Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr Mai 2023.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Baromedr Twristiaeth
Gwybodaeth am y gyfres:
Prif bwyntiau
Dechrau tawel i'r flwyddyn
- Mae 18% o fusnesau wedi cael mwy o gwsmeriaid hyd yn hyn eleni nag yn yr un cyfnod y llynedd. Mae 38% wedi cael yr un lefel, ond mae 44% wedi cael llai o gwsmeriaid.
- Dim ond 13% o weithredwyr llety sydd wedi cael mwy o gwsmeriaid na'r llynedd, tra bod bron i hanner (46%) wedi cael llai. Mae’r darlun yn debyg ar draws pob rhanbarth o Gymru.
Dim llawer o arwydd o fusnes yn codi eto
- Mae lefelau deiliadaeth cymedrig presennol ar gyfer gweithredwyr llety tua 60% ar gyfer mis Mehefin, Gorffennaf ac Awst.
- Mae un o bob pump (20%) o’r holl weithredwyr yn disgwyl cael mwy o gwsmeriaid o Gymru yn 2023 o’i gymharu â 2022, tra bod tua thraean (34%) yn disgwyl cael llai. Mae 22% yn disgwyl cael mwy o ymwelwyr o'r DU (o'r tu allan i Gymru), tra bod 33% yn disgwyl cael llai.
Mae costau uchel yn dominyddu pryderon
- Mae tua hanner (49%) yn nodi ‘costau ynni uchel’ yn ddigymell fel pryder eleni. Mae 14% yn nodi ‘costau staff uchel’ ac mae 28% yn dweud ‘costau gweithredu uchel eraill’.
- Y penbleth i fusnesau yw eu bod yn gwybod bod llawer o ddefnyddwyr yn ei chael yn anodd gyda chostau byw ac felly mae'n anodd iddynt godi eu prisiau i dalu am orbenion uwch.
Cynnig bwyd a diod o Gymru
- Ar nodyn mwy cadarnhaol, mae mwyafrif (72%) y gweithredwyr sy'n cynnig / gwerthu bwyd a diod i'w cwsmeriaid yn fwriadol yn ceisio cynnig / gwerthu cynnyrch o Gymru. Yn fwyaf cyffredin mae hyn yn gynnyrch llaeth (61% o'r rhai sy'n cynnig cynnyrch o Gymru), cig (58%) a chynhyrchion becws (58%).
Hygyrchedd
- Ar nodyn cadarnhaol hefyd, mae 70% o fusnesau wedi cymryd camau i wneud eu busnes yn fwy hygyrch i bobl ag anghenion hygyrchedd. Y camau mwyaf cyffredin yw gosod rampiau (mae 38% yn ddigymell o'r holl weithredwyr wedi gwneud hynny), toiledau hygyrch (36%), hyfforddi staff ar sut i ddiwallu anghenion hygyrchedd (21%) a chawodydd heb risiau (20%).
Adroddiadau
Baromedr Twristiaeth: cam yr Mai 2023 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 2 MB
PDF
2 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.