Roedd hi’n ddechrau Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl y DU ddoe, a'r nod yw dechrau trafodaeth am iechyd meddwl a lles emosiynol ledled y DU. Thema eleni yw annog dysgwyr i feithrin agwedd gadarnhaol tuag at eu corff.
Ar ddechrau ail ddiwrnod Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl, mae Kirsty Williams y Gweinidog Addysg, a Vaughan Gething y Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol wedi bod yn siarad ynghylch pwysigrwydd trafod iechyd meddwl yn agored mewn ysgolion; gan dynnu sylw at yr hyn y mae dull y Llywodraeth o weithredu ar lefel ysgol gyfan yn ei gyflawni.
Dywedodd Kirsty Williams:
"Mae Wythnos Ymwybyddiaeth Iechyd Meddwl yn gyfle gwych i bawb yng Nghymru gael trafodaeth agored am les meddyliol ac emosiynol, ac mae thema eleni sef meithrin agwedd gadarnhaol tuag at y corff yn cyd-daro â'r hyn rydyn ni'n ei wneud yma yng Nghymru.
"Mae Cenhadaeth ein Cenedl yn rhoi lle canolog i les yn ein cwricwlwm, gan gefnogi ein plant a'n pobl ifanc i dyfu'n unigolion iach a hyderus, sy'n meithrin eu lles meddyliol ac emosiynol drwy ddatblygu hyder, gwytnwch ac empathi.
"Rydyn ni wedi sefyll yn gadarn yn erbyn bwlio o bob math, gan fabwysiadu dull holistaidd o fynd i'r afael â gwreiddyn y broblem, ac addysgu ein dysgwyr sut i ddefnyddio technolegau mewn ffordd ddiogel, er mwyn sicrhau bod ysgolion yn cynnig amgylchedd cynhwysol a diddorol lle mae ein dysgwyr yn teimlo'n saff, yn teimlo eu bod yn cael eu cefnogi, ac yn teimlo'n barod i ddysgu."
Wrth siarad am y dull ysgol gyfan, dywedodd Vaughan Gething:
"Mae sicrhau bod cymorth iechyd meddwl effeithiol ar gael i'n plant yn hanfodol os ydynt i dyfu'n unigolion iach a hyderus.
"Dyna pam ein bod ni'n parhau i fuddsoddi mewn gwasanaethau fel peilot CAMHS, a nifer o brosiectau Cronfa Trawsnewid i gefnogi ein plant a phobl ifanc.
"Yn gynharach eleni, fe gyhoeddais i £7m o gyllid ychwanegol i ehangu nifer y staff arbenigol sydd ar gael, a datblygu gwasanaethau cymorth newydd
"Yng Nghymru, rydyn ni'n arwain y ffordd ar gyfer y DU drwy ddarparu gwasanaethau cwnsela i blant a phobl ifanc rhwng 11 ac 18 oed, yn ogystal â disgyblion ym Mlwyddyn 6 yr ysgol gynradd. Mae ein dull ysgol gyfan o ddelio â lles emosiynol yn un sy'n ceisio cymryd camau i atal problemau o ran iechyd a gwytnwch meddwl ein plant cyn iddyn nhw godi yn y lle cyntaf."
Wrth siarad am gymorth i athrawon, ychwanegodd y Gweinidog Addysg:
"Allwn ni ddim disgwyl i'n hathrawon gynnig cymorth effeithiol i'n dysgwyr os nad ydyn nhw eu hunain yn cael cymorth.
"Dyna pam ein bod ni'n cymryd camau i fynd i'r afael â llwyth gwaith athrawon drwy symud i gyfeiriad ystafelloedd dosbarth digidol, symleiddio trefniadau marcio ac asesu, yn ogystal â chynnig gwell cyfarwyddyd a threfniadau cyflenwi mewn ysgolion.
"Rydyn ni hefyd wedi dechrau trafod gyda phrifysgolion er mwyn edrych ar ffyrdd o gefnogi cwricwlwm AGA drwy gynnwys materion yn ymwneud ag ADY a lles meddyliol."