Mae'r Baromedr yn asesu hyder busnesau yn niwydiant twristiaeth Cymru ac yn darparu canlyniadau dangosol ar lefel genedlaethol, ranbarthol a sectoraidd ar gyfer cam 4 2019.
Nid y datganiad diweddaraf yn y gyfres: Baromedr Twristiaeth
Prif bwyntiau
Oedd yn dymor cymysg i’r diwydiant.
- Mae’r rhan fwyaf o fusnesau (73%) wedi cynyddu neu gynnal lefelau eu hymwelwyr yn ystod y cyfnod.
- Y tywydd ac ansicrwydd Brexit oedd y ddau brif reswm am nodi llai o ymwelwyr.
- Nid oedd gwahaniaeth arwyddocaol rhwng y sectorau twristiaeth yng Nghymru.
- Mae hyder am 2020 yn weddol ym mhob sector.
Yn y cam hwn, rydym wedi holi cwestiynau'n benodol ynglŷn â darpariaeth bwyd a diod Cymreig.
Mae'r mwyafrif helaeth (87%) o fusnesau sy'n cynnig bwyd a diod i gwsmeriaid yn cynnwys bwyd a diod Cymreig o fewn eu darpariaeth. Ers mis Mehefin 2017, mae'r gyfran o'r busnesau yn Ne-ddwyrain Cymru sy'n darparu bwyd a diod Cymreig wedi cynyddu'n sylweddol o 73% i 87%.
Byddai tua hanner (51%) o'r busnesau yn hoffi cynnig mwy o fwyd a diod Cymreig. Y prif reswm dros beidio ag eisiau ei wneud yw pan fo'r gweithredwr yn teimlo'i fod eisoes yn defnyddio cymaint o gynnyrch Cymreig ag sy'n bosib.
Adroddiadau
Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, cam 4 2019 , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 3 MB
Baromedr Busnes Twristiaeth Cymru, cam 4 2019: crynodeb , math o ffeil: PDF, maint ffeil: 513 KB
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rydym yn croesawu galwadau a gohebiaeth yn Gymraeg.
Cyfryngau
Rhif ffôn: 0300 025 8099
Rydym yn croesawu galwadau yn Gymraeg.