Baromedr Twristiaeth (Arolwg effaith coronafeirws (COVID-19)): cam 3 2020 (crynodeb)
Er mwyn darparu data effeithiol ac i helpu i gefnogi'r diwydiant trwy'r amseroedd heriol hyn, cynhaliodd Croeso Cymru arolwg ffôn o fusnesau twristiaeth yng Nghymru.
Efallai na fydd y ffeil hon yn gyfan gwbl hygyrch.
Cynhaliwyd arolwg rhwng 22 Ebrill a 1 Mai 2020
Cynhaliwyd arolwg ffôn gyda 805 o fusnesau twristiaeth yn ymwneud â:
- llety â gwasanaeth
- hunanarlwyo
- carafanau a gwersylloedd
- hosteli
- atyniadau
- darparwyr gweithgareddau
- bwytai
- tafarndai
- chaffis
Mewn rhai sectorau fel bwytai, tafarndai a chaffis roedd yn anodd iawn i gael gafael ar unrhyw un ar y ffôn oherwydd y cyfyngiadau ac felly mae'r niferoedd a gynrychiolir yn y don hon yn isel iawn.
Mae'r sefyllfa o ran COVID-19 yn symud yn gyflym iawn. Cynhaliwyd y cyfweliadau hyn tra nad oedd strategaeth ymadael y Llywodraeth ac amseriadau bras yn hysbys.
Mae'r gefnogaeth trwy'r Cynllun Cadw Swyddi wedi cadw diswyddiadau i'r lleiafswm hyd yma
Dywedodd mwyafrif (71%) y busnesau sy'n cyflogi unrhyw staff fod yn rhaid iddynt roi o leiaf rai ohonynt ar absenoldeb â thâl. Mae hyn yn gynnydd sylweddol o'r don ymchwil flaenorol (50%), a gynhaliwyd ddiwedd mis Mawrth.
Ar gyfartaledd, cafodd 8 aelod o staff ym mhob busnes twristiaeth eu rhoi ar absenoldeb â thâl. Pan yn seiliedig ar ddim ond busnesau sydd wedi cymryd y camau hynny, y cyfartaledd oedd 11 ym mhob busnes. Pe bai busnes wedi rhoi unrhyw staff ar absenoldeb â thâl, roedd yn debygol o fod i gyd neu bron bob un o'r rheini y maent yn eu cyflogi.
Mewn cymhariaeth, dim ond 0.1 oedd nifer y diswyddiadau ar gyfartaledd fesul busnes sy'n cyflogi staff. Mae'r gefnogaeth i staff ar absenoldeb â thâl wedi helpu i gadw'r nifer hwn yn isel hyd yn hyn.
Effaith ar staff tymhorol
Fel arfer, byddai tua un o bob chwech (16%) busnes yn cyflogi staff tymhorol yr adeg hon o'r flwyddyn. O'r rhain, roedd lleiafrif (14%) yn dal i allu gwneud hynny; neu 2% o sampl yr arolwg cyfan.
Amcangyfrif o golli 20% o'r refeniw blynyddol arferol hyd yn hyn
Y golled ganolrifol yr adroddwyd o ganlyniad i'r argyfwng mewn dim ond y cyfnod ers dechrau'r achosion oedd oddeutu 20% o'r refeniw arferol am y flwyddyn gyfan. Roedd y canfyddiad hwn yn gyson ar draws sectorau, rhanbarth a maint y busnes.
Roedd yr ystod yn sylweddol, o ddim wedi colli unrhyw beth, i dros 80% o'r refeniw blynyddol arferol.
Cymru gyfan | Gogledd | Chanolbarth Cymru | De-orllewin Cymru | De-ddwyrain Cymru | |
---|---|---|---|---|---|
Heb golli unrhyw incwm | 1% | – | – | 2% | 2% |
Hyd at £1,000 | 3% | 2% | 5% | 3% | 2% |
£1,001 i £2,500 | 7% | 5% | 8% | 7% | 9% |
£2,501 i £5,000 | 18% | 17% | 15% | 20% | 18% |
£5,001 i £10,000 | 25% | 26% | 33% | 19% | 20% |
£10,001 i £25,000 | 22% | 25% | 19% | 20% | 22% |
£25,001 i £50,000 | 10% | 10% | 10% | 12% | 8% |
£50,001 i £100,000 | 8% | 6% | 4% | 11% | 10% |
£100,001 i £250,000 | 4% | 4% | 5% | 3% | 6% |
£250,001 i £500,000 | 2% | 2% | 2% | 1% | 2% |
£500,001 i £1,000,000 | 1% | 1% | – | 1% | 2% |
Sampl | 571 | 220 | 102 | 143 | 106 |
Gronfa Cadernid Economaidd Llywodraeth Cymru
Pan oedd y Gronfa ar agor ar gyfer ceisiadau, roedd tua hanner (48%) y busnesau twristiaeth a gafodd eu cyfweld wedi gwneud cais. Roedd lefelau cais yn uwch ymhlith y mathau canlynol o fusnes:
- busnesau â mwy na 5 o weithwyr parhaol (60%)
- atyniadau a darparwyr gweithgareddau (57%)
- wedi'i leoli yng Nghanol Cymru (68%)
Roedd tua thraean (32%) yr ymgeiswyr wedi bod yn llwyddiannus, roedd 11% wedi bod yn aflwyddiannus, ac roedd y gweddill (57%) yn dal i aros am ganlyniad ar adeg y cyfweliad.
Mathau eraill o gefnogaeth y llywodraeth
Roedd tri o bob pedwar (75%) busnes a oedd yn gymwys i gael gwyliau ardrethi busnes wedi gwneud cais am grant. Ond ar wahân i grantiau ardrethi busnes, dim ond ychydig o ymatebwyr oedd wedi gwneud cais am unrhyw gymorth arall y gwnaethom ni ofyn amdano (naill ai cefnogaeth Llywodraeth y DU neu fenthyciadau Banc Datblygu Cymru). Roedd busnesau yn amharod i dderbyn benthyciadau, sydd yn cynnwys talu’n ôl gyda llog.
Goroesi'r cyfyngiadau
Nid yw tua chwarter (23%) o fusnesau yn disgwyl goroesi’r tri mis nesaf os bydd cyfyngiadau’n parhau, tra nad yw tri o bob deg (30%) yn gwybod pa mor hir y gallant oroesi.
Fodd bynnag, gallai tua thraean (31%) o'r gweithredwyr oroesi am fwy na 6 mis arall o'r cyfyngiadau. Mae'n ymddangos bod cael incwm mawr arall ar wahân i dwristiaeth yn ffactor arwyddocaol.
Pryderon tymor canolig a thymor hwy
Y pryderon mwyaf arwyddocaol yn y tymor canolig ac yn y tymor hwy yw:
- ddim yn gwneud digon o arian yn yr haf i oroesi y gaeaf nesaf
- adlach gan bobl leol wrth agor eto i dwristiaid
- rheoli cadw pellter cymdeithasol, gallai fod yn anodd iawn i rai mathau o fusnesau
- adferiad araf oherwydd pryderon cwsmeriaid a / neu berchnogion ynghylch peryglon iechyd
Cefnogaeth a ddymunir gan Croeso Cymru (Llywodraeth Cymru)
Roedd yna llawer o sylwadau ar y wybodaeth dda a'r gefnogaeth ariannol a roddwyd eisoes. Mae'r gefnogaeth a ddymunir ymhellach yn cynnwys:
- canllawiau ar sut i weithredu'n ddiogel ar ôl y cyfyngiadau
- cymorth ariannol pellach os collir tymor yr haf
Cyswllt
Joanne Corke
Rhif ffôn: 0300 025 1138
E-bost: ymchwiltwristiaeth@llyw.cymru
Rhif ymchwil gymdeithasol: 35/2020
ISBN digidol: 978-1-80038-555-9