Mae mentrau bychan a chanolig yn Ardal Fenter Glannau Port Talbot yn cael eu hatgoffa bod y cyfle i gyflwyno ceisiadau am gynllun grant yn ôl disgresiwn.
Mae Cynllun Cyfraddau Busnes yr Ardal Fenter yn rhoi hwb sylweddol i fusnesau sy’n gymwys ac yn helpu i ostwng eu costau gweithredu trwy ddarparu grant i dalu am eu Hardrethi Busnes yn ystod blwyddyn ariannol 2016/17.
Mae Ken Skates, Ysgrifennydd y Cabinet dros yr Economi a’r Seilwaith, yn annog busnesau cymwys yn yr Ardal Fenter i weithredu’n gyflym ac i wneud cais cyn y dyddiad cau.
Meddai:
“Mae’r cynllyn yn cynnig manteision gwirioneddol i gwmnïau ac yn cefnogi twf economaidd gan helpu i greu swyddi yn yr ardal. Byddem yn awgrymu bod Busnesau Bach a Chanolig sydd naill ai yn yr Ardal Fenter neu yn bwriadu dechrau busnes yn yr Ardal yn dod i wybod mwy am y cynllun ac yn wneud cais am gymorth os ydynt yn gymwys.”
Mae’r cynllun yn canolbwyntio ar BBaChau sy’n dangos twf yn eu busnes – busnesau newydd neu fusnesau sy’n ehangu eu gweithlu llawnamser.
Byddai gweithgarwch busnes arall yn cael ei ystyried, sy’n gysylltiedig â sectorau, cynnydd mewn cynhyrchiant ac Arloesedd/Ymchwil a Datblygu.
Am ragor o wybodaeth, gall busnesau sydd â diddordeb ffonio llinell gymorth Busnes Cymru ar 03000 6 03000 neu edrych ar Glannau Port Talbot am ffurflen gais.