Neidio i'r prif gynnwy

Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam yr Haf 2021.

Prif bwyntiau

  • Mae tua hanner (48%) o weithredwyr wedi cael mwy o gwsmeriaid o'i gymharu â haf arferol (cyn COVID-19), mae tua thraean (31%) wedi cael yr un lefel, ac mae 21% wedi cael llai.
  • Mae pedwar rhanbarth Cymru wedi bod yn brysurach nag arfer (cyn COVID-19) yr haf hwn, ond yn enwedig De-orllewin Cymru. Mae 56% o fusnesau yn y rhanbarth hwn wedi cael mwy o gwsmeriaid yr haf hwn o'i gymharu â'r arfer.
  • Mae bron pob busnes (97%) yn dewis cynnal rhai mesurau diogelwch yn wirfoddol nad oes angen iddynt eu cynnal mwyach yn ôl y gyfraith. Mae teimlad cyffredinol bod gweithredwyr dal am wneud yr hyn y gallant i atal COVID-19, hyd yn oed os yw'n effeithio ar elw.
  • Mae tri ym mhob pump (60%) yn dweud bod COVID-19 wedi'u hannog i wneud newidiadau parhaol o ran sut y maent yn rhedeg eu busnes, gyda 22% pellach ddim yn gwybod eto.
  • Mae gan tua hanner (48%) o fusnesau fwy o archebion ymlaen llaw am weddill 2021 nag sy’n arferol ar gyfer yr adeg hon o'r flwyddyn, ac mae gan 35% yr un lefel.

Adroddiadau

Baromedr Twristiaeth: cam yr haf 2021 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 1 MB

PDF
1 MB
Os oes angen fersiwn fwy hygyrch o’r ddogfen hon arnoch, e-bostiwch digidol@llyw.cymru. Dywedwch wrthym pa fformat sydd ei angen. Os ydych yn defnyddio technoleg gynorthwyol, nodwch fanylion.

Cyswllt

Phil Nelson

Rhif ffôn: 0300 025 3187

Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.

Cyfryngau

Rhif ffôn: 0300 025 8099

Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.