Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam mis Chwefror 2025.
Dyma'r datganiad diweddaraf yn y gyfres: Baromedr Twristiaeth
Prif ganfyddiadau
Roedd 2024 yn flwyddyn heriol ym mhob sector a rhanbarth
Cafodd tua un rhan o bump o fusnesau (19%) fwy o ymwelwyr yn 2024 nag yn 2023, a chafodd 42% yr un lefel. Serch hynny, cafodd 39% lai. Mae cyfran y busnesau a gafodd lai o ymwelwyr yn uwch na’r gyfran a gafodd fwy o ymwelwyr ym mhob sector ac ym mhob un o’r pedwar rhanbarth yng Nghymru.
Mae dau reswm yn sefyll allan am y perfformiad tawel: pobl â diffyg incwm gwario (a nodwyd yn ddigymell gan 46% o'r rhai a gafodd lai o ymwelwyr) a'r tywydd (36%), a lesteiriodd dwristiaeth ar ddechrau tymor allweddol yr haf.
Lefelau defnydd y gwanwyn
Mae defnydd net ar gyfer y gwanwyn i ddod yn y sector llety â gwasanaeth yn seiliedig ar archebion ymlaen llaw ar adeg cyfweld yn 43% ym mis Mawrth, 42% ym mis Ebrill a 43% ym mis Mai.
Mae defnydd a archebwyd net mewn hunanddarpar yn 39% ym mis Mawrth, 43% ym mis Ebrill a 46% ym mis Mai.
Dywed rhai gweithredwyr ei bod yn anodd iawn rhagweld defnydd mor bell ymlaen llaw oherwydd y duedd gynyddol i archebu ar y funud olaf.
Buddsoddiad yn y busnes
Mae tua dau o bob pump (38%) o weithredwyr wedi buddsoddi neu'n bwriadu buddsoddi mewn gwella eu cynnyrch ar gyfer 2025, y tu hwnt i waith cynnal a chadw arferol.
Y math mwyaf cyffredin o fuddsoddiad o bell ffordd yw codi safon y cynnyrch presennol, a nodwyd gan 81% o'r rhai sy'n buddsoddi. Mae rhai (18%) o'r rhai sy'n buddsoddi yn ychwanegu math newydd o gynnyrch, ac mae rhai (18%) yn ehangu capasiti.
Rhoddir amryw o resymau dros beidio â buddsoddi, gan gynnwys ‘ddim yn gweld beth sydd angen ei wella’ (dyfynnwyd yn ddigymell gan 27% o’r rhai nad ydynt yn buddsoddi), ‘mae’r busnes yn gwneud yn iawn fel y mae’ (27%), ‘eisoes wedi buddsoddi yn y blynyddoedd diwethaf’ (24%) ac ‘yn methu fforddio â gwneud’ (22%).
Ymhlith y rhai sy'n dweud na allant fforddio buddsoddi, byddai llawer (57%) eisiau codi safon y cynnyrch presennol pe bai cyllid ar gael, a hoffai 21% arall ehangu eu capasiti.
Hyder cymysg i redeg yn broffidiol eleni
Mae costau cyflogaeth cynyddol yn bryder, ond mae 18% yn dweud eu bod yn 'hyderus iawn' o ran rhedeg y busnes yn broffidiol eleni a 38% yn dweud eu bod yn 'weddol hyderus'.
Adroddiadau
Cyswllt
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.