Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr haf 2024.

Prif ganfyddiadau

Perfformiad dros yr haf yn cael ei effeithio gan dywydd gwael

Mae oddeutu un o bob chwech (16%) o fusnesau wedi cael rhagor o ymwelwyr yr haf hwn o'i gymharu â'r haf diwethaf, ac mae 46% wedi cael oddeutu'r un lefel. Fodd bynnag, mae 38% wedi cael llai o ymwelwyr.

Y rheswm mwyaf cyffredin a nodwyd dros gael llai o ymwelwyr oedd 'y tywydd' (gan 55% o'r ymatebwyr). Yna nodir 'diffyg incwm gwario gan bobl' (42%).

Arosiadau byrrach, munud olaf

Mae sylwadau agored yn dangos bod y diwydiant wedi profi tuedd at arosiadau byrrach, munud olaf yr haf hwn. Credir mai'r tywydd ac incwm gwario yw'r prif resymau dros y duedd hon wrth i rai ymwelwyr aros i weld rhagolygon y tywydd a pheidio archebu arosiadau wythnos lawn, ond yn hytrach 3 i 4 noson.

Lefelau deiliadaeth ar adegau prysur yr haf

Roedd deiliadaeth ystafell net yn y sector â gwasanaeth yn 84% ym mis Gorffennaf a 87% ym mis Awst. Roedd deiliadaeth uned net yn y sector hunanddarpar yn 83% ym mis Gorffennaf a 87% ym mis Awst. Roedd deiliadaeth safle net yn y sector meysydd carafannau a gwersylla yn 79% ym mis Gorffennaf a 82% ym mis Awst.

Ymwybyddiaeth a diddordeb mewn Tourism Exchange Great Britain (TXGB)

Roedd un o bob deg (10%) o weithredwyr yn ymwybodol o TXGB cyn y cyfweliad. O'r rhain, mae oddeutu (15%) naill ai'n ei ddefnyddio ar hyn o bryd neu'n bwriadu ei ddefnyddio.

Ar ôl clywed disgrifiad o TXGB, mae 14% o’r rhai nad oeddent yn ymwybodol ohono o’r blaen yn dweud ei fod yn ‘bendant’ yn swnio fel rhywbeth y byddai ganddynt ddiddordeb mewn dysgu mwy amdano (tebyg iawn i'r llynedd), a dywed 23% arall ei fod ‘efallai’ yn rhywbeth yr hoffent ddysgu mwy amdano (roedd yn 42% pan holwyd y llynedd).

Lefelau hyder

Mae 14% o weithredwyr yn dweud eu bod yn ‘hyderus iawn’ ynghylch rhedeg y busnes yn broffidiol eleni, ac mae 38% arall yn dweud eu bod yn ‘weddol hyderus’. Mae costau gweithredu uchel ac adegau prysur canol yr haf siomedig wedi cnocio hyder nifer o fusnesau.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr haf 2024 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 635 KB

PDF
635 KB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rydym yn croesawu gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.