau cymunedol y maen nhw'n eu datblygu
- eu hannog i fod â dyheadau uchel ac i geisio sicrhau'r canlyniadau gorau drostyn nhw eu hunain
- sicrhau eu bod yn ddiogel a bod ganddyn nhw sefydlogrwydd yn eu bywydau ar yr aelwyd, eu perthynas ag eraill ac mewn addysg neu waith
- eu paratoi ar gyfer bod yn oedolion a byw'n annibynnol ac iach
Siarter rhianta corfforaethol
Nod y siarter rhianta corfforaethol yw cryfhau egwyddorion rhianta corfforaethol i gyrff cyhoeddus, cyrff preifat a sefydliadau'r trydydd sector yn ehangach. Rydym yn gwahodd ac yn annog pawb i ddod yn rhiant corfforaethol.
Lansiwyd y siarter yn swyddogol ar 22 Medi 2023.
Datblygwyd y siarter gan y grŵp gweithredu rhianta corfforaethol sy'n cynnwys cynrychiolwyr o blith y canlynol:
- phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal
- penaethiaid gwasanaethau plant yr awdurdodau lleol
- Cymdeithas Llywodraeth Leol Cymru (CLlLC)
- Voices from Care Cymru
- Comisiynydd Plant Cymru
- Y Gwasanaeth Eiriolaeth Ieuenctid Cenedlaethol
- Plant yng Nghymru
- Y Gwasanaeth Mabwysiadu Cenedlaethol
- Iechyd Cyhoeddus Cymru
- Nationwide Association of Foster Providers
Mae'r siarter yn cynnwys cyfres o addewidion ac egwyddorion yr ydym yn gwahodd unrhyw sefydliad i’w mabwysiadu a dod yn rhiant corfforaethol. Mae'r egwyddorion yn cyd-fynd â Chonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn y mae gwybodaeth amdano ar wefan Comisiynydd Plant Cymru.
Cyn cofrestru, meddyliwch sut allech chi fabwysiadu'r egwyddorion wrth:
- ddarparu eich gwasanaethau a'ch cymorth presennol
- cynllunio neu gomisiynu gwasanaethau newydd
- ymgysylltu â phlant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal
Efallai nad yw'r holl egwyddorion yn berthnasol i'ch sefydliad chi ond meddyliwch am yr hyn sy’n gweddu orau i'ch gwaith chi.
Egwyddor 1: cydraddoldeb
Cefnogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i gael yr un cyfleoedd bywyd â phob person ifanc arall yng Nghymru.
Egwyddor 2: dileu stigma
Adnabod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal am bwy ydyn nhw, nid dim ond oherwydd eu profiad o fod mewn gofal.
Egwyddor 3: gyda'n gilydd
Gweithio ochr yn ochr â phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i sicrhau bod eu barn, eu teimladau a’u syniadau yn rhan annatod o’r gwasanaethau y maen nhw’n eu derbyn a’r ffordd y maen nhw’n eu derbyn, yn llywio’r gwasanaethau hynny ac yn dylanwadu arnyn nhw.
Egwyddor 4: cymorth
Sicrhau bod y staff yn eich sefydliadau sy’n gweithio gyda phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal yn deall anghenion y plant a’r bobl ifanc hynny a bod gwybodaeth a hyfforddiant ar gael iddyn nhw.
Egwyddor 5: uchelgais
Sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cyrraedd ei botensial ac yn gallu mwynhau profiad eang o weithgareddau hamdden, chwarae, diwylliannol, chwaraeon a chymdeithasol.
Egwyddor 6: anogaeth
Drwy wneud i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal deimlo ei fod yn cael ei werthfawrogi, ei barchu, ei warchod a’i garu.
Egwyddor 7: iechyd da
Drwy ddarparu cymorth i gael gafael ar y gofal a’r cyngor iechyd cywir sydd eu hangen i gefnogi’r llesiant corfforol, meddyliol a chyffredinol gorau ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc â phrofiad o fod mewn gofal.
Egwyddor 8: cartref sefydlog
Drwy chwilio am leoedd sefydlog a darparu lleoedd sefydlog i fyw sy’n iawn ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
Egwyddor 9: addysg dda
Drwy ddarparu cyfleoedd a chefnogaeth i bob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i ddysgu/datblygu, a’i helpu i fod yn pwy y mae am fod.
Egwyddor 10: ffynnu
Drwy sicrhau bod pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn barod ar gyfer y dyfodol ac yn gallu gwneud dewisiadau cadarnhaol ar gyfer byw’n annibynnol ac wrth dyfu'n oedolion.
Egwyddor 11: gydol oes
Rhianta corfforaethol ar waith
Er mwyn eich helpu i ddeall ystyr bod yn rhiant corfforaethol mewn gwirionedd, dyma enghreifftiau o'r hyn y mae'n ei olygu yn ymarferol.
Yn y bôn, mae'n ymwneud â 2 beth:
- meddwl am yr hyn allwch chi ei wneud i gefnogi a meithrin plentyn neu berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal
- ystyried beth fyddech chi ei eisiau ar gyfer eich plentyn eich hun
Mae'r enghreifftiau hyn wedi'u grwpio yn ôl y meysydd canlynol:
- gwasanaethau cymdeithasol
- gwasanaethau addysg
- gwasanaethau iechyd
- gwasanaethau tai
- y trydydd sector
- yr heddlu a’r system cyfiawnder troseddol
- darpariaeth diwylliant, hamdden, chwarae, gwasanaethau cymunedol a gwaith ieuenctid
- y sector preifat
Gwasanaethau cymdeithasol
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i wasanaethau cymdeithasol:
- pob egwyddor
Yn y gwasanaethau cymdeithasol, gall rôl rhieni corfforaethol gynnwys amrywiaeth o unigolion. Er enghraifft:
- cynghorwyr
- prif weithredwyr a chyfarwyddwyr corfforaethol
- cyfarwyddwyr gwasanaethau cymdeithasol
- comisiynwyr a thimau caffael awdurdodau lleol
- gweithwyr cymdeithasol
- swyddogion adolygu annibynnol
- cynghorwyr personol
- gweithwyr ieuenctid, chwarae a chymorth
- staff cartrefi preswyl i blant
- gofalwyr maeth, gofalwyr sy'n berthnasau a rhieni sy'n mabwysiadu
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol yn y gwasanaethau cymdeithasol:
- Bod â'r un dyheadau, gobeithion a disgwyliadau ag sydd gan bob rhiant ar gyfer ei blant ei hun.
- Bod yn hyderus bod y plentyn neu'r person ifanc yn ddiogel, yn iach, yn weithgar, yn cael ei feithrin ac yn cael ei gefnogi i wneud dewisiadau bywyd diogel a gwybodus.
- Lle bynnag mae'r plentyn neu'r person ifanc yn byw, gwneud yn siŵr bod ganddo ymdeimlad o berthyn ac y gall fagu hyder drwy hyrwyddo cydraddoldeb a chynhwysiant.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau cymdeithasol:
- Gwneud yn siŵr bod y plentyn neu'r person ifanc yn cymryd rhan wirioneddol mewn penderfyniadau sy'n effeithio arno a'i fod yn cael y cymorth a'r cyfle i ddatgan ei farn, gydag eraill yn gwrando arno a'i gymryd o ddifrif.
- Disgwyl y gorau o bob gwasanaeth fel y gall helpu'r plentyn neu'r person ifanc i gyrraedd ei lawn botensial a sicrhau bod rhywun yn siarad ar ei ran yn union fel y mae rhieni da yn ei wneud.
- Sicrhau bod y plentyn neu'r person ifanc yn gallu cynnal cysylltiadau gwerth chweil sy'n bwysig iddo ac a fydd yn cefnogi ei ddatblygiad parhaus, er enghraifft cadw mewn cysylltiad â theulu biolegol, cyn-ofalwyr maeth a gofalwyr preswyl.
- Gwneud yn siŵr bod holl gyflawniadau'r plentyn neu'r person ifanc yn cael eu cydnabod a bod y rhai pwysicaf i'r person ifanc yn cael eu cofio a'u cofnodi drwy ffotograffau er enghraifft. Sicrhau bod y cofnodion a'r atgofion hyn yn cael eu cadw'n ddiogel ac yn cael eu cadw gyda'r plentyn neu'r person ifanc.
- Gwneud yn siŵr bod cynllun gofal y plentyn neu'r person ifanc yn rhoi ystyriaeth lawn i'w anghenion addysgol ac yn nodi sut y gall oedolion â rolau gwahanol ei helpu i gyflawni a'i helpu o ran ei lesiant yn yr ysgol ac mewn lleoliadau addysg anffurfiol fel gwaith ieuenctid.
- Annog a chefnogi'r plentyn neu'r person ifanc i ystyried addysg, hyfforddiant neu gyflogaeth ôl-16.
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a thrawma ac anghenion plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr. Sicrhau bod staff allweddol yn manteisio ar y cyfleoedd hyn.
- Cynorthwyo'r person ifanc i drosglwyddo o ofal i fyw'n annibynnol.
- Gofalu bod y plentyn neu'r person ifanc yn cael cyfle i gael profiadau cadarnhaol, er enghraifft, aros dros nos gyda ffrind neu fynd ar daith ysgol a rhoi cynnig ar sgiliau newydd fel chwaraeon, cerddoriaeth, drama, y celfyddydau a diwylliant.
- Cynorthwyo'r plentyn a'r person ifanc i gynnal y gweithgareddau a'r sgiliau hynny y mae’n eu mwynhau.
- Sicrhau bod gan y plentyn neu'r person ifanc yr amser, y lle a'r caniatâd i gymryd rhan mewn cyfleoedd chwarae a hamdden bob dydd sy'n briodol i'w oedran, ei alluoedd a'i ddiddordebau.
- Datblygu perthynas gadarnhaol â sefydliadau eraill, gan gynnwys y trydydd sector i wneud y mwyaf o'r cyfleoedd a'r cymorth amrywiol sydd ar gael i blant a phobl ifanc.
- Cefnogi'r plentyn neu'r person ifanc pan fydd heriau'n codi a phethau mynd o chwith, a pharhau i gefnogi'r plentyn a'r person ifanc fel y byddai rhiant da a chariadus yn ei wneud. Ei alluogi i oresgyn yr heriau, siomedigaethau a chamgymeriadau y bydd pob plentyn a pherson ifanc yn dod ar eu traws a'u gwneud.
- Gwneud yn siŵr bod y plentyn neu'r person ifanc yn rhan o'i gymuned leol ac yn gallu defnyddio gwasanaethau cyffredinol lleol heb wahaniaethu. Lle mae rhwystrau sefydliadol byddwch yn ddigon hyderus i fynd at yr asiantaethau perthnasol i fynd i'r afael â'r rhain.
Gwasanaethau addysg
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i wasanaethau addysg:
- cydraddoldeb (1)
- dileu stigma (2)
- gyda’n gilydd (3)
- cymorth (4)
- uchelgais (5)
- anogaeth (6)
- addysg dda (9)
- ffynnu (10)
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau addysg:
- Adnabod eich plant a'ch pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a gweithio'n agos gyda gofalwyr, gan gynnwys gofalwyr maeth, perthnasau a phreswyl, a deulu geni i fodloni hawliau'r plant neu’r bobl ifanc.
- Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn cael yr un cyfleoedd â'u cyfoedion heb brofiad o fod mewn gofal i elwa ar addysg o safon, gan gynnwys dilyniant i addysg bellach ac addysg uwch. Cefnogi dyheadau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i'w galluogi i gyflawni'r un deilliannau addysgol â'u cyfoedion.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau addysg:
- Gweithio mewn ffordd sy'n canolbwyntio ar y plentyn i hyrwyddo presenoldeb, gwneud trefniadau ychwanegol lle bo angen er mwyn cefnogi dysgu, goresgyn anfantais, ac annog cyfranogiad yn yr ystyr ehangaf.
- Hyrwyddo llesiant meddyliol a chorfforol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal. Eu cynorthwyo i gyflawni eu potensial llawn drwy fanteisio ar gyfleoedd sydd ar gael sy'n ychwanegu at eu sgiliau dysgu, eu sgiliau bywyd a'u sgiliau gwaith, yn ogystal â gweithgareddau eraill fel y celfyddydau, chwaraeon neu waith ieuenctid.
- Gofalu bod anghenion penodol pob plentyn neu berson ifanc yn cael eu diwallu, mewn ffordd nad yw'n ei wneud yn wahanol i blant a phobl ifanc eraill ond sy'n hyrwyddo dyhead ac ymgysylltu.
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), trawma ac anghenion plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr. Sicrhau bod staff allweddol ym mhob lleoliad addysgol yn manteisio ar y cyfleoedd hyn.
- Ymdrechu i feithrin cysylltiadau cadarnhaol ymhlith plant a phobl ifanc unigol, bod yn agored a hawdd siarad â chi ac annog pob plentyn a pherson ifanc i siarad yn agored â chi am ei bryderon.
- Bod â disgwyliadau uchel o blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, yn ogystal â phobl ifanc sy'n gadael gofal. Eu hannog a'u cefnogi i adeiladu ar eu cryfderau.
- Gwneud yn siŵr bod plant neu bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sydd angen cymorth ychwanegol i gefnogi eu dysgu yn gallu cael gafael ar gymorth wedi'i dargedu'n rhwydd, naill ai yn yr ysgol neu'r coleg neu drwy adnoddau arbenigol o fewn yr awdurdod lleol ac asiantaethau partner.
- Cynnal sefydlogrwydd mewn addysg, pryd bynnag y bo'n briodol i les y plentyn neu'r person ifanc, hyd yn oed pan mae lleoliad yn gorfod newid a bod yn rhaid i'r plentyn symud i ardal wahanol.
- Parhau i gefnogi'r plentyn a'r person ifanc i oresgyn unrhyw heriau a siomedigaethau y gall ddod ar eu traws.
- Gallu cynrychioli barn y plentyn neu'r person ifanc, neu eirioli ar ei ran mewn fforymau priodol.
Gwasanaethau iechyd
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i wasanaethau iechyd:
- cydraddoldeb (1)
- dileu stigma (2)
- cymorth (4)
- iechyd da (7)
- ffynnu (10)
- gydol oes (11)
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau iechyd, a all fod yn enghreifftiau i fyrddau iechyd lleol neu weithwyr iechyd proffesiynol:
- Gallu adnabod unrhyw blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn eich ardal.
- Sicrhau bod pob plentyn neu berson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael mynediad at wasanaethau iechyd a llesiant yn ôl yr angen, waeth ble mae’n byw, gan sicrhau cydweithrediad ar draws ffiniau'r bwrdd iechyd i gyflawni hyn pan fo angen.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau iechyd:
- Ar lefel bwrdd iechyd lleol, mynd ati i geisio hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal o fewn dylunio gwasanaethau ac wrth wella gofal cleifion.
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs) a thrawma ac anghenion plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr. Sicrhau bod staff allweddol ym mhob lleoliad iechyd yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd dysgu a datblygu hyn.
- Cefnogi aelodau'r bwrdd i hyrwyddo hawliau plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal, yn eu hardal leol a herio partneriaid cynllunio cymunedol i rannu eu hymrwymiad.
- Gwneud yn siŵr bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a’r rhai sy’n gadael gofal yn cael eu cofrestru gyda'u gwasanaethau gofal iechyd sylfaenol lleol, gan gynnwys gwasanaethau meddygon teulu, deintyddion ac optegwyr.
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn gallu cael cymorth iechyd meddwl a llesiant priodol pan fo angen.
- Fel meddyg teulu, sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal yn gallu cael gafael ar ofal meddygol yn ôl yr angen ac yn cymryd rhan mewn rhaglenni iechyd cyhoeddus drwy sgrinio a gwyliadwriaeth gyffredinol.
- Fel deintydd, gallwch gynnig gofal deintyddol a chyngor iechyd y geg yn ôl yr angen.
- Fel optegydd, gallwch gynnig archwiliadau llygaid neu ymyriadau eraill yn ôl yr angen.
- Gall holl weithwyr iechyd a gofal proffesiynol ymgysylltu â phobl ifanc wrth iddyn nhw symud allan o'r system ofal ac i annibyniaeth, i sicrhau eu bod yn ymgysylltu â gwasanaethau iechyd i ddiwallu eu hanghenion newidiol.
- Sicrhau eich bod yn gweithio mewn dull system gyfan gyda sectorau eraill er mwyn sicrhau bod cefnogaeth yn gydgysylltiedig ac nad oes rhaid i blant adrodd eu stori sawl gwaith.
- Sicrhau nad yw plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn "syrthio drwy'r bylchau" ac yn colli mynediad at wasanaethau os ydyn nhw’n cael eu symud neu os ydyn nhw’n symud rhwng ardaloedd byrddau iechyd lleol.
Gwasanaethau tai
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i wasanaethau tai:
- cydraddoldeb (1)
- dileu stigma (2)
- cymorth (4)
- cartref sefydlog (8)
- ffynnu (10)
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau tai:
- Gofalu bod anghenion a hawliau plant wrth wraidd penderfyniadau sy’n cael eu gwneud am dai ac unrhyw gymorth tai a gynigir i deuluoedd.
- Yr holl wasanaethau tai, cymdeithasau tai a landlordiaid cymdeithasol cofrestredig i godi eu hymwybyddiaeth o rianta corfforaethol a'u cyfrifoldebau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal ar draws eu sefydliadau.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau tai:
- Gwneud yn siŵr bod staff sy'n gweithio mewn gwasanaethau tai yn deall eu cyfrifoldebau ychwanegol i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a'r rhai sy'n gadael gofal.
- Gwneud yn siŵr bod eich polisi dyrannu tai yn ddigon hyblyg i ddiwallu anghenion pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth iddyn nhw dyfu'n oedolion.
- Sicrhau cyn belled ag y bo modd y gall y person ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sefydlu cartref yn y gymuned lle mae'n teimlo ei fod yn cael ei gefnogi a lle mae ganddo gyfeillgarwch cadarnhaol a pherthynas gadarnhaol ag eraill.
- Sefydlu trefniadau cydweithio effeithiol gyda gweithdrefnau clir a mecanweithiau datrys effeithiol. Gwneud yn siŵr bod pobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn deall y rhain.
- Darparu pob math o ddewisiadau llety, gan gynnwys llety â chymorth, fflatiau hyfforddi, cyfleoedd byw ar y cyd neu lety annibynnol os yw’n addas.
- Gweithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol, cynghorwyr personol ac eraill, gan gynnwys sefydliadau'r trydydd sector, i barhau i gefnogi'r person ifanc, yn enwedig os yw’n cael anawsterau rheoli cyfrifoldebau’n ymwneud â'i lety yn llwyddiannus, fel sy’n gallu digwydd yn y blynyddoedd cynnar o fyw'n annibynnol.
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), trawma ac anghenion plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr. Sicrhau bod staff allweddol yn gwneud y gorau o'r cyfleoedd dysgu a datblygu hyn a'u bod yn ymwybodol o'u cyfrifoldebau i herio gwahaniaethu.
- Gweithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol a phartneriaid priodol eraill cyn gynted â phosibl i nodi pobl ifanc sydd mewn perygl o ddod yn ddigartref, sydd eisoes yn ddigartref neu mewn sefyllfa fregus o ran tai. Gweithio gyda'r bobl ifanc i adolygu a chynllunio cymorth amlasiantaeth i'w helpu i gynnal y denantiaeth neu drefniant arall. Bydd y bobl ifanc hyn yn cynnwys y rhai sy'n gadael llety diogel a'r system cyfiawnder ieuenctid.
- Ar gyfer unrhyw fenyw ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal sy'n feichiog, dylai rhieni corfforaethol weithio gyda'r gwasanaethau cymdeithasol er mwyn sicrhau bod tŷ addas ar gael iddi hi a'i baban.
Y trydydd sector
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i'r trydydd sector:
- cydraddoldeb (1)
- gyda’n gilydd (3)
- cymorth (4)
- uchelgais (5)
- ffynnu (10)
- gydol oes (11)
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau trydydd sector, a all hefyd gynnwys sefydliad trydydd sector a sector preifat sy'n darparu gwasanaethau gofal cofrestredig:
- Darparu gwasanaethau personol sydd wedi’u teilwra i anghenion penodol plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Dangos sut y gallwch ychwanegu gwerth at y teulu corfforaethol, sut mae eich gwasanaeth yn darparu canlyniadau gwell i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, neu'r rhai sy'n gadael gofal.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau trydydd sector:
- Sicrhau bod llais plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth wraidd y broses o greu a datblygu eich gwasanaethau.
- Os ydych chi’n darparu gwasanaethau ar gyfer y boblogaeth gyffredinol o blant a phobl ifanc, gwneud yn siŵr eich bod yn mynd ati i gynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Adeiladu perthynas ardderchog gydag awdurdodau lleol, byrddau iechyd lleol a sefydliadau trydydd sector eraill, cymryd rhan mewn prosesau cynllunio cymunedol fel y gallwch chi a'r plant a'r bobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal rydych chi'n eu cynorthwyo ddylanwadu ar gynllun gwasanaethau lleol.
- Bod yn uchelgeisiol ar gyfer eich gwasanaeth yn ogystal ag ar gyfer y plant a'r bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal rydych chi'n eu cynorthwyo.
- Cadw cysylltiad rheolaidd ac effeithiol â'r sefydliadau eraill sy'n cefnogi'r plant a'r bobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal rydych chi'n gweithio gyda nhw.
- Sicrhau bod eich holl waith gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn eu galluogi i gael mynediad at eu hawliau o dan Gonfensiwn y Cenhedloedd Unedig ar Hawliau'r Plentyn.
- Hyrwyddo a chymryd rhan ym mhob cam o brofiad y plentyn neu'r person ifanc.
Yr heddlu a'r system cyfiawnder troseddol
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i'r heddlu a'r system cyfiawnder troseddol:
- cydraddoldeb (1)
- dileu stigma (2)
- gyda’n gilydd (3)
- cymorth (4)
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol yn yr heddlu a'r system chyfiawnder troseddol:
- Bod yn ymwybodol o statws profiad gofal y plant a'r bobl ifanc rydych chi'n gweithio gyda nhw.
- Gwneud yn siŵr bod staff yn ymwybodol o'r problemau sy'n effeithio'n arbennig ar blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal wrth gadw golwg ar bob plentyn fel unigolyn gyda'i gryfderau a'i bwysau ei hun.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol yn yr heddlu a'r system chyfiawnder troseddol:
- Lle mae plant a phobl ifanc yn cymryd rhan mewn achos o droseddu, ystyried beth fyddai ymateb rhiant da a helpu i sicrhau bod yr ymateb hwn yn cael ei ddarparu.
- Mynd ati’n gadarnhaol i hyrwyddo cynnwys plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'r rhai sy'n gadael gofal mewn gweithgareddau cymunedol.
- Hyrwyddo cyfleoedd dysgu a datblygu i staff er mwyn codi ymwybyddiaeth o effaith profiadau niweidiol yn ystod plentyndod (ACEs), trawma ac anghenion plant sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr. Sicrhau bod staff allweddol yn manteisio ar y cyfleoedd hyn.
- Meithrin perthynas gadarnhaol â chartrefi gofal preswyl lleol ar gyfer pobl ifanc, ysgolion arbennig preswyl a llety rhanbarthol i sicrhau bod plant a phobl ifanc yn teimlo'n hyderus i ymgysylltu'n adeiladol â'r heddlu heb unrhyw stigma ac nad yw staff yn troi at ymyrraeth yr heddlu yn amhriodol.
- Hyrwyddo'r angen am gysondeb wrth ymdrin â phlant a phobl ifanc a gweld pob plentyn neu berson ifanc yn gyfannol, nid yn ôl y math o ddigwyddiad y gall fod yn rhan ohono. Dylid ystyried cefndir y plentyn lle bo hynny'n briodol.
Darpariaeth diwylliant, hamdden, chwarae, gwasanaethau cymunedol a gwaith ieuenctid
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i darpariaeth diwylliant, hamdden, chwarae, gwasanaethau cymunedol a gwaith ieuenctid:
- cydraddoldeb (1)
- dileu stigma (2)
- gyda’n gilydd (3)
- cymorth (4)
- uchelgais (5)
- ffynnu (10)
Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol sy'n gweithio mewn darpariaeth diwylliant, hamdden, chwarae, gwasanaethau cymunedol a gwaith ieuenctid:
- Gweithio gyda phlant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i ddeall eu dyheadau a'r hyn yr hoffen nhw gael mynediad ato, gan roi'r cyfle iddyn nhw roi cynnig ar bethau, a cheisio ystyried eu dewisiadau wrth ddatblygu darpariaeth diwylliant, gwaith ieuenctid, chwarae a hamdden yn lleol.
- Ystyried mynediad at chwaraeon a hamdden a gwneud yn siŵr bod cyfleusterau mor gynhwysol a chefnogol â phosibl ar gyfer pob plentyn a pherson ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Cefnogi'r plentyn a'r person ifanc i gynnal y gweithgareddau a'r sgiliau hynny y mae’n eu mwynhau.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol sy'n gweithio mewn darpariaeth diwylliant, hamdden, chwarae, gwasanaethau cymunedol a gwaith ieuenctid:
- Datblygu rhaglenni wedi'u targedu'n benodol at blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, pobl ifanc sy'n gadael gofal a gofalwyr.
- Ystyried rhwystrau ymarferol fel cost, cyfarpar a dillad, cludiant a chymryd camau drwy weithio gyda phartneriaid yn y gymuned i oresgyn y rhwystrau hyn.
- Ystyried rhwystrau eraill fel ofn pethau dieithr, diffyg hyder neu ddiffyg ymwybyddiaeth ymhlith plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, y rhai sy’n gadael gofal a'u gofalwyr a gweithredu gydag eraill i oresgyn y rhwystrau hyn.
- Bod yn ymwybodol y gall pobl ifanc a diwylliant ieuenctid ffafrio gwahanol fathau o weithgaredd diwylliannol, felly nodwch arferion da a chael cyngor gan weithwyr proffesiynol diwylliant a chyrff cenedlaethol perthnasol. Cofiwch hefyd am ddarpariaeth y sector celfyddydau gwirfoddol ac annibynnol lleol, a gweithio gyda'r darparwyr hynny i roi mynediad i gyfleoedd o ansawdd da y bydd pobl ifanc am barhau i fanteisio arnyn nhw.
- Gwneud yn siŵr bod gweithwyr proffesiynol sy'n gweithio yn y gwasanaethau hyn yn deall eu cyfrifoldebau rhianta corfforaethol a'u bod yn mynd ati i hyrwyddo gwasanaethau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal a'u gofalwyr.
- Gofalu, er enghraifft, bod staff llyfrgell yn deall y cyfraniad pwysig y gallan nhw ei wneud i waith cartref plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal, a gwaith ysgol arall, yn ogystal â gallu'r rhai sy'n gadael gofal i gymryd rhan mewn addysg bellach.
- Defnyddio cyfleoedd yn eich gwasanaethau ehangach i blant a phobl ifanc yn eich cymuned i fynd i'r afael ag unrhyw stigma yn erbyn y gymuned sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Annog gwasanaethau eraill fel gwaith cymdeithasol i ddefnyddio'ch cyfleusterau ar gyfer cyfarfodydd a digwyddiadau eraill, fel bod gweithwyr proffesiynol a gofalwyr yn datblygu dealltwriaeth well o'r hyn sydd ar gael.
- Datblygu cyfleoedd pontio'r cenedlaethau i alluogi plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i ddatblygu gwreiddiau a pherthynas ag eraill yn eu cymunedau.
Y sector preifat
Egwyddorion rhianta corfforaethol sy'n berthnasol i wasanaethau'r sector preifat:
- cydraddoldeb (1)
- dileu stigma (2)
- uchelgais (5)
- anogaeth (6)
- ffynnu (10)
- gydol oes (11)
Gall enghreifftiau o'r sector preifat gynnwys busnesau cenedlaethol a bach, y sector bancio a'r diwydiant lletygarwch. Enghreifftiau o nodau fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau sector preifat:
- Darparu cyfleoedd i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal gael mynediad at eu hanghenion a'u hawliau fel pob plentyn a pherson ifanc yng Nghymru.
- Darparu cyfleoedd a chyngor sy'n cynorthwyo plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal i fod yn barod ar gyfer bywyd fel oedolyn a byw'n annibynnol.
Enghreifftiau o'r hyn y gallwch ei wneud fel rhiant corfforaethol mewn gwasanaethau sector preifat:
- Cynnig lleoliadau profiad gwaith, cyfleoedd cysgodi gwaith, interniaethau, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau i blant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Darparu cymorth wedi’i deilwra’n briodol i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal cyn, yn ystod ac ar ôl lleoliadau, cyfleoedd cysgodi gwaith, interniaethau, cyfleoedd hyfforddi a phrentisiaethau.
- Darparu mentora un i un i blant a phobl ifanc â phrofiad o fod mewn gofal ar sut i reoli eu harian, eu gyrfa/arweiniad cyflogaeth a chyfleoedd addysg bellach.
- Bod mynediad rhatach a phris gostyngol ar gael ar gyfer gweithgareddau chwaraeon, hamdden a diwylliannol ar gyfer plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal.
- Sicrhau bod plant a phobl ifanc sydd â phrofiad o fod mewn gofal yn cael eu trin yn gyfartal gan holl aelodau’r staff.
Cysylltu â ni
Am ragor o wybodaeth e-bostiwch rhiantacorfforaethol@llyw.cymru.