Benthyciadau Landlordiaid cymdeithasol cofrestredig: Datblygu a datgarboneiddio 2024 i 2025
Cyfeirnod y cymhorthdal SC.11264 - cynllun i helpu i wella ansawdd a chynaliadwyedd tai cymdeithasol.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Pwyntiau i'w nodi
Os ydych chi'n defnyddio’r cynllun hwn i ddyfarnu cymhorthdal, mae'n rhaid ichi roi gwybod i’r Uned Rheoli Cymorthdaliadau – e-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
1. Rhanbarth
Cymru gyfan
2. Teitl y cynllun cymhorthdal
Benthyciadau RSL - Datblygu a Datgarboneiddio 24/25
3. Sail gyfreithiol yn y DU
Mae'r pwerau statudol perthnasol fel a ganlyn: Mae adran 79(1) o Ddeddf Cymdeithasau Tai 1985 (pwerau mewn perthynas â grantiau a benthyciadau) yn rhoi'r pŵer i Weinidogion Cymru roi benthyciad i Landlord Cymdeithasol Cofrestredig er mwyn iddo allu ysgwyddo'r gwariant neu ran ohono a gafodd neu a gaiff ei wario ganddo wrth gyflawni ei amcanion. Gall benthyciad fod yn fenthyciad dros dro neu fel arall, a gall telerau'r benthyciad gynnwys telerau ar gyfer atal ad-dalu'r benthyciad neu ran ohono cyn dyddiad penodedig heb gydsyniad Gweinidogion Cymru (adran 79(3)). Yn amodol ar hynny, Gweinidogion Cymru fydd yn penderfynu ar amodau'r benthyciad naill ai'n gyffredinol neu mewn achos penodol (adran 79(4)). Mae adran 60 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006 yn rhoi pwerau eang i Weinidogion Cymru o ran hyrwyddo llesiant.
Caiff Gweinidogion Cymru wneud unrhyw beth a ystyrir yn briodol ganddynt i hyrwyddo neu wella lles cymdeithasol, economaidd neu amgylcheddol Cymru.
Gellir arfer y pwer hwn er lles neu mewn perthynas â Chymru gyfan neu unrhyw ran ohoni, neu â phawb neu unrhyw rai sy'n byw neu sy'n bresennol yng Nghymru. Mae adran 58A o Deddf Llywodraeth Cymru 2006 yn darparu y caiff Gweinidogion Cymru arfer swyddogaethau gweinidogol gweithredol sydd o fewn cymhwysedd datganoledig, neu sydd y tu allan i gymhwysedd datganoledig os ydynt yn ategu swyddogaeth.
Mae hwn yn bŵer cyffredinol sy'n cynnwys swyddogaethau sy'n ymwneud â gwariant neu faterion ariannol eraill. Mae Adran 126 o Ddeddf Grantiau Tai, Adeiladu ac Adfywio 1996 ("Deddf 1996") yn rhoi'r pwer i'r Ysgrifennydd Gwladol roi cymorth ariannol i unrhyw berson mewn perthynas â gwariant a ysgwyddir mewn cysylltiad â gweithgareddau sy'n cyfrannu at adfywio neu ddatblygu ardal. Mae'r gweithgareddau hyn yn cynnwys darparu neu wella tai. Mae adran 128 o Ddeddf 1996 yn datgan y gellir atodi telerau wrth y cymorth ariannol.
Mae'r pwerau hyn o eiddo'r Ysgrifennydd Gwladol wedi cael eu trosglwyddo i Weinidogion Cymru mewn perthynas â Chymru. Trosglwyddwyd y pwerau i Gynulliad Cenedlaethol Cymru trwy Orchymyn Cynulliad Cenedlaethol Cymru (Trosglwyddo Swyddogaethau) 1999 a chawsant eu trosglwyddo wedi hynny i Weinidogion Cymru yn unol â pharagraff 30 o Atodlen 11 o Ddeddf Llywodraeth Cymru 2006. Mae adran 127 yn darparu y gellir rhoi unrhyw ffurf ar gymorth ariannol o dan adran 126, yn arbennig, gellir rhoi cymorth drwy grantiau, benthyciadau, gwarantau, neu ysgwyddo gwariant er budd y person a gynorthwyir. Mae adran 128 yn darparu y gellir rhoi cymorth ariannol o dan adran 126 ar unrhyw delerau y mae Gweinidogion Cymru yn ystyried sy'n briodol.
4. Amcan polisi penodol y cynllun
Rhaid defnyddio'r benthyciadau hyn i ryddhau capasiti cyllido i ddwyn cartrefi fforddiadwy ychwanegol ymlaen a fyddai fel arall yn gorfod aros am flynyddoedd am gyllid neu yn aros yn eu hunfan. Hefyd, gan y gellir defnyddio'r benthyciadau ar gyfer gwaith datgarboneiddio a gwella ansawdd, mae'n golygu ein bod yn gwella ansawdd a chynaliadwyedd tai cymdeithasol yn y tymor hir, gan gyd-fynd â'r polisïau canlynol.
- Cymru Sero Net
- Cymru sy'n fwy cyfartal
- SATC 2023
- Gwres Fforddiadwy
Gan fod y cymhorthdal hwn wedi'i gynllunio i ddiwallu angen a nodwyd am dai fforddiadwy ychwanegol, mae'r benthyciad hwn yn gyson ag amcanion penodol y polisi sy'n gysylltiedig â darparu tai fforddiadwy, fel yr amlinellwyd yn Ymrwymiad y Rhaglen Lywodraethu i wneud ein dinasoedd, ein trefi a'n pentref hyd yn oed yn well. Bydd yr ymyrraeth hon yn cyfrannu at y targed o ddarparu 20,000 o gartrefi rhent cymdeithasol carbon isel yn nhymor y llywodraeth hon.
Bydd y polisi yn cael effaith gadarnhaol hefyd ar Ddeddf Llesiant Cenedlaethau'r Dyfodol (Cymru) 2015, gan gyfrannu'n benodol at Gymru iach a mwy cyfartal. Dangosir hyn gan fuddiannau clir o ran iechyd cael cartref o ansawdd da sy'n fforddiadwy mewn man diogel.
5. Awdurdodau Cyhoeddus sydd wedi'u hawdurdodi i weithredu'r Cynllun
Llywodraeth Cymru
6. Categori neu gategorïau o fentrau cymwys
Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig
7. Sectorau i'w cefnogi
- Adeiladu
- Gweithgareddau eiddo tirol
8. Hyd y cynllun
Benthyciadau a gyhoeddwyd yn y flwyddyn ariannol sy'n dod i ben ym mis Mawrth 2025 am 20 neu 30 mlynedd.
9. Y gyllideb ar gyfer cymorth o dan y cynllun
Mae cyfanswm o £50,000,000 o fenthyciadau wedi'u darparu, sy'n cyfateb i gymhorthdal o £18,500,000 i gyd.
10. Ffurf y cymorth
Bydd yr holl gymhorthdal a ddyfernir o dan y cynllun yn cael ei roi drwy fenthyciadau.
11. Telerau ac amodau cymhwysedd
Mae'r benthyciadau hyn ar gael i Landlordiaid Cymdeithasol Cofrestredig yn unig. Gan fod y cyllid yn Gyfalaf Trafodiadau Ariannol (FTC), nid yw Awdurdodau Lleol yn gymwys.
12. Y sail ar gyfer cyfrifo cymorthdaliadau
Gan mai cyllid ar ffurf benthyciad yw hwn, y cymhorthdal yw'r llog a gollir. Cyfradd y benthyciad yw 3% sy'n cymharu â chyfradd y farchnad. Caiff ei ddisgowntio dros y cyfnod o 20 neu 30 mlynedd.
13. Uchafswm y cymhorthdal a ganiateir o dan y cynllun
£3,500,000 fesul sefydliad unigol
14. Manylion cyswllt
Yr Uned Rheoli Cymorthdaliadau
Llywodraeth Cymru
Parc Cathays
Caerdydd CF10 3NQ
Y Deyrnas Unedig
Rhif ffôn: + 44 (0)3000 604 400
E-bost: rheolicymorthdaliadau@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
