Baromedr Twristiaeth: cam mis Chwefror 2025
Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam mis Chwefror 2025.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Ar y dudalen hon
Prif ganfyddiadau
Roedd 2024 yn flwyddyn heriol ym mhob sector a rhanbarth
Cafodd tua un rhan o bump o fusnesau (19%) fwy o ymwelwyr yn 2024 nag yn 2023, a chafodd 42% yr un lefel. Serch hynny, cafodd 39% lai. Mae cyfran y busnesau a gafodd lai o ymwelwyr yn uwch na’r gyfran a gafodd fwy o ymwelwyr ym mhob sector ac ym mhob un o’r pedwar rhanbarth yng Nghymru.
Mae dau reswm yn sefyll allan am y perfformiad tawel: pobl â diffyg incwm gwario (a nodwyd yn ddigymell gan 46% o'r rhai a gafodd lai o ymwelwyr) a'r tywydd (36%), a lesteiriodd dwristiaeth ar ddechrau tymor allweddol yr haf.
Lefelau defnydd y gwanwyn
Mae defnydd net ar gyfer y gwanwyn i ddod yn y sector llety â gwasanaeth yn seiliedig ar archebion ymlaen llaw ar adeg cyfweld yn 43% ym mis Mawrth, 42% ym mis Ebrill a 43% ym mis Mai. Mae defnydd a archebwyd net mewn hunanddarpar yn 39% ym mis Mawrth, 43% ym mis Ebrill a 46% ym mis Mai. Dywed rhai gweithredwyr ei bod yn anodd iawn rhagweld defnydd mor bell ymlaen llaw oherwydd y duedd gynyddol i archebu ar y funud olaf.
Buddsoddiad yn y busnes
Mae tua dau o bob pump (38%) o weithredwyr wedi buddsoddi neu'n bwriadu buddsoddi mewn gwella eu cynnyrch ar gyfer 2025, y tu hwnt i waith cynnal a chadw arferol.
Y math mwyaf cyffredin o fuddsoddiad o bell ffordd yw codi safon y cynnyrch presennol, a nodwyd gan 81% o'r rhai sy'n buddsoddi. Mae rhai (18%) o'r rhai sy'n buddsoddi yn ychwanegu math newydd o gynnyrch, ac mae rhai (18%) yn ehangu capasiti. Mae'r sylwadau agored yn dangos bod buddsoddiadau yn aml yn talu ar eu canfed ac yn arwain at dwf busnes.
Rhoddir amryw o resymau dros beidio â buddsoddi, gan gynnwys ‘ddim yn gweld beth sydd angen ei wella’ (dyfynnwyd yn ddigymell gan 27% o’r rhai nad ydynt yn buddsoddi), ‘mae’r busnes yn gwneud yn iawn fel y mae’ (27%), ‘eisoes wedi buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf’ (24%) ac ‘yn methu fforddio â gwneud’ (22%).
Ymhlith y rhai sy'n dweud na allant fforddio buddsoddi, byddai llawer (57%) eisiau codi safon y cynnyrch presennol pe bai cyllid ar gael, a hoffai 21% arall ehangu eu capasiti.
Hyder cymysg i redeg yn broffidiol eleni
Mae costau cyflogaeth cynyddol yn bryder, ond mae 18% yn dweud eu bod yn 'hyderus iawn' o ran rhedeg y busnes yn broffidiol eleni a 38% yn dweud eu bod yn 'weddol hyderus'.
Cefndir a dull
Beth yw Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru?
Cynlluniwyd Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru i roi adborth cyflym ar sut mae'r diwydiant twristiaeth yng Nghymru yn perfformio ar gyfnodau allweddol yn ystod y flwyddyn. Edrycha'r cam hwn ar berfformiad 2024, a lefelau archebu a disgwyliadau ar gyfer 2025. Y pwnc ad-hoc y tro hwn yw buddsoddi yn y busnes.
Sut y cynhaliwyd yr arolwg?
Rydym wedi cynnal 902 o gyfweliadau dros y ffôn. Mae canlyniadau'r cwestiynau a ofynnwyd i bawb yn gywir i ±3.3%. Mae cydbwysedd y sampl yn ôl rhanbarth a sector yn adlewyrchu'n fras y diwydiant yng Nghymru. Mae'r gronfa ddata cysylltiadau a ddefnyddiwyd yn gyfuniad o restr Croeso Cymru o fusnesau wedi'u graddio a chronfeydd data o fusnesau heb eu graddio yr ydym wedi'u cael gan gyflenwr annibynnol.
Sector | Gogledd | Canolbarth | De-orllewin | De-orllewin | Cyfanswm |
---|---|---|---|---|---|
Llety â gwasanaeth | 116 | 39 | 71 | 42 | 268 |
Hunanddarpar | 74 | 59 | 72 | 39 | 244 |
Meysydd carafanau neu gwersylla | 52 | 22 | 29 | 15 | 118 |
Hostelau | 9 | 3 | 5 | 5 | 22 |
Atyniadau | 32 | 22 | 26 | 30 | 110 |
Gweithredwyr gweithgareddau | 13 | 8 | 13 | 6 | 40 |
Bwytai, tafarndai a caffis | 23 | 21 | 29 | 27 | 100 |
Cyfanswm | 319 | 174 | 245 | 164 | 902 |
Mae 61% o fusnesau yn y sampl yn cael eu graddio gan Croeso Cymru. Mae'r samplau sydd wedi eu graddio a'r samplau heb eu graddio wedi eu gwasgaru ar draws y gwahanol ranbarthau a sectorau ar wahân i fwytai, tafarndai a caffis, nad ydynt yn cael eu graddio.
Cynhaliwyd pob cyfweliad dros y ffôn gyda pherchnogion neu reolwyr busnesau rhwng 23ain Ionawr a 7fed Chwefror 2025.
Perfformiad 2024
Perfformiad 2024 yn ôl sector
Ffigur 1: C1 “Faint o gwsmeriaid oedd gennych chi yn 2024 o gymharu â 2023?” [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 1: Mae'r siart yn dangos faint o gwsmeriaid oedd gan fusnesau yn 2024 o gymharu â 2023. Atyniadau oedd a'r ganran uchaf o 'fwy' gyda 23% a gweithredwyr gweithgaredd gyda'r ganran uchaf o 'Llai' gyd 58%.
[Nodyn 1] Mae atebion 'Ddim yn gwybod' ac 'amherthnasol' wedi eu heithrio
[Nodyn 2] Sylfaen: 841
Blwyddyn heriol i bob sector
3.1 Yn 2024, roedd busnesau twristiaeth Cymru dan bwysau i ddenu'r lefelau cwsmeriaid a welwyd y flwyddyn flaenorol. Profodd pob sector flwyddyn heriol, yn enwedig gweithredwyr gweithgareddau a hunanddarpar. Rydym yn trafod y rhesymau o dan C3 yn ddiweddarach.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Mae pobl yn brin o arian. Rydym yn gyrchfan gwyliau byr. Mae pobl yn cynilo ar gyfer eu prif wyliau a gallant gael gwyliau hollgynhwysol yn Mallorca am yr un pris ag wythnos yn un o'm bythynnod. Dwi’n gwybod pa un fyddai’n well gen i.
Dywedodd tafarn yn Ganolbarth Cymru:
Roedd hi’n dawelach y llynedd gan fod y tywydd yn ddrwg ac rydym yn dibynnu ar dwristiaid a pherchnogion carafanau yn y meysydd carafanau lleol. Mae llawer o berchnogion carafannau yn gwsmeriaid rheolaidd i ni yn yr haf ond ddaethon nhw ddim gan fod y tywydd mor ddrwg.
Blwyddyn bositif i rai busnesau fodd bynnag
Gwelodd rhai busnesau eu perfformiad yn mynd yn groes i'r graen y llynedd. Mae'r sylwadau agored yn dangos bod buddsoddi yn y busnes yn y cyfnod cyn neu yn ystod 2024 wedi chwarae rhan i rai. Rydym yn trafod pwnc buddsoddi yn fanylach o C9 ymlaen yn ddiweddarach.
Dywedodd atyniad yng Ngogledd Cymru:
Gwnaeth gwaith adnewyddu diweddar ar yr adeilad cyfan, gan ei ddiweddaru, ddenu llawer mwy o ymwelwyr y llynedd o gymharu â 2023
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd Cymru:
Ers cael perchnogion newydd a’r gwaith adnewyddu gwych, helaeth, rydym wedi bod yn brysur iawn
Dywedodd bwyty yn Ne-ddwyrain Cymru:
Rydym wedi bod yn llawer prysurach ers bod o fewn perchnogaeth newydd o ddiwedd 2023. Gwell bwydlenni, gwell gwasanaeth a marchnata da.
Perfformiad 2024 yn ôl rhanbarth
Ffigur 2: C1 “Faint o gwsmeriaid oedd gennych chi yn 2024 o gymharu â 2023?” [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 2: Mae'r siart yn dangos faint o gwsmeriaid oedd gan y rhanbarthau yn 2024 o gymharu â 2023. Profodd y De Ddwyrain a'r Canolbarth y cynnydd mwyaf gyda 23%. Y De Orllewin oedd a'r gostyngiad mwyaf gyda 48%.
[Nodyn 1] Mae atebion 'Ddim yn gwybod' ac 'amherthnasol' wedi eu heithrio
[Nodyn 2] Sylfaen: 841
Blwyddyn heriol ym mhob rhanbarth
Cafodd busnesau ym mhob rhanbarth o Gymru drafferth i gynnal lefelau ymwelwyr y llynedd, er yn Ne-ddwyrain Cymru, bu digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd o gymorth i rai.
Dywedodd tafarn yn Ne-ddwyrain Cymru:
2024 oedd ein blwyddyn fwyaf proffidiol. Roedd y digwyddiadau mawr yng Nghaerdydd o gymorth.
Dywedodd bwyty yn Ne-ddwyrain Cymru:
Cawsom flwyddyn dda yn 2024 oherwydd y digwyddiadau yn y castell [Caerdydd] a hefyd y digwyddiadau mawr yn y stadiwm [Principality] – Taylor Swift
Gwelodd De-orllewin Cymru ddirywiad arwyddocaol yn nifer y twristiaid.
Dywedodd llety â gwasanaeth yn Ne-orllewin Cymru:
Bob blwyddyn mae llai a llai o ymwelwyr yn ein hardal
Rhesymau dros fod yn brysurach yn 2024
Ffigur 3: C2 “A oes unrhyw resymau penodol pam roedd gennych chi fwy o gwsmeriaid yn 2024 o gymharu â 2023?” (digymell) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 3: Mae'r siart yn dangos ymateb i'r cwestiwn a oes rhesymau penodol pam fod mwy o gwsmeriaid yn 2024 o gymharu â 2023.
[Nodyn 1] Gofynnwyd C2 i fusnesau a gafodd fwy o gwsmeriaid yn 2024 (C1). Gallai ymatebwyr roi mwy nag un ateb.
[Nodyn 2] Sylfaen: 161
Gwell cynnyrch a chynnig oedd gyda'r ganran uchaf o 24% wedi ei ddilyn gyda Lefel uchaf o gwsmeriaid sy'n dychwelyd gyda 22%.
Mae buddsoddiad yn aml yn talu ar ei ganfed
Buddsoddodd rhai busnesau'n dda yn eu cynnyrch a/neu farchnata eu hunain a gwelsant y buddion o wneud hynny y llynedd. Mae hyn yn arbennig o wir ar gyfer atyniadau, lle mae 11 o'r 24 a welodd gynnydd mewn ymwelwyr yn priodoli hyn i well cynnyrch.
Dywedodd atyniad yn Ganolbarth Cymru:
Fe wnaethon ni fuddsoddi mewn profiad newydd dros y Nadolig a daeth hynny â’r torfeydd i mewn go iawn
Dywedodd atyniad yn Ganolbarth Cymru:
Rwy’n falch gyda’r llynedd. Daeth paentiad enwog â mwy o fusnes i mewn. Rydyn ni'n cael mwy o arddangosfeydd.
Dywedodd atyniad yng Ngogledd Cymru:
Cawsom adnewyddiad llwyr y llynedd, a ddenodd lawer mwy o ymwelwyr
Cwsmeriaid mynych
Mae cwsmeriaid mynych yn allweddol i lefelau ymwelwyr iach ar draws llawer o sectorau.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Rwy'n cael adolygiadau gwych gan gwsmeriaid a chwsmeriaid sy’n dychwelyd
Dywedodd llety â gwasanaeth yn Ne-ddwyrain Cymru:
Rydym yn hapus i gael llawer o gwsmeriaid mynych, sy’n golygu eu bod yn fodlon â’n gwasanaethau a’n llety
Rhesymau dros fod yn dawelach yn 2024
Ffigur 4: C3 “A oes unrhyw resymau penodol pam roedd gennych lai o gwsmeriaid yn 2024 o gymharu â 2023?” (digymell) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 4: Mae'r siart yn dangos a oes rhesymau penodol pam fod llai o gwsmeriaid yn 2024 o gymharu â 2023. Pobl heb incwm gwario sydd a'r ganran uchel gyda 46% y tywydd wedyn gyda 36%.
[Nodyn 1] Gofynnwyd C3 i fusnesau a gafodd lai o gwsmeriaid yn 2024 (C1). Gallai ymatebwyr roi mwy nag un ateb.
[Nodyn 2] 329
Diffyg incwm gwario
Mae dau reswm dros pam y cafwyd blwyddyn heriol yn sefyll allan – y cyntaf yw diffyg incwm gwario ymhlith defnyddwyr. Dyma'r prif ateb a roddwyd ym mhob rhanbarth ac yn y rhan fwyaf o sectorau.
Credir bod diffyg incwm gwario wedi cadw rhai ymwelwyr draw yn gyfan gwbl, neu os ydynt wedi dod, mae arosiadau wedi bod yn fyrrach weithiau. Ar gyfer busnesau sy'n derbyn llawer o grwpiau, mae rhai'n dweud bod maint y grwpiau wedi mynd yn sylweddol lai ac yn priodoli hyn i ddiffyg incwm gwario.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Arhosodd pobl am lai o nosweithiau oherwydd mae'n debyg bod ganddyn nhw lai o incwm gwario nawr. Dywedodd rhai pobl hefyd eu bod yn teimlo nad oes croeso iddynt yn ein hardal.
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yn Ganolbarth Cymru:
Rwy’n meddwl bod costau byw yn cynyddu a gan ein bod yn cael cwsmeriaid mewn grwpiau, mae lleihad amlwg. Pe bai grŵp wedi dod â 50 y llynedd, eleni mae’n 40 neu 35 dim ond oherwydd na all pobl fforddio dod.
Daeth tywydd anffafriol ar yr amser anghywir
Fel yr adroddwyd ym maromedr mis Medi’r llynedd a oedd yn cynnwys tymor yr haf, roedd y tywydd yn wael ar yr amser anghywir – gwyntoedd gogleddol oer ym misoedd Mehefin a Gorffennaf. Arweiniodd hyn at ddechrau siomedig i’r diwydiant twristiaeth yn y prif dymor ac ni adferodd nifer yr ymwelwyr i lefelau 2023.
Mae'r tywydd ar frig y rhesymau dros fod yn dawelach ymhlith meysydd carafanau (mae 58% wedi nodi hyn yn ddigymell) ac atyniadau (54%).
Dywedodd maes carafanau yn Ganolbarth Cymru:
Almaenwyr, Iseldirwyr, Ffrancod – rydyn ni wedi cael mwy o’r cenhedloedd hynny, tra bod y Prydeinwyr yr haf diwethaf wedi mynd i lefydd mwy heulog
Gall tywydd anrhagweladwy fod yn gyrru pobl ar eu gwyliau dramor
Nid yw ‘pobl y DU ym mynd ar eu gwyliau dramor’ yn un o’r rhesymau mwyaf cyffredin a roddwyd dros fod yn dawelach yn 2024, ond mae pryderon y gallai hyn fod yn wir yn 2025 o ganlyniad i dywydd anffafriol y DU yr haf diwethaf.
Dywedodd maes carafanau yn Ganolbarth Cymru:
Oherwydd tywydd gwael, mae pobl yn teithio dramor i lefydd cynhesach yn lle Cymru … dwi’n disgwyl y bydd yr un peth eleni.
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd Cymru:
Roedd y tywydd yn ofnadwy y llynedd, ac eleni mae pobl yn mynd dramor oherwydd bod y tywydd yn newid
Polisïau Llywodraeth Cymru
Mae rhai gweithredwyr yn teimlo bod crynhoad o rai o bolisïau Llywodraeth Cymru – yn enwedig y rheol ‘182 diwrnod’ a’r ardoll twristiaeth sydd ar ddod – yn rhoi’r argraff i ddarpar ymwelwyr o Loegr nad oes croeso i dwristiaid yng Nghymru.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Mae’r darlun cyfan ar gyfer twristiaeth wedi newid. Mae yna deimlad gwrth-dwristiaeth yng Nghymru ac yng Nghernyw, ac mae pobl yn peidio ag ymweld.
Dywedodd maes carfanau yn Ne-orllewin Cymru:
Mae yna negyddoldeb ynglŷn â diffyg croeso i dwristiaid yng Nghymru, ac fel cenedl, rydyn ni’n dibynnu ar dwristiaeth
Lefelau defnydd yr hydref a gaeaf (gweithredwyr llety)
Ffigur 5: C5 “Faint o’ch capasiti oedd ar gael a archebwyd ar gyfer...?” (dangosir deiliadaeth sector amcangyfrifedig) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 5: Mae'r siart yn dangos faint o'r capasiti oedd ar gael a archebwyd ar gyfer Tachwedd, Rhagfyr ac Ionawr ar gyfer llety â gwasanaeth, hunan arlwyo a carafanau a gwersylla.
[Nodyn 1] Gofynnwyd C5 i weithredwyr llety. Mae atebion 'Ddim yn gwybod' ac 'ar gau drwy'r mis' wedi eu heithrio. Mae'r lefelau defnydd a ddangosir wedi'u pwysoli yn ôl maint y busnes.
[Nodyn 2] Sylfaen: 529
Lefelau defnydd uwch na'r gaeaf diwethaf ar gyfer y rhai sy'n parhau ar agor
Roedd lefelau defnydd net yn y sectorau llety â gwasanaeth a hunanddarpar ar gyfer pob mis yn ystod y gaeaf yn nodweddiadol o leiaf 10 pwynt % yn uwch na'r misoedd cyfatebol y gaeaf diwethaf. Roedd cyfran y busnesau a oedd yn parhau ar agor bob mis yn debyg iawn i’r llynedd (tua 75% i 90% mewn llety â gwasanaeth ac 87% i 93% mewn hunanddarpar). Mae’r siartiau isod yn dangos y gwahaniaethau blwyddyn ar ôl blwyddyn.
Ffigur 6: Cymhariaeth deiliadaeth net flwyddyn ar ôl blwyddyn (sector â gwasanaeth) [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 6: Mae'r siart yn dangos cymhariaeth deiliadaeth net of flwyddyn i flwyddyn i sector â gwasanaeth. Roess Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr gyda'r canrannau 48%, 49% a 37% yn 2024 gyda'a canrannau yn codi i 61%, 60% a 52% yn 2025.
[Nodyn 1] Sylfaen: 241
Ffigur 7: Cymhariaeth deiliadaeth net flwyddyn ar ôl blwyddyn (sector hunanarlwyo) [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 7: Mae'r siart yn dangos cymhariaeth deiliadaeth net of flwyddyn i flwyddyn i sector â gwasanaeth. Yn ystod Tachwedd, Rhagfyr a Ionawr 2024 roedd y ganran yn 38%, 39% a 41%. Yn 2025 roedd y canrannau wedi codi i 48%, 48% a 41%.
[Nodyn 1] Sylfaen: 230
Roedd sampl y gaeaf diwethaf o feysydd carafanau a gwersylla oedd ar agor yn fach, ac felly nid oes cymhariaeth ddibynadwy i'w gwneud yn y sector hwnnw.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Gwnaeth mis Ionawr yn dda – llawer o archebion munud olaf. Nid yw’n anarferol y dyddiau hyn i ni gael archebion ar gyfer yr un diwrnod neu’r diwrnod canlynol.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Roedd Tachwedd a Rhagfyr yn dda gan ein bod ni ger cae rasio Bangor, ac roedd y Nadolig a’r Flwyddyn Newydd yn llawn. Rydyn ni nawr yn dibynnu ar archebion munud olaf – rhai dim ond 24 awr ymlaen llaw, na allwn ni eu gwneud bob amser.
Gwahaniaethau yn ôl rhanbarth
Gwelodd y sector llety â gwasanaeth lefelau defnydd gweddol gyson ar draws pob rhanbarth. Yn y sector hunanddarpar, roedd defnydd net yn uwch yn Ne-orllewin Cymru.
Mae’r tabl isod yn dangos defnydd yn ôl rhanbarth a sector ar gyfer y tri mis cyflawn diweddaraf, Tachwedd i Ionawr.
Sector | Gogledd | Canolbarth | De-orllewin | De-orllewin | Cymru gyfan |
---|---|---|---|---|---|
Llety â gwasanaeth | 55% | 58% | 55% | 62% | 58% |
Hunanddarpar | 43% | 42% | 57% | 47% | 46% |
Carafanau a gwersylla | 64% | 45% | 59% | 52% | 59% |
Archebion ymlaen llaw a hyder
Archebion ymlaen llaw (gweithredwyr llety)
Ffigur 8: C6 “Faint o’ch capasiti sydd ar gael sydd wedi’i archebu ar gyfer...?” (dangosir deiliadaeth archebedig amcangyfrifedig) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 8: Mae'r siart yn dangos faint o'r capasiti sydd wedi archebu mewn llety â gwasanaeth a hunan arlwyo o Chwefror hyd at fis Mai.
[Nodyn 1] Mae'r defnydd a archebir cyfartalog ar gyfer pob mis ymhlith busnesau sy'n cymryd archebion ar gyfer y mis hwnnw. Mae'r lefelau defnydd a ddangosir wedi'u pwysoli yn ôl maint y busnes.
[Nodyn 2] Sylfaen: 549
Dod yn anos rhagweld lefelau defnydd ymlaen llaw
Mae lefelau defnydd net yn seiliedig ar archebion ymlaen llaw ar adeg y cyfweld yn gyffredinol islaw 50% ar gyfer pob sector ym mhob mis yn ystod y gwanwyn. Fodd bynnag, mae rhai gweithredwyr yn nodi ei bod yn anodd mesur sut y bydd busnes yn llwyddo yn seiliedig ar hyn oherwydd y duedd gynyddol i archebu ar y funud olaf. Credir bod y ddau brif reswm dros fod yn dawelach yn 2024 – diffyg incwm gwario a’r tywydd – yn llywio’r duedd ‘aros a gweld’ gyda gwyliau a seibiannau yn y DU.
Dywedodd llety â gwasanaeth yn Ganolbarth Cymru:
Rwy’n hyderus y bydd y busnes yn gwneud yn well erbyn mis Ebrill oherwydd y ffordd y mae pobl yn tueddu i archebu’n agosach at y dyddiad nawr
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Mae’n ddibynnol iawn ar y tywydd. Mae ein cwsmeriaid rheolaidd yn dod yn ôl ond rydym yn gweld bod llawer yn archebu ar y funud olaf. Penwythnosau sydd wedi’u harchebu hyd at y Pasg yn bennaf.
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd Cymru:
Mae’r misoedd nesaf yn anodd iawn i’w barnu. Rydym yn profi llawer mwy o archebion munud olaf. Er enghraifft, ddydd Llun, roedd y penwythnos hwn yn 20% llawn; erbyn heddiw [dydd Iau] rydym wedi cyrraedd capasiti o 75%.
Gwahaniaethau yn ôl rhanbarth
Mae archebion ymlaen llaw ar gyfer y gwanwyn yn y sectorau llety â gwasanaeth a hunanddarpar yr un peth ar y cyfan ond yn wahanol i'w gilydd mewn rhai rhanbarthau, gydag archebion â gwasanaeth yn uwch yng Nghanolbarth Cymru ac archebion hunanddarpar yn uwch yn Ne-orllewin Cymru.
Yn y sector carafanau a gwersylla, mae lefelau defnydd net yn uwch yn Ne Cymru.
Sector | Gogledd | Canolbarth | De-orllewin | De-orllewin | Cymru gyfan |
---|---|---|---|---|---|
Llety â gwasanaeth | 44% | 56% | 29% | 45% | 43% |
Hunanddarpar | 42% | 31% | 54% | 39% | 43% |
Carafanau a gwersylla | 40% | 32% | 61% | 59% | 48% |
Hyder mewn rhedeg yn broffidiol
Ffigur 9: C7 “Pa mor hyderus ydych chi am redeg y busnes yn broffidiol eleni?” [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 9: Mae'r siart yn dangos pa mor hyderus mae'r sectorau am redeg y busnes yn broffidiol eleni. Roedd 18% yn 'Hyderus iawn' a 38% yn 'Eithaf hyderus'.
[Nodyn 1] Sylfaen: 902
Mixed levels of confidence
4.4 Yn dilyn blwyddyn heriol, mae gweithredwyr yn amrywio yn eu hyder ynghylch yr hyn sydd gan 2025 ar y gweill ar eu cyfer. Mae'r gyfran sy'n mynegi hyder (56%) yn is na'r adeg hon y llynedd (64%). Gwelir lefelau cymysg o hyder ar draws pob sector. Yn ôl rhanbarth, mae hyder yn uwch yn Ne-ddwyrain Cymru, lle mae 37% yn dweud eu bod yn 'hyderus iawn', o gymharu â 14% ar draws gweddill Cymru.
Dywedodd maes carafanau yn Ne-ddwyrain Cymru:
Yn hynod hyderus. Mae gennym gyfleusterau gwych o gwmpas fel y clwb beicio, rhedeg a sip. Llawer o archebion.
Mae rhai gweithredwyr yn nodi er eu bod yn disgwyl perfformio'n iawn o ran lefelau cwsmeriaid, mae gallu rhedeg yn broffidiol yn fater arall wrth i gostau barhau i gynyddu. Mae busnesau sy’n cyflogi staff ar fin gweld cynnydd mewn costau cyflogaeth o fis Ebrill, pan fydd y Cyflog Byw Cenedlaethol a chyfradd cyfraniadau yswiriant gwladol cyflogwyr yn cynyddu, a’r lefel y mae cyflogwyr yn dechrau talu yswiriant gwladol arni yn gostwng yn sylweddol.
Yn ddelfrydol mae angen i lawer o fusnesau godi eu prisiau i dalu costau cynyddol, ond maent yn gwybod y gallai hyn arwain at lai o archebion gan fod gan gwsmeriaid eu problemau fforddiadwyedd eu hunain.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Rydyn ni wedi darganfod bod popeth wedi codi mewn pris, ond allwch chi ddim codi prisiau gan na fydd pobl yn dod.
Dywedodd caffi yn Ganolbarth Cymru
Rydyn ni ychydig yn bryderus am y codiad mewn isafswm cyflog ac yn ceisio cydbwyso bargeinion teg a phrisiau i’n cwsmeriaid.
Dywedodd atyniad yn Ne-ddwyrain Cymru:
Bydd cynyddu yswiriant gwladol ar gyfer staff amser llawn yn ein taro ni
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yn Ne-ddwyrain Cymru:
Rydym ar drugaredd y cwsmeriaid – mae llai yn dod oherwydd yr economi a diffyg arian. Mae cynnydd yn yr isafswm cyflog ac effaith YG yn ein gwthio i godi prisiau. Mae’n niweidio’r busnes o ran proffidioldeb.
Heriau'r 'rheol 182 diwrnod' mewn hunanddarpar
Mae llawer o weithredwyr hunanddarpar yn sôn am yr heriau o fodloni'r gofyniad defnydd 182 diwrnod i fod yn gymwys ar gyfer ardrethi annomestig. Mae hyn yn achosi rhai i ddisgowntio eu cyfraddau er mwyn cwrdd â’r isafswm o ddyddiau, ond mae hyn yn effeithio ar eu gallu i gadw’r busnes yn broffidiol.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ne-orllewin Cymru:
I gael mwy o bobl y gaeaf hwn, roedd yn rhaid i mi ostwng fy mhris fel y gallaf gyrraedd y 182 diwrnod
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Rwy’n rhoi'r gorau i osod llety gwyliau. Mae yna gamsyniad y bydd y llety gwyliau hyn yn cael eu prynu gan bobl leol ond nid yw hynny'n wir.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Yn ystod y deng mlynedd diwethaf cyrhaeddon ni 182 o ddiwrnodau yn y tair blynedd diwethaf yn unig, ac mae hynny oherwydd fy mod i wedi cael fy ngorfodi i wneud hynny. Rwy'n gorfod rhoi mwy o waith i mewn am lai o fudd.
Buddsoddi yn y busnes
Cynlluniau i fuddsoddi
Ffigur 10: C9 “Ydych chi wedi buddsoddi neu a ydych chi’n bwriadu buddsoddi i wella’ch cynnyrch ar gyfer 2025, y tu hwnt i waith cynnal a chadw arferol?” [Nodyn 1]
Disgrifiad o Ffigur 10: Mae'r siart yn dangos oes buddsoddi wedi neu am ddigwydd yn 2025. Yn gyffredinol roedd 38% wedi buddsoddi a 45% heb.
[Nodyn 1] Sylfaen: 902
Mae rhai yn bwriadu buddsoddi
Mae tua dau o bob pump (38%) o weithredwyr wedi buddsoddi neu'n bwriadu buddsoddi mewn gwella eu cynnyrch ar gyfer 2025, y tu hwnt i waith cynnal a chadw arferol. Mae hyn yn amrywio rhwng gweithredwyr llety a gweithredwyr nad ydynt yn llety, a ddangosir uchod (nid yw'r gwahaniaethau rhwng sectorau unigol o fewn y mathau eang hyn yn arwyddocaol).
Yn ôl rhanbarth, mae 47% o fusnesau yn y Canolbarth yn dweud eu bod wedi buddsoddi neu'n bwriadu buddsoddi, sy’n cymharu â 36% o fusnesau ar draws gweddill Cymru.
Yn falch o fod bob amser yn buddsoddi
Mae rhai gweithredwyr yn falch iawn o’u cynnyrch ac yn dweud eu bod bob amser yn edrych i fuddsoddi i'w wella.
Dywedodd maes carfanau yn Ne-ddwyrain Cymru:
Rydym wedi ehangu'r busnes yn aruthrol ac yn parhau i wneud hynny. Mae gennym ardal chwarae meddal newydd ar gyfer y gwesteion gyda phlant. Rydym wedi buddsoddi dros £2 filiwn ac wedi cael gwaith adnewyddu mawr ar y pwll.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Mae angen i ni fuddsoddi drwy’r amser. Mae angen i ni gael pethau i’w gwneud ar y safle i ddenu pobl i ddod.
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd Cymru:
Rydyn ni bob amser yn rhoi ein helw i mewn i uwchraddio
Ansicrwydd ynghylch sut yr aiff y flwyddyn
Mae un o bob chwech (17%) o weithredwyr yn dweud nad ydynt yn gwybod eto a fyddant yn buddsoddi eleni. Dywed rhai fod hyn yn dibynnu ar fforddiadwyedd.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Bydd perfformiad eleni yn pennu gwelliannau i eiddo
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Hoffem fuddsoddi ond mae’n anodd dweud a fyddwn yn gallu gwneud hynny oherwydd yr economi
Meysydd buddsoddi
Ffigur 11: C10 “Beth ydych chi wedi neu ydych chi’n bwriadu buddsoddi ynddo?” (digymell) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 11: Mae'r siart yn dangos beth mae'r busnesau yn bwriadu buddsoddi ynddo. Codi safon y cynnyrch presennol oedd gyda'r ganran uchaf gyda 81%
[Nodyn 1] Gallai'r ymatebwyr roi mwy nag un ateb i'r cwestiwn uchod
[Nodyn 2] Sylfaen: 341
Codi safon y cynnyrch presennol
Yn gyffredinol, mae blaenoriaethau buddsoddi yn y diwydiant yn ymwneud â chodi safon y cynnyrch presennol yn llawer mwy nag ychwanegu cynnyrch newydd. Mae hyn yn wir ym mhob sector a rhanbarth.
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Byddaf yn adnewyddu’r ystafell fyw eleni gan fod y soffa yn 10 oed, felly mae’n hen bryd i’r cyfan fod yn newydd
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd
Mae peintwyr, garddwyr a thowyr i mewn yr wythnos hon a’r nesaf yn paratoi popeth
Dywedodd maes carafanau yn Ganolbarth Cymru
Oherwydd ansicrwydd proffidioldeb yn y busnes, rydym wedi penderfynu buddsoddi mewn ymgais i addasu a churo’r gwymp. Rydym wedi ail-wneud ein parc chwarae i blant … Rydym yn cydnabod bod rhai o'n cyfleusterau wedi dyddio ychydig...
Mae cynnyrch newydd yn fwy cyffredin mewn sectorau nad ydynt yn rhai llety
Dywed tua chwarter (26%) y busnesau nad ydynt yn llety sy'n buddsoddi eu bod yn ychwanegu math newydd o gynnyrch. Mae hyn yn cymharu â 15% o weithredwyr llety.
Dywedodd atyniad yng Ngogledd Cymru:
Mae ein baddonau awyr agored newydd yn atyniad mawr ac rydym newydd fuddsoddi mewn gazebo enfawr lle gall pobl eistedd y tu allan a chael coffi
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Rydym yn bwriadu creu sba a chanolfan llesiant
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Rydym yn agor y cwrs golff, mannau picnic, jacuzzis a sawna. Rydyn ni'n ceisio popeth i ddod â mwy o bobl i mewn.
Ehangu capasiti
Mae tua un o bob pump (18%) o'r rhai sy'n buddsoddi yn dweud eu bod yn ehangu capasiti. Mae bwriadau i ehangu capasiti yn arbennig o uchel ymhlith darparwyr gweithgareddau (mae 8 o’r 19 darparwr gweithgareddau wedi ateb hyn).
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yng Ngogledd Cymru:
Rydym yn ehangu ein capasiti trwy fuddsoddi mewn gweithlu a chynhyrchion newydd
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Rydyn ni'n bwriadu cael pum caban arall
Gall buddsoddi ddod â buddion
Fel y crybwyllwyd, mae llawer o fusnesau’n awgrymu bod buddsoddi yn y busnes yn talu ar ei ganfed o ran lefelau uwch o ymwelwyr a boddhad.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ne-orllewin Cymru:
Rydym wedi buddsoddi £1 filiwn yn y busnes a gallwn weld mwy o archebion yn dod yn barod
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yng Ngogledd Cymru:
Gwnaethon ni roi llawer o adnoddau i mewn i'r wefan y llynedd ac yn disgwyl iddi ddwyn ffrwyth eleni
Awgrymiadau ar gyfer cynhyrchion a gwasanaethau newydd
Ffigur 12: C11 “Beth sy’n eich annog i feddwl am fath newydd o gynnyrch neu wasanaeth” (anogwch os oes angen) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 12: Mae'r siart yn dangos beth sy'n annog y busnesau i feddwl am fath newydd o gynnyrch neu wasanaeth. Eu meneter eu hun oedd gyda'r ganran uchaf gyda 76%.
[Nodyn 1] Gofynnwyd C11 i'r rhai a atebodd 'ychwanegu math newydd o gynnyrch' neu 'ychwanegu gwasanaethau newydd' yn C10. Gallai ymatebwyr roi mwy nag un ateb.
[Nodyn 2] Sylfaen: 87
Eu menter eu hunain yn arwain y ffordd
Ymhlith gweithredwyr sy'n cyflwyno math newydd o gynnyrch neu wasanaeth, eu menter eu hunain sydd fwyaf tebygol o fod wedi ysgogi'r buddsoddiad. Dyma’r prif ateb clir ym mhob rhanbarth ac ym mhob sector bron (mae bwytai, tafarndai a chaffis hefyd yn cael eu harwain gan eu prif swyddfa).
Mae rhai buddsoddiadau yn cael eu hysgogi gan yr hyn y mae cwsmeriaid yn ei ddweud y maent ei eisiau neu'n ei ddisgwyl.
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yn Ne-orllewin Cymru:
Rydyn ni'n mynd i fod yn ychwanegu rhai gwasanaethau newydd yn seiliedig ar yr hyn rydyn ni'n gweld y mae pobl ei eisiau pan maen nhw'n archebu
Rhesymau dros beidio â buddsoddi
Ffigur 13: C12 “A oes unrhyw resymau penodol pam nad ydych yn buddsoddi mewn gwella eich cynnyrch ar gyfer 2025?” (digymell) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 13: Mae'r siart yn dangos os oes rheswm penodol pam nad ydynt am fuddsoddi mewn gwella eu cynnyrch ar gyfer 2025. Roedd 27% yn credu nad oedd lle i wella, 27% yn meddwl fod busnes yn gwneud yn iawn fel y mae a 24% eisioes wedi buddsoddi.
[Nodyn 1] Gallai ymatebwyr roi mwy nag un ateb
[Nodyn 2] Sylfaen: 405
Amrywiaeth o resymau dros beidio â buddsoddi
Mae busnesau nad ydynt yn buddsoddi ar gyfer 2025 yn rhoi amrywiaeth o resymau. Mae rhai yn credu bod busnes yn mynd yn iawn, neu nad ydynt yn gweld beth sydd angen ei wella.
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yn Ne-orllewin Cymru:
Mae busnes yn mynd yn dda fel y mae, felly nid wyf yn gweld yr angen i fuddsoddi mewn unrhyw ychwanegiadau
Wedi buddsoddi eisoes yn y blynyddoedd diwethaf
Mae rhai busnesau wedi buddsoddi'n frwd yn eu cynnyrch yn ddiweddar ac maent bellach yn gweld y manteision. Nid oes angen iddynt fuddsoddi mor fuan eto ar gyfer 2025 o reidrwydd. Mae 30% o fusnesau Gogledd Cymru yn rhoi hyn fel rheswm, o gymharu â 21% o fusnesau ar draws rhanbarthau eraill Cymru.
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd Cymru:
Dair blynedd yn ôl fe wnaethom fuddsoddi’n sylweddol yn y busnes felly nid ydym yn teimlo’r angen i fuddsoddi’n drwm eleni y tu hwnt i waith cynnal a chadw arferol
Dywedodd maes carafanau yn Ne-orllewin Cymru
Wedi buddsoddi y llynedd – £100,000 mewn toiledau newydd a bloc cawodydd
Methu fforddio buddsoddi
Mae llawer o weithredwyr yn gweld yr angen i fuddsoddi yn eu busnes ond ni allant fforddio gwneud hynny. Mae’r hinsawdd economaidd bresennol yn ei gwneud hi’n anodd i fusnesau twristiaeth adennill costau, heb sôn am ddod o hyd i arian ychwanegol i fuddsoddi neu wneud ad-daliadau ar fenthyciadau.
Mae tua 28% o fusnesau yn y Canolbarth a’r De-orllewin yn dweud na allant fforddio buddsoddi, o’i gymharu â 19% yng Ngogledd Cymru a 13% yn y De-ddwyrain.
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yng Ngogledd Cymru:
Cyllid yw’r prif rwystr. Mae angen i ni gyflwyno ceisiadau am arian grant a chyrff grant ddylai fod yn talu am yr ailadeiladu, gan nad trosglwyddo’r gost i gwsmeriaid yw sut y dylai fod.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ne-ddwyrain Cymru:
Dim digon o elw i fuddsoddi
Dywedodd llety hunanddarpar yng Ngogledd Cymru:
Byddem wrth ein bodd yn uwchraddio’r eiddo ond ni allwn fforddio gwneud hynny
Diffyg hyder yn y farchnad neu'r economi
Mae buddsoddiad sylweddol yn cynnwys elfen o risg yn yr ystyr bod angen i fusnesau weld enillion. Nid yw rhai gweithredwyr yn hyderus ynghylch sut y mae twristiaeth yng Nghymru yn mynd ar hyn o bryd i gymryd y risg honno. Nid yw'r gwahaniaethau yn ôl sector a rhanbarth yn arwyddocaol.
Dywedodd gweithredwr gweithgaredd yn Ganolbarth Cymru:
Mae’r pris sylfaenol i ddod ar wyliau yng Nghymru ymhell uwchlaw’r gost am wyliau tramor. Nid yw pobl eisiau dod i Gymru a theimlo'n ddigroeso. Byddwn wrth fy modd yn buddsoddi mwy ond nid wyf yn gweld y pwynt os nad oes cwsmeriaid.
Dywedodd llety hunanddarpar yn Ganolbarth Cymru:
Nid yw’r hinsawdd economaidd bresennol yn caniatáu ar gyfer buddsoddi
Dymuniadau i fuddsoddi
Ffigur 14: C13 “Pe bai cyllid ar gael i wella’ch cynnyrch, beth hoffech chi fuddsoddi ynddo os o gwbl? (digymell) [Nodyn 1] [Nodyn 2]
Disgrifiad o Ffigur 14: Mae'r siart yn dangos ar be fyddai busnesau yn buddsoddi ynddo os y bysa gyllid ar gael. Dywedodd 57% y bydda nhw'n codi safon y cynnyrch presennol.
[Nodyn 1] Gofynnwyd C13 i'r rhai a atebodd 'methu fforddio' yn C12. Gallai ymatebwyr roi mwy nag un ateb.
[Nodyn 2] Sylfaen: 90
Dymuniadau i fuddsoddi os gallai cyllid fod ar gael
Pe bai cyllid ar gael, mae llawer o fusnesau a fyddai'n awyddus i fuddsoddi mewn gwella eu cynnyrch. Byddai hyn fel arfer yn golygu codi safon y cynnyrch presennol, ond byddai rhai yn ceisio ehangu capasiti neu gyflwyno cynhyrchion a gwasanaethau newydd.
Dywedodd atyniad yn Ne-orllewin Cymru:
Mae moduron sy’n gyfeillgar i’r amgylchedd yn rhywbeth yr hoffem fuddsoddi ynddynt ond nid yw’n ymarferol yn yr hinsawdd economaidd bresennol
Dywedodd llety â gwasanaeth yn Ganolbarth Cymru:
Hoffem wella’r system archebu gan fod archebu drwy drydydd partïon yn mynd yn ddrud ond dim ond gyda chyllid y mae hynny’n bosibl.
Dywedodd tafarn yn Ne-Orllewin Cymru:
Mae gennym ni gymaint o syniadau felly byddem wrth ein bodd â rhywfaint o gymorth ariannol. Mae gennym ni ardd gwrw fawr ond mae hi'n oer yma yn y gaeaf. Hoffem roi gorchudd drosti fel y gallwn ddefnyddio'r gofod bob adeg o'r flwyddyn. Mae’r cefn wedi tyfu’n wyllt ond roedd yn arfer bod yn glir ac roedd yn lleoliad priodas flynyddoedd yn ôl … byddem wrth ein bodd yn gwneud lleoliad bach lle gallai hyn fod yn opsiwn eto.
Mae rhai gweithredwyr yn dweud eu bod wedi ceisio cyllid yn ddiweddar i wneud buddsoddiadau ond naill ai heb ddod o hyd i ffynhonnell gyllido addas neu wedi cael eu cais wedi'i wrthod. Byddent yn awyddus i glywed am unrhyw gyfleoedd cyllido yn y dyfodol.
Dywedodd maes carafanau yn Ganolbarth Cymru:
Mae cynaliadwyedd a llesiant yn bwysig a hoffem fuddsoddi mwy o arian i ychwanegu cynhyrchion sy’n cwmpasu hyn. Cafodd ein cais am grant y llynedd ei wrthod.
Dywedodd llety â gwasanaeth yng Ngogledd:
Hoffem yn fawr fuddsoddi mewn effeithlonrwydd ynni ond ni allwn ddod o hyd i unrhyw gyllid
Manylion cyswllt
Awdur: Anthony Lydall, Strategic Research and Insight
Safbwyntiau'r ymchwilwyr yw'r farn a fynegir yn yr adroddiad hwn ac nid barn Llywodraeth Cymru o reidrwydd.
Am ragor o wybodaeth, cysylltwch â:
Tîm Ymchwil a Mewnwelediad
Croeso Cymru
Grŵp Economi, Sgiliau ac Adnoddau Naturiol
Parc Cathays
Caerdydd
CF10 3NQ
E-bost: twristiaethymchwil@llyw.cymru
Rhif Ymchwil Gymdeithasol: 27/2025
ISBN digidol: 978-1-83715-416-6